Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae鈥檙 Radd-brentisiaeth Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol hon yn rhoi llwybr arall at addysg uwch draddodiadol - yn cyfuno gwaith gydag astudio yn y coleg a'r brifysgol. Bwriad y cwrs hwn yw galluogi'r rhai sy'n gweithio yn y sectorau Meddalwedd a TGCh ar hyn o bryd i wella eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u cymhwysedd a chael gradd, a pharhau i fod mewn cyflogaeth lawn amser.
Mae'r cymhwyster hwn yn cwmpasu amryw o sgiliau sy'n angenrheidiol i lwyddo yn y sector TG. Mae'r agweddau dangosol yn datblygu o'r sylfeini cyfrifiadurol a rhaglennu gyda Python, C# ac enterprise Java ar y we, creu gwefannau gyda HTML5/CSS ac User Experience (UX) ac HCI, datblygu apiau ff么n symudol, dulliau peirianyddu meddalwedd ffurfiol a diogelwch.
Hefyd, yn y flwyddyn olaf, bydd y prentisiaid yn ymgymryd 芒 phrojectau sy'n gysylltiedig 芒'u gweithle. Yn ogystal, caiff myfyrwyr y cyfle i ystyried ac ymchwilio i dechnoleg newydd sy'n codi'n gyson, sut i'w defnyddio a'r ystyriaethau moesegol.
Cynhelir y cwrs trwy gyfuniad o astudiaethau un-dydd yng Ngholeg Llandrillo a Phrifysgol 亚洲色吧 a dysgu strwythuredig yn y gwaith. Byddwch yn datblygu cymwyseddau i lefel ddigonol i gofrestru ar gyfer cymhwyster Technegydd TGCh gan yr IET (Technegydd TGCh).
Caiff y cwrs ei gyllido鈥檔 llawn gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. I wneud cais am y cwrs hwn mae'n rhaid i chi neu'ch cyflogwr gysylltu 芒 ni'n uniongyrchol.
Hyd
Fel rheol, bydd myfyrwyr yn astudio鈥檔 academaidd am un diwrnod ac un noson yr wythnos am dair blynedd.
Lleoliad
Am y ddwy flynedd gyntaf, fel rheol ymgymerir 芒'n rhaglenni prentisiaeth gradd ddigidol mewn colegau naill ai yng Nglannau Dyfrdwy a Wrecsam neu Landrillo-yn-Rhos, a dysgir ein rhaglenni gradd-brentisiaethau peirianneg mewn colegau yn Llangefni neu Landrillo-yn-Rhos. Dysgir blwyddyn olaf y brentisiaeth ym Mhrifysgol 亚洲色吧.
Pam dewis Prifysgol 亚洲色吧 ar gyfer y cwrs hwn?
- Ariennir y cwrs hwn yn llawn gan Gyngor Addysg Uwch Cymru, mae hyn yn golygu y gallwch gael gradd heb unrhyw ddyled ac mae'ch cyflogwr yn cael aelod staff sydd 芒 mwy o sgiliau sy'n gysylltiedig yn uniongyrchol 芒'r busnes.
- Y cyfraniad y mae'n rhaid i'ch cyflogwr ei wneud yw eich rhyddhau o'r gwaith i fynd i'r coleg neu'r brifysgol un diwrnod yr wythnos.
- Rydych chi'n aros mewn gwaith wrth i chi astudio ar gyfer eich gradd. Bydd myfyrwyr ar y cwrs hwn yn dechrau ar lefel sydd fwyaf priodol iddyn nhw, yn seiliedig ar brofiad perthnasol neu addysg flaenorol. Mae hyn yn golygu na ofynnir i chi ailadrodd unrhyw beth rydych wedi ei gyflawni o'r blaen, ond yn hytrach adeiladu ar wybodaeth sydd eisoes gennych ac ymestyn eich potensial yn y dyfodol.
- Bydd myfyrwyr sy'n dilyn y rhaglen hon yn elwa o allu cynyddu eu sgiliau a symud ymlaen yn eu gyrfa. Yn y pen draw, bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i helpu busnes eich cyflogwr i ddatblygu.
- Bydd holl adnoddau鈥檙 coleg a'r brifysgol ar gael i chi, gan roi hyblygrwydd dau amgylchedd dysgu deinamig i chi.
Cynnwys y Cwrs
Cyflwynir y cwrs trwy ddarlithoedd rhyngweithiol, tiwtorialau a gweithdai. Bydd cyflwyniadau hefyd gan siaradwyr gwadd. Mae鈥檙 dysgu'n ymarferol ac yn anffurfiol. Cewch eich asesu trwy amrywiaeth o ddulliau fel aseiniadau ymarferol a damcaniaethol, adroddiadau, cyflwyniadau llafar, gwaith project, portffolios ac aseiniadau t卯m.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae鈥檙 rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Gradd-brentisiaeth Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol BSc (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi鈥檌 nodi i鈥檆h arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Peirianneg
- Labordai cyfrifiadurol mawr gyda'r holl feddalwedd ddiweddaraf.听
- Yn ddiweddar rydym wedi sefydlu labordy technolegau trochi, lle mae'r dyfeisiau diweddaraf yn cael eu defnyddio at waith project ac ymchwil.
- Rydym wedi sefydlu labordy rhwydweithio mawr yn ddiweddar. Mae'r cyfleusterau wedi eu cynllunio i roi cyfle i fyfyrwyr ddylunio a gweinyddu rhwydweithiau ac i gefnogi鈥檙 gwaith o gyflwyno modiwlau am saern茂aeth cyfrifiaduron.听
- Mae gennym labordy addysgu israddedig enfawr lle byddwch yn cymryd rhan mewn sesiynau ymarferol i gadarnhau'r wybodaeth rydych wedi ei dysgu yn eich darlithoedd. 听Mae鈥檔 llawn o offer sydd o safon diwydiant.
- Mae gennym ystafell l芒n 1000 y bydd ein holl fyfyrwyr israddedig yn ei defnyddio yn ystod eu hastudiaethau. 听Bydd hyn yn rhoi hyfforddiant unigryw i chi mewn protocolau ystafell l芒n sy'n brofiad defnyddiol iawn wrth chwilio am swydd ar 么l graddio.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o鈥檙 archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig 芒'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy鈥檔 cael eu cefnogi gan staff profiadol, i鈥檆h helpu i astudio.听
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy鈥檔 cynnwys:听
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy鈥檔 galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Ariennir y Radd-brentisiaeth Gwyddor Data Gymhwysol hwn yn llawn, yn amodol ar gadarnhad gan HEFCW, sy'n cynnwys y ffioedd dysgu llawn, sef 拢27,000 (h.y., 拢9000 y flwyddyn fesul myfyriwr dros 3 blynedd).
Gall y ffioedd godi ym mlynyddoedd dilynol y cwrs yn unol ag unrhyw swm a bennir gan Lywodraeth Cymru. 听Nid yw'r ffioedd dysgu yn cynnwys costau prynu llyfrau neu ddeunyddiau ysgrifennu, argraffu, rhwymo traethawd hir neu gostau llungop茂o.
Nid oes unrhyw gostau ychwanegol gorfodol ynghlwm wrth y cwrs hwn.
Gofynion Mynediad
- Rhaid i'r prentisiaid fod naill ai mewn cyflogaeth lawn-amser neu ran-amser (o leiaf 16 awr yr wythnos) mewn cyflogaeth berthnasol.
- Caiff pob ymgeisydd ei ystyried fesul achos a bydd disgwyl iddynt ddod am gyfweliad anffurfiol.听
Sut i wneud cais;
Ar gyfer pob Gradd-brentisiaeth, gwnewch gais yn uniongyrchol gyda chymorth ein Nodiadau Canllaw.
Ar 么l i chi ddarllen y canllawiau, dylech wneud cais gan ddefnyddio'r听.