Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae'r Radd-brentisiaeth Gwyddor Data Gymhwysol yn ffordd arloesol a hyblyg o astudio am radd gan weithio ar yr un pryd. Mae'r cwrs gradd ar gael i rai a gyflogir yn unig. Cyflwynir y dysgu un diwrnod yr wythnos yng Ngr诺p Llandrillo Menai am y ddwy flynedd gyntaf, ac ym Mhrifysgol 亚洲色吧 am y flwyddyn olaf.听
Datblygwyd y Radd-brentisiaeth Gwyddor Data Gymhwysol ar y cyd 芒 byd diwydiant i sicrhau bod y cwricwlwm yn berthnasol i ofynion y sector TG a datblygiad y gweithlu. 听Mae'n ymdrin 芒 phob agwedd ar Wyddor Data, gan gyfuno dysgu academaidd traddodiadol 芒 dysgu seiliedig ar waith.
Mae'r llwybr gwyddor data gymhwysol yn ymwneud 芒 rheoli a dadansoddi 'data'. Mae'n canolbwyntio ar amrywiol offer rhaglennu a dadansoddi y gellir eu defnyddio i helpu busnesau i brosesu data.
Ymhlith y pynciau astudio nodweddiadol mae rhaglennu gyda mathemateg Python ar gyfer cyfrifiadura, cyflwyniad i systemau cyfrifiadurol, rheoli data mewn cronfeydd data gydag SQL, sut mae dadansoddi data a'r offer a ddefnyddir yn y broses ddadansoddi.
Caiff sgiliau ategol eu datblygu hefyd megis nifer o sgiliau mathemategol sylfaenol sydd eu hangen i ddadansoddi data a moeseg a gofynion cyfreithiol casglu data. Yn y flwyddyn olaf byddwch yn astudio meysydd fel dysgu peirianyddol, rheoli data uwch, delweddu gwybodaeth a diogelwch. Byddwch hefyd yn ymgymryd 芒 dau broject, un mewn deallusrwydd artiffisial, a'r llall mewn delweddu.
Ar 么l cwblhau dwy flynedd o'r cwrs gellir ennill gradd FdSc fel cymhwyster ymadael, sydd wedi ei achredu dan y 听Fframwaith Prentisiaethau Uwch trwy'r Tech Partnership, y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer TG.
Os ydych yn chwilio am gwrs prifysgol sy'n berthnasol i'r sector TG ac y gellir ei gwblhau wrth i chi weithio, yna mae'r BSc mewn Gwyddor Data Gymhwysol yn ddelfrydol. Bydd y rhaglen radd o fudd i chi ac yn hybu eich gwybodaeth a'ch cyfleoedd gyrfa, ac yn hybu llwyddiant eich cyflogwr hefyd.
Hyd
Fel rheol, bydd myfyrwyr yn ymgymryd ag astudiaeth academaidd am un diwrnod ac un noson yr wythnos am dair blynedd.听
Lleoliad
Am y ddwy flynedd gyntaf, fel rheol ymgymerir 芒'n rhaglenni prentisiaeth gradd ddigidol mewn colegau naill ai yng Nglannau Dyfrdwy a Wrecsam neu Landrillo-yn-Rhos, a dysgir ein rhaglenni gradd-brentisiaethau peirianneg mewn colegau yn Llangefni neu Landrillo-yn-Rhos Dysgir blwyddyn olaf y brentisiaeth ym Mhrifysgol 亚洲色吧.
Pam dewis Prifysgol 亚洲色吧 ar gyfer y cwrs?
- Ariennir y cwrs hwn yn llawn gan Gyngor Addysg Uwch Cymru. Mae hyn yn golygu y gallwch gael gradd heb unrhyw ddyled ac mae'ch cyflogwr yn cael aelod staff sydd 芒 mwy o sgiliau sy'n gysylltiedig yn uniongyrchol 芒'r busnes.
- Y cyfraniad y mae'n rhaid i'ch cyflogwr ei wneud yw eich rhyddhau o'r gwaith i fynd i'r coleg neu'r brifysgol un diwrnod yr wythnos.
- Rydych chi'n aros mewn gwaith wrth i chi astudio ar gyfer eich gradd. Bydd myfyrwyr ar y cwrs hwn yn dechrau ar y lefel sydd fwyaf priodol iddyn nhw, yn seiliedig ar brofiad perthnasol neu addysg flaenorol. Mae hyn yn golygu na ofynnir i chi ailadrodd unrhyw beth rydych wedi ei gyflawni o'r blaen, ond yn hytrach adeiladu ar wybodaeth sydd eisoes gennych ac ymestyn eich potensial yn y dyfodol.
- Bydd myfyrwyr sy'n dilyn y rhaglen hon yn elwa o allu cynyddu eu sgiliau a symud ymlaen yn eu gyrfa. Yn y pen draw, bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i helpu busnes eich cyflogwr i ddatblygu.
- Bydd holl adnoddau鈥檙 coleg a'r brifysgol ar gael i chi, gan roi hyblygrwydd dau amgylchedd dysgu deinamig i chi.
Cynnwys y Cwrs
Cyflwynir y Radd-brentisiaeth Gwyddor Data Gymhwysol trwy ddarlithoedd rhyngweithiol, tiwtorialau a gweithdai. Bydd cyflwyniadau hefyd gan siaradwyr gwadd. Mae鈥檙 dysgu'n ymarferol ac yn anffurfiol. Cewch eich asesu trwy amrywiaeth o ddulliau fel aseiniadau ymarferol a damcaniaethol, adroddiadau, cyflwyniadau llafar, gwaith project, portffolios ac aseiniadau t卯m.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae鈥檙 rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Gradd-brentisiaeth Gwyddor Data Gymhwysol BSc (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi鈥檌 nodi i鈥檆h arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Peirianneg
- Labordai cyfrifiadurol mawr gyda'r holl feddalwedd ddiweddaraf.听
- Yn ddiweddar rydym wedi sefydlu labordy technolegau trochi, lle mae'r dyfeisiau diweddaraf yn cael eu defnyddio at waith project ac ymchwil.
- Rydym wedi sefydlu labordy rhwydweithio mawr yn ddiweddar. Mae'r cyfleusterau wedi eu cynllunio i roi cyfle i fyfyrwyr ddylunio a gweinyddu rhwydweithiau ac i gefnogi鈥檙 gwaith o gyflwyno modiwlau am saern茂aeth cyfrifiaduron.听
- Mae gennym labordy addysgu israddedig enfawr lle byddwch yn cymryd rhan mewn sesiynau ymarferol i gadarnhau'r wybodaeth rydych wedi ei dysgu yn eich darlithoedd. 听Mae鈥檔 llawn o offer sydd o safon diwydiant.
- Mae gennym ystafell l芒n 1000 y bydd ein holl fyfyrwyr israddedig yn ei defnyddio yn ystod eu hastudiaethau. 听Bydd hyn yn rhoi hyfforddiant unigryw i chi mewn protocolau ystafell l芒n sy'n brofiad defnyddiol iawn wrth chwilio am swydd ar 么l graddio.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o鈥檙 archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig 芒'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy鈥檔 cael eu cefnogi gan staff profiadol, i鈥檆h helpu i astudio.听
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy鈥檔 cynnwys:听
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy鈥檔 galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Ariennir y Radd-brentisiaeth Gwyddor Data Gymhwysol hwn yn llawn, yn amodol ar gadarnhad gan HEFCW, sy'n cynnwys y ffioedd dysgu llawn, sef 拢27,000 (h.y., 拢9000 y flwyddyn fesul myfyriwr dros 3 blynedd).
Gall y ffioedd godi ym mlynyddoedd dilynol y cwrs yn unol ag unrhyw swm a bennir gan Lywodraeth Cymru. 听Nid yw'r ffioedd dysgu yn cynnwys costau prynu llyfrau neu ddeunyddiau ysgrifennu, argraffu, rhwymo traethawd hir neu gostau llungop茂o.
Nid oes unrhyw gostau ychwanegol gorfodol ynghlwm wrth y cwrs hwn.
Gofynion Mynediad
- Rhaid i'r prentisiaid fod naill ai mewn cyflogaeth lawn-amser neu ran-amser (o leiaf 16 awr yr wythnos) mewn cyflogaeth berthnasol.
- Caiff pob ymgeisydd ei ystyried fesul achos a bydd disgwyl iddynt ddod am gyfweliad anffurfiol.听
Sut i wneud cais听听
Ar gyfer pob Gradd-brentisiaeth, gwnewch gais yn uniongyrchol gyda chymorth ein Nodiadau Canllaw.
Ar 么l i chi ddarllen y canllawiau, dylech wneud cais gan ddefnyddio'r听.
听
听