Ynglŷn â’r Cwrs Yma
MaeÌýcoedwigoedd yn hanfodol i'r ecosystem fyd-eang ac maent yn gorchuddio 30% o arwynebedd tir y byd. Mae'r radd hon mewn Coedwigaeth yn darparu'r sgiliau, yr arbenigedd a'r wybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer eu rheolaeth gynaliadwy. Bydd yn eich paratoi ar gyfer yr her o reoli coedwigoedd a'r holl fuddion yÌýgallantÌýeu darparu, ar adeg o newid amgylcheddol byd-eang.ÌýÌý
Gan mai ni yw’r adran Goedwigaeth hynaf yn y Deyrnas Unedig, rydym yn fyd-enwog am addysgu ac ymchwil.ÌýÌý
Mae’r radd hon wedi'i hachredu gan Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig ac mae’n cyflawni’n rhannol y gofynion i gaelÌýAelodaeth Broffesiynol.ÌýByddwn hefyd yn taluÌýam aelodaeth eich blwyddyn gyntaf gyda Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig.Ìý
Byddwch yn mwynhau dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai ac ymarferion ymarferol, ynÌýogystal ag ymweliadau safle ag ystod amrywiol o goetiroedd, coedwigoedd a chynefinoedd eraill, a hynny i gyd yn harddwch Gogledd Cymru.Ìý
Rydym yn cynnal cyrsiau maes wythnos o hydÌýym mhob blwyddyn o'r radd hon, gan eich galluogi i dreulio amser y tu allan yn mireinio'ch sgiliau arsylwi safle a chasglu data o ddechrau'r radd.Ìý
Mae gennym rwydweithiau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol helaeth a rhaglenni ymchwil sy'n fodd inni ddarparu addysg dda sy'n rhoi sylw i faterion cyfoes. Rydym yn gweithio'n agos gyda sefydliadau yn y Deyrnas Unedig, ac yn cyflwyno ein myfyrwyr iddynt. Ymhlith y rheiny maeÌýÌýÌýa sawl sefydliad arall.ÌýÌý
Mae ein myfyrwyr a'n staff academaidd yn cydweithio'n gyson â sefydliadau rhyngwladol megis y  (CATIE),Ìýy  (CIFOR),Ìýy  (ICRAF)Ìýa’rÌýÌý(IFSA).Ìý
Rydym yn berchen ar 82 hectar o goetiroedd, llawer ohonynt yn rhai lled-naturiol, a ddefnyddir ar gyfer addysgu, prosiectau myfyrwyr ac ymchwil. Mae fferm y Brifysgol hefyd yn gartref i ystod o arbrofion ymchwil coedwigaeth a defnydd tir sy'n darparu adnoddau dysgu rhagorol.Ìý
Pam dewis Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ar gyfer y cwrs?
- Rydym wedi bod yn dysgu coedwigaeth ym Mangor ers dros 110 o flynyddoedd a ni oedd y brifysgol gyntaf i gynnig gradd mewn Coedwigaeth.Ìý
- Mae gennym gasgliad llyfrgell cynhwysfawr ym Mangor, ardal arbrofion ar goedwigaeth gerllaw, ac rydym o fewn pellter teithio cyfleus i goedwigoedd cyhoeddus a phreifat.Ìý
- Rydym yn berchen ar 82 hectar o goetir, llawer ohono'n lled naturiol.
- Teithiau maes wythnos o hyd.
- Cyfleoedd i astudio dramor.
- Rydym yn talu aelodaeth blwyddyn gyntaf o Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig iÌýfyfyrwyr.Ìý
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Ìý
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Ar y radd Goedwigaeth honÌýbyddwch yn astudio trwy ystod o ddarlithoedd, sesiynau tiwtorial, seminarau a gwaith maes. Mae ein cyrsiau'n fodiwlaidd ac mae'r modiwlau dewisol yn eich galluogi i ehangu eich astudiaethau i feysydd newydd neu i ddatblygu arbenigeddau sydd o ddiddordeb iÌýchi.Ìý
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Blwyddyn 1 a 2Ìý
Bydd y flwyddyn gyntaf yn eich cyflwyno i'r egwyddorion ecolegol,Ìýeconomaidd ac amgylcheddol y mae coedwigaeth yn seiliedig arnynt. Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth o'r egwyddorion hyn ac yn eu cymhwyso i ymarfer coedwigaeth. Mae'r pynciau sy'n cael eu hastudio yn ystod y ddwy flynedd gyntaf ynÌýcynnwys adnabod coed, asesu safleoedd, mesur coed,ÌýcoedwriaethÌýaÌýstocrestri, iechyd coedwigoedd, rheoli coedwigoedd, dadansoddi data a systemau gwybodaeth ddaearyddol. Erbyn diwedd yr ail flwyddyn byddwch wedi caffael yrÌýwybodaeth a'r ddealltwriaeth sydd euÌýhangen i dreulio blwyddyn ar leoliad rhyngosod, os ydych yn dymuno gwneud hynny.Ìý
Blwyddyn 3Ìý
Yn yÌýdrydedd flwyddyn, byddwch ynÌýcyfuno’rÌýwybodaeth rydych wedi'i hennill yn ystod y ddwy flynedd gyntaf i ysgrifennu cynllun rheoli ar gyfer tirwedd sy'n cynnwys ardaloedd sylweddol o goetiroedd, coedwigoeddÌýa chynefinoedd eraill. Os mai dyma eich blwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd â phroject ymchwil annibynnol (Project Anrhydedd) ar bwnc sydd o ddiddordeb i chi, dan oruchwyliaeth y staff academaidd. Ceir modiwlau mewn ecoleg coedwigaeth, ecosystemau coedwigaeth, materion amgylcheddol, polisi amgylcheddol, ynniÌýadnewyddadwy, systemau gwybodaeth ddaearyddol uwch a synhwyro o bell. Gallwch hefyd ddewis mynd ar gwrs maes am wythnos iÌýTenerife.Ìý
Wrth astudio’r rhaglen hon byddwch yn dod yn rhan o gymuned wych o fyfyrwyr a staff o bob cwr o’r byd, fel y dangosir gan yrÌýadroddiad hwn gan fyfyriwr cyfnewid rhyngwladol o Ganada.Ìý
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Coedwigaeth BSc (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
CyfleusterauÌýpenodolÌýi’r cwrs:ÌýÌýRydym yn berchen ar ddau gyfleuster trawiadol a ddefnyddir ar gyfer gweithgareddau addysgu ac ymchwil:Ìý a Chanolfan Ymchwil Henfaes,Ìýy ddau nid nepell o’r brifysgol.Ìý
Cyfleusterau Gwyddorau Naturiol
- Amgueddfa Hanes Naturiol gyda chasgliad eithriadol o gynhwysfawr o ddeunydd fertebratau, sy'n cynnwys casgliad amrywiol o sbesimenau o fertebratau ac infertebratau, yn cynnwys primatiaid.
- Acwaria morol a dŵr croyw helaeth gyda chyfres o ystafelloedd sydd â’u tymheredd wedi ei reoli.Ìý
- Colomendy i wneud ymchwil ar wybyddiaeth, ffisioleg a biomecaneg adar. Ìý
- Gardd Fotaneg Treborth, sy'n 18 hectar o faint ar lannau’r Fenai. Mae'n cynnwys labordy gwreiddiau tanddaearol mwyaf Ewrop (y rhizotron), labordy dysgu, gwelyau gardd ffurfiol, gardd gerrig, gardd goed a chasgliad cadwraeth.Ìý
- Cyfleusterau cnofilod ac ymlusgiaid.Ìý
- Mae fferm y brifysgol sydd wedi ei lleoli yn Henfaes, tua 7 milltir o Fangor ac yn cynnwys cyfanswm o 252 hectar. Mae'n darparu cyfleusterau ymchwil ac addysgu ym maes amaethyddiaeth iseldir, coedwigaeth, hydroleg, gwyddor yr amgylchedd a chadwraeth. Rydym yn cynnal teithiau maes a gallwch gynnal eich arbrawf ar raddfa fawr eich hun ar gyfer eich project.Ìý
- Alpaca, defaid a chychod gwenyn ar fferm y brifysgol yn Henfaes.Ìý
- Rydym ar yr arfordir, ger Môr Iwerddon a’r Fenai, sy’n golygu bod gennym amrywiaeth o wahanol gynefinoedd ar gyfer cyrsiau maes a safleoedd astudio ar gyfer projectau blwyddyn olaf.Ìý
- Cyfleusterau ymlusgiaid pwrpasol, yn cynnwys ystafelloedd nadroedd gwenwynig. Ìý
- Ystafelloedd a reolir yn amgylcheddol ar gyfer gwaith project.Ìý
- Ystafelloedd trychfilod.Ìý
- Coetiroedd.Ìý
- Labordai addysgu ac ymchwil modern mawr, a chanolfan bwrpasol i fyfyrwyr weithio ar eu traethawd hir.Ìý
- Cyfleusterau delweddu.Ìý
- Amrywiaeth fawr iawn o offer dadansoddol, fel y gallwch ddysgu sut i ddadansoddi samplau amgylcheddol yn y maes ac yn y labordy.Ìý
- Ein casgliad daeareg ein hunain - sydd gyda’r gorau yn y wlad.ÌýÌý
- Labordai cyfrifiadurol i ddatblygu eich sgiliau mewn meysydd allweddol fel mapio digidol a modelu amgylcheddol.Ìý
- Llyfrgell goed.
- Labordai ymchwil amgylcheddol pwrpasol.
- Un o'n cyfleusterau gorau yw'r amgylchedd sydd ar garreg ein drws - cewch gyfle i ymweld â llawer wahanol leoedd ar ein teithiau maes, a fydd yn cadarnhau eich dysgu a'ch dealltwriaeth o bynciau.Ìý Ìý
- Defnyddir ein labordai biolegol, cemegol ac amgylcheddol ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau addysgu a dysgu. Mae gennym labordai ymchwil penodol wedi eu lleoli yng Nghanolfan yr Amgylchedd Cymru, sy'n cynnwys labordy isotopau radio a sefydlog, labordy pathogenau categori 2, ystafell ficrosgop dywyll, labordai paratoi samplau a labordy gydag offer dadansoddol pwrpasol.Ìý
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Ìý
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Ìý
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 88 - 120 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: GanÌýgynnwys gradd C mewn pwnc gwyddonol ar lefel A2 (e.e. Bioleg,ÌýDaearyddiaeth, Daeareg, Gwyddorau/Astudiaethau'r Amgylchedd,ÌýCemeg, Ffiseg,ÌýMathemateg, Economeg, Ystadegau, Seicoleg). Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol na Sgiliau Allweddol.Ìý
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol (gan gynnwys H5 mewn pwnc gwyddonol)
- Mynediad: Cwrs Mynediad Gwyddonol/Amgylcheddol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: MMM-DDMÌýmewn pwnc perthnasol (e.e. Rheolaeth Cefn Gwlad, GwyddoniaethÌýGymhwysol, Coedwigaeth a Choedyddiaeth, neu Reolaeth Anifeiliaid)
- Diploma Technegol Estynedig Uwch City & Guilds (1080): MMM-DDM mewn pwnc perthnasol (e.e. Rheolaeth Cefn Gwlad, Coedwigaeth a Choedyddiaeth, Rheolaeth Tir a Bywyd Gwyllt)
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol neu Sgiliau Labordy**: MMM-DDM
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
**Gellir ystyried meysydd pwnc tebyg fesul achos
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 88 - 120 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: GanÌýgynnwys gradd C mewn pwnc gwyddonol ar lefel A2 (e.e. Bioleg,ÌýDaearyddiaeth, Daeareg, Gwyddorau/Astudiaethau'r Amgylchedd,ÌýCemeg, Ffiseg,ÌýMathemateg, Economeg, Ystadegau, Seicoleg). Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol na Sgiliau Allweddol.Ìý
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol (gan gynnwys H5 mewn pwnc gwyddonol)
- Mynediad: Cwrs Mynediad Gwyddonol/Amgylcheddol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: MMM-DDMÌýmewn pwnc perthnasol (e.e. Rheolaeth Cefn Gwlad, GwyddoniaethÌýGymhwysol, Coedwigaeth a Choedyddiaeth, neu Reolaeth Anifeiliaid)
- Diploma Technegol Estynedig Uwch City & Guilds (1080): MMM-DDM mewn pwnc perthnasol (e.e. Rheolaeth Cefn Gwlad, Coedwigaeth a Choedyddiaeth, Rheolaeth Tir a Bywyd Gwyllt)
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol neu Sgiliau Labordy**: MMM-DDM
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
**Gellir ystyried meysydd pwnc tebyg fesul achos
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Ìý
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch iÌýadran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Mae cyflogwyr bob amser yn chwilio am raddedigion coedwigaethÌýsy'n flaengar ac yn mwynhau gweithio gyda phobl. Mae cyfran uchel o'n graddedigion yn dod o hyd i swydd sy'n gysylltiedig â choedwigaeth o fewn chwe mis ar ôl graddio, ac yn cael eu cyflogi gan sefydliadau cyhoeddus, preifat ac anllywodraethol yn y Deyrnas Unedig a thramor. Mae ein hanes unigryw, ein henw da a'n rhagoriaeth addysgu yn golygu bod graddedigion Coedwigaeth ÑÇÖÞÉ«°É yn gwneud gweithwyr gwych.Ìý
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais amÌýGwyddor yr Amgylchedd (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Ìý
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.Ìý