Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Byddwch yn arbenigo mewn deall strwythur yr ymennydd dynol, a sut mae'n gweithredu i alluogi canfyddiad, meddwl, emosiwn, iaith ac ymddygiad. Byddwch yn dadansoddi'r hyn sy'n digwydd pan fydd yr ymennydd wedi'i ddifrodi neu â nam arno, e.e. anaf i'r pen, strôc neu glefyd Alzheimer a sut y gellir helpu cleifion o'r fath trwy adferiad. Byddwch yn ymgyfarwyddo â thechnegau datblygedig megis delweddu cyseiniant magnetig gweithredol (fMRI) a Photensialau Digwyddiad-berthynol (ERPs) i arsylwi ar weithgaredd yr ymennydd a gwneud diagnosis o broblemau.
Ar y cwrs hwn, yn ogystal â chael dealltwriaeth drylwyr o'r ystod eang o bynciau sy'n berthnasol i seicoleg fodern, byddwch yn arbenigo mewn niwroseicoleg, a byddwch yn datblygu dealltwriaeth fanwl o sut mae'r ymennydd a'r system nerfol yn dylanwadu ar feddwl dynol, emosiwn, iaith ac ymddygiad. Yn ystod y cwrs byddwch yn ymgyfarwyddo â thechnegau datblygedig megis delweddu cyseiniant magnetig gweithredol (fMRI) a photensialau digwyddiad-berthynol (ERPs) ar gyfer arsylwi gweithgarwch yr ymennydd a dysgu sut mae datblygiadau mewn technoleg ymchwil wedi cefnogi ein dealltwriaeth ddatblygol o'r ymennydd – ei strwythurau a'i swyddogaethau. Byddwch yn dysgu am ffactorau biolegol ar hyd y rhychwant oes, amgodio niwral, dysgu a chynrychiolaeth, fel bodau cymdeithasol - sut mae pobl eraill yn cael eu cynrychioli yn yr ymennydd ond hefyd sut rydym yn ein gweld ein hunain. Gallwch hefyd ddysgu am yr hyn sy'n digwydd pan fydd difrod neu nam ar yr ymennydd, er enghraifft anaf i'r pen, neu strôc, ac nid yn unig sut mae'r cyflyrau hyn yn effeithio ar gleifion ond adferiad i gleifion hefyd.
Sefydlwyd Seicoleg ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ym 1963 ac mae'n un o adrannau seicoleg hynaf a mwyaf y Deyrnas Unedig. Rydym yn rheolaidd ymhlith y 10 ysgol gorau yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr ar gyfer boddhad cyffredinol myfyrwyr a gyda dros 1,000 o fyfyrwyr rydym hefyd yn un o'r adrannau mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Nid yn unig yr ydym yn uchel ein parch am ein haddysgu, ond mae gennym enw da yn fyd-eang hefyd am ansawdd ein hymchwil. Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil mwyaf diweddar, roedd 85% o'n hymchwil yn cael ei ystyried yn 'rhagorol yn rhyngwladol' neu 'gyda'r gorau yn y byd'.ÌýMae'r ymchwil hon yn cyfrannu’n uniongyrchol at ein haddysgu gan sicrhau profiad dysgu ffres, bywiog ac ystod fawr ac amrywiol o fodiwlau a astudir gydag academyddion sydd ag enw da yn rhyngwladol yn eu maes arbenigol.
Mae gennym naws gosmopolitaidd a rhagolwg byd-eang sy'n denu staff a myfyrwyr o bob cwr o'r byd i weithio ac astudio gyda ni. Agwedd allweddol ar ein llwyddiant yw ein pwyslais ar agweddau academaidd a bugeiliol o brofiad y myfyriwr. Caiff yr ymdrech hon ei harwain gan academyddion yn y tîm addysgu sy'n darparu cefnogaeth sylweddol i'n myfyrwyr. Mae hyn i gyd yn cyfuno i ddarparu amgylchedd unigryw cefnogol, cyffrous a boddhaus i chi astudio Seicoleg gyda Niwroseicoleg.
Pam dewis Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ar gyfer y cwrs?
- Labordai ymchwil arbenigol gan gynnwys sganiwr Delweddu Cyseinedd Magnetig (MRI), Ysgogi Trawsgreuanol Magnetig (TMS), Potensial Digwyddiad-berthynol (ERP), Electroenceffalograffeg (EEG) a labordy Anatomeg yr Ymennydd.
- Arbenigedd mewn niwrowyddoniaeth ac amrywiaeth gyffrous o draethodau hir niwroseicoleg e.e. sut mae'r ymennydd yn prosesu gwybodaeth o freichiau a choesau prosthetig neu sut mae gweithgaredd yr ymennydd yn amrywio gyda gwahanol ieithoedd.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Ìý
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Byddwch yn dysgu trwy amrywiaeth o ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau ac ymarferion ymarferol yn ogystal â dysgu ar eich liwt eich hun. Fel myfyriwr israddedig, byddwch yn ennill sylfaen ragorol mewn amrywiol fethodolegau ymchwil a ddefnyddir yn y maes trwy gymryd rhan mewn ymchwil arloesol gyfredol sy'n cael ei chynnal yn yr ysgol. Rydym yn gwneud defnydd helaeth o dechnoleg er mwyn gwella'r profiad dysgu gan gynnwys recordio podlediadau a chynnal ystod arloesol o asesiadau ar-lein sydd, ymhlith manteision eraill, yn darparu adborth ar unwaith. Gellir dilyn nifer cynyddol o'n modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg a gall myfyrwyr ddewis cael tiwtor Cymraeg a chwblhau eu project yn Gymraeg.
Mae amrywiaeth o asesu parhaus ar gael ar draws y modiwlau gan gynnwys traethodau, gwaith cartref wythnosol, profion amlddewis, cyflwyniadau, blogiau, cwisiau ac ati trwy gydol pob semester ac mae llawer o fodiwlau'n cynnwys arholiadau diwedd semester.
Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn gwneud project ymchwil cynhwysfawr ym maes niwroseicoleg. Caiff eich project ei oruchwylio'n unigol gan aelod o staff sy'n arbenigo yn y maes ymchwil priodol gan roi cyfle i chi ymarfer eich gwybodaeth a'ch sgiliau gydag arbenigwr. Mae ein myfyrwyr yn ystyried y project yn un o elfennau mwyaf heriol ond mwyaf buddiol y cwrs, ac mae gan ein graddedigion sgiliau sydd ymhlith y mwyaf datblygedig gan unrhyw raddedigion Seicoleg yn y Deyrnas Unedig.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Ym mlynyddoedd 1 a 2 byddwch yn astudio modiwlau gorfodol fel ar gyfer y radd BSc Seicoleg. Bydd y rhain yn rhoi sylfaen gref i chi yn rhychwant eang seicoleg cyn i chi fynd ymlaen i arbenigo yn eich trydedd flwyddyn lle byddwch yn astudio o leiaf hanner eich credydau hyfforddedig mewn modiwlau sy’n benodol i niwroseicoleg.
Bob blwyddyn byddwch yn astudio 120 credyd i gyd ac mae'r modiwlau'n adeiladu dros y blynyddoedd i ddarparu dealltwriaeth eang a dwfn, gyda ffocws ar niwroseicoleg.
Bydd pob myfyriwr graddedig sy'n ennill o leiaf 2:2 yn gymwys i gael Aelodaeth Siartredig i Raddedigion, Cymdeithas Seicolegol Prydain.
Eich Ymchwil
Rhown bwyslais mawr ar ddatblygu eich sgiliau ymchwil. Yn syth o ddechrau eich cwrs byddwch yn dechrau meithrin dealltwriaeth o sut i gyflawni gwaith ymchwil a byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn rhaglenni ymchwil parhaus. Fel hyn, byddwch yn raddol feithrin y sgiliau fydd eu hangen arnoch i gynllunio a chynnal eich project ymchwil eich hun ym mlwyddyn 3. Bydd eich project yn gysylltiedig â niwroseicoleg mewn maes sy’n cyd-fynd â chryfderau ymchwil ein staff. Mae projectau diweddar yn cynnwys astudiaethau o sut mae'r ymennydd yn ymateb i symbyliadau ac yn gweld gwrthrychau, sut mae'r ymennydd yn ymateb i boen, sut mae'r ymennydd yn gweld rhyngweithiadau cymdeithasol a datblygu dealltwriaeth fanwl o ffisioleg yr ymennydd. Mae gennym amrywiaeth eang o labordai ymchwil arbenigol gan gynnwys MRI, ERP, TMS, Olrhain Llygaid, ac ati.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Seicoleg gyda Niwroseicoleg BSc (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Ìý
Ìý
Cyfleusterau Seicoleg
Drwy gydol eich gradd bydd modd i chi ddefnyddio’r cyfleusterau hyn i gymryd rhan mewn prosiectau ymchwil, a byddwch yn defnyddio rhai o'r cyfleusterau hyn fel ymchwilwyr yn ystod eich prosiect yn y drydedd flwyddyn. 
Mae gan yr Ysgol Seicoleg ei Sganiwr Delweddu Cyseiniant Magnetig (MRI) Philips Elition 3T.MRI/fMRI ei hun ar gyfer ymchwil pwrpasol. Gosodwyd ein sganiwr ymchwil-bwrpasol newydd yn haf 2019 yn y prif adeilad seicoleg. Mae'r sganiwr hwn yn cynnig techneg delweddu MR arloesol ac yn cynnwys technoleg tracio llygaid sy'n gydnaws ag MRI ac yn gallu gwneud recordiadau EEG y tu mewn i’r sganiwr. Gerllaw mae sganiwr ffug i gefnogi astudiaethau hyfforddi a gweithio gyda phlant. Mae gan y sganiwr hefyd gyfarpar delweddu cardiaidd 4D, cyfarpar delweddu trylediad tensor, a sbectrosgopeg cyseiniant magnetig. Enghraifft o sut y gallwch ddefnyddio'r sganiwr, ar wahân i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil, yw y bu myfyrwyr israddedig yn eu trydedd flwyddyn sy'n gwneud eu prosiect yn labordy Dr Koldewyn yn rhan o astudiaethau sy'n cynnwys ymateb yr ymennydd i ryngweithio cymdeithasol a arsylwyd, gan gynnwys casglu data a dadansoddi data datblygiadol gan blant oed cynradd.
Mae arbenigedd mewn dulliau electroffisiolegol (EEG/ERP) yn gryfder arbennig yn yr Ysgol. Mae Labordy Electroenceffalograffi a Thopograffi Mynediad Agored yr Ysgol Seicoleg (Y Labordy POET) yn cynnwys bwth profi gwanhäwr sain wedi'i gysgodi'n llawn, System BioSemi EEG 128 sianel, a'r holl offer sy'n angenrheidiol ar gyfer arbrofion EEG/ERP clywedol a gweledol, gyda thechnoleg tracio llygaid cydamserol o bell. Ar wahân i gyfleoedd i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil, mae myfyrwyr israddedig yn eu trydedd flwyddyn wedi cael cyfle i fod â rhan weithredol yn y labordy EEG/ERP ar gyfer eu prosiect.Ìý
ÌýÌý
Ar hyn o bryd, defnyddir y labordy POET i ymchwilio i ystod amrywiol o bynciau fel:Ìý
- dysgu peirianyddol i ragfynegi dilyniannau echddygol o weithgarwch EEG
- datblygiad cymdeithasol a hunan-ganfyddiad mewn babanod
- datblygu dadansoddiadau o dreialon EEG unigol i gymharu prosesu iaith mewn grwpiau nodweddiadol a grwpiau sydd â heriau datblygiadol.
Mae gan Labordy Ysgogi’r Ymennydd ddau fath gwahanol o offer ysgogi - offer ysgogi trawsgreuanol magnetig (TMS), ac offer ysgogi cerrynt uniongyrchol trawsgreuanol (tDCS). Mae ysgogiad trawsgreuanol magnetig yn dechneg anymwthiol sy’n defnyddio meysydd magnetig cryf i darfu am gyfnod byr ar brosesu celloedd nerfol mewn rhan fechan o arwyneb yr ymennydd. Caiff cerrynt trydanol ei yrru am gyfnod byr iawn drwy’r ddyfais ysgogi - coil o wifrau copr (wedi'u hamgáu mewn plastig) a ddelir ar groen y pen. Mae’r cerrynt hwn yn creu maes magnetig o gwmpas y coil sydd, yn ei dro, yn creu cerrynt trydanol yn y celloedd nerfol ar arwyneb yr ymennydd. Pan fo’r celloedd nerfol yn cael eu hysgogi, ac am ryw ddegfed ran o eiliad wedyn, ni allant gyflawni eu swyddogaethau arferol. Nid yw hyn yn achosi unrhyw niwed nac anaf i’r celloedd nerfol.
Gelwir yr ail fath o ysgogiad yn ysgogiad cerrynt uniongyrchol trawsgreuanol (tDCS), ac fel yr ysgogiad trawsgreuanol magnetig, mae'n anymwthiol ac yn ddi-boen. Mae'n defnyddio ceryntau trydanol dwysedd isel i gyffroi neu atal gweithgarwch niwronau mewn rhannau penodol o'r ymennydd. Mae'r ddwy system hyn wedi eu rhyngwynebu mewn arbrofion gydag offer ar gyfer tracio llygaid, electromyograffeg (EMG), electroenceffalograffi (EEG), ac ar gyfer recordio cinematig.
Mae’r Ysgol Seicoleg yn gartref i nifer o labordai ar gyfer dal symudiadau cymhleth yr holl gorff a’i aelodau ar gyfer ymchwil. Ymhlith yr offer a ddefnyddir i wneud hyn mae System dal symudiadau Polhemus (16-sianel). Mae’r labordai yn ein galluogi i astudio gweithredoedd medrus gyda chryn fanwl gywirdeb gofodol-amserol.
Mae rhai enghreifftiau diweddar o weithgarwch yn y labordai hyn yn cynnwys yr Athro Robert Ward yn ymchwilio i sut mae arsylwyr yn dirnad gwybodaeth am symudiad y corff, ac i ba raddau mae'r wybodaeth hon yn ddibynadwy neu'n dwyllodrus. Mae’r Dr. Koldewyn wedi defnyddio'r systemau i gofnodi patrymau chwilio yn ystod tasg chwilio gorfforol a ddyluniwyd i archwilio pa mor gyflym mae plant yn dysgu lle mae gwrthrych targed yn debygol o fod, a sut mae arsylwi eraill yn dylanwadu ar y dysgu hwnnw. Roedd myfyrwyr a oedd yn gwneud eu project trydedd flwyddyn yn ymwneud â dylunio'r astudiaeth ac â chasglu data gan blant oed cynradd.
Ìý
Cyfleusterau dan arweiniad ymchwilwyr. Yn ogystal â chyfleusterau mynediad agored i’w rhannu, mae gan yr ysgol gyfleusterau arbenigol iawn yn neilltuol ar gyfer academyddion penodol, megis:Ìý
- sawl labordy EEG pwrpasol yn ychwanegol at ein cyfleuster mynediad agoredÌý
- dau labordy gwrthsain ar gyfer astudiaethau clywedol
- systemau adborth gorfodol rhithrealiti a realiti estynedig a reolir yn robotig
- dyfeisiau symudol ar gyfer tracio llygaid a symudiadau beiro ar gyfer astudio datblygiad llythrennedd mewn ysgolion ac yn y labordy
- labordy bwyd a seicoffarmacoleg yn cynnwys caledwedd a meddalwedd ar gyfer peiriant dosbarthu bwyd arbenigol
- ystafelloedd dadansoddi fideo ar gyfer ffitrwydd cardio-anadlol plant a sgiliau symud sylfaenol
- Bysellfwrdd Ìýtrawsddygiadur grym sy'n gydnaws ag MRI (10-sianel) i recordio gwasgiadau bysedd y ddwy law yn barhaus gan gynnwys symudiadau paratoadol ac adlewyrcholÌý
- Labordy Doppler Sonograffeg Trawsgreuanol ble gellir mesur llif y gwaed i bob hanner o'r ymennydd
Mae'r Ysgol yn rhannu trwyddedau’r Brifysgol a’r Coleg ar gyfer llwyfannau Qualtrics a Pavlovia i hwyluso ymchwil ar-lein.Ìý
Mae sawl panel cyfranogwyr ar gael i helpu ymchwilwyr yn yr Ysgol Seicoleg i recriwtio cyfranogwyr. Fel myfyriwr seicoleg byddwch yn cymryd rhan yn y panel myfyrwyr (SONA) ac mae ein myfyrwyr i gyd yn cymryd rhan mewn tua 4000 awr o ymchwil yn gyffredinol bob blwyddyn.
Rydym hefyd yn cynnal paneli cyfranogwyr arbenigol a allai fod yn rhan o'ch prosiect trydedd flwyddyn:
- Panel cleifion niwrolegol, mewn cydweithrediad â'r GIG.
- Panel anhwylderau dysgu: yn canolbwyntio ar ddyslecsia (mewn cydweithrediad â Chanolfan Dyslecsia Miles yr Ysgol) ac yn cynnwys anhwylderau dysgu eraill ymhlith oedolion sy'n cymryd rhan
- Panel Cyfranogwyr Cymunedol: sy'n ddefnyddiol ar gyfer adnabod siaradwyr dwyieithog, pobl â dyslecsia, yr henoed, ac yn enwedig ar gyfer recriwtio rheolyddion cyfatebol ar gyfer astudiaethau achos cleifion, ac ar gyfer darparu cronfa o gyfranogwyr dwyieithog Cymraeg/Saesneg
- Cronfa Ddata Babanod/Plant
Mae ymchwilwyr seicoleg sy'n astudio datblygiad plant yn elwa o berthynas agos â Meithrinfa TÃr na nÓg ÑÇÖÞÉ«°É. Mae'r feithrinfa'n darparu adnodd unigryw i ymchwilwyr yn y grwpiau ymchwil Clinigol, Iechyd, Ymddygiad ac Iaith, Dwyieithrwydd, ac Ymchwil Datblygu Gwybyddol. Mae gan TÃr na nÓg gyfleusterau arbennig, fel lolfa arsylwi a chamerâu fideo. Yn unol â chydsyniad rhieni neu warcheidwaid y plant, gellir arsylwi’r plant i gael dealltwriaeth bellach o iaith, dysgu a datblygiad.Ìý
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Ìý
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Ìý
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 120 - 144Ìý pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A (ffefrir yn gryf bod gan ymgeiswyr o leiaf un pwnc gwyddoniaeth perthnasol - Mathemateg, Bioleg, Bioleg Ddynol, Ffiseg, Cemeg, Ystadegau, Seicoleg a Gwyddoniaeth).ÌýNi dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DDM - DDD
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DDM - DDD
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol:ÌýderbynnirÌý
- Access:ÌýPasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru:ÌýByddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 120 - 144Ìý pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A (ffefrir yn gryf bod gan ymgeiswyr o leiaf un pwnc gwyddoniaeth perthnasol - Mathemateg, Bioleg, Bioleg Ddynol, Ffiseg, Cemeg, Ystadegau, Seicoleg a Gwyddoniaeth).ÌýNi dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DDM - DDD
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DDM - DDD
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: derbynnirÌý
- Access:ÌýPasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru:ÌýByddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Ìý
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch iÌýadran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio ar Seicoleg gyda Niwroseicoleg felly mae'n arbennig o addas i fyfyrwyr sydd am ddilyn y llwybr gyrfa penodol hwnnw. Mae'n addas hefyd i fyfyrwyr sydd am ddilyn unrhyw un o'r prif broffesiynau seicolegol (seicoleg glinigol, seicoleg addysg, seicoleg cwnsela, seicoleg iechyd ac ati). Hefyd, mae yna yrfaoedd sy'n agored i raddedigion ac ôl-raddedigion o unrhyw ddisgyblaeth. Mae'r rhain yn cynnwys, er enghraifft, yrfaoedd mewn hyfforddiant rheoli, cyfrifeg, addysgu, nyrsio, gwaith cymdeithasol, yr heddlu a'r lluoedd arfog. Mae cyflogwyr fel arfer yn chwilio am sgiliau cyffredinol neu drosglwyddadwy, ac mae gradd mewn seicoleg yn darparu cyfuniad unigryw o'r sgiliau hynny gan ei bod yn ddisgyblaeth sy'n ymwneud â llythrennedd a rhifedd.
Mae cyflogadwyedd yn thema allweddol o bob rhaglen seicoleg y gellir eu dilyn ym Mangor ac rydym wedi ymgorffori nifer fawr o gyfleoedd yn ein gradd i roi CV mor gryf â phosibl i raddedigion a'ch arfogi â llu o sgiliau trosglwyddadwy sy'n berthnasol i seicoleg, ac i yrfaoedd nad ydynt yn gysylltiedig â seicoleg.Ìý
Mae graddedigion blaenorol y cwrs BSc Seicoleg gyda Niwroseicoleg wedi dewis ystod eang o lwybrau gyrfa gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ymchwilwyr ac academyddion, gwyddonwyr data mewn diwydiant, seicolegwyr clinigol a seicolegwyr clinigol cynorthwyol.Ìý
Mae'r ffaith syml y byddwch yn graddio o adran seicoleg ymchwil-ddwys o fri rhyngwladol yn rhoi gwerth ychwanegol i'ch gradd ac yn gwella'ch cyflogadwyedd.
Mae mwy o fanylion am y gyrfaoedd cyffrous sy'n bosib i raddedigion y cwrs hwn i'w gweld ar wefan BPS.
Ìý
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais amÌýSeicoleg (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.Ìý