Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Hyfforddwyd Geraint Thomas, Gareth Bale a Sam Warburton i gyd gan yr un athro Addysg Gorfforol rhagorol! Os ydych chi'n cael eich ysbrydoli i'r un graddau â ni gan ragoriaeth hyfforddi, yna mae'r radd hon ar eich cyfer chi. Byddwch yn datblygu meddwl beirniadol a sgiliau galwedigaethol cymhwysol ac yn mabwysiadu ymarfer ar sail tystiolaeth ac yn meithrin eich sgiliau mewn amgylchedd cefnogol. Mae'r radd, sy'n cael ei haddysgu gan arbenigwyr sydd ar hyn o bryd yn cyfrannu at bolisi addysgol a gwybodaeth hyfforddi ar lefel cenedlaethol, yn cael ei chyflwyno trwy ddulliau addysgu cyfoes ym maes addysg a hyfforddi.
Mae'r cwrs hwn yn gyfle gwych i unrhyw un sydd eisiau datblygu ei sgiliau dysgu neu hyfforddi. Er mwyn bod yn athro/athrawes neu hyfforddwr addysg gorfforol effeithiol, mae'n gynyddol bwysig deall datblygiad ‘cyfannol’ athletwr neu fyfyriwr, e.e. trwy seicoleg chwaraeon, ffisioleg, biomecaneg, a chryfder a chyflyru i gefnogi addysgeg. Bydd y cwrs hwn yn rhoi'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth i chi allu rhagori yn y maes hwn a'r set sgiliau ymarferol i ragori fel hyfforddwr a/neu athro/athrawes AG.
Mae gan y staff sy'n cyflwyno'r cwrs gyfoeth o brofiad o weithio ym maes addysg gorfforol a hyfforddi. Mae gwir bwyslais ar eich cefnogi chi i gymryd perchnogaeth dros eich datblygiad proffesiynol personol a'ch sgiliau ymarferol. Bydd y sgiliau annibynnol hyn yn aros gyda chi ar hyd eich oes ac yn eich cynorthwyo i wireddu eich amcanion. Cewch eich cefnogi hefyd i ennill profiad dysgu a/neu hyfforddi yn ogystal â chymwysterau cyrff llywodraethu cenedlaethol. Mae gogledd Cymru yn cynnig amgylchedd naturiol hyfryd ar gyfer eich astudiaethau, ac mae ein hadran, a sefydlwyd ym 1978, yn falch o alw ei hun yn un o'r darparwyr gwyddorau chwaraeon ac ymarfer cyntaf a hynaf yn y byd.
Pam dewis Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ar gyfer y cwrs?
- Wedi ein gosod y 5ed prifysgol yn y DU yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddar, gydag 100% o'n hymchwil yn cael ei ystyried yn 'rhagorol yn rhyngwladol' neu 'gyda'r gorau yn y byd'.Ìý
- Cysylltiadau agos â chyrff proffil uchel (e.e. y GIG, y lluoedd arfog, UK Sport, Chwaraeon Cymru, timau pêl-droed yn yr Uwch Gynghrair, Bwrdd Criced Cymru a Lloegr) a chydag athletwyr gyda'r gorau yn y byd.
- Mae'n ddelfrydol os oes gennych ddiddordeb mewn addysgu, gweithio ar lawr gwlad neu hyfforddi ar lefel elît, neu weithio mewn unrhyw faes sy'n anelu at wella perfformiad chwaraeon trwy wyddoniaeth.
- Cefnogaeth i ennill cymwysterau galwedigaethol.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Ìý
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Bydd y cwrs yn ymdrin â gwyddorau chwaraeon, addysg gorfforol a damcaniaeth hyfforddi, gyda chyfleoedd i gymhwyso hyn wrth i'r rhaglen fynd yn ei blaen a datblygu sgiliau dysgu a hyfforddi ymarferol.ÌýFel rheol bydd gan fyfyrwyr un awr neu ddwy awr o ddarlithoedd bob wythnos ar gyfer pob modiwl, yn ogystal â sesiynau ymarferol, cyfnodau yn y labordy, mewn seminarau a thiwtorialau.ÌýBydd yr amser cyswllt uniongyrchol hwn yn gysylltiedig â dysgu sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr fel darllen, ysgrifennu traethodau ac adroddiadau, ymarfer cymwyseddau galwedigaethol, casglu gwybodaeth a data, gweithio ar brojectau grŵp a pharatoi cyflwyniadau llafar a chyflwyniadau poster.ÌýMae'r gweithgareddau hyn yn sail i gyfleoedd asesu dilys i helpu myfyrwyr i baratoi at swydd yn y dyfodol, e.e. arholiadau ymarferol, cyflwyniadau, astudiaethau achos, adroddiadau ysgrifenedig a beirniadaeth o ymchwil.ÌýÌý
Bydd myfyrwyr yn treulio 25% o'u hamser mewn darlithoedd, seminarau a sesiynau ymarferol.ÌýMae’r niferoedd yn y darlithoedd, y seminarau a’r dosbarthiadau labordy i gyd yn fychain:ÌýÌý
- ¶Ù²¹°ù±ô¾±³Ù³ó´Ç±ð»å»å:Ìý30-150ÌýÌý
- Seminarau: tua 12ÌýÌý
- Sesiynau ymarferol addysg gorfforol/hyfforddi /labordy: tua 25ÌýÌý
**Mae’r dull hwn yn golygu bod gan ein myfyrwyr gysylltiad agosach â'r darlithwyr a'r tiwtoriaid ac mae’r ysgol yn ddigon bychan i’n holl fyfyrwyr gael cyfarfodydd personol rheolaidd gyda'r staff.Ìý
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Gwyddorau Chwaraeon, Addysg Gorfforol a Hyfforddi BSc (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Bydd llawer o'r dysgu ymarferol yn y rhaglen hon yn digwydd yng nghanolfan chwaraeon y brifysgol, Canolfan Brailsford.ÌýEr mwyn integreiddio dysgu yn y dosbarth a dysgu ymarferol, ceir ystafell seminar lle gall dosbarthiadau ymarferol rannu i sawl man dysgu ymarferol, yn cynnwys:Ìý
Neuadd Chwaraeon 1Ìý
Mae gan y neuadd chwaraeon aml-ddefnydd hon lawr sbring a balconi i wylwyr.ÌýMae'n cynnwys lle ar gyfer cyrtiau badminton, cyrtiau pêl-foli, cyrtiau pêl-fasged hanner maint a maint llawn, cwrt pêl-rwyd, cae hoci dan do a chae pump bob ochr.ÌýÌý
Neuadd Chwaraeon 2Ìý
Neuadd chwaraeon aml-ddefnydd arall gyda balconi gwylio.ÌýCeir darpariaeth hefyd ar gyfer bowlio dan do, criced dan do a thrampolinio.ÌýÌý
Dôm ChwaraeonÌýÌý
Dôm gyda tho, yn cynnwys lle i gyrtiau pêl-rwyd a thenis dan do.Ìý
Canolfan Hyfforddi Perfformiad Platfform 81ÌýÌý
Defnyddir y ganolfan hyfforddi gan athletwyr codi pwysau Cymru, ac mae rhai ohonynt wedi cystadlu yng ngemau'r Gymanwlad a'r Gemau Olympaidd.ÌýMae’n cynnwys llwyfannau codi pwysau integredig, llwyfannau codi pwysau unigol, trac 20 metr, rig wedi ei osod ar wal, beiciau ymosod, rheseli pŵer a bariau a phwysau Olympaidd, yn ogystal ag amrywiaeth fawr o bwysau gyda llawr meddal.Ìý
Neuadd Chwaraeon y NormalÌý
Neuadd chwaraeon aml-ddefnydd.
Defnyddir cyfleusterau ymarfer awyr agored ar Safle Treborth y brifysgol hefyd.ÌýMae'r pafiliwn yn cynnig cyfleusterau newid, man gwylio caeedig ac ystafelloedd seminar.ÌýMae’r cyfleusterau awyr agored yma yn cynnwys:Ìý
- Cae artiffisial safonol 3G Rygbi'r Byd a FIFA gyda stand gwylioÌý
- Caeau glaswellt - 1 pêl-droed, 2 rygbi ac 1 pêl-droed AmericanaiddÌý
- Trac athletau wyth lôn, wedi ei adeiladu i'r safonau uchaf gyda chyfleusterau ac offer ar gael i bob digwyddiadÌý
CyfleusterauÌýGwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer
- labordy addysgu £1M
- siambr uchder (hypocsia)
- sawl labordy dadansoddi symudiad 3D
- sganiwr amsugnofetreg pelydr-x ynni-deuol (DXA)
- labordai profion ymarfer ac adfer
- siambr amgylcheddol
- ystafelloedd profion seicoleg, seicoechddygol a seicoffisioleg
- labordai bioleg celloedd a biocemeg
- 3 x labordy rheoli/profi galluedd seicoechddygol
- labordai profion seicolegÌý
- labordy dynwared gyrru
- labordy Seicoleg Cymdeithasol/Byw o’i fewnÌý
- labordy profi trochiad dŵr
Labordai Ymchwil Ffisioleg Ìý
Rydym yn cynnal profion gyda chleientiaid allanol e.e., rydym wedi profi aelodau o Sgwadiau Caiacio a Hwylio Cenedlaethol Cymru, cleifion sy'n dioddef o gyflyrau amrywiol - canser y fron, lwpws, arthritis gwynegol, problemau arennol, diabetes, gordewdra, aelodau o'r gwasanaeth tân, athletwyr elitaidd, personél milwrol, a mynyddwyr i enwi dim ond rhai. Mae'r offer yn y labordai hyn yn cynnwys:
- Dadansoddwyr ar-lein fesul anadl - mesur y ffitrwydd aerobig mwyaf posibl, defnydd ynni, awyru. Maent yn fersiwn fwy soffistigedig o'r system bagiau Douglas a welir hefyd yn y labordy hwn a'r labordy addysgu.
- Peiriant Electrocardiogram (ECG) - 12 gwifren sy'n addas ar gyfer monitro yn ystod ymarfer corff neu wrth orffwys.Ìý
- Dadansoddwr lactad/glwcos YSI.Ìý
- Melin draed gyda chyflymder o 30km, gwregys gwrthdro i ganiatáu rhedeg i lawr allt, bwa diogelwch ar gyfer rhedeg lawr allt a sbrint.
- GEM - Dadansoddwr Nwy Gwaed - yn mesur crynodiadau nwyon mewn gwaed e.e., ocsigen a charbon deuocsid ac asidau e.e., asid lactig.
- Osmomedr: ar gyfer mesur cynnwys halen mewn wrin (statws hydradiad).
- Reflatron - ffotomedr sy'n caniatáu mesur gwaed yn y capilarïau, colesterol, asid wrig, glwcos, lipoproteinau dwysedd uchel (HDY) h.y., colesterol da. Ìý
Siambr Amgylcheddol Ìý Ìý
- Gellir amrywio’r tymheredd o hyd at 40º i lawr i -20º, yn ogystal ag amrywiadau o 5-95% mewn lleithder.
- Fe'i defnyddir i fesur adweithiau wrth i'r corff brofi straen eithafol, er enghraifft, dadhydradiad. Gellir cynnal profion seicolegol hefyd wrth ymarfer corff o dan amodau o straen, er enghraifft, gweithrediad gwybyddol wrth ddadhydradu.
- Roedd profion diweddar yn cynnwys dull newydd o gofnodi tymereddau gan ddefnyddio synwyryddion/cofnodwyr data wedi'u tapio i groen pobl, gyda’r rhain yn bwydo data yn uniongyrchol i gyfrifiadur. Mae gennym hefyd y gallu i gymryd tymereddau croen a’r rhefr wrth brofi yn y siambr. Ìý Ìý
Siambr Uchder
Mae’r siambr yn caniatáu amrywio'r amgylchedd o 21% ocsigen (0 m) i 7% ocsigen (8,900m, sef uchder copa Everest) gan ddefnyddio uned sy’n ymddwyn fel gogr moleciwlar i dynnu ocsigen o’r aer. Mae'n rheoli tymheredd a lleithder yn gywir i 0.1oC ac 1%. Mae gan yr Ysgol hefyd ddwy uned gludadwy gyda system babell fel bod modd hyfforddi, cysgu ac ymaddasu at uchder 'gartref'. Trwy ddefnyddio'r siambr hon mewn cyfuniad â'r sganiwr fMRI (sydd yn yr Ysgol Seicoleg), mae'n bosibl delweddu'r ymennydd a phenderfynu pam mae pobl yn cael cur pen neu salwch mynydd difrifol sy’n aml yn angheuol. Mae astudiaethau sy'n cyfuno'r defnydd o'r siambr ag ymarfer corff wedi helpu i benderfynu a all efelychu uchder helpu pobl i golli pwysau.Ìý
- Keystone - fersiwn fwy soffistigedig o'r peiriant cyfaint ysgyfaint (sbiromedr) yn y labordy addysgu. ÌýMae'n mesur y rhan fwyaf o swyddogaethau capasiti a chyfaint yr ysgyfaint e.e., cyfaint gweddilliol (y cyfaint sy’n weddill yn yr ysgyfaint ar ôl anadlu allan yn normal) - wedi'i fesur trwy ail-anadlu nwy heliwm cymysg, ac mae'n mesur cryfder cyhyrau anadlol ac effeithlonrwydd cyfnewid nwyon yn yr ysgyfaint.
- Haemocue - ffotomedr sy'n mesur haemoglobin o’r gwaed yn y capilarïau.
- Llif Ffisio - cyfaint strôc ac allbwn cardiaidd h.y., faint o waed sy'n cael ei bwmpio gan y galon gyda phob curiad a fesul munud.
- Tango - pwysedd gwaed awtomataidd yn ystod ymarfer corff.
- Cardiau mesur ymdrech ganfyddedig (RPE) - a ddefnyddir i asesu ymdrech wrth wneud ymarfer corff. Pwysig oherwydd bod ymdrech ganfyddedig yn rheoli dwyster ymarfer corff mewn athletwyr a phobl arferol yn ymarfer corff. ÌýÌý
Sganiwr Amsugnofetreg Pelydr-X Ynni-Deuol (Labordy DXA)Ìý
Ni oedd yr Ysgol Gwyddor Chwaraeon gyntaf yn y DU i osod sganiwr DXA a'i ddefnyddio ar gyfer ymchwil. Mae'n gallu mesur dwysedd esgyrn a rhoi mesuriadau meinweoedd - braster; cyfansoddiad mas di-fraster/cyhyrau. Gall offer arall yn yr adran asesu cyfansoddiad y corff hefyd, fel offerynnau mesur rhwystriant trydanol, y tanc pwyso tanddwr a chaliperau plygiadau’r croen.Ìý
Labordy Addysgu Canolfan PAWB £1mÌý
Mae'r labordy addysgu ffisioleg hwn (a gostiodd mwy na £1 miliwn) gyda’r gorau o’i fath ac fe’i cynlluniwyd fel y gallai myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau ymarferol yn effeithiol. Mae'n cynnwys offer fel: Ìý
- Peiriant cyfaint yr ysgyfaint.
- Bagiau Douglas ar gyfer casglu nwy yn ystod amrywiol ymarferion a pheiriant i ddadansoddi'r nwyon hyn ar gyfer cynnwys ocsigen a charbon deuocsid a ddefnyddir i bennu lefelau ffitrwydd aerobig a defnydd ynni.
- Peiriant Wingate - yn profi'r capasiti anaerobig mwyaf posibl. Bydd y rhan fwyaf o bobl sy'n defnyddio hyn yn gweld croniad o sgil-gynnyrch ymarfer corff (asid lactig).
- Beiciau a melinau traed - defnyddir y rhain i ddynwared sefyllfa ymarfer corff i fesur paramedrau ffisiolegol, biocemegol a seicolegol.Ìý
- Dau beiriant rhwyfo - peiriant rhwyfo safonol, a pheiriant caiac.Ìý
- Peiriannau pwysedd gwaed.
- Dynamomedr cefn/coesau.
- Caliperau plygiadau croen.
- System addysgu ECG.Ìý
Labordai Profion Ymarfer ac Adfer ÌýÌý
- Dynamomedr Isoginetig/Isometrig - mae'n mesur pob math o weithgarwch cymalog a chryfder cyhyrol. Gellir defnyddio'r ddynamomedr hefyd i adfer o anafiadau a gellir ei ddefnyddio ar y cyd â’r Estyniad Plygu’r Bongorff.
- Estyniad Plygu’r Bongorff - wedi'i ychwanegu at y ddynamomedr i fesur cryfder y cefn a grwpiau cyhyrau cysylltiedig.
- Peiriant electromyograffeg (EMG) - 19 sianel ynghyd â chyflymder dargludiad. Mae'n mesur signalau trydanol yn y cyhyrau, gan edrych ar gyfradd danio'r cyhyrau ac a ydynt yn blino yn ystod ymarfer corff.Ìý
- Uwchsain - yn edrych ar yr hyn sy'n digwydd yn y cyhyrau wrth ymarfer corff a bydd yn dangos meinwe creithiau. Hefyd, gall fesur llif y gwaed mewn pibellau gwaed a'r galon a gall ymchwilio i forffoleg a swyddogaeth y galon yn ogystal.
- Melin draed.Ìý
- Ergomedrau - Beiciau Monarch (beiciau profi cleifion), Rhwyfwr ‘Concept’.Ìý
- Peiriant Lode Corival.Ìý
Labordai Seicoleg a Seicoffisioleg
- Systemau electroenceffalograffi (EEG) i fesur gweithgarwch yr ymennydd trwy gofnodi'r gweithgarwch trydanol ar groen y pen.
- Peiriannau a meddalwedd bio-adborth i arddangos signalau seicoffisiolegol (e.e. tonnau’r ymennydd, amrywioldeb cyfradd y galon) mewn amser real a helpu unigolion i ddysgu sut i reoli eu cyflwr seicoffisiolegol.
- Tracwyr llygaid symudol i fesur symudiadau llygaid wrth gymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff.
- Synwyryddion grym a mesur cyflymiad i fesur proffiliau symud a datblygu dealltwriaeth o sut mae techneg yn datblygu gyda dysgu a sut mae straen seicolegol yn effeithio arno.
- Camerâu fideo diffiniad uchel a chyfrifiaduron manyleb uchel i fonitro ymatebion dynol mewn arbrofion seicoleg ac i ganiatáu cwblhau holiaduron ar-lein am gyflwr seicolegol.
Labordai Seicoechddygol a Rheoli Symudiadau a Dysgu
- Mae yna 5 o'r rhain i gyd a defnyddir yr offer sefydlog i fonitro, mesur a deall symudiadau dynol a rheoli gweithgarwch, yn amrywio o sgiliau echddygol manwl syml i symudiadau a ddefnyddir mewn chwaraeon egnïol lle mae’r holl gorff ar waith, a hynny o dan driniaethau seicolegol, ffisiolegol ac amgylcheddol diderfyn.
- Labordy dadansoddi symudiad gyda 12 Camera Vicon 3D.Ìý
- Labordy dadansoddi symudiad Optotrack.Ìý
- Manipulandum yr aelodau uchaf gyda dyfeisiau mesur cyflymiad.Ìý
- Tabledi Graffeg 2D cydraniad uchel.Ìý
- System symudol tracio llygaid i fesur symudiadau llygaid wrth gymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff.
- Sbectolau achludiad i drin maes gwelededd yn uniongyrchol mewn amser real pan fo rhywun yn symud.
- Camera fideo diffiniad uchel a chyfrifiaduron manyleb uchel i fonitro a dadansoddi sgiliau symud.Ìý
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Ìý
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Ìý
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104 - 144 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.Ìý
- Lefel A (ni dderbynnir astudiaethau cyffredinol na sgiliau allweddol)
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC:ÌýDMM - DDD
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDDÌý
- Arweinwyr Chwaraeon y DU: Cymwysterau Arweinyddiaeth Chwaraeon Uwch
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol:ÌýderbynnirÌý
- Bagloriaeth Cymru:ÌýByddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 112 - 144 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.Ìý
- Lefel A (ni dderbynnir astudiaethau cyffredinol na sgiliau allweddol)
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC:ÌýDMM - DDD
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDDÌý
- Arweinwyr Chwaraeon y DU: Cymwysterau Arweinyddiaeth Chwaraeon Uwch
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol:ÌýderbynnirÌý
- Bagloriaeth Cymru:ÌýByddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth
- Dylai ymgeiswyr ddangos ymrwymiad i’r awyr agored (e.e. profiad ymarferol, profiad gwaith, Gwobr Dug Caeredin).
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Ìý
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch iÌýadran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Bydd y radd hon yn rhoi'r wybodaeth a'r cymwyseddau proffesiynol fydd eu hangen arnoch i’ch galluogi i astudio cyrsiau ôl-radd perthnasol (e.e. Tystysgrif Ôl-radd mewn Addysg) er mwyn cael gyrfa lwyddiannus ym maes gwyddorau chwaraeon, addysg gorfforol a hyfforddi (e.e. athro/athrawes addysg gorfforol, hyfforddwr perfformiad neu ddatblygiad).ÌýÌý
Byddwch hefyd yn barod i weithio mewn meysydd eraill o chwaraeon (e.e. ffisiolegydd/seicolegydd cymhwysol), iechyd (e.e. ffisiotherapi neu therapi chwaraeon, ar ôl hyfforddiant ôl-radd), ymarfer corff (e.e. hyfforddwr ymarfer corff), neu ymchwil (e.e. PhD/cymrawd ymchwil).ÌýGallwch hefyd ddefnyddio'r sgiliau trosglwyddadwy bydd y radd hon yn eu darparu i chi mewn gyrfa yn y lluoedd arfog, gwasanaethau brys, neu fusnes.Ìý
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais amÌýÌý
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.Ìý