Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae biotechnoleg wedi cael effaith sylweddol ar fywyd y ddynoliaeth - mae’n ein galluogi i fanteisio ar allu eplesol micro-organebau i gynhyrchu cynhyrchion bwyd megis bara, caws, cwrw a gwin. Mae biotechnoleg yn cynnig cynhyrchion a thechnolegau arloesol i frwydro yn erbyn afiechydon, lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd, darparu ynni glanach, a chynhyrchu prosesau diwydiannol glanach a mwy diogel ac effeithlon. Bydd y radd hon yn eich grymuso i fynd i'r afael â materion byd-eang mewn modd arloesol i gynnig gwellhad, tanwydd a bwyd i’r byd.
Mae biotechnoleg ynÌýymwneud â chymhwyso prosesau biolegol i wella ansawdd bywyd ac iechyd ein planed. Gwneir hyn trwy ddefnydd arloesol o brosesau cellog a moleciwlaidd i ddatblygu technolegau a chynhyrchion buddiol.Ìý
Yn hanesyddol, mawr fu effaith biotechnoleg ar fywyd dynoliaeth. Bu'rÌýbiotechnolegwyrÌýcynharaf yn defnyddio galluÌýeplesolÌýmicro-organebau i gynhyrchu bwyd fel bara, caws, cwrw a gwin. Yn y byd sydd ohoni mae biotechnoleg fodern yn cynnig cynhyrchion a thechnolegau arloesol i frwydro yn erbyn afiechydon, lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd, bwydo'r newynog, lleihau'r angen am ynni, darparu ynni glanach, a chynhyrchu prosesau diwydiannolÌýdiogelach, glanach a mwy effeithlon.Ìý Bydd y radd hon yn eich grymuso chi, gwyddonydd y genhedlaeth nesaf i ymdrin â phroblemau byd-eang er mwyn gwella, cyflenwi a bwydo'r byd.Ìý
Cewch hyfforddiant sy'n ymdrin ag agweddau esblygiadol, ecolegol, amgylcheddol, moleciwlaidd a cellog bioleg, a chyfle i ddilyn agweddau cymhwysol ar fioleg yn ogystal â dysgu am brosesau a mecanweithiau sylfaenol. Mae ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol yn sail i’n haddysgu. Mae ein staff academaidd yn arbenigwyr mewn ymchwil biotechnoleg, o nifer o ddisgyblaethau biolegol sy'n ymwneud â microbioleg feddygol ac amgylcheddol, bioleg planhigion, bioamrywiaeth a geneteg, a bioleg celloedd a genomau. Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o brofiad ymarferol, profiad labordy a phrofiad maes, fel y gallwch ennill sgiliau trosglwyddadwy (dadansoddi data, gwaith grŵp, sgiliau ysgrifennu a chyflwyno, sgiliau TG). Rydym yn gwneud defnydd helaeth o'n hamgylchedd lleol, mae gennym amrywiaeth eithriadol o gynefinoedd daearol a dyfrol lleol ar garreg ein drws, ac rydym yn eu defnyddio ar gyfer cyrsiau maes a dosbarthiadau ymarferol. Mae gennym ein gerddi botaneg ein hunain gyda chynefinoedd amrywiol ar gyfer astudiaethau biolegol. Rydym hefyd yn rhan o Ganolfan yr Amgylchedd Cymru, sydd yn fenter bartneriaeth rhwng Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É a Chanolfan Ecoleg a Hydroleg (CEH) Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol.Ìý
Pam dewis Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ar gyfer y cwrs hwn? ÌýÌý Ìý
- Mae'r cyflwynydd teledu Steve Backshall bellach yn rhan o'n tîm addysgu.
- Mae ein cyfleusterau yn cynnwys dau labordy ymchwil microbioleg gyda'r offer diweddaraf sy’n cynnwys y Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol, y buddsoddwyd miliynau o bunnau yn ei datblygu; gardd fotaneg; amgueddfa byd natur sy'n cynnwys casgliad cynhwysfawr o ddeunydd infertebratau a fertebratau; ac acwaria môr a dŵr croyw helaeth.Ìý
- Mae ein lleoliad yn darparu gwahanol fathau o bridd, hinsawdd a thopograffeg, ac amrywiaeth o gynefinoedd, pob un o fewn cyrraedd hwylus ar gyfer astudiaethau maes.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Ìý
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Bydd gofyn i chi ddilyn 120 o gredydau’r flwyddyn fydd yn cynnwys darlithoedd, sesiynau ymarferol ac ymarferion rhyngweithiol, yn ogystal â chyrsiau maes a thiwtorialau ym mlwyddyn 1 a 2.Ìý Mae'r flwyddyn olaf yn cynnwys project traethawd hir, dan oruchwyliaeth aelod staff. Mae’rÌýmodiwlau’n fwy arbenigol wrth i chi fynd trwy’r radd a nifer y modiwlau gorfodol yn amrywio o’r naill flwyddyn i’r llall.Ìý Asesir trwy gyfuniad o arholiadau ffurfiol ac asesu parhaus. Mae modiwlau cyfrwng Cymraeg ar gael hefyd.Ìý
Rhoddir nifer y credydau mewn cromfachau ar ôl enw pob modiwl.Ìý Bydd rhai modiwlau yn cynnwys darlithoedd, sesiynau ymarferol ac ymarferion rhyngweithiol. Mae graddau biotechnoleg ynÌýcyfuno amrywiaeth eang o fodiwlau dewisol (tebyg i'r rhai sydd ar gael i fiolegwyr) â chynnwys biotechnoleg arbenigol, yn enwedig ym mlwyddyn 3.Ìý
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Bioleg gyda Biotechnoleg BSc (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Mae ein cyfleusterau rhagorol yn cynnwys y canlynol:Ìý
-
Gardd fotaneg, sy'n cynnig cyfleoedd i wneudÌýprojectau ecolegol, gwaith maes a gwirfoddoli;Ìý
-
Amgueddfa Hanes Naturiol ein hunain sy'n cynnwys casgliad cynhwysfawr o ddeunydd infertebratau a fertebratau, sbesimenauÌýdaearegol a phlanhigion;Ìý
-
acwaria morol a dŵr croyw helaeth;Ìý
-
Labordy Robert Edwards i ddysgu bioleg celloedd a bioleg foleciwlaidd;Ìý
-
labordai gwyddonol sy’n ymdrin ag amrywiol agweddau ar fioleg o ffisioleg i esblygiad a datblygiad, gan gynnig projectau amrywiol i fyfyrwyr y drydeddÌýflwyddyn;Ìý
-
mynediad i fyfyrwyr project i gyfleusterau yng Nghanolfan yr Amgylchedd Cymru a'r Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol;Ìý
Cyfleusterau Gwyddorau NaturiolÌý
- Amgueddfa Hanes Naturiol gyda chasgliad eithriadol o gynhwysfawr o ddeunydd fertebratau, sy'n cynnwys casgliad amrywiol o sbesimenau o fertebratau ac infertebratau, yn cynnwys primatiaid.
- Acwaria morol a dŵr croyw helaeth gyda chyfres o ystafelloedd sydd â’u tymheredd wedi ei reoli.Ìý
- Colomendy i wneud ymchwil ar wybyddiaeth, ffisioleg a biomecaneg adar. Ìý
- Gardd Fotaneg Treborth, sy'n 18 hectar o faint ar lannau’r Fenai. Mae'n cynnwys labordy gwreiddiau tanddaearol mwyaf Ewrop (y rhizotron), labordy dysgu, gwelyau gardd ffurfiol, gardd gerrig, gardd goed a chasgliad cadwraeth.Ìý
- Cyfleusterau cnofilod ac ymlusgiaid.Ìý
- Mae fferm y brifysgol sydd wedi ei lleoli yn Henfaes, tua 7 milltir o Fangor ac yn cynnwys cyfanswm o 252 hectar. Mae'n darparu cyfleusterau ymchwil ac addysgu ym maes amaethyddiaeth iseldir, coedwigaeth, hydroleg, gwyddor yr amgylchedd a chadwraeth. Rydym yn cynnal teithiau maes a gallwch gynnal eich arbrawf ar raddfa fawr eich hun ar gyfer eich project.Ìý
- Alpaca, defaid a chychod gwenyn ar fferm y brifysgol yn Henfaes.Ìý
- Rydym ar yr arfordir, ger Môr Iwerddon a’r Fenai, sy’n golygu bod gennym amrywiaeth o wahanol gynefinoedd ar gyfer cyrsiau maes a safleoedd astudio ar gyfer projectau blwyddyn olaf.Ìý
- Cyfleusterau ymlusgiaid pwrpasol, yn cynnwys ystafelloedd nadroedd gwenwynig. Ìý
- Ystafelloedd a reolir yn amgylcheddol ar gyfer gwaith project.Ìý
- Ystafelloedd trychfilod.Ìý
- °ä´Ç±ð³Ù¾±°ù´Ç±ð»å»å.Ìý
- Labordai addysgu ac ymchwil modern mawr, a chanolfan bwrpasol i fyfyrwyr weithio ar eu traethawd hir.Ìý
- Cyfleusterau delweddu.Ìý
- Amrywiaeth fawr iawn o offer dadansoddol, fel y gallwch ddysgu sut i ddadansoddi samplau amgylcheddol yn y maes ac yn y labordy.Ìý
- Ein casgliad daeareg ein hunain - sydd gyda’r gorau yn y wlad.ÌýÌý
- Labordai cyfrifiadurol i ddatblygu eich sgiliau mewn meysydd allweddol fel mapio digidol a modelu amgylcheddol.Ìý
- Llyfrgell goed.
- Labordai ymchwil amgylcheddol pwrpasol.
- Un o'n cyfleusterau gorau yw'r amgylchedd sydd ar garreg ein drws - cewch gyfle i ymweld â llawer wahanol leoedd ar ein teithiau maes, a fydd yn cadarnhau eich dysgu a'ch dealltwriaeth o bynciau.Ìý Ìý
- Defnyddir ein labordai biolegol, cemegol ac amgylcheddol ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau addysgu a dysgu. Mae gennym labordai ymchwil penodol wedi eu lleoli yng Nghanolfan yr Amgylchedd Cymru, sy'n cynnwys labordy isotopau radio a sefydlog, labordy pathogenau categori 2, ystafell ficrosgop dywyll, labordai paratoi samplau a labordy gydag offer dadansoddol pwrpasol.Ìý
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Ìý
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Ìý
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
TGAU: gradd C/4 mewn Saesneg, Mathemateg a Chymhwyster Gwyddoniaeth Ddwbl os nad yw'n cael ei brofi gan y cymhwyster/cymwysterau Lefel 3.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104 - 128 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3 e.e.:
- Lefel A: Yn cynnwys gradd C mewn Bioleg os ydych yn astudio 1 pwnc gwyddoniaeth arall (Cemeg, Ffiseg, Mathemateg, Seicoleg, Gwyddor yr Amgylchedd, Daearyddiaeth, Daeareg) neu radd B mewn Bioleg os nad ydych yn astudio pwnc gwyddoniaeth arall.ÌýFel rheol, ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol na Sgiliau Allweddol.Ìý
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol (yn cynnwys H5 mewn Bioleg)
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM - DDM gan gynnwys Teilyngdod mewn 4 modiwl Bioleg. Modiwlau a dderbynnir yn cynnwys: Bioleg Anifeiliaid; Anatomeg a Ffisioleg Anifeiliaid; Ymddygiad a Chyfathrebu Anifeiliaid; Bridio Anifeiliaid a Geneteg; Technegau Biocemeg a Biocemegol; Biocemeg a Microbioleg; Hanfodion Gwyddoniaeth; Geneteg a Pheirianneg Genetig; Etifeddiad a Thrin Genetig; Ffisioleg systemau'r Corff Dynol; Ffisioleg Rheoleiddio ac Atgenhedlu Dynol; Poblogaethau Bywyd Gwyllt, Ecoleg a Chadwraeth (Caiff modiwlau eraill sy'n gysylltiedig â Bioleg eu hystyried fesul achos).Ìý
- Diploma Technegol Estynedig Uwch City & Guilds (1080): DMM - DDM, gan gynnwys 4 modiwl Bioleg o blith y canlynol: Ymddygiad a Chyfathrebu Anifeiliaid, Systemau Biolegol Anifeiliaid, Cadwraeth Bywyd Gwyllt ac Ecoleg, Etifeddiad a Geneteg, Cysyniadau Ecolegol a’u Cymhwysiad, Arolygon Poblogaeth, Ecoleg a Chadwraeth. Caiff modiwlau eraill sy'n gysylltiedig â Bioleg eu hystyried fesul achos.Ìý
- Mynediad i Addysg Uwch yn y Gwyddorau**
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol**: DMM-DDM
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
**Gellir ystyried meysydd pwnc tebyg fesul achos
TGAU: gradd C/4 mewn Saesneg, Mathemateg a Chymhwyster Gwyddoniaeth Ddwbl os nad yw'n cael ei brofi gan y cymhwyster/cymwysterau Lefel 3.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 112 - 136 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3 e.e.:
- Lefel A: Yn cynnwys gradd C mewn Bioleg os ydych yn astudio 1 pwnc gwyddoniaeth arall (Cemeg, Ffiseg, Mathemateg, Seicoleg, Gwyddor yr Amgylchedd, Daearyddiaeth, Daeareg) neu radd B mewn Bioleg os nad ydych yn astudio pwnc gwyddoniaeth arall.ÌýFel rheol, ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol na Sgiliau Allweddol.Ìý
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol (yn cynnwys H5 mewn Bioleg)
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM - DDD gan gynnwys Teilyngdod mewn 4 modiwl Bioleg. Modiwlau a dderbynnir yn cynnwys: Bioleg Anifeiliaid; Anatomeg a Ffisioleg Anifeiliaid; Ymddygiad a Chyfathrebu Anifeiliaid; Bridio Anifeiliaid a Geneteg; Technegau Biocemeg a Biocemegol; Biocemeg a Microbioleg; Hanfodion Gwyddoniaeth; Geneteg a Pheirianneg Genetig; Etifeddiad a Thrin Genetig; Ffisioleg systemau'r Corff Dynol; Ffisioleg Rheoleiddio ac Atgenhedlu Dynol; Poblogaethau Bywyd Gwyllt, Ecoleg a Chadwraeth (Caiff modiwlau eraill sy'n gysylltiedig â Bioleg eu hystyried fesul achos).Ìý
- Diploma Technegol Estynedig Uwch City & Guilds (1080): DMM - DDD, gan gynnwys 4 modiwl Bioleg o blith y canlynol: Ymddygiad a Chyfathrebu Anifeiliaid, Systemau Biolegol Anifeiliaid, Cadwraeth Bywyd Gwyllt ac Ecoleg, Etifeddiad a Geneteg, Cysyniadau Ecolegol a’u Cymhwysiad, Arolygon Poblogaeth, Ecoleg a Chadwraeth. Caiff modiwlau eraill sy'n gysylltiedig â Bioleg eu hystyried fesul achos.Ìý
- Mynediad i Addysg Uwch yn y Gwyddorau**
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol**: DMM-DDD
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
**Gellir ystyried meysydd pwnc tebyg fesul achos
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Ìý
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch iÌýadran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Fel rhywun sydd wedi graddio o’r cwrs hwn, byddwch yn meddu ar gyfoeth o sgiliau a gwybodaeth a fydd yn berthnasol i lawer oÌýsectorau cyflogaeth gan gynnwys labordai ysbytai, sefydliadau ymchwil, cyrff ymgynghorol amlddisgyblaethol, cwmnïau diwydiannol, elusennau ymchwil, adrannau acÌýasiantaethau'r llywodraeth, sefydliadau addysgol, cynghorau ymchwil a'r sector preifat.Ìý
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Bioleg (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.Ìý