Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae Swoleg yn ymwneud ag anifeiliaid yn eu holl agweddau. Caiff myfyrwyr Swoleg (gyda Blwyddyn Sylfaen) gyflwyniad manwl a thrylwyr i swoleg gyffredinol, gan edrych ar amrywiaeth ffurf a swyddogaeth anifeiliaid, ac esblygiad ac ecoleg y prif grwpiau o anifeiliaid. Trwy gyfres o fodiwlau unigol sy’n cynnig elfen o ddewis, bydd myfyrwyr yn astudio swoleg infertebratau a fertebratau ac yn ystyried agweddau cymhwysol megis parasitoleg, a'r rhyngweithio rhwng anifeiliaid a'u hamgylchedd.
Mae'r rhaglen BSc Swoleg (gyda Blwyddyn Sylfaen) yn cyfuno blwyddyn sylfaen gyda Gradd Anrhydedd tair blynedd i greu rhaglen integredig dros bedair blynedd. Mae’r rhaglen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc gwyddonol yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio ar lefel gradd. ÌýMae’r rhaglen gyda Blwyddyn Sylfaen yn ddelfrydol i ymgeiswyr nad ydynt yn cyflawni gofynion mynediad gradd tair blynedd yn llawn neu a fyddai'n elwa o astudio pwnc gwyddonol am flwyddyn arall.
O gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus cewch symud ymlaen i Flwyddyn 1 y rhaglen Swoleg BSc.
A chithau’n fyfyriwr ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, cewch eich dysgu gan staff ymroddedig a brwdfrydig a bydd i chi gyfleusterau a rhwydwaith helaeth y Brifysgol yn gefn i chi.
Pam dewis Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ar gyfer y cwrs?
- Mae ymchwil gwyddonol blaengar yn rhan annatod o'n rhaglenni ymchwil, ac yn treiddio i’r dysgu. Mae’r arbenigedd sydd gennym mewn bioleg a biotechnoleg yn cynnwys astudiaethau i ficrobioleg feddygol ac amgylcheddol, bioleg planhigion, biotechnoleg y môr, geneteg pysgodfeydd, bioleg celloedd a genomau, niwrofioleg a datblygiad.
- Mae yma gyfleusterau dysgu rhagorol gan gynnwys Amgueddfa Byd Natur sy'n cynnwys casgliad eithriadol o gynhwysfawr o bryfed a deunydd fertebrata, ac acwaria môr a dŵr croyw helaeth a chyfres o ystafelloedd y rheolir eu tymheredd.Ìý
- Mae gennym golomendy ar gyfer ymchwil gwybyddiaeth a ffisioleg adar yng Ngardd Fotaneg Treborth, cyfleusterau ar gyfer cnofilod ac ymlusgiaid yn adeilad Brambell, alpaca a defaid a chychod gwenyn ar fferm y Brifysgol yn Henfaes.
- Mae ÑÇÖÞÉ«°É yn lle delfrydol i astudio sŵoleg oherwydd yr amrywiol gynefinoedd ar y tir ac yn y môr yn lleol ar gyfer teithiau maes.
- Fel rhan o'r cwrs gallwch ddewis treulio 3-6 mis ym mlwyddyn 2 mewn prifysgol yn naill ai Ewrop neu'r Unol Daleithiau ar raglen cyfnewid myfyrwyr.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Ìý
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Ein nod ar y cwrs Swoleg (gyda Blwyddyn Sylfaen) ywÌýrhoi hyfforddiant cadarn ac eang i chi ym maes swoleg sy’n cynnwys agweddau pur a chymhwysol ar fywyd anifeiliaid. Trwy gydol eich gradd byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau ac yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau dysgu, gan gynnwys darlithoedd, seminarau, tiwtorialau a sesiynau ymarferol. Yn ogystal, byddwch yn datblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau trwy wneud amrywiaeth eang o asesiadau. Rydym yn cynnig amryw o gyfleoedd i wneud astudiaethau maes, yn y wlad hon a thramor, ac i weithio mewn labordy ymchwil.
Nid yn unig y byddwch yn mwynhau adnoddau canolfan bioleg anifeiliaid modern ond byddwch yn elwa hefyd o’r ffaith bod amrywiaeth eithriadol o gynefinoedd daearol, morol a dŵr croyw gerllaw, lle gwneir gwaith maes, sydd yn rhan annatod o'r radd. ÌýRydym yn anarferol ymysg prifysgolion Prydain yn y ffaith bod gennym ein hamgueddfa Swoleg sylweddol ein hunain, a’n bod yn rhan o Ganolfan yr Amgylchedd Cymru, a honno’n fenter ar y cyd gan Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É a Chanolfan Ecoleg a Hydroleg Cyngor Ymchwil yr ÌýAmgylchedd Naturiol. ÌýMae gennym ein hacwaria môr a dŵr croyw ein hunain hefyd.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Cafodd Blwyddyn Sylfaen y rhaglen ei chynllunio i'ch paratoi at astudio ar lefel gradd. ÌýByddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau sy'n canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau academaidd a'ch gwybodaeth bwnc-benodol, cyn symud ymlaen i flwyddyn 1 y rhaglen. ÌýByddwch yn gwneud modiwlau sy'n canolbwyntio ar dechnoleg gwybodaeth a sgiliau cyfathrebu, mathemateg hanfodol ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau trwy ymgymryd â phroject ymchwil pwnc-benodol. Yn ogystal, byddwch yn astudio modiwlau ar Fioleg Hanfodol a Chemeg Hanfodol.
Nod blwyddyn 1 a 2 y rhaglen yw cryfhau a dyfnhau eich gwybodaeth ac ehangu eich sylfaen sgiliau. Nod y drydedd flwyddyn yw datblygu eich dealltwriaeth feirniadol o'r pwnc a gwella eich cyflogadwyedd ymhellach.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Swoleg (gyda Blwyddyn Sylfaen) BSc (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Gwyddorau Naturiol
- Amgueddfa Hanes Naturiol gyda chasgliad eithriadol o gynhwysfawr o ddeunydd fertebratau, sy'n cynnwys casgliad amrywiol o sbesimenau o fertebratau ac infertebratau, yn cynnwys primatiaid.
- Acwaria morol a dŵr croyw helaeth gyda chyfres o ystafelloedd sydd â’u tymheredd wedi ei reoli.Ìý
- Colomendy i wneud ymchwil ar wybyddiaeth, ffisioleg a biomecaneg adar. Ìý
- Gardd Fotaneg Treborth, sy'n 18 hectar o faint ar lannau’r Fenai. Mae'n cynnwys labordy gwreiddiau tanddaearol mwyaf Ewrop (y rhizotron), labordy dysgu, gwelyau gardd ffurfiol, gardd gerrig, gardd goed a chasgliad cadwraeth.Ìý
- Cyfleusterau cnofilod ac ymlusgiaid.Ìý
- Mae fferm y brifysgol sydd wedi ei lleoli yn Henfaes, tua 7 milltir o Fangor ac yn cynnwys cyfanswm o 252 hectar. Mae'n darparu cyfleusterau ymchwil ac addysgu ym maes amaethyddiaeth iseldir, coedwigaeth, hydroleg, gwyddor yr amgylchedd a chadwraeth. Rydym yn cynnal teithiau maes a gallwch gynnal eich arbrawf ar raddfa fawr eich hun ar gyfer eich project.Ìý
- Alpaca, defaid a chychod gwenyn ar fferm y brifysgol yn Henfaes.Ìý
- Rydym ar yr arfordir, ger Môr Iwerddon a’r Fenai, sy’n golygu bod gennym amrywiaeth o wahanol gynefinoedd ar gyfer cyrsiau maes a safleoedd astudio ar gyfer projectau blwyddyn olaf.Ìý
- Cyfleusterau ymlusgiaid pwrpasol, yn cynnwys ystafelloedd nadroedd gwenwynig. Ìý
- Ystafelloedd a reolir yn amgylcheddol ar gyfer gwaith project.Ìý
- Ystafelloedd trychfilod.Ìý
- °ä´Ç±ð³Ù¾±°ù´Ç±ð»å»å.Ìý
- Labordai addysgu ac ymchwil modern mawr, a chanolfan bwrpasol i fyfyrwyr weithio ar eu traethawd hir.Ìý
- Cyfleusterau delweddu.Ìý
- Amrywiaeth fawr iawn o offer dadansoddol, fel y gallwch ddysgu sut i ddadansoddi samplau amgylcheddol yn y maes ac yn y labordy.Ìý
- Ein casgliad daeareg ein hunain - sydd gyda’r gorau yn y wlad.ÌýÌý
- Labordai cyfrifiadurol i ddatblygu eich sgiliau mewn meysydd allweddol fel mapio digidol a modelu amgylcheddol.Ìý
- Llyfrgell goed.
- Labordai ymchwil amgylcheddol pwrpasol.
- Un o'n cyfleusterau gorau yw'r amgylchedd sydd ar garreg ein drws - cewch gyfle i ymweld â llawer wahanol leoedd ar ein teithiau maes, a fydd yn cadarnhau eich dysgu a'ch dealltwriaeth o bynciau.Ìý Ìý
- Defnyddir ein labordai biolegol, cemegol ac amgylcheddol ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau addysgu a dysgu. Mae gennym labordai ymchwil penodol wedi eu lleoli yng Nghanolfan yr Amgylchedd Cymru, sy'n cynnwys labordy isotopau radio a sefydlog, labordy pathogenau categori 2, ystafell ficrosgop dywyll, labordai paratoi samplau a labordy gydag offer dadansoddol pwrpasol.Ìý
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Ìý
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Ìý
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
TGAU: Mathemateg gradd C/4 yn ofynnol.Ìý
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 48 - 96 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.
- Lefel A (gan gynnwys: Safonau UG, Astudiaethau Cyffredinol)
- Bagloriaeth Ryngwladol
- Cymhwyster Project Estynedig
- Derbynnir Diplomâu a Thystysgrifau BTEC a Diplomâu/Tystysgrifau Technegol Caergrawnt
- Diplomâu a Thystysgrifau Technegol Caergrawnt
- Diploma Estynedig Uwch y Ddinas a’r Gildiau: Ìý
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Scottish Higher
- Derbyniwn yr Irish Leaving Certificate
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn. Caiff myfyrwyr aeddfed a/neu rai sydd â chymwysterau eraill eu hystyried yn ôl teilyngdod unigol
*Ewch i www.ucas.com i weld rhestr lawn o'r cymwysterau Lefel 3 a dderbyniwn.
TGAU: Mathemateg gradd C/4 yn ofynnol.Ìý
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 64 - 112 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.
- Lefel A (gan gynnwys: Safonau UG, Astudiaethau Cyffredinol)
- Bagloriaeth Ryngwladol
- Cymhwyster Project Estynedig
- Derbynnir Diplomâu a Thystysgrifau BTEC a Diplomâu/Tystysgrifau Technegol Caergrawnt
- Diplomâu a Thystysgrifau Technegol Caergrawnt
- Diploma Estynedig Uwch y Ddinas a’r Gildiau: Ìý
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Scottish Higher
- Derbyniwn yr Irish Leaving Certificate
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn. Caiff myfyrwyr aeddfed a/neu rai sydd â chymwysterau eraill eu hystyried yn ôl teilyngdod unigol
*Ewch i www.ucas.com i weld rhestr lawn o'r cymwysterau Lefel 3 a dderbyniwn.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Ìý
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch iÌýadran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Mae sŵolegwyr yn dilyn gyrfaoedd ym maes rheoli bywyd gwyllt, gwaith ymgynghorol sy’n ymwneud â'r amgylchedd, a'r cyfryngau lleol a chenedlaethol, tra bo rhai'n mynd ymlaen i ddilyn gwahanol raglenni ôl-radd.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.