Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae nyrsio anabledd dysgu yn canolbwyntio ar werth a hawliau'r unigolyn, cyfathrebu effeithiol, ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a defnyddio ymarfer ar sail tystiolaeth i wella iechyd a lles pobl ag anabledd dysgu. Mae nyrsys anabledd dysgu yn ystyried iechyd yn yr ystyr ehangaf bosibl ac yn gweithio mewn ystod o yrfaoedd gyda phlant neu oedolion sy'n wynebu heriau iechyd corfforol a meddyliol neu'n byw gydag anableddau dysgu, gan helpu eu cleientiaid i fyw eu bywydau mor llawn ac annibynnol 芒 phosibl.
Caiff iechyd ei ddiffinio yn ei ystyr ehangaf lle rydym yn ymwneud ag iechyd cymdeithasol, seicolegol a chorfforol. 听Felly, mae ein cwrs yn canolbwyntio ar werth y person a hawliau'r person. Rydym yn grymuso pobl i oresgyn rhwystrau鈥檙 gymdeithas drwy ddefnyddio cyfathrebu effeithiol, ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac ymarfer ar sail tystiolaeth.
Wrth astudio i fod yn nyrs anableddau dysgu byddwch yn treulio hanner eich amser yn y brifysgol a'r hanner arall ar leoliadau. Tra byddwch ar leoliad, byddwch yn gweithio gyda phobl sydd ag anableddau dysgu ac yn cael ei chefnogi gan nyrsys anableddau dysgu ac aelodau eraill o'r t卯m amlddisgyblaethol. Bydd y lleoliadau鈥檔 rhoi profiad i chi o weithio gyda phlant ac oedolion a gyda rhai o'n gwasanaethau mwyaf arbenigol. Bydd cyfle hefyd i weithio mewn lleoliadau cymunedol a lleoliadau preswyl. 听听
Fel nyrs anableddau dysgu byddwch yn ennill cymhwyster a fydd yn eich galluogi i gael gyrfa sy'n rhoi llawer o foddhad yn gweithio gyda phlant neu oedolion sy'n byw gydag anabledd dysgu ac sydd angen cefnogaeth nyrs anableddau dysgu. Gellir gweld nyrsys anableddau dysgu鈥檔 gweithio mewn gwahanol leoliadau ac i nifer o wahanol gyflogwyr gan gynnwys y GIG a'r sector annibynnol. 听Mae sgiliau unigryw鈥檙 nyrs anableddau dysgu鈥檔 cael eu defnyddio fwyfwy mewn meysydd nyrsio eraill h.y. ym maes nyrsio iechyd meddwl a nyrsio oedolion. 听听
Mae'r cwrs yn addas i ddilyn gyrfa鈥檔 gweithio gyda phobl o bob oed sy鈥檔 wynebu heriau iechyd corfforol a meddyliol neu sy'n byw gydag anableddau dysgu ac sydd angen gofal nyrsio proffesiynol. 听Mae 亚洲色吧 yn derbyn ceisiadau am gyrsiau nyrsio drwy gydol y flwyddyn, tra bod llefydd ar gael. Gan fod rhai llwybrau鈥檔 llenwi, rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno eich cais cyn gynted 芒 phosibl.
Pam dewis Prifysgol 亚洲色吧 ar gyfer y cwrs?
- Cyllid ar gael gan y GIG ar hyn o bryd i dalu ffioedd a chyfraniad at gostau byw.
- Cynhelir y cwrs ar gampws 亚洲色吧 ac mae pob lleoliad clinigol yn cael ei ddarparu yng ngogledd ddwyrain Cymru. Mae hybiau dysgu rhanbarthol yn cael eu sefydlu i roi gwir hyblygrwydd o ran sut a ble byddwch yn dysgu.听
Dim angen talu ffioedd dysgu
Os ystyrir chi yn fyfyriwr cartref o鈥檙 Deyrnas Unedig mewn perthynas 芒 ffioedd dysgu, a all ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar 么l graddio, gallech gael eich ffioedd dysgu wedi'u talu'n llawn drwy Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru ynghyd 芒 gwneud cais am gyfraniad bwrsariaeth o 拢1,000 tuag at gostau byw. Gallwch hefyd wneud cais am y fwrsariaeth yn seiliedig ar brawf modd sy'n ddibynnol ar incwm y cartref ac unrhyw gyllid arall ac mae meini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth gofal plant, lwfans dibynnydd a lwfans i rieni sy鈥檔 dysgu. Gallwch hefyd wneud cais am gyllid cynhaliaeth ar sail incwm ac am fenthyciad cyfradd llog isel gan Cyllid Myfyrwyr. Gan fod y cwrs hwn yn cael ei ariannu gan GIG Cymru, ni allwn dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr tramor.听
Mae manylion llawn ar gael ar Dudalen Cyllid y GIG.听
Cynnwys y Cwrs
Bydd yn orfodol i chi wneud astudiaeth ddamcaniaethol a lleoliadau clinigol mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol a/neu breswyl yng ngogledd Cymru. Tra byddwch ar leoliadau byddwch dan oruchwyliaeth glos a chewch arsylwi staff proffesiynol wrth eu gwaith a chyfrannu at ddarparu gofal nyrsio gan ddechrau yn gynnar yn y cwrs. Cewch eich cefnogi gan diwtor personol sy鈥檔 nyrs gofrestredig yn ogystal ag aelod o鈥檙 staff academaidd a chewch oruchwyliaeth fentora gan nyrs gofrestredig weithredol ar leoliad. Caiff gwaith theori a gwaith ymarferol ei asesu drwy aseiniadau, arholiadau, cyflwyniadau a thrwy Bortffolio Asesu Ymarfer Clinigol Cymru Gyfan.听
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Mae鈥檙 cwrs wedi ei seilio鈥檔 gyfartal ar theori ac ymarfer 鈥 astudio damcaniaethol yw 50% a threulir 50% mewn ymarfer clinigol yn datblygu鈥檙 cymwyseddau sydd eu hangen i gael eich rhoi ar gofrestr y Coleg Nyrsio a Bydwreigiaeth. Byddwch yn datblygu agweddau, sgiliau, gwerthoedd ac ymddygiad proffesiynol sy鈥檔 ddisgwyliedig gan nyrsys i sicrhau diogelwch pobl o bob oed, eu gofalwyr a'u teuluoedd. Un o鈥檙 gwerthoedd yr ydym yn canolbwyntio arno yw y dylai pawb gael eu grymuso i gael mynediad at yr un hawliau a鈥檙 un cyfleoedd, waeth beth fo'u hanabledd dysgu.听
Er y byddwch yn arbenigo mewn nyrsio anableddau dysgu o ddechrau鈥檙 rhaglen, mae cyfleoedd i astudio gyda myfyrwyr gofal iechyd proffesiynol eraill ac mae gan yr Ysgol strategaeth o ddysgu rhyngbroffesiynol. Yn y rhaglenni gradd unigol mae cyfleoedd dysgu lle gall pob maes ddysgu gyda'i gilydd am elfennau cyffredin neu generig megis anatomi a ffisioleg, seicoleg, cymdeithaseg, cyfathrebu, adfyfyrio, y gyfraith a moeseg. Mae'r dysgu rhyngbroffesiynol hwn yn galluogi gweithio amlddisgyblaethol o'r cychwyn cyntaf a gwerthfawrogiad o sut mae elfennau gofal iechyd yn dod at ei gilydd yn ystod taith y claf. Bydd rhannu syniadau rhwng disgyblaethau iechyd yn ehangu eich safbwyntiau ar ofal iechyd, ac yn eich helpu i ganolbwyntio ar sgiliau penodol yr ydych chi'n eu datblygu yn eich maes nyrsio eich hun.
Ar gyfer mynediad 2022 mae'r rhaglen Baglor mewn Nyrsio ar gyfer y pedwar maes wedi'i mapio yn erbyn Safonau Hyfedredd i Nyrsys Cofrestredig 2018 y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a Nyrs y Dyfodol: Safonau Cymhwysedd. Mae'r rhaglen newydd yn sicrhau fod gan nyrsys well dealltwriaeth o anghenion cleifion/cleientiaid ar draws pob un o'r pedwar maes ymarfer nyrsio, ond gan barhau i ganolbwyntio ar faes penodol. Mae'r rhaglen yn paratoi nyrsys cofrestredig y dyfodol gyda sgiliau gweithio mewn t卯m a sgiliau arweinyddiaeth a gyda rhagor o wybodaeth am faes iechyd y cyhoedd, sydd ei angen i ddarparu gofal mewn gwahanol leoliadau i gefnogi iechyd a lles cleientiaid a chleifion. 听
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae鈥檙 rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Nyrsio Anabledd Dysgu BN (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi鈥檌 nodi i鈥檆h arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Nyrsio
- Mae gan y Brifysgol gyfleusterau sgiliau clinigol sydd newydd eu hadnewyddu sy'n cynnwys ystafell gywair-bur dau wely, ward saith bae a mannau sgiliau clinigol hyblyg ychwanegol sy'n caniat谩u i ystod o sgiliau clinigol gael eu dysgu i fyfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth mewn amgylchedd efelychiadol sy'n helpu eich paratoi ar gyfer lleoliadau clinigol.听
- Mae Efelychu Cywair-bur yn cynnwys defnyddio delwau soffistigedig naturiol mewn amgylcheddau cleifion realistig, gyda鈥檙 delwau hyn yn gallu dynwared yn fanwl iawn ystod eang o ystumiau鈥檙 corff dynol. Bydd y dysgu trochi hwn yn cynnwys defnyddio efelychiad i gyflwyno myfyrwyr i sefyllfaoedd cymhwysol (trwy brofiad rhithwir), gan roi'r cyfle i chi ymarfer sgiliau a rhyngweithio 芒'r cyd-destun penodol.听
- Mae efelychiadau fel hyn yn cynnig profiad sy'n dynwared sefyllfa yn y byd go iawn lle gall y myfyriwr, mewn amser real, ymarfer gwahanol gamau gweithredu a ffyrdd o ymateb.
Costau'r Cwrs
Dim Angen Talu Ffioedd Dysgu
Os ydych yn gymwys ar gyfer ffioedd dysgu Cartref (DU) ac yn gallu ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar 么l graddio, gallech gael eich ffioedd dysgu wedi'u talu'n llawn drwy Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru ynghyd 芒 gwneud cais am gyfraniad bwrsariaeth o 拢1,000 tuag at gostau byw. Cewch wneud cais hefyd am y fwrsariaeth yn seiliedig ar brawf modd sy'n ddibynnol ar incwm y cartref ac unrhyw gyllid arall y mae iddo feini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth gofal plant, lwfans dibynnydd a lwfans i rieni sy鈥檔 dysgu. 听Gallwch hefyd wneud cais am gyllid cynhaliaeth ar sail incwm ac am fenthyciad cyfradd llog isel gan Gyllid Myfyrwyr. Oherwydd bod y cwrs yn cael ei ariannu gan GIG Cymru, ni allwn dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr tramor ac eithrio myfyrwyr o Ganada sy'n gallu gwneud cais trwy听. Mae manylion llawn ar gael ar听dudalen Gyllid y GIG.
Gofynion Mynediad
Proses Mynediad ar gyfer Cyrsiau Proffesiynol听
Rhaid i bob ymgeisydd fodloni ystod o feini prawf mynediad - edrychwch ar听. Mae gofynion mynediad y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn cynnwys dangos iechyd da a chymeriad da. Mae'r Ysgol yn ei gwneud yn ofynnol i bob ymgeisydd gael gwiriad cofnod troseddol a gofynion eraill ar gyfer dangos cymeriad da; bydd y Bwrdd Iechyd lleol yn gyfrifol am osod y gofyniad am iechyd da. Gallwch hefyd gysylltu ag听admissions.health@bangor.ac.uk听i gael cyngor/gwybodaeth bellach. Bydd rhaid i ymgeiswyr gyda chymwysterau mynediad hyn na 5 oed ddangos tystiolaeth o astudiaeth ddiweddar ar lefel briodol.听
Gofynion academaidd:听
TGAU: fel arfer rhaid bod gennych, neu rhaid eich bod yn gweithio tuag at, o leiaf pum TGAU gradd A*-C/9-4 gan gynnwys TGAU Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf a Mathemateg/Rhifedd (neu gymhwyster amgen cydnabyddedig*), ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104 - 120 pwynt tariff ar gyfer y rhaglenni Baglor Nyrsio o gymwysterau lefel 3* e.e.:听
- Lefel A:听Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDM
Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDM
Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): cysylltwch 芒 ni - Diploma Bagloriaeth Rhyngwladol听
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.听
- Mynediad: i gynnwys Rhagoriaeth neu Deilyngdod (lleifaswm o 9 farc llwyddo)听
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd 芒 chymwysterau lefel 3 eraill
- Irish Leaving Certificate: 104 - 120 pwynt mewn o leiaf 4 pwnc uwch听
- Tystysgrif Lefel 5 FETAC QETI mewn Astudiaethau Nyrsio: Proffil Rhagoriaeth听
Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cwblhau Diploma Mynediad AU neu sydd 芒 thystiolaeth o astudio diweddar ar Lefel 3 neu'n uwch yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf sy'n bodloni'n gofynion mynediad; sylwer nad ydym yn derbyn NVQ Lefel 3 / QCF Lefel 3 fel cymhwyster sy鈥檔 bodloni ein gofynion mynediad.
I weld rhestr lawn o'r cymwysterau lefel 3 a dderbynnir, ewch i听.
*Cymwysterau amgen cydnabyddedig ar gyfer Cymraeg/Saesneg a/neu Fathemateg fyddai Sgiliau Hanfodol Lefel Dau mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif, neu Sgiliau Gweithredol Lefel Dau mewn Saesneg a Mathemateg (rhaid bod wedi eu cyflawni o fewn y 3 blynedd ddiwethaf).听Mae'r isafswm gradd o O4 gyda Thystysgrif Ymadael Iwerddon yn cyfateb i radd C/4 TGAU.
Cyfweld a dewis ymgeiswyr ar gyfer BN Nyrsio
Gofynnir i bob ymgeisydd sy'n cyflawni'r gofynion mynediad academaidd fynd i gyfweliad gr诺p, ac ar 么l hynny bydd ymgeiswyr yn cael gwybod os ydynt ar y rhestr fer a bydd angen rhagor o wybodaeth cyn y gellir eu derbyn yn derfynol ar y cwrs. Ewch i'r dudalen听Cyfweld a Dewis Ymgeiswyr ar gyfer BN Nyrsio听os gwelwch yn dda.
听
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae鈥檔 rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i听www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr 芒 phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae鈥檔 rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae鈥檙 Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.听
Mae鈥檔 bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd 芒; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr h欧n sy鈥檔 medru dangos fod ganddynt y gallu a鈥檙 ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr h欧n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i听adran听Astudio ym Mangor.听听

Gyrfaoedd
Mae nyrsio yn broffesiwn arloesol sy'n tyfu'n barhaus ac mae nyrsys yn gweithio mewn timau aml-broffesiynol ar draws lleoliadau iechyd a gofal. Mae nyrsys mewn sefyllfa unigryw i ddarparu gofal mewn partneriaeth 芒 phobl a gofalwyr, lle bynnag y mae angen gofal. Ym mhob rhan o鈥檙 system iechyd a gofal ceir rhagor o bwyslais ar atal afiechyd, galluogi pobl i ofalu am eu hunain, bod yn bartneriaid yn eu gofal a chael gwell ansawdd bywyd. Mae cyflymder y datblygiadau mewn gofal meddygol a gofal nyrsio, ac o ran triniaethau a thechnoleg yn creu cyfleoedd gyrfa newydd i nyrsys gyda datblygiadau mewn gwahanol agweddau ar wasanaethau a gwahanol ffyrdd o weithio. Mae鈥檙 cyfleoedd gyrfaol yn amrywiol gan gynnwys swyddi staff y rheng flaen a swyddi arweinyddiaeth neu reoli, swyddi nyrsys arbenigol neu nyrsys ymgynghorol ynghyd 芒 llu o opsiynau eraill hynod gyffrous.
Mae llawer o wahanol agweddau ar nyrsio yn y pedwar maes a nifer o wahanol gyfleoedd i ddatblygu gyrfa a gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau. Mae sawl math o swydd ar gael i nyrsys, o nyrs staff i nyrs arbenigol, rheolwr ward, metron, arweinydd, ymchwilydd, addysgwr ac ymgynghorydd nyrsio. Mae swyddi nyrsio wedi eu rhannu'n wahanol fandiau sydd 芒 chyflogau gwahanol.听
Mae gan bobl ag anabledd dysgu nam sylweddol o ran eu gallu deallusol a chymdeithasol. Gallant yn aml fod 芒 phroblemau corfforol, synhwyraidd a/neu iechyd meddwl.听
Fel nyrs anableddau dysgu byddwch yn gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol ynghyd 芒 theulu a gofalwyr y cleient, gan gynorthwyo mewn ffordd hollgynhwysol i ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Byddwch yn gweithio gyda rhai o'r bobl fwyaf bregus sy'n dioddef fwyaf o allgau cymdeithasol, gan hyrwyddo iechyd a lles a gweithio i alluogi pobl ag anabledd dysgu i fyw bywydau llawn ac annibynnol.
Mae bod yn nyrs anableddau dysgu yn arwain at amrywiaeth enfawr o gyfleoedd i weithio gyda phlant, oedolion a phobl h欧n gydag amrywiaeth eang o anghenion. Gall nyrsys anableddau dysgu weithio mewn nifer o wahanol leoliadau, gan gynnwys timau cymunedol, carchardai, ysgolion, gwasanaethau seibiant a gwasanaethau diogel, ymhlith eraill.听
Mae dull y Nyrs Anableddau Dysgu yn seiliedig ar werthoedd a chaiff hynny ei werthfawrogi fwyfwy gan feysydd eraill a gellir dod o hyd i'n graddedigion hefyd yn gweithio mewn rhai sectorau Iechyd Meddwl a Nyrsio Oedolion.听
Mae gan y fideo byr arbennig o dda o鈥檙 enw 鈥溾 sy'n rhoi cipolwg i chi ar yrfa ym maes nyrsio anableddau dysgu.听
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i鈥檆h helpu i gyflawni eich amcanion ar 么l graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol 亚洲色吧
Mae Prifysgol 亚洲色吧 yn cynnal cynllun interniaeth 芒 th芒l yn adrannau academaidd a gwasanaethau鈥檙 Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy鈥檔 graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae鈥檙 adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o鈥檙 sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.