Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae nyrsys plant a phobl ifanc yn gofalu am blant a phobl ifanc o bob oedran, o fabanod newydd-anedig hyd at lasoed, sydd ag ystod o anghenion iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol. Mae nyrsys plant a phobl ifanc hefyd yn gweithio'n agos gydag aelodau o'r teulu a gofalwyr i leihau'r effaith o fod yn sâl neu yn yr ysbyty. Mae'r cwrs yn cynnwys pynciau nyrsio generig a phynciau sy'n benodol i faes plant mewn amrywiaeth eang o leoliadau gan gynnwys rhai trefol a gwledig, yn y gymuned, unedau gofal arbennig i fabanod, hosbisau ac iechyd meddwl.
Fel nyrs plant byddwch yn gofalu am blant o bob oedran ac amrywiaeth eang o anghenion. Byddwch hefyd yn gweithio mewn partneriaeth ag aelodau o'r teulu a’r gofalwyr i leihau effeithiau salwch neu yn yr ysbyty a chynnig cysur a sicrwydd i gleifion a'u rhieni neu yrfaoedd mewn amgylchiadau anodd neu straen. Mae'r rôl yn llawn boddhad a gall fod yn heriol hefyd yn yr amgylchedd gofal iechyd cyfredol a hwnnw’n newid yn gyflym. ÌýMae nyrsys plant yn gweithio fel aelod o dîm gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, mewn amrywiol leoliadau sy'n dilyn siwrnai’r claf o’r cartref, yn agos i'r cartref neu yn y cartref, gan gynnig amrywiaeth wirioneddol i chi yn eich gyrfa.
Bydd y cwrs yn eich paratoi at fynd yn nyrs CYP sy'n gallu dangos sgiliau meddwl beirniadol ynghylch materion gofal iechyd cymhleth ac iechyd a lles plant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Bydd yn fodd i'ch tosturi chi ffynnu a hynny trwy ddull sy'n seiliedig ar dystiolaeth a bydd yn eich galluogi i beri effaith wirioneddol ar iechyd a lles babanod, plant, pobl ifanc a'u teuluoedd.Ìý
Byddwch yn mynd ar leoliadau dros dair blynedd y cwrs mewn amrywiaeth o feysydd clinigol ledled Cymru fel ysbytai, unedau babanod gofal arbennig, hosbisau, gwasanaethau iechyd meddwl, timau cymunedol nyrsio plant ac unedau gofal dwys pediatrig arbenigol.
Mae ÑÇÖÞÉ«°É yn derbyn ceisiadau am gyrsiau nyrsio drwy gydol y flwyddyn, tra bo llefydd ar gael. Mae'r llwybr maes plant yn boblogaidd iawn ac felly rydym yn argymell y dylid cyflwyno ceisiadau cyn gynted â phosibl.Ìý
Bydd elfennau o'r cwrs ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg a bydd cyfleoedd i brofi ymarfer dwyieithog mewn rhannau o'r rhanbarth. I gael gwybodaeth am ddarpariaeth ddwyieithog yr Ysgol cliciwch yma.Ìý
Pam dewis Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ar gyfer y cwrs?
- Cyllid ar gael gan y GIG ar hyn o bryd i dalu ffioedd a chyfraniad at gostau byw.
Dim Angen Talu Ffioedd Dysgu
Os ystyrir eich bod yn fyfyriwr cartref o’r Deyrnas Unedig o ran ffioedd dysgu, a all ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, gallech gael eich ffioedd dysgu wedi'u talu'n llawn drwy Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru a gwneud cais am gyfraniad bwrsariaeth o £1,000 tuag at gostau byw. Cewch hefyd wneud cais am y fwrsariaeth yn seiliedig ar brawf modd sy'n ddibynnol ar incwm yr aelwyd ac unrhyw gyllid arall ac mae meini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth gofal plant, lwfans dibynnydd a lwfans i rieni sy’n dysgu.
Cewch wneud cais hefyd am gyllid ar sail incwm at eich cynhaliaeth ac am fenthyciad ar gyfradd log isel gan Gyllid Myfyrwyr. Oherwydd bod y cwrs yn cael ei ariannu gan GIG Cymru, ni allwn dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr tramor.Ìý
Mae manylion llawn ar gael: Tudalen Gyllid y GIG.Ìý
Campws a lleoliad clinigol
Cynhelir y cwrs ar gampws ÑÇÖÞÉ«°É ac mae pob lleoliad clinigol yn cael ei ddarparu yng ngogledd ddwyrain Cymru. Mae hybiau dysgu rhanbarthol yn cael eu sefydlu i roi gwir hyblygrwydd o ran sut a ble byddwch yn dysgu.Ìý
Ìý
Cynnwys y Cwrs
Bydd astudiaethau damcaniaethol gorfodol a lleoliadau clinigol mewn ysbytai, lleoliadau cymunedol a/neu leoliadau preswyl yn y gogledd. ÌýYn gynnar yn y cwrs bydd lleoliadau o dan oruchwyliaeth glos lle cewch arsylwi staff proffesiynol wrth eu gwaith a chyfranogi o ofal nyrsio. Bydd cefnogaeth gan diwtor personol sy'n nyrs gofrestredig ac aelod academaidd o’r staff a goruchwyliaeth fentora gan nyrs gofrestredig profiadol ar leoliad. Ar leoliadau, cewch gefnogaeth gan weithwyr iechyd proffesiynol cofrestredig a adwaenir fel goruchwylwyr ymarfer ac aseswyr ymarfer a fydd yn goruchwylio, yn asesu ac yn annog dysgu a datblygu clinigol. Caiff gwaith damcaniaethol ac ymarferol ei asesu drwy aseiniadau, arholiadau, cyflwyniadau a phortffolio Asesu Ymarfer Clinigol Cymru gyfan. Ìý
Mae gan ein tîm pwrpasol o ddarlithwyr plant brofiad, gan gynnwys nyrsio plant acÃwt a chymunedol, newydd-anedig, gofal critigol, orthopaedeg, gofal hosbis, damweiniau ac achosion brys, a phlant ag anghenion cymhleth. Mae'r Tîm wedi ymrwymo i gynorthwyo myfyrwyr i wireddu eu potensial i ddod yn Nyrsys Plant tosturiol, cymwys ac annibynnol, sy'n gallu cyflawni’r gofynion gofal iechyd yn awr ac at y dyfodol.Ìý
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae'r cwrs wedi ei rannu'n gyfartal yn theori ac ymarfer - mae 50% yn ymwneud ag astudiaethau damcaniaethol a 50% mewn ymarfer clinigol yn datblygu'r medrusrwydd sydd ei angen i gofrestru â'r NMC. ÌýByddwch yn datblygu sgiliau ac ymddygiadau proffesiynol, y gwerthoedd a'r agweddau a ddisgwylir gan nyrs, i sicrhau diogelwch pobl o bob oed, eu gofalwyr a'u teuluoedd. Er y byddwch yn arbenigo mewn nyrsio plant o’r dechrau, bydd cyfleoedd i astudio gyda myfyrwyr gofal iechyd proffesiynol eraill ac mae gan yr Ysgol strategaeth o ddysgu rhyngbroffesiynol. Yn y rhaglenni gradd unigol mae cyfleoedd dysgu a rennir i bob maes allu dysgu gyda'i gilydd am elfennau cyffredin neu generig fel anatomeg a ffisioleg, seicoleg, cymdeithaseg, cyfathrebu, adfyfyrio, y gyfraith a moeseg. Mae'r dysgu rhyngbroffesiynol yn galluogi rhywun i weithio’n amlddisgyblaethol o'r cychwyn cyntaf a gwerthfawrogiad o sut mae elfennau gofal iechyd yn cydblethu yn ystod taith y claf. Bydd rhannu syniadau ymhlith disgyblaethau iechyd yn ehangu eich safbwyntiau ar ofal iechyd, ac yn eich helpu chi ganolbwyntio ar sgiliau penodol yr ydych chi'n eu datblygu yn eich maes nyrsio eich hun. Trwy ymroi’n llawn i’r rhaglen hon byddwch yn datblygu sgiliau mewn gofal teulu-ganolog, hybu iechyd yn effeithiol, dysgu am effeithiau a rheolaeth afiechydon acÃwt a thymor hir plentyndod, asesu poen ac ymatebion seicolegol i afiechyd a dysgu technegau chwarae a dwyn sylw a llawer o dechnegau eraill. Mi wnaiff hynny eich galluogi i ddarparu gofal nyrsio plant o ansawdd uchel mewn amgylchedd sy'n newid yn gyflym.
At ddibenion mynediad yn 2022 cafodd rhaglen Baglor mewn Nyrsio y pedwar maes ei llunio’n unol â Safonau Hyfedredd i Nyrsys Cofrestredig y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a Nyrs y Dyfodol 2018: Safonau hyfedredd ÌýMae'r rhaglen newydd yn sicrhau bod gan nyrsys well dealltwriaeth o anghenion cleifion/cleientiaid ymhob un o bedwar maes ymarfer nyrsio, ond mae’n dal i ganolbwyntio ar faes penodol. ÌýMae'r rhaglen yn paratoi nyrsys cofrestredig y dyfodol gyda sgiliau gweithio mewn tîm a sgiliau arweinyddiaeth a gyda rhagor o wybodaeth am faes iechyd y cyhoedd, sydd ei angen i ddarparu gofal mewn gwahanol leoliadau i gefnogi iechyd a lles cleientiaid a chleifion. Ìý
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Nyrsio Plant BN (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Nyrsio
- Mae gan y Brifysgol gyfleusterau sgiliau clinigol sydd newydd eu hadnewyddu sy'n cynnwys ystafell gywair-bur dau wely, ward saith bae a mannau sgiliau clinigol hyblyg ychwanegol sy'n caniatáu i ystod o sgiliau clinigol gael eu dysgu i fyfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth mewn amgylchedd efelychiadol sy'n helpu eich paratoi ar gyfer lleoliadau clinigol.Ìý
- Mae Efelychu Cywair-bur yn cynnwys defnyddio delwau soffistigedig naturiol mewn amgylcheddau cleifion realistig, gyda’r delwau hyn yn gallu dynwared yn fanwl iawn ystod eang o ystumiau’r corff dynol. Bydd y dysgu trochi hwn yn cynnwys defnyddio efelychiad i gyflwyno myfyrwyr i sefyllfaoedd cymhwysol (trwy brofiad rhithwir), gan roi'r cyfle i chi ymarfer sgiliau a rhyngweithio â'r cyd-destun penodol.Ìý
- Mae efelychiadau fel hyn yn cynnig profiad sy'n dynwared sefyllfa yn y byd go iawn lle gall y myfyriwr, mewn amser real, ymarfer gwahanol gamau gweithredu a ffyrdd o ymateb.
Costau'r Cwrs
Dim Angen Talu Ffioedd Dysgu
Os ydych yn gymwys ar gyfer ffioedd dysgu Cartref (DU) ac yn gallu ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, gallech gael eich ffioedd dysgu wedi'u talu'n llawn drwy Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru ynghyd â gwneud cais am gyfraniad bwrsariaeth o £1,000 tuag at gostau byw. Cewch wneud cais hefyd am y fwrsariaeth yn seiliedig ar brawf modd sy'n ddibynnol ar incwm y cartref ac unrhyw gyllid arall y mae iddo feini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth gofal plant, lwfans dibynnydd a lwfans i rieni sy’n dysgu. ÌýGallwch hefyd wneud cais am gyllid cynhaliaeth ar sail incwm ac am fenthyciad cyfradd llog isel gan Gyllid Myfyrwyr. Oherwydd bod y cwrs yn cael ei ariannu gan GIG Cymru, ni allwn dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr tramor ac eithrio myfyrwyr o Ganada sy'n gallu gwneud cais trwyÌý. Mae manylion llawn ar gael arÌýdudalen Gyllid y GIG.
Gofynion Mynediad
Proses Mynediad ar gyfer Cyrsiau ProffesiynolÌý
Rhaid i bob ymgeisydd fodloni ystod o feini prawf mynediad - edrychwch arÌý. Mae gofynion mynediad y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn cynnwys dangos iechyd da a chymeriad da. Mae'r Ysgol yn ei gwneud yn ofynnol i bob ymgeisydd gael gwiriad cofnod troseddol a gofynion eraill ar gyfer dangos cymeriad da; bydd y Bwrdd Iechyd lleol yn gyfrifol am osod y gofyniad am iechyd da. Gallwch hefyd gysylltu agÌýadmissions.health@bangor.ac.ukÌýi gael cyngor/gwybodaeth bellach. Bydd rhaid i ymgeiswyr gyda chymwysterau mynediad hyn na 5 oed ddangos tystiolaeth o astudiaeth ddiweddar ar lefel briodol.Ìý
Gofynion academaidd:Ìý
TGAU: fel arfer rhaid bod gennych, neu rhaid eich bod yn gweithio tuag at, o leiaf pum TGAU gradd A*-C/9-4 gan gynnwys TGAU Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf a Mathemateg/Rhifedd (neu gymhwyster amgen cydnabyddedig*), ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104 - 120 pwynt tariff ar gyfer y rhaglenni Baglor Nyrsio o gymwysterau lefel 3* e.e.:Ìý
- Lefel A:ÌýNi dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDM
Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDM
Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): cysylltwch â ni - Diploma Bagloriaeth RhyngwladolÌý
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.Ìý
- Mynediad: i gynnwys Rhagoriaeth neu Deilyngdod (lleifaswm o 9 farc llwyddo)Ìý
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Irish Leaving Certificate: 104 - 120 pwynt mewn o leiaf 4 pwnc uwchÌý
- Tystysgrif Lefel 5 FETAC QETI mewn Astudiaethau Nyrsio: Proffil RhagoriaethÌý
Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cwblhau Diploma Mynediad AU neu sydd â thystiolaeth o astudio diweddar ar Lefel 3 neu'n uwch yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf sy'n bodloni'n gofynion mynediad; sylwer nad ydym yn derbyn NVQ Lefel 3 / QCF Lefel 3 fel cymhwyster sy’n bodloni ein gofynion mynediad.
I weld rhestr lawn o'r cymwysterau lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
*Cymwysterau amgen cydnabyddedig ar gyfer Cymraeg/Saesneg a/neu Fathemateg fyddai Sgiliau Hanfodol Lefel Dau mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif, neu Sgiliau Gweithredol Lefel Dau mewn Saesneg a Mathemateg (rhaid bod wedi eu cyflawni o fewn y 3 blynedd ddiwethaf).ÌýMae'r isafswm gradd o O4 gyda Thystysgrif Ymadael Iwerddon yn cyfateb i radd C/4 TGAU.
Cyfweld a dewis ymgeiswyr ar gyfer BN Nyrsio
Gofynnir i bob ymgeisydd sy'n cyflawni'r gofynion mynediad academaidd fynd i gyfweliad grŵp, ac ar ôl hynny bydd ymgeiswyr yn cael gwybod os ydynt ar y rhestr fer a bydd angen rhagor o wybodaeth cyn y gellir eu derbyn yn derfynol ar y cwrs. Ewch i'r dudalenÌýCyfweld a Dewis Ymgeiswyr ar gyfer BN NyrsioÌýos gwelwch yn dda.
Ìý
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch iÌýwww.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Ìý
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch iÌýadranÌýAstudio ym Mangor.ÌýÌý

Gyrfaoedd
Mae nyrsio’n broffesiwn arloesol sy'n tyfu'n barhaus ac mae nyrsys yn gweithio mewn timau aml-broffesiynol mewn lleoliadau iechyd a gofal. Mae nyrsys mewn sefyllfa wych i ddarparu gofal ar y cyd â phobl a gofalwyr, ble bynnag y mae angen gofal. Yn y system iechyd a gofal mae pwyslais cynyddol ar atal afiechyd, galluogi pobl i ofalu amdanynt eu hunain, bod yn bartneriaid yn eu gofal a gwell ansawdd bywyd. Mae datblygiadau’n mynd rhagddynt ar wib ym maes gofal meddygol a gofal nyrsio, triniaeth a thechnoleg feddygol ac mae hynny’n creu cyfleoedd newydd am yrfaoedd mewn nyrsio ac mae cyflymder y datblygiadau mewn gwahanol ddarpariaethau gwasanaeth a ffyrdd o weithio. Ymhlith y cyfleoedd am yrfaoedd mae gwaith staff y rheng flaen, gweithio ym maes arweinyddiaeth neu reolaeth, rôl nyrs arbenigol neu nyrs ymgynghorol a llawer o opsiynau eraill cyffrous ac unigryw.Ìý
Mae llawer o wahanol agweddau ar nyrsio a nifer o wahanol gyfleoedd i ddatblygu gyrfa mewn amryw o leoliadau. Mae swyddi nyrsio’n amrywiol iawn a gallant esblygu dros eich gyrfa gan gynnwys nyrs staff a nyrs arbenigol, rheolwr ward, arweinydd, ymchwilydd, addysgwr a nyrsys ymgynghorol. Caiff swyddi nyrsio eu rhannu'n wahanol fandiau ac iddynt gyflogau gwahanol.Ìý
Mae gyrfaoedd graddedigion fel nyrsys plant yn cynnwys gweithio gyda phlant sydd â chyflyrau cymharol fach hyd at rai sydd â chyflyrau difrifol, cronig a/neu gyflyrau sy’n peryglu bywyd. Gall yr yrfa hefyd gynnwys rheoli pobl ac adnoddau, ynghyd ag ymchwilio a datblygu gwasanaethau newydd a chyfredol.Ìý
Mae'r gwaith yn ymwneud cymaint â rhoi sicrwydd i deulu'r plentyn ag y mae â darparu gofal i'r plentyn. Yn y rhan fwyaf o achosion darperir llawer o'r gofal gan y teulu a rôl y nyrs yw gweithio gyda'r teulu i addysgu, meithrin hyder, grymuso a'u cefnogi i ofalu am eu plentyn.Ìý
Bydd eich gradd nyrsio yn arbenigo mewn nyrsio plant. Mae sawl ysbyty plant arbenigol yn y wlad a bydd gan ymddiriedolaethau acÃwt cyffredinol o leiaf un ward plant hefyd. Mae nyrsys plant hefyd yn gweithio yn yr adran achosion brys ac yng ngwasanaethau iechyd meddwl y plant a'r glasoed. Byddai disgwyl i nyrs sydd newydd gymhwyso atgyfnerthu eu dysgu i ddechrau trwy gymryd cyfrifoldeb dros ofal grŵp o gleifion ac yna ymgymryd â rolau mwy cymhleth wrth ddatblygu'n broffesiynol.Ìý
Mae nyrsys plant yn datrys problemau ac yn hynod sylwgar a hyblyg. Gallant adnabod a gweithredu ar fyrder os aiff plentyn yn sâl yn gyflym iawn. Maent yn gweithredu fel eiriolydd i’r plentyn pryd bynnag a lle bynnag y bo angen. Mae sgiliau cyfathrebu da a sgiliau da gyda phobl yn hanfodol, ond mae angen i nyrsys plant hefyd ddangos ymwybyddiaeth emosiynol, deallusrwydd a gwytnwch.Ìý
Bydd y radd yn eich galluogi i gofrestru fel nyrs plant cymwys gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC), ar ôl datblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r agweddau sydd eu hangen i helpu cynllunio, cydlynu a darparu gofal yn ddiogel, yn dosturiol ac yn effeithiol..
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.