Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae'r rhaglen hon wedi'i hachredu gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI). Bydd myfyrwyr sy'n astudio'r rhaglen hon yn graddio gyda chymhwyster deuol sef gradd Meistr Prifysgol 亚洲色吧 a chymhwyster Lefel 7 CMI mewn Rheolaeth Strategol ac Arweinyddiaeth.
Yn y farchnad gystadleuol fyd-eang sydd ohoni, mae angen i swyddogion gweithredol corfforaethol llwyddiannus ddeall sut y gall y system gyfreithiol a rheoliadau cyfreithiol effeithio ar y maes y maent yn arbenigo ynddo. O'r herwydd, mae Ysgol Busnes 亚洲色吧 ac Ysgol y Gyfraith 亚洲色吧 wedi dod ynghyd i gynnig cyfres arloesol o raglenni MBA ac MA rhyngddisgyblaethol.
Mae'r MBA yn y Gyfraith a Rheolaeth yn rhoi pwyslais ar ddatblygiad proffesiynol a galwedigaethol, ynghyd ag ymwybyddiaeth o faterion cyfreithiol a rheoliadol allweddol sy'n chwarae rhan ganolog yn y gwaith o reoli busnesau modern, o bob math a maint, yn llwyddiannus. Byddwch yn dod i ddeall sgiliau a chysyniadau uwch i reolwyr a sut mae eu defnyddio mewn sefyllfaoedd ymarferol.
Cewch gyfle i edrych ar y gyfraith a'r rheoliadau sy'n effeithio ar fusnesau mewn ystod eang o feysydd allweddol. Un amcan pwysig yw darparu hyfforddiant dadansoddol perthnasol am y datblygiadau strategol, rheolaethol, cyfreithiol a masnachol diweddaraf yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat.
Hyd y Cwrs
Blwyddyn yn llawn amser. Derbynnir myfyrwyr i'r cwrs hwn ym mis Medi.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae鈥檙 rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Y Gyfraith a Rheolaeth.
Mae cynnwys y cwrs wedi鈥檌 nodi i鈥檆h arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Er mwyn cael mynediad i'r rhaglen MBA yn y Gyfraith a Rheolaeth mae angen gradd israddedig dda mewn pwnc perthnasol, (e.e. Y Gyfraith, Rheolaeth, Economeg, Cyllid, Busnes) gan brifysgol, neu gymhwyster tebyg gan sefydliad arall. Fel arall, gellir eich derbyn os ydych yn meddu ar gymhwyster proffesiynol addas a phrofiad ymarferol perthnasol. Yn gyffredinol, fodd bynnag, caiff ymgeiswyr eu barnu yn 么l eu teilyngdod unigol, ac ystyrir profiad gwaith a ffactorau eraill hefyd.