Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r MA hwn ar y Celtiaid yn rhoi'r cyfle a'r gallu i chi ddidoli'r gwir a'r gau, ac i astudio'r cwestiwn yn fanwl: Pwy oedd - a phwy yw - y Celtiaid?Ìý
Nid oes llawer o eiriau sydd mor atgofus a chyfareddol â ‘Cheltaidd’, yn dwyn i gof cywreinrwydd gemwaith yr Oes Efydd, adeiladwaith enfawr Côr y Cewri a Newgrange, chwedlau Arthur a Cú Chulainn a chrefft Farddol brenhinoedd a thywysogion y canol oesoedd. Ond mae ‘Celtaidd’ hefyd yn gysylltiedig â’r Dadeni, yr Ymoleuo a’r Byd Newydd; Rhamantiaeth, Chwyldro a brwydr ieithoedd, llenyddiaeth a hunaniaethau cenedlaethol cyfan i oroesi yn y cyfnod Modern.
Dros un flwyddyn academaidd, dysgir modiwlau gan arbenigwyr o adrannau gwahanol megis Y Gymraeg, Hanes, a Cherddoriaeth. Efallai y dewiswch ganolbwyntio ar lenyddiaeth, archeoleg, crefydd, mytholeg, hynafiaeth, hanes celf neu gerddoriaeth er mwyn archwilio diwylliant a hunaniaeth y bobloedd Celtaidd, gan rychwantu'r cyfnod o fryngaerau cynhanesyddol i seneddau datganoledig ac annibynnol heddiw.Ìý
Byddwch yn astudio iaith Geltaidd (Cymraeg Canol fel arfer) a byddwch yn ymchwilio, dan arweiniad, i bwnc o’ch dewis i ysgrifennu traethawd Meistr arno.Ìý
Dyma rai o’r prif bynciau sy’n cael eu trafod yn y cwrs:
- A yw’r ‘Celtiaid’ yn bodoli mewn gwirionedd, ac os felly, pwy a beth ydynt? Sut allwn ni drafod cwestiynau o’r fath, gyda pha fethodoleg a gyda pha dystiolaeth?
- Sut mae’r gair ei hun (‘Celt’, ‘Keltoi’, ac yn y blaen) wedi cael ei ddefnyddio ar hyd y canrifoedd, o haneswyr Clasurol i gerddorion pop modern?
- Beth yw cryfderau a gwendidau ‘Celtomania’ a ‘Celtosgeptigiaeth’? Sut mae’r cysyniad o’r ‘Celtiaid’ wedi ei ddarganfod a’i wrthod mewn gwahanol feysydd fel Llenyddiaeth, Archaeoleg, Ieithyddiaeth, Cerddoriaeth, Crefydd?
- Sut y cyfrannodd ysgolheigion cyfandirol y bedwaredd ganrif ar bymtheg at greu’r ‘Celtiaid’?
- Sut y gwnaeth y bobl sy’n siarad ieithoedd Celtaidd ennill eu hunaniaeth eu hunain a sut maent yn dal i wneud hynny? Beth mae’r testunau canoloesol (Cyfreithiau, Chwedlau, Barddoniaeth Llys, Bywydau’r Seintiau) a chanfyddiadau archeolegol yn dweud wrthym, a beth sydd gan hanes diweddar i’w ddweud?
- Beth yw’r prif ffynonellau tystiolaeth am hanes a hunaniaeth y bobl ‘Geltaidd’ (hynny yw, y rhai sy’n siarad ieithoedd Celtaidd yn y cyfnod modern)? Sut ydym ni’n defnyddio’r ffynonellau hyn? A all Arthur a Cú Chulainn ddweud rhywbeth buddiol wrthym?
- Sut mae hunaniaethau ethnig a chenedlaethol y ‘Celtiaid’ modern wedi eu portreadu a’u trafod mewn perthynas â’r cysyniad hwn o’r ‘Celtaidd’?
- Beth oedd perthnasedd gwleidyddol ac ideolegol y ‘Celtiaid’ a beth ydyw erbyn hyn?
Un amcan pwysig yw darparu hyfforddiant dadansoddol perthnasol i chi, fel eich bod yn gyfarwydd â'r datblygiadau damcaniaethol ac ymarferol diweddaraf yn ymwneud ag Astudiaethau Celtaidd. Wedi cwblhau'r cwrs hwn, bydd gennych sylfaen gadarn ym mhrif ddulliau a ffynonellau'r ddisgyblaeth, a byddwch hefyd wedi datblygu sgiliau trosglwyddadwy eang a fydd o Ìýberthnasedd amlwg i ystod eang o yrfaoedd.Ìý
Mae ÑÇÖÞÉ«°É mewn lleoliad hyfryd yn hen deyrnas Gwynedd yng ngogledd-orllewin Cymru, rhwng mynyddoedd Eryri a Môr Iwerddon. Yma, mae mwyafrif y boblogaeth yn siarad Cymraeg, yr iaith Geltaidd gryfaf sydd wedi goroesi. Bellach, mae gan y Gymraeg statws swyddogol cydradd â’r Saesneg ac mae dwyieithrwydd yn ffynnu.Ìý
Mae teithio o Gaergybi ar Ynys Môn, hen gadarnle’r derwyddon, i Ddulyn neu Dun Laoghaire yn Iwerddon yn cymryd cyn lleied â dwy awr, ac mae cysylltiadau ffordd a rheilffordd hwylus rhwng ÑÇÖÞÉ«°É â gweddill Ynys Prydain.Ìý
Gall y rhai sy'n dymuno ymchwilio ymhellach i'w gwreiddiau Celtaidd eu hunain fanteisio'n rhwydd ar y cymhorthion achyddol cynhwysfawr sydd ar gael yn Llyfrgell y Brifysgol ac yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gerllaw yn Aberystwyth.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae’r cwrs yn gwrs un flwyddyn (llawn amser) a gellir hefyd ei wneud yn rhan amser (gan amlaf hyd at dair blynedd). Ceir dwy ran i’r rhaglen gradd:
Rhan 1:
Mae hon yn elfen gwbl hyfforddedig, ac mae’n cyfrannu 120 credyd. Mae gan bob modiwl hyfforddedig bwysiad credyd o 40 credyd. Dysgir rhan 1 yn ystod dau semester y flwyddyn academaidd. Mae’r dysgu yn ystod semester 1 gan amlaf rhwng diwedd mis Medi a mis Rhagfyr. Mae’r dysgu yn ystod semester 2 gan amlaf rhwng diwedd mis Ionawr a dechrau mis Mai.
Bydd y modiwlau yn Rhan 1 yn cael eu hasesu trwy gyfrwng traethodau.
Rhan 2:
Mae rhan 2 yn cynnwys traethawd hir dan oruchwyliaeth o oddeutu 20,000 gair, ar bwnc o’ch dewis, a benderfynir ar ôl trafod gyda chynghorwr traethawd hir. Cwblheir yn ystod misoedd yr haf, rhwng diwedd mis Mai a mis Medi, a dylai myfyrwyr llawn amser gyflwyno eu traethodau hir erbyn mis Medi yn y flwyddyn galendr ar ôl cofrestru.
Modiwlau Gorfodol:
Y Celtiaid: Yr Hanfodion: Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno’r prif ffynonellau o wybodaeth am y ‘Celtiaid’, yn seiliedig ar ddau ddiffiniad gwahanol o’r ‘Celtaidd’. Rhoddir sylw manwl i’r diffiniadau hyn wrth edrych ar y dystiolaeth. Y dystiolaeth bennaf yw: (i) y defnydd o’r gair ei hun (‘Celt’, ‘Keltoi’, etc.) wrth ddiffinio neu hunan-ddiffinio; (ii) y prif ffynonellau am agweddau at hanes a hunaniaeth ’Celtiaid’ (a ddiffinnir yma fel pobl sy’n siarad neu a oedd yn siarad iaith Geltaidd yn y cyfnod Modern.
Mae pedwar prif faes:
- Tystiolaeth gan haneswyr Clasurol: testunau gan awduron fel Athaneus, Caesar, ac ati, lle y cyfeirir yn benodol at y Celtiaid.
- Tystiolaeth archeolegol a gweledol, megis Hallstatt, La Tène, hanes celf a newid paradeimau archeolegol yn yr 20fed ganrif.
- Tystiolaeth ieithyddol: Ieithyddiaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg a darganfod/creu Indo-Ewropeaidd (ac felly’r ieithoedd Celtaidd).
- Tystiolaeth hanesyddol a llenyddol ddiweddarach: Y prif ffynonellau am hanes y ‘Celtiaid’ diweddar (hynny yw canoloesol ac ôl-ganoesol): Croniclau a Chyfreithiau, storïau rhyddiaith a thraddodiadau barddol, hanes diweddar.
Creu’r Celtiaid Modern: Yn y modiwl hwn, byddwn yn archwilio sut y cafodd y cysyniad o’r ‘Celtiaid’ a’r ‘Celtaidd’ ei ddefnyddio a’i drin yn y cyfnod Modern. Byddwn yn ystyried ystod eang o ddisgyrsiau (e.e. ieithyddiaeth, archaeoleg, anthropoleg, celf, cerddoriaeth, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth). Byddwn yn archwilio’r hyn a ystyrir yn ddeunydd ‘Celtaidd’ yn y gwahanol feysydd hyn, ac yn trafod y prif ddadleuon a roddir gerbron wrth ddiffinio’r term. Rhoddir sylw hefyd i’r rhesymau ideolegol am yr awydd i ddefnyddio’r cysyniadau hyn, a’r dylanwad caiff hyn ar hunaniaethau ethnig a chenedlaethol y ’Celtiaid’ eu hunain. Felly mae’r modiwl hwn, o gymharu â Modiwl 1, yn symud y ffocws o’r empeiraidd i’r deongliadol, ac i’r defnydd o’r dehongliadau hynny.
Mae pedwar prif faes:
- Agweddau newidiol tuag at y ‘Celtiaid’ mewn nifer o wahanol feysydd academaidd. Hynny yw, newidiadau methodolegol ac ideolegol mewn Ieithyddiaeth, Archaeoleg, Anthropoleg Gorfforol.
- Y ‘Celtiaid’ mewn cyfryngau artistig anllenyddol (yn arbennig Celf, Cerddoriaeth).
- Y ‘Celtiaid’ yn y cyfnod Rhamantaidd, gan ystyried sut cafodd llenyddiaeth ganoloesol (Cymraeg a Gwyddeleg yn bennaf) ei hailddarganfod a’i hail-ddehongli. Bydd unigolion fel Ossian ac Iolo Morganwg yn cael eu hystyried, a rhoddir sylw hefyd i ddatblygiad Astudiaethau Celtaidd fel maes academaidd ym mhrifysgolion Ewrop.
- Y ‘Celtiaid’ gwleidyddol: damcaniaethau cenedlaetholdeb a swyddogaeth ‘Celtigrwydd’ mewn gwleidyddiaeth o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg i’r unfed ganrif ar hugain.
Modiwlau Dewisol:
Bydd y myfyriwr yn dewis trydydd modiwl o blith amrywiaeth o fodiwlau a gynigir gan wahanol Ysgolion yn y Brifysgol. Mae hyn yn galluogi’r myfyrwyr i ddilyn eu diddordebau arbennig ac, o bosibl, yn dechrau canolbwyntio ar ddeunydd ar gyfer y traethawd hir.
Dewis Llenyddiaeth Gymraeg: Mae’r modiwl hwn yn edrych ar brif agweddau llythrennedd ‘Celtaidd’ canoloesol, mewn barddoniaeth a rhyddiaith, ar draws ystod o genres o’r chwedlau rhyddiaith a barddoniaeth y llys i’r cyfreithiau a’rÌý±¹¾±³Ù²¹±ðÌý(bucheddau Seintiau a theyrnaswyr). Mae’r prif ffocws ar Gymru ac Iwerddon, ond rhoddir ystyriaeth i’r ieithoedd Celtaidd eraill hefyd.
Yn yr un modd, byddwn yn ystyried parhad y traddodiadau cynnar hyn i’r cyfnod modern hyd at y presennol, ac yn gofyn beth mae’r dystiolaeth hon yn dweud wrthym am agweddau siaradwyr iaith Geltaidd i’r syniad o’r ‘Celtaidd’. Rhoddir sylw hefyd i’r cyfryngau gweledol a cherddorol, a bydd myfyrwyr yn datblygu ymwybyddiaeth feirniadol o’r prif ffynonellau a gyflwynir ac a gamddehonglir mewn llawer o drafodaethau am y ‘Celtaidd’.
Mae pum prif faes i’r modiwl hwn:
- ‘Mytholeg;’: y dystiolaeth am dduwiau a chrefydd yn y cyfnod cynnar
- Llawysgrifau a llythrennedd: prif lawysgrifau’r traddodiadau Cymraeg a Gwyddeleg
- Eglwysi a Seintiau: ‘sefydliad’ yr Eglwys Geltaidd a Christnogaeth Geltaidd
- Rhyddiaith: yÌýMabinogionÌýa’r Chwedlau Gwyddelig
- Barddoniaeth: y Bardd a’r drefn farddol yng Nghymru ac Iwerddon; y traddodiadau canu mawl a’r dychangerddi; barddoniaeth gyfoes a’r Eisteddfod.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Y Celtiaid.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Mae ein rhaglenni MA yn gofyn am radd gyntaf dda mewn pwnc perthnasol, e.e. llenyddiaeth, hanes, llên gwerin, mytholeg, llenyddiaeth gymharol, archaeoleg, anthropoleg o brifysgol, neu gymhwyster tebyg o unrhyw sefydliad arall. Fel arall, gellir eich derbyn os ydych yn meddu ar gymhwyster proffesiynol addas a phrofiad ymarferol perthnasol. Yn gyffredinol, fodd bynnag, caiff ymgeiswyr eu barnu yn ôl eu teilyngdod unigol, ac ystyrir eu hoedran, profiad gwaith a ffactorau eraill hefyd.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan raddedigion da mewn disgyblaethau perthnasol a chan y rhai hynny sydd â phrofiad gwaith a chymhwyster proffesiynol cyfatebol. Os nad ydych yn siarad Cymraeg neu Saesneg fel iaith gyntaf, rhaid i chi ddangos tystiolaeth foddhaol bod gennych wybodaeth a dealltwriaeth ddigonol o Gymraeg neu Saesneg ysgrifenedig a llafar.
Mae cyrsiau Cymraeg ar gael fel y gall myfyrwyr sydd eisiau astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ddatblygu eu sgiliau. Cysylltwch â ni i gael manylion.
Mae sgoriau prawf IELTS a TOEFL ar y we o ddim llai na 6.0 a 87, yn y drefn honno, yn dderbyniol gan amlaf i’r rhai sydd eisiau astudio trwy gyfrwng y Saesneg. Efallai bydd rhaid i ymgeiswyr sy’n sgorio o dan y safon ofynnol fynychu cwrs dwys iaith Saesneg cyn cofrestru ar gyfer y rhaglen academaidd. Mae cwrs o’r fath ar gael ym Mangor, a gellir cael manylion llawn a ffurflen gais gan ELCOS: +44 (0)1248 382 252 /Ìýelcos@bangor.ac.ukÌý/Ìý
Ìý
Gyrfaoedd
Byddwch yn ennill amryw o sgiliau trosglwyddadwy, a fydd yn eich galluogi i ddilyn lwybrau gyrfa amrywiol, gan gynnwys pob un o'r rheiny sydd fel arfer yn gysylltiedig â graddedigion y Dyniaethau. Os ydych yn dymuno dilyn diddordebau academaidd cewch sylfaen gadarn i'ch galluogi i fynd rhagoch i lefel PhD.