Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r rhaglen MA Treftadaeth Fyd-eangÌýyn archwilio ac yn gwerthuso mesurau a mecanweithiau cenedlaethol a rhyngwladol sy'n ceisio rheoli a gwarchod y dreftadaeth ddiriaethol ac anniriaethol. Byddwch yn ennill dealltwriaeth feirniadol o Safleoedd Treftadaeth y Byd - y broses enwebu, rheolaeth, a blaengynllunio: bydd pwyslais penodol ar dwristiaeth gynaliadwy a'r angen i gynnwys cymunedau lleol yn eu treftadaeth. Mae rôl treftadaeth ddiwylliannol yng nghymdeithasau'r gorffennol a chyfoes yn elfen allweddol o'r radd. Byddwch yn cael eich cyflwyno i amryw o faterion sy'n ganolog i ddadleuon cyfredol ynghylch diffiniad, amrywiaeth, a natur ddadleuol treftadaeth yn fyd-eang ac yn genedlaethol. Ìý Ìý
Mae elfen gref o hyfforddiant yn y rhaglen MA Treftadaeth Fyd-eang er mwyn hybu’r rhagolygon am yrfa. Bydd gweithdai ynghylch hanes cyhoeddus (dulliau ac ymgysylltu â'r gymuned; hanes llafar (technegau a moeseg); ffynonellau treftadaeth ddigidol; ysgrifennu i’r cyfryngau; a rheoli projectau treftadaeth - pob un yn sgil trosglwyddadwy gwerthfawr ar gyfer cyflogaeth yn y sector treftadaeth. Mae dau Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn agos at Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É - 'Cestyll a Waliau Trefi’r Brenin Edward yng Ngwynedd' a ‘Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru' sydd newydd ei sefydlu. Maent yn gaffaeliad i'r rhaglen ac yn cynnig cyfleoedd fel astudiaethau achos i’r myfyrwyr.Ìý
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Dysgir MA Treftadaeth Fyd-eang trwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai a gwaith maes. Caiff y myfyrwyr eu hasesu trwy gyfuniad o draethodau, adroddiadau, adolygiadau, astudiaethau achos a thraethawd hir.
Mae modiwlau gorfodol yn rhoi dealltwriaeth fanwl i fyfyrwyr o sut mae treftadaeth yn gweithio'n ymarferol.
- Mewn byd cynyddol fyd-eang, mae safleoedd Treftadaeth y Byd yn chwarae rhan bwysig mewn arddangos, gwarchod a rheoli treftadaeth ddiwylliannol. Mae gan Ogledd Cymru safleoedd Treftadaeth y Byd Ìýtrawiadol Ìýsef 'Cestyll a Muriau Trefol Edward I yng Ngwynedd' a ‘Thirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru’'. Mae’r modiwl hwn Treftadaeth y Byd (20 credyd) yn rhoi dealltwriaeth feirniadol o Safleoedd Treftadaeth y Byd i fyfyrwyr – y broses enwebu, rheoli, a blaengynllunio.
- Mae Treftadaeth Ddiwylliannol (20 credyd) yn cyflwyno myfyrwyr i amrywiaeth o faterion sy'n ganolog i ddadleuon cyfredol ar ddiffiniad, amrywiaeth a natur ddadleuol treftadaeth. O fewn cyd-destun byd-eang, bydd yn ystyried mesurau a mecanweithiau cenedlaethol a rhyngwladol sy'n ceisio rheoli a diogelu treftadaeth ddiwylliannol diriaethol ac anniriaethol. Byddwch yn ennill dealltwriaeth feirniadol o ddulliau damcaniaethol o ymdrin â threftadaeth ddiwylliannol ac o'u cymhwysiad ymarferol yn y maes.
- Sgiliau Ymchwil (40 credyd) Mae hwn yn fodiwl sgiliau lefel uwch gyda’r nod o: ddarparu hyfforddiant mewn dechrau projectau ymchwil, eich ymgyfarwyddo â sut i feirniadu papur seminar ymchwil a chyflwyno sgiliau a fydd yn gwella cyflogadwyedd yn y dyfodol. Ìý Mae gweithdai/sesiynau yn cynnwys: ysgrifennu ar gyfer y cyfryngau; ysgrifennu papurau ar gyfer llunwyr polisi; cyflwyniad i reoli archifau; adeiladu llwybr treftadaeth; datblygu sgiliau hanes llafar/cyfweld; hanes cyhoeddus; cyflwyniad i sgiliau addysgu; a chyflwyniad i sgiliau TG a setiau data.
- Traethawd Hir (60 credyd)
Byddwch hefyd yn cael cyfle i ddewis 40 credyd dewisol arall o restr o fodiwlau sydd ar gael, gall cynnwys;
- Mae ein modiwl Lleoliad Gwaith yn darparu tua 100 awr o brofiad 'ymarferol' yn y maes treftadaeth - er enghraifft ar safle treftadaeth, uned archaeolegol, amgueddfa neu sefydliad perthnasol arall.
- Mae Damcaniaeth a Dehongli mewn Archaeoleg (40 credyd) yn darparu cyflwyniad dwys ar lefel raddedig i ddamcaniaeth archaeolegol, materion ymchwil a rhesymu o fewn fframwaith seminar yn seiliedig ar ddeunydd darllen gosod. Ei nod yw adolygu hanes diweddar syniadau archaeolegol ac archwilio themâu allweddol mewn archaeoleg gyfredol o safbwynt damcaniaethol a chymharol.
- Mae Bywyd yn y Plastai yn mynd i’r afael â datblygiad a dirywiad plastai Prydain o 1750 hyd at ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf. Gall y pynciau a archwilir yn ystod y modiwl gynnwys, ymhlith pynciau eraill: symudedd cymdeithasol a'r ddadl elît agored; pensaernïaeth plastai; tirlunio, gerddi a pharciau; swyddogaeth merched elitaidd; plentyndod yn y plastai; gweision; rheoli ystadau; dyletswyddau cyhoeddus a gwleidyddol; dyngarwch ac elusennau; gwerthoedd crefyddol a moesol; hamdden ac adloniant; dirywiad y plastai; plastai mewn diwylliant poblogaidd; treftadaeth, twristiaeth a'r plastai.
- Cymru Fyd-eang: Lleoedd, y Lleol a’r Gorffennol 2024-25.ÌýGall themâu a archwilir ar y modiwl gynnwys ymagweddau cysyniadol at hanes byd-eang a thrawswladoliaeth; mudo; cenedligrwydd, trefedigaethedd a hunaniaeth; diwylliant materol a threftadaeth Cymru Fyd-eang. Bydd y dosbarthiadau wedi'u strwythuro'n bennaf yn ôl lleoliad, gan rychwantu enghreifftiau o'r cyfnod canoloesol, y cyfnod modern cynnar a'r cyfnod modern.
- Deall y Canol Oesoedd: Bwriad y cwrs yw cyflwyno myfyrwyr i’r ystod o feysydd pwnc a methodolegau sy’n cwmpasu astudiaethau canoloesol yn gyffredinol. Bydd ysgolheigion o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn arwain sesiynau thematig ar agweddau unigol (megis archaeoleg, hanes, llenyddiaeth, litwrgi, cerddoriaeth) a sgiliau uwch sy’n allweddol i ymchwil i’r oesoedd canol (ffynonellau a chronfeydd data cyfeiriadol arbenigol).
- Cenhedloedd, Gwladwriaethau ac Ymerodraethau yn y Byd Cyn-fodern. Bydd y modiwl hwn yn rhoi cyfle i chi astudio sut aeth pobl ati i drefnu eu hunain yn genhedloedd yn y cyfnod cyn-ddiwydiannol, yn seiliedig ar gymunedau dychmygol, hunaniaeth, ac ymdeimlad o ddiwylliant ac ideoleg a rennir; sut aeth rhai cenhedloedd ati wedyn i drefnu eu hunain yn wladwriaethau, boed hynny’n ‘genedl-wladwriaethau’ Ewropeaidd neu’n amrywiaeth o genhedloedd gwleidyddol, tebyg i daleithiau, megis ffederasiynau neu unbenaethau.
- Mae Cenedlaetholdeb a Lleiafrifoedd yn archwilio materion a dadleuon allweddol sy’n ymwneud â chenedlaetholdeb, cenhedloedd a hunaniaeth genedlaethol. Ystyrir y berthynas rhwng cenedlaetholdeb, dinasyddiaeth a hawliau lleiafrifol gan gyfeirio at enghreifftiau empirig. Bydd dadleuon a pholisïau sy'n ymwneud â rheoli amrywiaeth ddiwylliannol ac ethnig gan y wladwriaeth hefyd yn cael eu hystyried. Mae'r ymdriniaeth yn seiliedig ar gymdeithaseg, gwleidyddiaeth, hanes, daearyddiaeth ac anthropoleg, gydag enghreifftiau o astudiaethau achos yn cael eu darparu o amrywiaeth o achosion byd-eang.
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid.ÌýMae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
O leiaf 2.ii mewn gradd israddedig neu gyfwerth mewn maes pwnc perthnasol (e.e. Hanes, Treftadaeth, Archeoleg, Astudiaethau Llenyddol, Astudiaethau Canoloesol/Llenyddiaeth, Llenyddiaeth Saesneg, Gwyddorau Cymdeithasol, Astudiaethau Americanaidd, Y Gyfraith).
Bydd ymgeiswyr sydd â chymwysterau cyfwerth a/neu brofiad perthnasol o’r diwydiant treftadaeth, a cheisiadau gan weithwyr proffesiynol nad oes ganddynt radd, yn cael eu hystyried yn unigol. ÌýCysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
Ìý
Gyrfaoedd
Bydd y myfyrwyr a fydd yn graddio â’r radd MA Treftadaeth Fyd-eang yn abl i ddilyn gyrfaoedd mewn twristiaeth, rheoli treftadaeth, curadu, cefnogaeth a gweinyddiaeth gymunedol, ac addysg allgymorth. Ìý ÌýYn fras, gall y graddedigion fynd i gyflogaeth eang iawn sy'n gofyn am sgiliau cyfathrebu, dadansoddi a dealltwriaeth o'r natur ddynol. Ymhlith y swyddi mae dysgu, ymchwilio, rheoli a gweinyddu.