Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae'r rhaglen hon wedi'i hachredu gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI). Bydd myfyrwyr sy'n astudio'r rhaglen hon yn graddio gyda chymhwyster deuol sef gradd Meistr Prifysgol 亚洲色吧 a chymhwyster Lefel 7 CMI mewn Rheolaeth Strategol ac Arweinyddiaeth.
Mae rheoli gwybodaeth yn effeithiol yn allweddol i lwyddiant unrhyw sefydliad. Mae'r MBA mewn Rheoli Gwybodaeth yn datblygu swyddogion gweithredol gwybodus a galluog a fydd yn dod yn rheolwyr yn y diwydiant technoleg gwybodaeth/cyfrifiadura, neu mewn cwmn茂au mewn sectorau eraill.
Nod y rhaglen yw darparu ystod o wybodaeth a sgiliau rheoli i chi, ynghyd 芒 sylfaen drylwyr mewn rheoli gwybodaeth, technoleg gwybodaeth a'r defnydd masnachol y gellir ei wneud ohonynt. Mae'r rhaglen yn cynnwys astudiaethau achos sy'n adlewyrchu datblygiadau cyfoes yn y sector.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae鈥檙 rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Rheoli Gwybodaeth.
Mae cynnwys y cwrs wedi鈥檌 nodi i鈥檆h arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
I gael mynediad i'r rhaglen MBA mewn Rheoli Gwybodaeth mae angen gradd israddedig dda mewn pwnc perthnasol, (e.e. Busnes neu Wyddoniaeth) gan brifysgol, neu gymhwyster tebyg gan sefydliad arall. Fel arall, gellir eich derbyn os ydych yn meddu ar gymhwyster proffesiynol addas a phrofiad ymarferol perthnasol. Yn gyffredinol, fodd bynnag, caiff ymgeiswyr eu dewis ar sail eu rhinweddau unigol. Caiff profiad gwaith a ffactorau eraill hefyd eu hystyried. Yn achos graddau MBA, er bod profiad gwaith yn fanteisiol, nid yw鈥檔 hanfodol.