Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r cwrs MMus Perfformio yn ddelfrydol i berfformwyr offerynnol neu leisiol hyfedr sy'n dymuno gwella eu datblygiad cerddorol ac artistig trwy astudiaeth â ffocws. Ar y rhaglen hon byddwch yn mireinio eich sgiliau technegol a dehongli ar offeryn o’ch dewis neu’r llais. Mae'r MMus Perfformio yn eich galluogi i feithrin dealltwriaeth ddyfnach o gyd-destunau cyfoes a hanesyddol sy'n ymwneud ag addysgeg offerynnol neu leisiol, a datblygu llwybrau a methodolegau i ymgymryd ag ymchwil arbenigol sy’n seiliedig ar ymarfer. Byddwch hefyd yn hogi sgiliau lefel uchel o ran meddwl yn feirniadol, meddwl yn gysyniadol, datrys problemau, dadansoddi, cyfathrebu, hunangyfeirio a gwreiddioldeb.
Byddwch yn gweithio'n glos â chyfansoddwyr proffesiynol ac ymchwilwyr profiadol, llawer ohonynt yn adnabyddus yn rhyngwladol.
Mae astudio ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cynnig cyfleoedd gwych i gymryd rhan mewn gweithgareddau perfformio cyhoeddus unigol ac ensemble ac mae cysylltiadau clos â phartneriaid mewn diwydiant a’r trydydd sector megis Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Sinffonia Cymru, Opera Cenedlaethol Cymru, Opra Cymru, Stiwdios Ffilm Aria, Canolfan Celfyddydau Pontio, Venue Cymru, Canolfan Celfyddydau Ucheldre, Canolfan Gerdd William Mathias, Cadeirlan ÑÇÖÞÉ«°É, Gŵyl Gerdd ÑÇÖÞÉ«°É, Gŵyl Ryngwladol Gogledd Cymru a Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru.
Hyd y Rhaglen
MMus: Blwyddyn yn llawn-amser, 2-5 mlynedd yn rhan-amser.
Diploma: 30 wythnos yn llawn-amser.
Pam dewis Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ar gyfer y cwrs?Â
- Bydd y cwricwlwm eang yn datblygu eich hyfedredd technegol a deongliadol ar yr offeryn o’ch dewis/llais a byddwch yn meithrin eich gwybodaeth a’ch profiad trwy ymchwil pedagogaidd sy’n seiliedig ar ymarfer.
- Rhaglen astudio hyblyg a fydd yn eich galluogi i archwilio’r meysydd sydd o ddiddordeb i chi mewn cerddoleg.
- Cwrs cyfoes sy’n mynd i’r afael ac yn hyrwyddo datblygiad sgiliau allweddol sy’n seiliedig ar ymarfer sy’n berthnasol i’r diwydiant cerddoriaeth heddiw.
- Hyfforddiant arbenigol gan academyddion ac ymarferwyr enwog ym meysydd perfformio cerddoriaeth ac addysgeg.Â
- Cyfleusterau ymarfer rhagorol gydag offerynnau o’r radd flaenaf ar gyfer gwersi 1-i-1, gweithdai, dosbarthiadau meistr a pherfformiadau cyhoeddus.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Rhennir yr MMus Perfformio’n ddwy ran;Â
- Astudio Hyfforddedig (120 o gredydau)
- Project Meistr (60 o gredydau)
Caiff elfen Astudio Hyfforddedig y cwrs ei dysgu dros ddau semester i fyfyrwyr llawn amser. Caiff y Project Meistr ei gyflawni dros yr haf. Addysgir drwy gyfuniad o hyfforddiant unigol a seminarau i grwpiau bach. Mae myfyrwyr MMus Perfformio yn cael 36 awr o wersi offerynnol neu leisiol arbenigol gydag addysgwyr profiadol yn ystod y rhaglen; maent hefyd yn cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr a gweithdai gyda cherddorion o fri rhyngwladol. Darperir cyfeilydd proffesiynol ar gyfer yr holl fodiwlau datganiadau.
Bydd myfyrwyr sy'n dymuno dilyn y Diploma mewn Cerddoriaeth yn cwblhau elfen Astudio Hyfforddedig y cwrs yn unig. Ar gyfer yr MA Cerddoriaeth bydd angen i’r myfyrwyr gwblhau'r elfen Astudio Hyfforddedig a'r Project Meistr.
Astudiaeth Hyfforddedig (120 o gredydau) (Diploma):
Ar y rhaglen byddwch yn gwneud Projectau Perfformio Unigol yn y ddau semester, a fydd yn arwain at ddatganiad byr ar ddiwedd pob un. Mae aseiniadau sy’n seiliedig ar ymchwil yn mynd gyda'r datganiadau hynny gan gynnwys paratoi nodiadau rhaglen (semester 1) a chyflwyniad llafar (semester 2). O dan arweiniad tiwtoriaid proffesiynol profiadol ac arweinwyr gweithdai, byddwch yn archwilio ac yn datblygu sgiliau seiliedig ar ymarfer a gwybodaeth sy’n berthnasol i’ch dewisiadau gyrfa yn y dyfodol yn y diwydiant cerddoriaeth, er enghraifft, fel cerddorion cerddorfa/band/sesiwn, cyfeilyddion/repetiteur, perfformwyr opera/theatr gerdd, therapi cerdd, tiwtoriaid offerynnol/llais, ac athrawon dosbarth ac yn y blaen.
Semester 1Â
- Perfformio Unigol (20 o gredydau)
- Mae Cerddoriaeth a Syniadau (20 o gredydau) yn archwilio astudiaeth achos a ddewisir o blith nifer o opsiynau sy'n seiliedig ar arbenigeddau’r staff, ynghyd â chyfres o seminarau ymchwil cyhoeddus a gyflwynir gan y staff a siaradwyr allanol.
- Mae Archwilio Cerddoriaeth (20 o gredydau) yn dod â myfyrwyr sy'n dilyn rhaglenni cerddoleg, cyfansoddi a pherfformio ynghyd; mae’n archwilio amrywiol faterion cyfoes o safbwyntiau gwahanol a chysylltiedig.
Yn semester 2
- Perfformio Unigol (20 o gredydau)
- Mae Ymchwilio i Gerddoriaeth (20 o gredydau) yn eich paratoi i ymgymryd â phroject ymchwil yr haf; mae’n ymdrin ag agweddau megis methodolegau ymchwil, ysgrifennu cynigion, rheoli eich project.
- Bydd Perfformio mewn Cyd-destun (20 o gredydau) yn datblygu eich dealltwriaeth o sut mae eu gweithgareddau sy'n seiliedig ar ymarfer yn cael eu llywio'n uniongyrchol gan ddisgyblaethau cyd-destunol.
Project Meistr (60 o gredydau)
Caiff y Project Meistr ei baratoi dros yr haf. Mae’n cynnwys datganiad cyhoeddus sy’n para 50–60 munud, neu ddatganiad darlith oddeutu 40 munud, a roddir fel arfer ddiwedd mis Medi neu ddechrau mis Hydref y flwyddyn academaidd ganlynol. Mae'r datganiadau hynny fel arfer yn digwydd yn lleoliad cerddoriaeth siambr y Brifysgol, Neuadd Powis. Mae gan y neuadd acwsteg ardderchog a phiano traws Cyngerdd Steinway D ardderchog (a gaffaelwyd yn 2021).
Rhaid i fyfyrwyr sy'n dymuno gorffen y rhaglen radd gydag MMus Perfformio gwblhau'r Project Meistr yn llwyddiannus.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Perfformiad.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Mae angen gradd gyntaf o safon 2.ii neu uwch (neu gymhwyster cyfwerth). Rhaid i ymgeiswyr y rhaglen hon fedru dangos sgiliau perfformio rhagorol. Bydd gan y rhan fwyaf naill ai radd ragorol mewn datganiad israddedig yn y flwyddyn olaf (gradd dda 2.i neu uwch), marc uchel mewn DipABRSM (neu gyfwerth), neu o leiaf farc pasio LRSM (neu gyfwerth). Gellir gofyn i ymgeiswyr ddod i glyweliad neu, os nad yw hynny'n ymarferol, i anfon perfformiad fideo heb ei olygu a recordiwyd yn ddiweddar ac sy'n cynnwys repertoire cyfebyniol (25-30 munud). Gellir gofyn hefyd am enghraifft o waith academaidd.
Rhaid i ymgeiswyr nad yw'r siarad Cymraeg neu'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt basio'r prawf Saesneg IELTS gyda sgôr o 6.0 (heb yr un elfen yn is na 5.5).
Gyrfaoedd
Bydd yr MMUs mewn Perfformio yn ehangu eich profiad o berfformio a bydd yn datblygu eich sgiliau academaidd sy'n gysylltiedig â'ch ymarfer. Bydd y rhaglen yn eich paratoi at astudio perfformio ac/neu gerddoleg ymhellach ar lefel PhD a thu hwnt. Bydd hefyd yn rhoi sgiliau i chi mewn creadigrwydd, hunanddisgyblaeth, dadansoddi a chyfathrebu, a werthfawrogir gan gyflogwyr ym maes cerddoriaeth a thu hwnt iddo. Mae graddedigion diweddar wedi dilyn gyrfaoedd llwyddiannus fel perfformwyr proffesiynol, hyrwyddwyr cyngherddau, gweinyddwyr y celfyddydau, athrawon, ymgynghorwyr addysgol a phobl fusnes.