Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae croeso i chi gysylltu â ni am wybodaeth am y cwrs Mawrth 2025 a chofrestru eich diddordeb.
Cymeradwyir y cwrs hwn gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Mae MSc Nyrsio Oedolion ar gael hefyd.
Mae'r MSc mewn Nyrsio Iechyd Meddwl yn arwain at gofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ac mae'n cynnig llwybr wedi ei gyllido dros ddwy flynedd i nyrsio iechyd meddwl ar gyfer graddedigion, tra'n ennill cymhwyster ôl-radd. Mae'r cymhwyster ôl-radd hwn wedi'i anelu at raddedigion sy'n dymuno datblygu a chymhwyso'r wybodaeth a gafwyd trwy eu gradd israddedig a phrofiadau bywyd perthnasol er mwyn dilyn gyrfa ym maes nyrsio iechyd meddwl. Amcan y cwrs hwn yw paratoi nyrsys cofrestredig sy'n gallu cynnig gofal tosturiol a rhagorol, gwell arweinyddiaeth, rheolaeth, a sgiliau rhyngbroffesiynol ac ymchwil cryf, sy’n dylanwadu ar ymarfer ac ysgogi newid.
Mae ein darpariaeth addysgu eithriadol sy’n seiliedig ar ymchwil gyfoes (sy'n ffocws allweddol o weithgaredd ymchwil yr ysgol), wedi'i gwreiddio mewn ymarfer iechyd meddwl modern. Bydd yr MSc mewn Nyrsio Iechyd Meddwl yn paratoi’r graddedigion i ddatblygu a ffynnu mewn amgylcheddau sy'n newid yn gyflym, gan ystyried sut y gall trawma cynnar ac adfyd, diwylliant, dylanwadau economaidd-gymdeithasol, stigma a ffactorau eraill effeithio ar wytnwch, gweithrediad, statws iechyd a chanlyniadau iechyd meddwl. Bydd y rhaglen yn arfogi myfyrwyr â'r sgiliau ymgysylltu ac asesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cynllunio a darparu gofal tosturiol o ansawdd uchel a rheoli ymarfer cymhleth trwy gydol y rhychwant oes.
Bydd myfyrwyr yn graddio o'r rhaglen hon fel nyrsys iechyd meddwl creadigol a medrus a fydd mewn sefyllfa i wneud cais ar gyfer rhan un cofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Bydd gan y graddedigion llwyddiannus y gwerthoedd, yr wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i ymarfer i'r safonau uchaf o ran gofal diogel, tosturiol mewn gwasanaethau iechyd meddwl.
Dim Angen Talu Ffioedd Dysgu
Os ystyrir eich bod yn fyfyriwr cartref o’r Deyrnas Unedig o ran ffioedd dysgu, a all ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, gallech gael eich ffioedd dysgu wedi'u talu'n llawn drwy Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru a gwneud cais am gyfraniad bwrsariaeth o £1,000 tuag at gostau byw. Cewch hefyd wneud cais am y fwrsariaeth yn seiliedig ar brawf modd sy'n ddibynnol ar incwm yr aelwyd ac unrhyw gyllid arall ac mae meini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth gofal plant, lwfans dibynnydd a lwfans i rieni sy’n dysgu. Pe bai'n well gennych beidio â gweithio yng Nghymru ar ôl i chi raddio gallwch wneud cais am gyllid ar gyfer eich ffioedd a grant cynhaliaeth is.
Gan fod y cwrs hwn yn cael ei ariannu gan GIG Cymru, ni allwn dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr tramor.
Mae manylion llawn ar gael ar dudalen cyllid y GIG.
Pam dewis Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ar gyfer y cwrs hwn?
Ewch i'n tudalen Pam Astudio gyda ni? i ddarganfod ffeithiau allweddol ynghylch pam y dylech ddewis ÑÇÖÞÉ«°É ar gyfer y cwrs hwn.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Drwy gydol y rhaglen, cynllunnir lleoliadau ymarfer mewn gwasanaethau iechyd meddwl acÃwt, cymunedol, ac arbenigol yng Ngogledd Orllewin Cymru i ddarparu amrywiaeth o brofiadau. Cewch astudiaethau theori gorfodol yn ogystal â lleoliadau clinigol, a nod y cyfan fydd eich paratoi i ymarfer. Yn ystod y lleoliadau, byddwch yn ychwanegol i’r gweithlu, gan eich galluogi i weithio ochr yn ochr â'ch goruchwylwyr ymarfer a’ch aseswyr wrth i chi gymryd rhan mewn darparu gofal nyrsio.
Bydd cefnogaeth gan diwtor personol, sy'n nyrs gofrestredig ac aelod academaidd o’r staff, a chan nyrsys cofrestredig profiadol a gweithwyr proffesiynol eraill yn ystod lleoliadau. Caiff gwaith theori a gwaith ymarferol ei asesu drwy aseiniadau, arholiadau, cyflwyniadau, a’r Ddogfen Asesu Ymarfer Unwaith i Gymru a Chofnod Cyrhaeddiad Parhaus.
Strwythur y Cwrs
Blwyddyn 1
- Ymgysylltu ac asesu ym maes iechyd meddwl
- Cysyniadau Cyfreithiol a Moesegol
- Cynllunio a darparu gofal dyngarol ym maes iechyd meddwl
- Ffisioleg a Phathoffisioleg
- Ymarfer Nyrsio 1
Blwyddyn 2
- Rheoli Risg a Chymhlethdod mewn Iechyd Meddwl
- Arwain, Arloesi a Gweithredu
- Modiwl Traethawd Hir: Tystiolaeth ar gyfer YmarferÂ
- Ymarfer nyrsioÂ
Addysgu, Dysgu ac Asesu
Bydd y strategaeth addysgu a dysgu ar gyfer y cwrs yn canolbwyntio ar y myfyriwr, gan adeiladu ar y sgiliau graddedigion a ddatblygwyd yn ystod eich gradd gyntaf. Er y bydd rhai darlithoedd a addysgir ym mhob modiwl, bydd y prif bwyslais ar waith grŵp i ddatblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau gwneud penderfyniadau clinigol, a galluoedd datrys problemau mewn sefyllfaoedd bywyd ‘go iawn’.
Sut byddwch chi’n astudio?
Mae’r cwrs yn 50% theori a 50% o ddysgu ar leoliad ymarfer, yn cynnwys 22 wythnos o addysgu theori a 22 wythnos o ddysgu ar leoliad ymarfer. Fe'i cyflwynir trwy gyfuniad o addysgu theori yn y cnawd a thiwtorialau a seminarau ar-lein. Byddwch yn mynd i sesiynau wedi’u hwyluso i ddatblygu’r sgiliau clinigol sydd eu hangen i fodloni Safonau Nyrs y Dyfodol 2018 yr NMC, gan eich paratoi ar gyfer eich dysgu drwy ymarfer.
Bydd eich dysgu drwy ymarfer yn digwydd mewn lleoliadau clinigol amrywiol ar draws Gogledd Orllewin Cymru, mewn gofal cychwynnol ac eilaidd, i ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd dysgu mewn lleoliadau acÃwt a chymunedol. Byddwch yn cael eich cefnogi gan oruchwyliwr ymarfer ac aseswr ymarfer mewn ymarfer clinigol, yn ogystal ag aseswr academaidd, i sicrhau eich bod yn gwneud cynnydd ac yn cyflawni'r cymwyseddau sy'n ofynnol i gofrestru gyda'r NMC.
Gofynion Mynediad
Sylwch nad yw'r cwrs hwn ar gael i fyfyrwyr rhyngwladol.
Fel rheol bydd ymgeiswyr wedi cael gradd anrhydedd 2.2 o leiaf mewn pwnc sy'n ymwneud ag iechyd/bywyd neu wyddorau cymdeithas, yn y 5 mlynedd ddiwethaf. Rhaid i ymgeiswyr hefyd allu dangos 700 awr o brofiad cysylltiedig â gofal iechyd y gellir ei fapio i gymwyseddau craidd pwynt dilyniant un y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
Gofynion TGAU: Yn ogystal â chael gradd addas, mae'r NMC yn ei gwneud yn ofynnol i bob ymgeisydd ddangos tystiolaeth o gyfathrebu a rhifedd, a rhaid dangos y rhain drwy TGAU gradd C/4 neu uwch yn Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg iaith gyntaf neu gymhwyster amgen cydnabyddedig.
‘Iechyd Da a Chymeriad Da’: Mae'r NMC hefyd yn ei gwneud yn ofynnol cael tystiolaeth o 'Iechyd Da a Chymeriad Da', ac yn ogystal â geirda cefnogol i'r cais, mae'r Ysgol wedi mabwysiadu geirda Cymeriad Da Cymru Gyfan. Asesir Cymeriad Da ymhellach trwy gyfrwng adroddiad llawn/cliriad uwch gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), gyda'r bartneriaeth yn asesu risg yn unol â pholisi'r Ysgol. Asesir Iechyd Da gan Uned Iechyd yn y Gwaith y Bwrdd Iechyd lleol, ac mae myfyrwyr yn cael eu monitro drwy gydol y rhaglen a'u cefnogi lle bo angen.
Prosesau dewis
- Cyflwyno cais. Dim ond ceisiadau a gyflwynir trwy ein porth Ceisiadau Uniongyrchol fydd yn cael eu hystyried.
- Rhestr fer.
- Gwahoddir yr ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer i gyfweliad.
- Cyfweliad ffurfiol gyda gweithgareddau gwaith grŵp rhyngweithiol.
- Rhifedd/cyfrifo meddyginiaeth
- Traethawd ysgrifenedig ar gwestiwn a welwyd ymlaen llaw - cyfrinachedd a diogelu data.
- Cliriad uwch y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
- Adolygiad iechyd galwedigaethol
- Os byddant yn llwyddiannus yn y cyfweliad, gwahoddir ymgeiswyr i symud ymlaen i ran dau a chwblhau a chyflwyno eu portffolio Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL)/REPL. Gan fod angen amserlen ar gyfer mynediad i'r rhaglen i ganiatáu ar gyfer cwblhau'r broses RP(E)L, anogir ceisiadau cynnar. Gellir cael rhagor o fanylion am y broses hon ar ôl cael cyfweliad.
Bydd digwyddiadau a phrosesau dewis yn cynnwys darlithwyr mewn nyrsio Iechyd Meddwl, staff clinigol y Bwrdd Iechyd, cyfranogwyr sy'n ddefnyddwyr gwasanaeth. Bydd y rhai fydd yn cymryd rhan yn y prosesau dewis yn cael hyfforddiant a chefnogaeth mewn amrywiaeth a chydraddoldeb fel rhan o'u datblygiad proffesiynol.
Tystiolaeth o gyrhaeddiad / Portffolio Adfyfyriol
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gwblhau portffolio adfyfyriol RP(E)L sy'n dangos y cyflawnwyd pwyntiau dilyniant Blwyddyn 1 a amlinellir yn Safonau ar gyfer Addysg Nyrsio Rhag-gofrestru y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC, 2018). Fel rhan o'r portffolio hwn, rhaid i ymgeiswyr gyflwyno eu tystysgrif BSc/BA a thrawsgrifiad o'r modiwlau a gwblhawyd yn ystod eu gradd.
Dylai’r portffolio adfyfyriol gynnwys enghreifftiau penodol a thystiolaeth yn dangos sut mae profiad gofal iechyd yr ymgeisydd yn dangos y cyflawnwyd y pwyntiau dilyniant gofynnol. Gall y dystiolaeth hon gynnwys enghreifftiau o brofiadau ymarfer, diwrnodau astudio a fynychwyd, hyfforddiant gorfodol, a geirdaon a ddarperir gan gyflogwyr. Rhaid i ymgeiswyr hefyd gyflwyno Datganiad o'u Gwaith eu Hunain, yn cadarnhau mai nhw a neb arall sydd wedi cwblhau'r portffolio PRL/RPEL.
Caiff y portffolio ei asesu gan ddefnyddio'r meini prawf canlynol:
- Dilysrwydd: A yw’r dystiolaeth yn cefnogi’n ddigamsyniol bod meini prawf dilyniant Blwyddyn 1 yr NMC wedi eu cyflawni'n llawn?
- Cyfreithlondeb: A yw'r cyrhaeddiad yn ddigonol i fodloni’r safonau gofynnol ar gyfer Blwyddyn 1, fel y nodir yn Safonau’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth 2018?
- Amserlen: A yw'r honiadau'n seiliedig ar brofiadau sy'n berthnasol i'r lleoliad gofal iechyd presennol, h.y., o fewn y 3 blynedd ddiwethaf?
- Digonolrwydd: A yw'r dystiolaeth yn ddigonol i ddangos cyrhaeddiad y dysgu/profiadau a honnir yn llawn?
- Sgiliau Graddedigion: A yw'r ymgeisydd wedi dangos lefel ddisgwyliedig y sgiliau astudio ar gyfer mynediad ar Lefel 7?
Caiff y portffolio ei adolygu gan aelod staff academaidd a chaiff ei asesu fel llwyddo neu fethu. Lle bo angen, bydd staff yn yr Ysgol Academaidd yn darparu canllawiau a chefnogaeth i'ch helpu i gwblhau'r gofyniad hwn.
Mwy o wybodaeth bwysig
- Dyslecsia / Anabledd: Anogir ymgeiswyr ag anghenion penodol mewn perthynas â dyslecsia neu anabledd i ddatgan hyn ar glawr blaen eu portffolio RPL/REPL fel y gellir ystyried hyn wrth adolygu'r dystiolaeth.
- Mae nifer penodol o leoedd wedi eu cyllido ar y rhaglen hon (mae meini prawf cyllid a rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan HEIW).
- Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr sy'n derbyn lle wedi'i gyllido ar gyfer y cwrs hwn weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio o’r rhaglen.
- Caiff myfyrwyr ag anableddau, o wneud cais, gefnogaeth gan Swyddog Anableddau'r Brifysgol ac Ymgynghorydd Anableddau'r Ysgol, a gwneir asesiadau risg perthnasol ac addasiadau lle bo angen.
- Os oes materion yn gysylltiedig â Chymeriad Da, Iechyd Da, neu Anabledd sydd angen archwiliad neu ymchwiliad pellach, ymgynghorir â'r Ysgol a Phwyllgor Addasrwydd i Ymarfer y Bwrdd Iechyd Lleol.
- Gan fod hon yn rhaglen a ariennir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW), ni fydd myfyrwyr rhyngwladol yn gallu gwneud cais am y rhaglen astudio hon.
Gyrfaoedd
Gall myfyrwyr sy'n cwblhau'r MSc mewn Nyrsio Iechyd Meddwl yn llwyddiannus gofrestru eu statws proffesiynol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a chwilio am waith fel nyrs gofrestredig drwy brosesau Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
Mae cyfraddau cyflogadwyedd yn uchel o gymharu â graddedigion eraill, o ystyried y cymhwysedd proffesiynol a'r cymhwyster yn gysylltiedig â gradd. Mae cyfleoedd gyrfa unwaith y ceir gwaith fel nyrs gofrestredig yn ardderchog a gallant arwain at gyfleoedd cael dyrchafiad mewn ymarfer clinigol/arbenigedd, ymchwil neu addysg.
Cyngor am Yrfaoedd
Ceir cyngor am yrfaoedd gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol wrth ymarfer ac mewn sesiynau gyrfaoedd penodol ac mae gan wasanaeth Gyrfaoedd y GIG ragor o fanylion am y cyfleoedd gyrfa sydd ar gael. Rydych hefyd yn gymwys i gofrestru am Wobr Cyflogadwyedd ÑÇÖÞÉ«°É i wella eich rhagolygon gyrfa ac mae cyngor ar gael hefyd gan Wasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É.Â