Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Nod yr MSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer yw rhoi cyfle i raddedigion ddefnyddio dull amlddisgyblaethol i barhau â’u datblygiad. Bydd y radd yn rhoi'r sgiliau, y wybodaeth a'r hyblygrwydd meddwl i chi i ddatblygu dealltwriaeth o'r dulliau ffisiolegol a seicolegol o wella perfformiad (e.e. athletwyr cystadleuol ac ymarferwyr achlysurol). Bydd hefyd yn rhoi syniad i chi o'r dulliau y gellir eu defnyddio wrth weithio mewn lleoliadau adsefydlu (e.e. heneiddio'n iach, afiechyd cronig). Fe'i cynlluniwyd gyda phwyslais cryf ar gymhwyso theori i ymarfer proffesiynol.
Achrediad Proffesiynol
Byddwch yn gallu defnyddio rhywfaint o'r wybodaeth a'r sgiliau y byddwch yn eu hennill ar yr MSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff hwn i baratoi ar gyfer hyfforddiant profiad goruchwylio Cymdeithas Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain (BASES), sydd fel arfer yn rhagofyniad i gael achrediad proffesiynol y Gymdeithas.
Mae BASES hefyd yn trefnu cynhadledd flynyddol i fyfyrwyr. Mae rhai o’n cyn-fyfyrwyr MSc wedi ennill gwobrau clodfawr am y ‘Cyflwyniad Llafur Ôl-raddedig Gorau’ a’r ‘Cyflwyniad Poster Ôl-raddedig Gorau’ yng nghynadleddau myfyrwyr BASES. Mae’r gwobrau hyn ar agor i fyfyrwyr MSc a PhD yn holl Brifysgolion y DU ac mae'r ffaith bod ein myfyrwyr wedi ennill gwobrau dro ar ôl tro yn arwydd o ansawdd rhagorol yr addysgu a'r hyfforddiant ymchwil y byddwch chi'n eu profi ar ein cwrs.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Nod yr MSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer yw rhoi cyfle i raddedigion ddefnyddio dull amlddisgyblaethol i barhau â’u datblygiad. Yn benodol, mae’r radd wedi’i chynllunio i gynyddu dealltwriaeth myfyrwyr o’r dulliau ffisiolegol a seicolegol o wella perfformiad (e.e., athletwyr cystadleuol ac ymarferwyr achlysurol) ac ar yr un pryd mae’n cynnig cipolwg i fyfyrwyr ar ddulliau gweithredu y gellir eu defnyddio wrth weithio mewn lleoliadau adsefydlu (e.e. , heneiddio'n iach, clefyd cronig).
Addysgir y rhaglen radd trwy ddarlithoedd traddodiadol, seminarau rhyngweithiol, tiwtorialau un-i-un, sesiynau cyfrifiadurol, a gweithdai ymarferol yn y labordy. Bydd myfyrwyr felly'n cael profiad o weithio'n annibynnol ac mewn lleoliadau grŵp, yn yr ystafell ddosbarth ac mewn sesiynau ymarferol (bydd ffurf y rheiny yn dibynnu ar y dewis o fodiwlau). Byddant hefyd yn gwneud cyfnod sylweddol o hunan-astudio sydd, ar y radd Feistr, yn  cynnwys cwblhau prosiect ymchwil neu draethawd hir. I gyd-fynd â’r dulliau addysgu hyn, mae'r rhaglen yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu yn cynnwys adroddiadau achos, sgiliau ymarferol, y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â phoblogaethau amrywiol, a rhoi cyflwyniadau (e.e. posteri a sgyrsiau).
Bydd graddedigion yn gallu arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol o'r egwyddorion seicolegol, ffisiolegol, ac adsefydlol sy'n gysylltiedig ag amryw o leoliadau chwaraeon ac ymarfer corff sy'n seiliedig ar berfformiad; dangos dealltwriaeth o'r egwyddorion gwyddonol a'r gweithdrefnau ystadegol sy'n sail i gynllunio ymchwil effeithiol, casglu data, a dehongli data mewn chwaraeon a gwyddor ymarfer; a dangos sut y gellir defnyddio egwyddorion gwyddonol i gynllunio, gweithredu a gwerthuso ymyriadau cleient mewn lleoliadau sy'n gysylltiedig â chwaraeon ac ymarfer.
Byddant hefyd yn datblygu sgiliau ymarferol y gellir eu defnyddio wrth gasglu data at ddibenion ymchwil a/neu gymhwysol yn y labordy ac ar y maes. Byddant wedi datblygu ymwybyddiaeth o gyd-destun a sgiliau datrys problemau o ran ystyried sut mae cymhwyso egwyddorion gwyddonol ac ymyriadau ymarferol i chwaraeon ac ymarfer corff a byddant yn gallu dehongli a chyfleu data gwyddonol i gyd-fynd ag anghenion y gynulleidfa (e.e. clinigwyr neu gleifion). Byddant hefyd yn gallu dangos ystod eang o sgiliau allweddol safonol, gan gynnwys ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch ac ystyriaethau moesegol.Â
Gyda'i gilydd, mae'r dulliau hyn wedi'u cynllunio i arfogi graddedigion â'r sgiliau cyfathrebu a chyflwyno, sgiliau rhyngweithiol a grŵp, sgiliau ymarfer myfyriol, a sgiliau rhifedd a thechnoleg gwybodaeth a fydd yn caniatáu iddynt ddangos proffesiynoldeb yn ôl yr angen yn y gweithle.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer .
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Gradd anrhydedd 2.ii o leiaf mewn pwnc perthnasol (neu gyfwerth). Gellir hefyd ystyried myfyrwyr sydd â gradd o faes academaidd gwahanol.
Caiff gweithwyr proffesiynol sydd â chymwysterau ac eithrio gradd yn cael eu hasesu ar sail unigol. Cysylltwch â ni.
Mae'n ofynnol i fyfyrwyr yr UE a myfyrwyr tramor, nad yw'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt, sefyll y prawf Saesneg safonol (IELTS). Mae myfyrwyr sy'n cael sgôr o 6.0 neu uwch (dim sgôr unigol o dan 5.5) yn gymwys i gael mynediad uniongyrchol i'r cwrs
Gyrfaoedd
Mae holl raglenni ôl-raddedig yr ysgol wedi eu cynllunio (gyda hyfforddiant pellach lle bo hynny'n briodol) i wella rhagolygon gyrfa graddedigion Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer.
Mae rhai o ôl-raddedigion ÑÇÖÞÉ«°É wedi cael swyddi yn y sefydliadau canlynol: Sefydliadau chwaraeon y wlad, cyrff llywodraethu cenedlaethol, yr Olympic Medical Institute, timau a sefydliadau chwaraeon proffesiynol, y diwydiant ffitrwydd, y GIG (ysbytai ac ymddiriedolaethau gofal sylfaenol), dysgu ac addysg (ar ôl cwblhau Tystysgrif Addysg Ôl-raddedig). Mae astudiaeth ôl-raddedig bellach (h.y. ymchwil doethurol) yn llwybr galwedigaethol arall.