Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae ein MSc Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol (ABA) wedi鈥檌 fwriadu ar gyfer y rhai hynny sy鈥檔 dymuno arbenigo mewn cymwysiadau ymarferol o ddadansoddi ymddygiad gan gynnwys cefnogi ymddygiad cadarnhaol a dadansoddi ymddygiad mewn addysg. Mae鈥檙 cwrs hwn wedi鈥檌 gynllunio i ddatblygu gwybodaeth theoretig ac ymarferol uwch o egwyddorion sylfaenol dadansoddi ymddygiad a chymhwyso鈥檙 egwyddorion mewn sefyllfaoedd clinigol ac ymchwil.
Mae dadansoddwyr ymddygiad yn gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau amlddisgyblaethol ochr yn ochr ag athrawon, seicolegwyr, nyrsys a gweithwyr proffesiynol eraill i helpu unigolion a sefydliadau i gyflawni eu nodau a gwella ansawdd bywyd.
Mae dadansoddiad ymddygiad yn y Deyrnas Unedig yn cael ei oruchwylio gan Gymdeithas Dadansoddi Ymddygiad y Deyrnas Unedig (UK Society for Behaviour Analysis neu ). Mae cofrestr gweithwyr proffesiynol UK-SBA wedi'i hachredu o dan raglen Cofrestr Achrededig yr . Mae dadansoddi ymddygiad yn ymarfer sy'n esblygu ac ym Mangor rydym yn pwysleisio dull sy'n cael ei arwain gan werthoedd ac sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Rydym yn cymeradwyo ac yn cadw at a yr UK-SBA.
听
Mae MSc Prifysgol 亚洲色吧 mewn Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol yn bodloni'r gofynion gwaith cwrs ar gyfer cymhwystra ymgeisio i ddod yn ddadansoddwyr ymddygiad ardystiedig.
Mae dadansoddi ymddygiad yn y Deyrnas Unedig yn mynd trwy newid cadarnhaol: mae ardystio gweithwyr proffesiynol yn symud o'r Behaviour Analyst Certification Board (BACB) i'r UK-SBA. Mae'r ddau gymhwyster yn gofyn i ymgeiswyr gwblhau gwaith cwrs 么l-radd, goruchwyliaeth broffesiynol, a llwyddo mewn arholiad cymhwyso. Bydd y BACB yn parhau i ardystio ymgeiswyr o鈥檙 Deyrnas Unedig fel Board Certified Behaviour Analysts (BCBA) tan 31 Rhagfyr 2025 yn unig. Ar 么l 1 Ionawr 2026, bydd ymgeiswyr y Deyrnas Unedig yn gwneud cais i ddod yn UKBA(cert) o鈥檙 UK-SBA. Ar hyn o bryd, mae holl aelodau'r UK-SBA sy'n BCBA yn gymwys i ddod yn UKBA(cert).
Gwybodaeth i :
Mae'r Association for Behaviour Analysis International wedi gwirio'r MSc mewn Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol ym Mhrifysgol 亚洲色吧 tuag at y gofynion gwaith cwrs ar gyfer cymhwyster i sefyll arholiad Board Certified Behaviour Analyst庐 neu Board Certified Assistant Behaviour Analyst庐. Bydd angen i ymgeiswyr fodloni gofynion cymhwystra ychwanegol gan gynnwys goruchwyliaeth BACB a dangos eu bod yn byw mewn gwlad awdurdodedig cyn y gellir eu hystyried yn gymwys i sefyll yr arholiad. Yn y Deyrnas Unedig, rhaid i ymgeiswyr lwyddo yn yr arholiad cymhwyso erbyn 31 Rhagfyr 2025.
Gwybodaeth i :
Mae'r cwrs MSc Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol ym Mhrifysgol 亚洲色吧 yn bodloni'r gofynion cymhwystra i ymgeiswyr sefyll arholiad UKBA(cert) ar 么l 1 Ionawr 2026.听 Bydd hefyd yn ofynnol i ymgeiswyr gwblhau Safonau Goruchwylio a Chymhwysedd UK-SBA a llwyddo mewn arholiad cymhwyso.
Gall myfyrwyr sy'n dymuno gwneud hynny adael y rhaglen ar 么l ennill Tystysgrif 脭l-radd (60 credyd) neu Ddiploma 脭l-radd (120 credyd) os nad ydynt yn dymuno parhau 芒'r MSc llawn. Mae'r cwrs llawn yn arwain at radd Meistr, ond mae wedi'i gynllunio i fod yn hyblyg i ddiwallu anghenion gwahanol ein myfyrwyr. Ym Mhrifysgol 亚洲色吧, yr MSc llawn mewn Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol yw'r unig lwybr a gynigir ar gyfer mynediad 2023, a fydd yn cymhwyso ymgeisydd i sefyll arholiad BACB. Cysylltwch 芒 ni am fanylion pellach. 听
听
Llawn amser:听 Blwyddyn; Dwy flynedd i'r rhai sy'n gwneud yr ymarfer.
Mae myfyrwyr llawn amser yn cymryd dau fodiwl bob tymor ac yn mynd i seminarau bob dydd Llun a dydd Mawrth. 听
Rhan amser: Dwy flynedd. 听
Mae myfyrwyr rhan amser yn cymryd un modiwl ar y tro, ac yn y flwyddyn gyntaf yn mynd i seminarau bob dydd Llun.
Cofiwch: Mae elfen hyfforddedig y cwrs yn rhedeg o fis Medi i fis Gorffennaf. Disgwyliwn y bydd myfyrwyr yn treulio diwrnod llawn yr wythnos yn ymwneud 芒 phob modiwl. Mae'r llwyth gwaith yn drwm, a gall cyfnodau asesu'r cwrs llawn amser fod yn feichus. Os oes gennych chi ymrwymiadau gwaith neu ofal sylweddol, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn dilyn y cwrs yn rhan amser dros ddwy flynedd. Mae'n cymryd o leiaf dwy flynedd i ennill yr oriau goruchwylio tuag at ardystiad ac ni fydd cymryd y gwaith cwrs yn rhan amser yn oedi eich cynnydd tuag at ardystiad.
听
Mae'r cwrs wedi'i gynllunio gan ystyried astudiaeth hyblyg. Yr opsiynau astudio sydd ar gael yw: dysgu o bell yn gyfan gwbl, neu gyfuniad o ddysgu annibynnol ac wyneb yn wyneb.
Yn ystod pob wythnos o'r cwrs, byddwn yn darparu darlithoedd a recordiwyd ymlaen llaw a dysgu dan arweiniad i fyfyrwyr gael mynediad iddynt yn eu hamser eu hunain. Bydd dau opsiwn hefyd am 90 munud o seminarau byw fesul modiwl bob wythnos: Bydd un seminar yn cael ei gynnig wyneb yn wyneb ym Mhrifysgol 亚洲色吧 yn ystod y dydd; Bydd ail seminar, byw, yn cael ei gynnal ar-lein o 18:00-19:30 amser y Deyrnas Unedig.
Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i fod yn hyblyg; gall myfyrwyr ddod i Fangor a rhyngweithio 芒'u cyfoedion a'u darlithwyr wyneb yn wyneb. Fodd bynnag, os na all myfyriwr fynd i seminarau byw yn ystod y dydd am unrhyw reswm, rydym yn eich croesawu trwy ein platfform o bell gyda'r nos.
Gofynion technegol ar gyfer dysgu o bell: Sylwch fod presenoldeb mewn seminarau yn orfodol. Os dewiswch fynychu o bell, RHAID i chi gael mynediad at gysylltiad rhyngrwyd dibynadwy a dyfais i fynychu seminarau ohoni.听 Byddwn yn disgwyl i chi droi eich camer芒u ymlaen a chymryd rhan yn ystod seminarau o bell. Ym Mhrifysgol 亚洲色吧, rydyn ni'n blaenoriaethu'r sgyrsiau rydyn ni'n eu cael gyda'n myfyrwyr. Teimlwn yn gryf fod cysylltiadau鈥檔 ganolog i ymarfer dadansoddi ymddygiad a arweinir gan werthoedd, ac y gall y sgyrsiau a鈥檙 cysylltiadau sy鈥檔 datblygu rhwng myfyrwyr a staff darlithio fod yn ganolog i ddatblygiad ymarfer moesegol o ddadansoddi ymddygiad.
Efallai y bydd angen i fyfyrwyr deithio i Fangor i gofrestru ym mis Medi, ond gellir cymryd pob seminar ac asesiad o bell. Yn 2023, dim ond i fyfyrwyr sy'n byw yn y Deyrnas Unedig y mae dysgu o bell ar gael.
听
Mae鈥檙 rhan fwyaf o鈥檔 myfyrwyr yn cael yr elfen oruchwylio o鈥檜 hyfforddiant fel rhan o gyflogaeth 芒 th芒l sy鈥檔 annibynnol ar y brifysgol. Fodd bynnag, rydym yn cynnig practicum i'r rhai sy'n dymuno cwblhau eu hyfforddiant ymarferol gyda'r brifysgol. Bydd y practicum yn rhedeg dros ddwy flynedd academaidd.
Bydd myfyrwyr yn cwblhau eu gwaith cwrs yn rhan amser ac yn cwblhau听 lleoliadau听 ymarferol dan oruchwyliaeth mewn lleoliadau addysgol ac ati lle defnyddir dadansoddiad ymddygiad a chefnogaeth ag ymddygiad cadarnhaol. Yn ystod y cyfnod hwn bydd y myfyriwr yn cael y cyfle i ddysgu ac arddangos cymwyseddau a amlinellir yn Fframwaith Cymwyseddau UK-SBA.
Mae dau lwybr practicum. Yn gyntaf, gall myfyrwyr sy'n gweithio gyda sefydliadau partner ledled y Deyrnas Unedig fod yn gymwys. Bydd y myfyrwyr hyn yn cwblhau eu gwaith cwrs tra'n gweithio ac yn derbyn goruchwyliaeth ar y safle gan UKBA(cert) yn eu sefydliad. Byddant hefyd yn derbyn goruchwyliaeth gan UKBA(cert) ym Mhrifysgol 亚洲色吧. Ar gyfer yr ail, bydd myfyrwyr sydd wedi'u lleoli yng Ngogledd Cymru yn gweithio mewn lleoliadau addysgol yn yr ardal gyfagos. Bydd myfyrwyr yn y lleoliadau hyn yn ennill y sgiliau ymarferol a'r wybodaeth sydd eu hangen i ddylunio a gweithredu ymyriadau ymddygiad-dadansoddol gydag ystod o blant. Byddant yn cael eu goruchwylio gan UKBA(cert) yn y lleoliadau hyn a/neu UKBA(cert) yn y brifysgol. Yn hytrach na thesis, bydd myfyrwyr practicum yn cyflwyno portffolio. Bydd myfyrwyr sydd wedi鈥檜 derbyn i鈥檙 MSc mewn Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol yn cael eu gwahodd i wneud cais ysgrifenedig ar ddechrau eu cwrs, a bydd y broses ymgeisio yn cynnwys cyfweliadau a datganiadau ysgrifenedig. Dim ond nifer cyfyngedig o leoedd fydd ar gael a ch芒nt eu dyfarnu ar sail gystadleuol.
Pa ardystiad ydym ni'n ei argymell?
Mae gan gymwysterau BCBA ac UKBA(cert) safonau goruchwylio gwahanol. Ym Mhrifysgol 亚洲色吧, rydym yn argymell bod myfyrwyr sy'n dechrau yn 2023 yn cymryd eu goruchwyliaeth gan ddefnyddio Safonau Goruchwylio a Chymhwysedd UK-SBA. Mae safonau UK-SBA yn adlewyrchu鈥檙 gwerthoedd a鈥檙 safonau ymarfer sy鈥檔 berthnasol i ymarfer yn y Deyrnas Unedig. Mae鈥檔 bosibl y gall myfyrwyr sy鈥檔 dechrau eu hastudiaethau yn hydref 2023 gwblhau鈥檙 oruchwyliaeth sy鈥檔 ofynnol gan BACB a llwyddo yn yr arholiad cyn 31/12/25, fodd bynnag, mae鈥檙 dyddiadau cau yn dynn iawn. Cysylltwch 芒 ni i gael rhagor o fanylion. 听
听
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae鈥檙 rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol.
Mae cynnwys y cwrs wedi鈥檌 nodi i鈥檆h arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Gradd israddedig 2(ii) neu gyfwerth o leiaf. Gall ymgeiswyr h欧n (25+ ar ddechrau'r cwrs) heb radd ond sydd 芒 phrofiad perthnasol hefyd gael mynediad i'r cwrs ar lefel tystysgrif. Gall profiad clinigol perthnasol gynnwys gwaith 芒 th芒l neu waith gwirfoddol mewn ysgolion, cartrefi gofal, gwasanaethau oedolion, gwasanaethau iechyd meddwl ac ati a bydd cyfarwyddwr y cwrs yn ei adolygu fel y bo'n briodol. Ar 么l cwblhau'r cwrs tystysgrif yn llwyddiannus, bydd ymgeiswyr o'r fath yn gymwys i symud ymlaen i'r diploma a'r lefel meistr.
IELTS: Gofynnir am 6.5听(heb unrhyw elfen dan 6.0). Rhaid cyflwyno ceisiadau electronig i'r ysgol erbyn 1 Mai bob blwyddyn. Cysylltir ag ymgeiswyr posib sy'n bodloni'r holl feini prawf eraill i gael cyfweliad byr gyda chyfarwyddwr y cwrs. Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal naill ai'n bersonol neu trwy gyfrwng telegynadledda. Cynigir lleoedd erbyn diwedd mis Mehefin.
Gyrfaoedd
Mae ymgeiswyr llwyddiannus yn gadael y cwrs ar 么l bodloni elfen hyfforddedig y meini prawf cymhwysedd i sefyll arholiad ardystio dadansoddwr ymddygiad ardystiedig y bwrdd a gynigir gan y Behavior Analyst Certification Board (BACB). Mae'r BACB yn gorff proffesiynol rhyngwladol sy'n goruchwylio'r proffesiwn dadansoddi ymddygiad. Mae cyflogwyr yn chwilio fwyfwy am bobl sydd wedi cymhwyso fel dadansoddwr ymddygiad ardystiedig, ac mae gan ein myfyrwyr fantais amlwg wrth geisio hyfforddiant uwch a chyflogaeth bellach mewn meysydd cyflogaeth sy'n delio ag ymddygiad heriol, darpariaethau addysgol arbennig ac anableddau datblygiadol.
听
Gwneud Cais
听