Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae Diploma 脭l-radd (PGDip) Prifysgol 亚洲色吧 mewn Cwnsela Pobl Ifanc a Phlant yn ddiploma trwyadl, proffesiynol ar gyfer cwnselwyr a seicotherapyddion sy鈥檔 dymuno ymestyn eu hymarfer i鈥檙 maes arbenigol hwn. Wedi'i anelu at waith therapiwtig gyda phlant a phobl ifanc, mae wedi'i alinio'n broffesiynol i Gymwyseddau ar gyfer Gweithio gyda Phlant a Phobl Ifanc (4-18oed) Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP).
Bydd y Diploma 么l-gymhwyso Cwnsela Plant a Phobl Ifanc (4-18 oed) hwn yn eich paratoi i weithio鈥檔 therapiwtig gyda phlant a phobl ifanc 4-18 oed. Mae鈥檙 cwrs yn darparu hyfforddiant ymarferol mewn sgiliau cwnsela ar gyfer gweithio gyda phlant ochr yn ochr 芒 chanllawiau damcaniaethol ar gysyniadau cwnsela sy鈥檔 benodol i bobl ifanc.
Byddwch yn dysgu sut i weithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn o'r safbwynt dyneiddiol, ond gallwch hefyd ddefnyddio dulliau therapiwtig eraill (fel gwybyddol ac ymddygiadol) i fabwysiadu dull integredig o weithio gyda phlant a phobl ifanc.
Ochr yn ochr 芒鈥檙 hyfforddiant ymarferol hwn, byddwch yn dod i ddeall datblygiad plentyn a chael dealltwriaeth o fyd yr unigolyn ifanc o safbwynt cymdeithasol, seicolegol ac addysgol.
Ochr yn ochr 芒鈥檙 ymarfer addysg a sgiliau damcaniaethol hwn, byddwch yn cwblhau lleoliad a asesir o 100 awr o gwnsela dan oruchwyliaeth gyda phlant a phobl ifanc. Gall y lleoliad hwn fod mewn ysgol, sefydliad elusennol, neu unrhyw leoliad therapiwtig arall ar gyfer pobl ifanc. Bydd y lleoliad a asesir a鈥檙 hyfforddiant academaidd hwn yn cyd-fynd 芒 Chymwyseddau Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain ar gyfer Gweithio gyda Phlant a Phobl Ifanc (4-18 oed).
Caiff y cwrs Cwnsela Plant a Phobl Ifanc (4-18 oed) ei gyflwyno mewn ffordd hyblyg i鈥檞 wneud yn gwbl hygyrch i bawb. Cynhelir dosbarthiadau wythnosol ar-lein (galwad fideo) un noson yr wythnos am 24 wythnos. Bydd adnoddau (gan gynnwys darlithoedd wedi'u recordio) ar gael ar-alw bob wythnos. Bydd sesiynau galw heibio wythnosol rheolaidd hefyd ar gael i'ch cefnogi yn eich asesiadau.
Caiff y pecyn hyfforddi cynhwysfawr hwn ei gyflwyno gan ein t卯m o staff academaidd o bob rhan o鈥檙 Coleg Gwyddorau Dynol, gan dynnu ar arbenigedd o鈥檙 Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol (gan gynnwys Seicoleg a Chwnsela) a鈥檙 Ysgol Gwyddorau Addysgol (gan gynnwys Astudiaethau Plentyndod).
Er nad yw'n amod i gael eich derbyn ar y cwrs, argymhellir yn gryf bod ymgeiswyr yn trefnu lleoliad a goruchwyliwr cyn dyddiad dechrau'r cwrs.
Pam dewis Prifysgol 亚洲色吧 ar gyfer y cwrs hwn?
-
Mae鈥檔 Ddiploma 脭l-radd trwyadl a phroffesiynol wedi'i alinio i Gymwyseddau ar gyfer Gweithio gyda Phlant a Phobl Ifanc (4-18oed) Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain.
-
Byddwch yn cwblhau lleoliad wedi鈥檌 asesu o 100 awr o gwnsela dan oruchwyliaeth gyda phlant a phobl ifanc sy'n cyd-fynd 芒 Chymwyseddau Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain ar gyfer Gweithio gyda Phlant a Phobl Ifanc 14-18 oed.
-
Cyflwynir y cwrs mewn ffordd hyblyg gyda dosbarthiadau ar-lein un noson yr wythnos a sesiynau galw heibio wythnosol rheolaidd.
-
#4 dewisol - ychwanegu
-
#5 dewisol - ychwanegu
Gwylio Fideo -听Dr Nia Young sy'n cyflwyno'r Diploma 脭l-raddedig (PGDip) mewn Cwnsela Phlant a Phobl Ifanc
Trawsgrifiad Fideo Dr Nia Young sy'n cyflwyno'r Diploma 脭l-raddedig (PGDip) mewn Cwnsela Phlant a Phobl Ifanc
[00:01] Helo.
[00:02] Nia Young dwi o Brifysgol 亚洲色吧. Rydym wedi cyffroi'n l芒n i fod yn cynnig cwrs newydd
[00:07] 么l-raddedig mewn cwnsela plant a phobl ifanc. Mae'r cwrs yma yn tynnu'r gwybodaeth
[00:14] orau o ran technegau a sgiliau gwaith cwnsela hefo plant a phobl ifanc.
[00:20]Ar y cyd hefo gwybodaeth a syniadau o'r maes astudiaethau plentyndod er mwyn adfyfyrio
[00:26] ar ein dealltwriaeth a'n syniadaeth amdan plant a phobl ifanc, ac effaith hynny ar ein ymarfer.
[00:33] Felly, os ydych chi yn gwnselydd wedi cyhmwyso ac hefo ddiddordeb gweithio
[00:39] hefo plant a phobl ifanc, dilynwch y linciau am fwy o wybodaeth am y cwrs yma.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae鈥檙 rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Cwnsela Plant a Phobl Ifanc (4-18 oed).
Mae cynnwys y cwrs wedi鈥檌 nodi i鈥檆h arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Bydd y gofynion mynediad ar gyfer y rhaglen fel a ganlyn:
- Cymhwyster cwnsela ar lefel Diploma neu Feistr
- Bod yn aelod o sefydliad cwnsela proffesiynol priodol, fel BACP neu UKCP
- Profiad o gwnsela o leiaf 100 awr o ymarfer dan oruchwyliaeth gyda chleientiaid sy鈥檔 oedolion (rhaid darparu tystiolaeth trwy lythyr gan y darparwr hyfforddiant os cwblheir oriau ar leoliad neu lythyr gan y sefydliad perthnasol os caiff ei gwblhau ar wah芒n i leoliad)
- Dau eirda boddhaol, a rhaid i un fod gan eich goruchwyliwr cwnsela
Gofynion Iaith Saesneg: Os mai Saesneg yw eich ail iaith, yna bydd gofyn i chi hefyd feddu ar IELTS o 7 (heb unrhyw sg么r yn is na 7 ar draws yr holl feini prawf) a thystiolaeth glir o sgiliau cyfathrebu trwy gyfrwng y Saesneg yn y cyfweliad.
Gofynion Ychwanegol
- Gwiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y Gweithlu Plant ac Oedolion a rhestrau gwaharddedig Plant ac Oedolion a thanysgrifiad i Wasanaeth Diweddaru鈥檙 DBS. (Mae angen gwiriad cyfatebol dramor ar gyfer ymgeiswyr o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig).
- Rhaid i ymgeiswyr ar y rhestr fer basio cyfweliad ar-lein a fydd yn cynnwys gweithgaredd mewn grwpiau bach ac asesiad unigol. Bydd ymgeiswyr yn cael eu hasesu ar gyfer ymarfer fel rhan o'r broses gyfweld hon.
Eithriadau: Bydd ymgeiswyr a raddiodd yn llwyddiannus o MSc Cwnsela Prifysgol 亚洲色吧 yn ystod y tair blynedd flaenorol yn cael eu heithrio rhag darparu tystiolaeth o'u profiad cwnsela, geirda, a hyfedredd yn yr iaith Saesneg. Caiff y cyn-fyfyrwyr hyn eu rhoi yn awtomatig ar restr fer am gyfweliad.
Cydnabod dysgu blaenorol: Gall fod yn bosibl achredu dysgu blaenorol ar gyfer ymgeiswyr a raddiodd yn llwyddiannus gyda MSc Cwnsela ym Mhrifysgol 亚洲色吧 yn ystod y tair blynedd flaenorol. Gall y rhai a gwblhaodd un neu ddau o鈥檙 modiwlau canlynol yn llwyddiannus (o fewn y tair blynedd flaenorol) gael eu hachredu am y 40 credyd hwn o ddysgu ar y cwrs presennol: Cyflwyniad i Gwnsela i Blant a Phobl Ifanc (20 credyd), Cwnsela Uwch i Blant a Phobl Ifanc (20 credyd), Teuluoedd Modern (20 credyd), Deall Plentyndod ac Ieuenctid (20 credyd). Os c芒nt eu cymeradwyo, ni fydd myfyrwyr yn cymryd y modiwlau hyn eto ar y rhaglen hon a bydd y radd gyffredinol ar gyfer y diploma hwn yn cael ei chyfrifo o'r credydau sy'n weddill.
Gwybodaeth bellach: Er nad yw'n amod i gael eich derbyn ar y cwrs, argymhellir yn gryf bod ymgeiswyr yn trefnu lleoliad a goruchwyliwr cyn dyddiad dechrau'r cwrs. Rhaid i ymgeiswyr gael eu cymeradwyo ar gyfer lleoliad fel rhan o'r broses dderbyn a bydd disgwyl i fyfyrwyr ddechrau lleoliad o fewn pedair wythnos gyntaf y cwrs. Mae hyn yn bwysig er mwyn rhoi digon o amser i wneud y 100 awr o ymarfer dan oruchwyliaeth sydd ei angen ar gyfer y cwrs o fewn amserlen y rhaglen.
Gofynion technegol: Byddwch yn ymwybodol y cynhelir y dosbarthiadau ar gyfer y rhaglen hon ar-lein trwy alwad fideo, felly mae'n rhaid bod gennych y cyfleusterau i gael mynediad i'r dosbarth hwn bob wythnos. Bydd disgwyl i chi hefyd ymwneud 芒鈥檙 tiwtor a gweddill y dosbarth yn ystod y sesiynau hyn, felly mae鈥檔 hanfodol bod gennych gamera a meicroffon sy鈥檔 gweithio ar gyfer y sesiynau hyn.
听
Gyrfaoedd
Bydd y cwricwlwm cyfannol a ymdrinnir yn y rhaglen hon yn eich helpu i adeiladu ar eich sgiliau therapiwtig presennol i'ch galluogi i weithio'n ddiogel ac yn effeithiol fel cwnselydd i blant a phobl ifanc.