Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Nid ydym yn derbyn ceisiadau ar gyfer mynediad yn 2024 erbyn hyn. Chwilio am gwrs ar gyfer mynediad 2024? Edrychwch yma.
Bydd yr MA mewn Cerddoriaeth yn fodd i chi ddatblygu a gwella eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth ym meysydd astudiaethau cerddoregol a/neu ethnogerddoregol; Bydd y rhaglen yn rhoi’r sgiliau a’r methodolegau i chi fel y gallwch chi wneud ymchwil arbenigol yn eich dewis faes o arbenigedd; Bydd astudio MA Cerddoriaeth yn fodd i hogi sgiliau lefel uchel o ran meddwl yn feirniadol, meddwl yn gysyniadol, datrys problemau, dadansoddi, cyfathrebu, hunangyfeirio a gwreiddioldeb.
Cynigir arbenigedd mewn amrywiol feysydd, gan gynnwys hanes cerddoriaeth y Gorllewin (yn enwedig y cyfnod modern cynnar hyd at ddiwedd yr ugeinfed ganrif), hanes diwylliannol, golygu, dadansoddi, cerddoriaeth boblogaidd, cerddoriaeth mewn cymdeithas (y Gorllewin a thu hwnt) a cherddoriaeth yng Nghymru.
Cewch weithio'n glos ag ymchwilwyr profiadol, y rhan fwyaf yn meddu ar broffiliau rhyngwladol. Mae gan yr Adran Gerddoriaeth gysylltiadau clos â phartneriaid diwydiannol a thrydydd sector megis Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Sinffonia Cymru, Opera Cenedlaethol Cymru, Opra Cymru, Stiwdios Ffilm Aria, Canolfan Celfyddydau Pontio, Venue Cymru, Canolfan Celfyddydau Ucheldre, Canolfan Gerdd William Mathias, Cadeirlan ÑÇÖÞÉ«°É, Gŵyl Gerdd ÑÇÖÞÉ«°É, Gŵyl Ryngwladol Gogledd Cymru a Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru.
Hyd y Rhaglen
MA: Blwyddyn yn llawn-amser, 2 flynedd yn rhan-amser.
Diploma: 30 wythnos o astudio’n llawn-amser.
Pam dewis Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ar gyfer y cwrs?
- Rhaglen astudio hyblyg sy'n eich galluogi i archwilio’r meysydd sydd o ddiddordeb i chi mewn cerddoleg.
- Addysgu rhyngddisgyblaethol a arweinir gan ymchwil ac a ddarperir gan academyddion blaenllaw.
- Cwrs cyfoes sy’n dod â safbwyntiau ffres ar gerddoleg, y disgwrs cyfoes a diwylliant.
- Gradd sy’n canolbwyntio ar gyflogadwyedd a chyfleoedd i gysylltu â phartneriaid yn y diwydiant a'r trydydd sector. • Amrywiaeth hyblyg o ddulliau asesu a gynlluniwyd i ddatblygu amrywiaeth eang o sgiliau trosglwyddadwy iawn.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Rhennir yr MA Cerddoriaeth yn ddwy ran;
Ìý
- Astudio Hyfforddedig (120 o gredydau)
- Project Meistr (60 o gredydau)
Caiff elfen Astudio Hyfforddedig y cwrs ei dysgu dros ddau semester i fyfyrwyr llawn amser. Caiff y Project Meistr ei gyflawni dros yr haf. Addysgir drwy gyfuniad o hyfforddiant unigol a seminarau i grwpiau bach.
Bydd myfyrwyr sy'n dymuno dilyn y Diploma mewn Cerddoriaeth yn cwblhau elfen Astudio Hyfforddedig y cwrs yn unig. Ar gyfer yr MA mewn Cerddoriaeth bydd angen i’r myfyrwyr gwblhau'r elfen Astudio Hyfforddedig a'r Project Meistr
Astudio Hyfforddedig (120 o gredydau)
Modiwlau Semester 1:
- Bydd Cerddoleg Gyfredol (20 o gredydau), yn fodd i chi ymgyfarwyddo â thechnegau ac ymdriniaethau diweddaraf y ddisgyblaeth.
- Mae Cerddoriaeth a Syniadau (20 o gredydau) yn archwilio astudiaeth achos a ddewisir o opsiynau sy'n seiliedig ar arbenigeddau’r staff, ochr yn ochr â chyfres o seminarau ymchwil cyhoeddus a gyflwynir gan staff a siaradwyr allanol.
- Mae Archwilio Cerddoriaeth (20 o gredydau) yn dod â myfyrwyr sy'n dilyn rhaglenni cerddoleg, cyfansoddi a pherfformio ynghyd; mae’n archwilio amrywiol faterion cyfoes o'r safbwyntiau gwahanol a chysylltiedig hynny.
Modiwlau Semester 2:
- Mae Ymchwilio i Gerddoriaeth (20 o gredydau) yn eich paratoi i ymgymryd â phroject ymchwil yr haf; mae’n ymdrin ag agweddau megis methodolegau ymchwil, ysgrifennu cynigion, rheoli eich project. -
- Mae Ennyn Diddordeb Cynulleidfaoedd (20 o gredydau) yn canolbwyntio ar gerddoleg greadigol a chyhoeddus; byddwch yn dysgu sut mae cyfleu syniadau academaidd i amrywiol gynulleidfaoedd, dros ystod eang o gyfryngau.
Yn ogystal, bydd angen i chi ddilyn un modiwl arall sy’n rhoi 20 credyd mewn cerddoriaeth, er enghraifft cyfansoddi, perfformio neu addysg cerddoriaeth neu o faes pwnc arall, gan ddibynnu ar yr hyn sydd ar gael.
Project Meistr (60 o gredydau) (MA):
Dros yr haf byddwch yn ymgymryd â phroject ymchwil, sydd fel arfer ar ffurf traethawd hir a all hefyd gynnwys portffolio o eitemau cerddolegol, gan gynnwys rhifyn beirniadol neu ddadansoddiad (hyd at tua 12,000 o eiriau neu gyfwerth).
Rhaid i fyfyrwyr sy'n dymuno gorffen y rhaglen radd gydag MA mewn Cerddoriaeth gwblhau'r Project Meistr yn llwyddiannus.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Cerddoriaeth.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Mae angen gradd gyntaf o safon 2.ii neu uwch (neu gymhwyster cyfwerth). Fodd bynnag, rhaid i ymgeiswyr sydd â gradd 2.ii feddu ar 2.i mewn project sylweddol (e.e. traethawd hir) yn y maes astudio o'u dewis. Efallai y gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno darn o waith ysgrifenedig 3,000-5,000 o eiriau a all fod naill ai: 1) yn drafodaeth ar bwnc dethol o hanes cerddoriaeth neu ethnogerddoleg; neu 2) dadansoddiad o gyfansoddiad dethol.
Rhaid i'r traethawd fod yn academaidd ei naws a rhaid iddo gynnwys troednodiadau a llyfryddiaeth lawn. Rhaid i'r ymgeiswyr hynny nad yw'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt basio'r prawf Saesneg IELTS gyda sgôr o 6.0 (heb yr un elfen yn is na 5.5).
Gyrfaoedd
Bydd yr MA mewn Cerddoriaeth yn rhoi blas i chi ar ymchwil gwreiddiol, a bydd yn rhoi gwybodaeth pwnc benodol a sgiliau academaidd i chi a fydd yn eich paratoi at astudio pellach ar lefel PhD a thu hwnt. Bydd y rhaglen hefyd yn rhoi sgiliau i chi i feddwl yn feirniadol, dadansoddi a chyfathrebu ac mae'r sgiliau hynny'n uchel eu parch gan gyflogwyr ym maes cerddoriaeth a thu hwnt. Mae graddedigion diweddar wedi dilyn gyrfaoedd llwyddiannus fel awduron, golygyddion, gweinyddwyr y celfyddydau, athrawon, ymgynghorwyr addysgol, perfformwyr a phobl fusnes.