Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae'r rhaglen radd hon yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ddilyn llwybr arbenigol CFA (Dadansoddwr Ariannol Siartredig) a chael y sgiliau i sefyll arholiad CFA Lefel 1 (i fyfyrwyr sy'n cael eu derbyn ym mis Medi a mis Ionawr).
Mae gwasanaethau ariannol a bancio yn sector cystadleuol iawn sy鈥檔 newid yn gyflym ym mhob economi fodern. Mae newidiadau yng ngofynion cwsmeriaid, technoleg, amodau cystadleuol a rheoleiddio yn golygu bod angen i reolwyr, masnachwyr a dadansoddwyr wneud penderfyniadau cyflym a phellgyrhaeddol ynghylch eu gweithrediadau tymor byr a'u strategaethau tymor hir. Mae'r rhaglenni hyn yn gyfle unigryw i astudio theori ac ymarfer uwch mewn perthynas 芒'r gwasanaethau ariannol, ac i werthfawrogi achosion ac arwyddoc芒d datblygiadau cyfredol mewn sector hanfodol a deinamig o'r economi.
Cynlluniwyd y rhaglen聽MSc聽Bancio a Chyllid i ddatblygu eich sgiliau presennol trwy astudiaethau arbenigol uwch. Un amcan pwysig yw darparu hyfforddiant dadansoddol perthnasol i chi, er mwyn i chi fod yn gyfarwydd 芒'r datblygiadau damcaniaethol ac ymarferol diweddaraf sy'n ymwneud 芒 bancio, cyllid a marchnadoedd cyfalaf. Mae'r graddau hyn yn darparu fframwaith damcaniaethol cydlynol ar gyfer y gwahanol feysydd pwnc, ond mae'r pwyslais drwyddi draw ar ddefnyddio technegau ariannol yn ymarferol mewn lleoliad yn y byd go iawn.
Gall y radd MSc fod yn fwy addas i ymgeiswyr 芒 rhywfaint o gefndir blaenorol mewn mathemateg, ystadegau neu econometreg.
Mae pob ffrwd yn derbyn myfyrwyr ym mis Ionawr a mis Medi.
Llwybr arbenigol CFA (Dadansoddwr Ariannol Siartredig)
Mae llawer o鈥檔 rhaglenni gradd yn rhoi'r cyfle i ddilyn llwybr arbenigol CFA (Dadansoddwr Ariannol Siartredig) a chael y sgiliau i sefyll arholiad CFA Lefel 1 (i fyfyrwyr sy'n cael eu derbyn ym mis Medi a mis Ionawr). Erbyn hyn, y CFA yw鈥檙 cymhwyster proffesiynol uchaf ei barch ym maes cyllid yn y byd i gyd.
Bydd myfyrwyr sy'n dilyn y llwybr hwn yn astudio modiwl newydd o'r enw Ymchwil Ariannol a Chyfres CFA yn ystod yr haf. Bydd myfyrwyr yn mynd i seminarau ymchwil ym mis Mehefin ac yna鈥檔 cael hyfforddiant arbenigol i鈥檞 paratoi at yr arholiad CFA Lefel 1 a ddarperir gan聽, sy'n ddarparwr addysg CFA cydnabyddedig ac achrededig. Bydd y dysgu鈥檔 cynnwys dau ddiwrnod o seminarau ymchwil ym mis Mehefin a phum bloc deuddydd o hyfforddiant, ynghyd 芒 dau floc ychwanegol o adolygu yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst. Bydd asesiadau yn dilyn y seminarau a'r hyfforddiant CFA.
Ni chodir unrhyw ffioedd ychwanegol ar fyfyrwyr sy'n dilyn y llwybr hwn.
Ond bydd gofyn i fyfyrwyr gofrestru gyda鈥檙 CFA Institute a thalu er mwyn sefyll yr arholiad. Telir ffioedd cofrestru ac arholiad i'r聽.
Gallwch gofrestru ar y llwybr CFA hwn ar 么l i chi gyrraedd 亚洲色吧. Os hoffech wneud ymholiadau ymlaen llaw, cysylltwch ag聽owain.apgwilym@bangor.ac.uk.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae鈥檙 rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Bancio a Chyllid.
Mae cynnwys y cwrs wedi鈥檌 nodi i鈥檆h arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Er mwyn cael mynediad i'r rhaglen MSc Bancio a Chyllid mae angen gradd israddedig dda mewn pwnc perthnasol, (e.e. Cyfrifeg, Bancio, Cyllid, Busnes, Rheolaeth a Marchnata) gan brifysgol, neu gymhwyster tebyg gan sefydliad arall. Fel arall, gellir eich derbyn os oes gennych gymhwyster proffesiynol addas a phrofiad ymarferol perthnasol. Yn gyffredinol, fodd bynnag, caiff ymgeiswyr eu dewis ar sail eu rhinweddau unigol. Caiff profiad gwaith a ffactorau eraill hefyd eu hystyried.