Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae Ysgol y Gyfraith 亚洲色吧 yn cynnig goruchwyliaeth arbenigol i raddau PhD, MPhil a LLM trwy ymchwil mewn amrywiaeth o feysydd cyfreithiol. Am radd PhD, disgwylir i ymgeiswyr gyflwyno canlyniadau eu hymchwil mewn traethawd ymchwil sy'n gyfraniad gwreiddiol sylweddol at wybodaeth yn y maes pwnc a astudiwyd, a sefyll arholiad llafar (viva voce). Am radd MPhil, disgwylir i ymgeiswyr gwblhau rhaglen o ymchwil dan oruchwyliaeth yn llwyddiannus, a chyflwyno'r canlyniadau mewn traethawd ymchwil. Neu, yn hytrach na gwneud gradd LLM hyfforddedig am flwyddyn, gellwch wneud gradd LLM trwy Ymchwil am flwyddyn ar bwnc ymchwil penodol a chyflwyno traethawd hir 30,000 o eiriau.
Caiff pob myfyriwr ymchwil oruchwyliwr sydd 芒 diddordeb ymchwil yn y pwnc astudio a ddewiswyd ganddynt. Bydd eich goruchwyliwr yn rhoi cyngor a chyfarwyddyd i chi ar eich dewis o bwnc; cyngor ar y llenyddiaeth yn eich maes a sut i fynd ati; dulliau ymchwil; fframwaith, cynnwys a chyflwyno traethawd ymchwil; gwerthuso drafftiau o'ch traethawd ymchwil yn feirniadol; ac, yn achos myfyrwyr PhD, cyngor ar baratoi at eich arholiad llafar.
Anogir darpar ymgeiswyr i ymgynghori 芒 gwefan Ysgol Y Gyfraith i gael manylion staff academaidd, eu harbenigedd a'u diddordebau ymchwil, a'r meysydd y mae'r Ysgol yn cynnig goruchwyliaeth ymchwil ynddynt.