Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae hwn yn gwrs byr dysgu cyfunol,Ìýlefel 6 mewn Presgripsiynu Annibynnol, ac mae’nÌýagored i nyrsys cofrestredig yn unig.Ìý
Os oes gennych ddiddordeb yn y cwrs Presgripsiynu Annibynnol Lefel 7, cliciwch yma: Presgripsiynu Annibynnol (NHS-4258).Ìý
Bydd y cwrs yn dechrau ar 18 Medi, 2025.
Bydd agweddau o’r addysgu yn cael eu cyflwyno ar y cyd â’r cwrs Presgripsiynu i Fferyllwyr. Mae natur aml-broffesiynol y cwrs byr hwn yn rhoi cyfle gwerthfawr i weithwyr proffesiynol profiadol rannu eu gwybodaeth a'u sgiliau a datblygu gwahanol safbwyntiau ar arfer presgripsiynu. Bydd dysgu rhyngbroffesiynol yn annog ymagwedd gydweithredol tuag at ddysgu a gweithio sy'n canolbwyntio ar dîm. Yn seiliedig ar hyn, bydd disgwyl i chi chwarae rhan weithredol mewn dysgu rhyngbroffesiynol yn ystod y rhaglen trwy rannu eich arbenigedd a'ch safbwynt proffesiynol.Ìý
Bydd y cwrs yn sicrhau eich bod yn gyfarwydd ag egwyddorion cyffredinol arfer presgripsiynu y mae'n rhaid i chi eu defnyddio yn eich maes arbenigedd clinigol eich hun, a’ch bod yn gallu eu defnyddio yn eich gwaith. Bydd testunau'n cael eu cyflwyno mewn arddull generig a bydd y siaradwyr yn cyfeirio at eu profiad clinigol eu hunain i ddarparu enghreifftiau clinigol, fodd bynnag gellir cymhwyso'r egwyddorion a drafodir i bob maes ymarfer. Bydd y cwrs yn eich galluogi i ehangu ar eich gwybodaeth bresennol a chymhwyso'r rhain i egwyddorion presgripsiynu. Bydd hyn yn darparu sylfaen gref ar gyfer eich datblygiad fel presgripsiynydd annibynnol/atodol newydd gymhwyso.Ìý
I bwy mae’r cwrs hwn yn addas?
Mae'r cwrs byr Presgripsiynu lefel 6 hwn wedi'i anelu at nyrsys cofrestredig sy'n dymuno dod yn bresgripsiynwyr annibynnol ond sydd heb unrhyw dystiolaeth ddiweddar neu syth a thystiolaeth gyfyngedig o astudiaeth academaidd. Ìý
Bydd y lefel academaidd addas yn cael ei drafod gyda chi yn y cyfweliad.Ìý
Mae'r cwrs hwn wedi'i anelu at nyrsys cofrestredig sy’n cydnabod y byddai cymhwyso fel presgripsiynydd annibynnol o fudd i ofal cleifion.
Pam astudio’r cwrs? Beth ydi prif nôd y cwrs?
Bydd y cwrs byr, heriol ond gwerth chweil hwn yn galluogi dealltwriaeth o gyfrifoldebau clinigol, cyfreithiol a moesegol presgripsiynwyr annibynnol.ÌýÌýBydd y wybodaeth a’r sgiliau a ddysgir ar y cwrs yn eich grymuso i fabwysiadu dull o bresgripsiynu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn o fewn eich cwmpas ymarfer a nodwyd.Ìý
Trwy ddysgu gyda, a chan, weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill megis nyrsys, bydwragedd, ffisiotherapyddion, parafeddygon a fferyllwyr, byddwch yn cael eich grymuso i hwyluso ymagwedd aml-broffesiynol at arfer presgripsiynu er mwyn gwella gofal cleifion.Ìý
Pa mor hir mae'r cwrs yn cymryd i'w gwblhau?
Mae'r cwrs rhan-amser hwn yn ymestyn dros 7 mis.Ìý
Bydd y dysgu yn cael ei gyflwyno bob dydd Iau ar ein campws ym Mangor rhwng Medi 2025 - Mawrth, 2026.Ìý
- Medi 18fed, 25ain
- Hydref 2il, 9fed (o bell), 16eg
- Tachwedd 6ed, 20fed, 27ain
- Rhagfyr 11eg
- Ionawr 16eg
- Chwefror 12fed
- Mawrth 5ed
Bydd 11 wythnos pellach o astudio hunan-gyfeiriedig er mwyn paratoi ar gyfer aseiniadau.
Bydd yr aseiniad terfynol yn cael ei gyflwyno ym mis Ebrill 2026.Ìý
Mae hefyd yn ofynnol i fyfyrwyr gwblhau o leiaf 90 awr mewn ymarfer clinigol dan oruchwyliaeth Ymarferydd Presgripsiynu Dynodedig (DPP).Ìý
Noder y gallai’r uchod newid o ganlyniad i’r broses ail ddilysu.Ìý
Tiwtor
Ffion SimcoxÌý

Ffion yw arweinydd y cyrsiau presgripsiynu ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, yn ogystal ag arweinydd yr MSc mewn Ymarfer Clinigol Uwch.Ìý
Mae Ffion hefyd yn ddirprwy gadeirydd o Rhwydwaith Addysgwyr Ymarfer Uwch Cymru (WAPEN).Ìý
Cymhwysodd Ffion fel nyrs gofrestredig yn 1996 ac fel presgripsiynydd annibynnol yn 2011. Cwblhaodd ei MSc mewn Ymarfer Clinigol Uwch yn 2012 a gweithiodd fel ACP mewn meddygaeth acÃwt am 6 mlynedd cyn ymuno â'r Brifysgol.Ìý
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Bydd y cwrs byr heriol ond gwerth chweil hwn yn galluogi dealltwriaeth o gyfrifoldebau clinigol, cyfreithiol a moesegol presgripsiynwyr annibynnol. Ìý
Bydd y wybodaeth a’r sgiliau a ddysgir ar y cwrs yn eich grymuso i fabwysiadu dull o bresgripsiynu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn o fewn eich cwmpas ymarfer a nodwyd.Ìý
Trwy ddysgu gyda, a chan, weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill megis nyrsys, bydwragedd, ffisiotherapyddion, parafeddygon a fferyllwyr, byddwch yn cael eich grymuso i hwyluso ymagwedd aml-broffesiynol at arfer presgripsiynu er mwyn gwella gofal cleifion.Ìý
Beth fydd y dysgwr yn ei gael allan o’r cwrs?
Cewch eich addysgu gan bersgripsiynwyr annibynnol a meddygol profiadol o wahanol gefndiroedd proffesiynol. Cefnogir yr addysgu gan glinigwyr arbenigol i sicrhau bod y cynnwys yn berthnasol ac yn cyd-fynd a ymarfer clinigol.Ìý
Erbyn diwedd y cwrs, bydd dysgwyr yn gallu gwerthfawrogi, deall ac arddangos y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ddod yn bresgripsiynydd annibynnol, diogel ac effeithiol, gyda phwyslais ar ofal unigol, fel yr amlinellir yn gan y Royal Pharmaceutical Society.Ìý
Ar ôl cwblhau'r cwrs byr hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu cofrestru eu statws presgripsiynu annibynnol/atodol gyda'u corff rheoleiddio.Ìý
Cost y Cwrs
Dylid cyfeirio ymholiadau ynghylch cyllid Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) at bcu.nurseeducation@wales.nhs.uk.
- Mae’n bosibl y bydd cyfleoedd ariannu ar gael i’r rhai sy’n gweithio’n lleol (h.y. yn ardaloedd gogledd Cymru a Phowys), cysylltwch â’r cydlynydd modiwl perthnasol am fanylion.
- Dylid cyfeirio pob ymholiad arall yn ymwneud â cheisiadau a chyllid at gydlynydd y modiwl .
Gweler ein tudalen Ffioedd a Chyllid Israddedigion am ragor o wybodaeth.
Ìý
Gofynion Mynediad
Ymarferwyr sydd wedi cofrestru gyda’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC):Ìý
- Nyrs, bydwraig, neu nyrs iechyd cyhoeddus cymunedol arbenigol cofrestredig.Ìý
- Wedi cofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ers o leiaf blwyddyn cyn gwneud caisÌý
- Bydd angen nodi enw Asesydd Ymarfer a Goruchwyliwr Ymarfer addas i gyflawni rolau'r Ymarferydd Presgripsiynu Dynodedig (DPP) wrth gyflwyno’r cais.Ìý
Gwneud Cais
Cysylltwch â Helen Charles (hsp23f@bangor.ac.uk) neu Ffion Simcox (f.simcox@bangor.ac.uk) i gael canllaw manwl ar sut i gwblhau'r cais llawn.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn einÌý
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau.
Ar ôl creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch 'Heb raddio Israddedig'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch Modiwlau a Addysgir nad ydynt yn Graddio mewn Iechyd (NGU/HS) Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl:ÌýPresgripsiynu Annibynnol y cod ywÌýNHS: 3212. Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster ôl-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach).
Os ydych yn cael eichÌýariannu gan AaGIC / Bwrdd Iechyd, atebwch y cwestiynau a ganlyn:
- Sut byddwch chi'n ariannu'ch astudiaethau?ÌýNoddedig
- Union enw'r awdurdod cyllido:ÌýBwrdd Iechyd
- Gwlad:ÌýY Deyrnas Unedig
- Rhowch fanylion swm y dyfarniad?ÌýWedi'i ariannu'n llawn.
- Bydd y nawdd yn cynnwys:ÌýFfioedd DysguÌýÌý
- A ydych chi wedi derbyn y cyllid hwn?ÌýDewiswch ‘ie’ * Sylwch y bydd gofyn i chi uwchlwytho tystiolaeth o’r cyllid.ÌýOs hoffech gadarnhau ‘ie’ i’r cwestiwn hwn, ondÌýnad oesÌýgennych unrhyw gadarnhad ysgrifenedig i’w uwchlwytho, gallwch uwchlwytho’ch ddogfen Word yma eto.
Os ydych ynÌýhunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol