Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Caiff y cwrs byr, lefel 6 rhan-amser hwn ei gyflwyno ar-lein.
I bwy mae鈥檙 cwrs hwn yn addas?
Mae鈥檙 cwrs byr yma鈥檔 addas ar gyfer unrhyw weithiwr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ag anghenion iechyd meddwl, megis:
- Staff y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS)
- Nyrsys Ysgol
- Gweithwyr Cymdeithasol
- Ymwelwyr Iechyd
- Therapyddion Galwedigaethol
- Nyrsys Iechyd Meddwl i Oedolion
- Nyrsys Pediatrig
- Ymarferwyr Anabledd Dysgu
- Therapyddion Celf
- Therapyddion Iaith a Lleferydd
- Deietegwyr
Dylai myfyrwyr fod yn gweithio gyda phlant, a bydd angen gallu sicrhau mynediad (trwy drefniant ymlaen llaw gyda rheolwyr gwasanaeth) i gyfleoedd fydd yn eu cefnogi i gyflawni鈥檙 deilliannau dysgu clinigol.
Pam astudio鈥檙 cwrs?
Mae'r cwrs deinamig hwn sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, wedi ei ddylunio mewn partneriaeth 芒 Gwella Addysg Iechyd Cymru (AaGIC) a Byrddau Iechyd ledled Cymru er mwyn cefnogi a gwella ymarfer ymarferwyr sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.
Mae鈥檙 cwrs byr hwn wedi鈥檌 ddylunio er mwyn cefnogi'r dysgwr i:
- ddysgu am ystod o bynciau perthnasol fydd yn galluogi ymarferwyr i ddarparu gofal diogel ac effeithiol i blant a phobl ifanc. Mae'r ymyriadau a addysgir yn adlewyrchu'r lleoliadau gwaith amrywiol er mwyn galluogi'r dysgwr i ganolbwyntio ar ymarferoldeb yr ymyriadau o fewn cyd-destun aml broffesiynol.
- nodi ac asesu problemau ac anhwylderau iechyd meddwl mewn plant a phobl ifanc a allai fod angen ymyrraeth therapiwtig bellach.
- feithrin sgiliau er mwyn datblygu fformwleiddiadau seicolegol, ecolegol a systemig fel modd o ddeall a chynnig triniaethau ar gyfer lles seicolegol a meddyliol plant a phobl ifanc.
- ddysgu am y fframweithiau cyfreithiol sy'n ymwneud 芒 gofalu am blant a phobl ifanc sydd 芒 phroblemau ac anhwylderau iechyd meddwl (e.e. amddiffyn plant; mesur iechyd meddwl; deddf iechyd meddwl, ac ati)
- drafod damcaniaethau datblygiad plant sy'n ymwneud 芒 deall a gofalu am blant a phobl ifanc sydd 芒 phroblemau ac anhwylderau iechyd meddwl.
- werthuso a beirniadu'r sylfaen dystiolaeth a'r dulliau therapiwtig a brofwyd ac a addysgir yn ystod y modiwl, a'r r么l y mae goruchwyliaeth glinigol yn ei chwarae.
- werthuso eu gallu i gyflwyno rhaglen ofal ar gyfer plentyn, person ifanc, a鈥檜 teulu o fewn maes clinigol y dysgwr trwy fyfyrio ar ymarfer. Hefyd, i allu esbonio'r prosesau myfyriol a ddefnyddiwyd i gyfrannu at ofal cydweithredol.
Pa mor hir mae'r cwrs yn cymryd i'w gwblhau?
Mae'r cwrs rhan-amser, ar-lein hwn yn cael ei gynnal yn ystod semester 2 o鈥檙 flwyddyn academaidd.
Bydd y cwrs yn dechrau ar 16 Ionawr 2025 a bydd yn cael ei gynnal unwaith yr wythnos, bob dydd Iau, o 9am-5pm tan 10 Gorffennaf 2025.
Gwybodaeth am asesiadau
Bydd yr asesiadau ar y cwrs byr hwn yn cynnwys:
- Datblygu portffolio personol, adfyfyriol er mwyn adfyfyrio ar y dysgu wrth symud ymlaen trwy'r modiwl. Hefyd, dylid ystyried goblygiadau'r dysgu yn y lleoliad ymarfer, os ydi hynny鈥檔 berthnasol.
- Aseiniad astudiaeth achos (4,000 gair)
Rhaid cwblhau a phasio鈥檙 aseiniad a'r portffolio clinigol er mwyn cwblhau鈥檙 cwrs lefel 6 yn llwyddiannus.
Tiwtoriad
Mari Roberts, Darlithydd ac Arweinydd Modiwl, Ysgol Gwyddorau Iechyd

Nia Dwynwen, Darlithydd a Dirprwy Arweinydd Modiwl, Ysgol Gwyddorau Iechyd

Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Mae鈥檙 cwrs byr hwn yn cyflwyno dysgwyr i bynciau amrywiol, gan gynnwys:
- Datblygiad plant
- Problemau ac anhwylderau iechyd meddwl plant a phobl ifanc
- Rheoli gofal
- Strwythurau darparu gwasanaethau, gan gynnwys materion pontio a fframweithiau cyfreithiol a moesegol
- Amddiffyn plant a materion diogelu eraill
Bydd myfyrwyr hefyd yn dysgu am yr ystod o ymyriadau therapiwtig a ddefnyddir i leihau trallod mewn plant, pobl ifanc, a'u teuluoedd neu ofalwyr.
Mae鈥檙 maes llafur yn cynnwys amrywiaeth o bynciau cyffrous sy'n seiliedig ar dystiolaeth, theori a chymwyseddau.
Bydd hyn yn galluogi'r ymarferydd i gyd-gynhyrchu gofal gyda phlant a pobl ifanc, ynghyd a鈥檜 gofalwyr, teuluoedd a'u ffrindiau er mwyn sicrhau gofal sydd a ffocws ar y plentyn, ac sy鈥檔 bwrpasol ac yn systemig.
Mae elfennau 鈥榙ysgu鈥 a鈥檙 elfennau 鈥榥ad sy鈥檔 cael eu dysgu鈥 o鈥檙 cwrs hwn wedi eu cynllunio i arfogi鈥檙 dysgwr gyda鈥檙 wybodaeth a鈥檙 dulliau angenrheidiol er mwyn gweithio
ym maes Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS).
Cost y Cwrs
- Dylid cyfeirio ymholiadau ynghylch ariannu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a bcu.nurseeducation@wales.nhs.uk.
- Mae'n bosibl y bydd cyfleoedd ariannu ar gael i rai sy'n gweithio'n lleol (h.y. yn ardaloedd gogledd Cymru a Phowys), cysylltwch 芒'r cydlynydd modiwl perthnasol am fanylion.
- Dylid cyfeirio pob ymholiad arall sy'n ymwneud 芒 cheisiadau ac ariannu at gydlynydd y modiwl.
Ewch i dudalen Ffioedd a Chyllid israddedig er mwyn cael gwybodaeth bellach.
Gofynion Mynediad
Rhaid i ymgeiswyr fodloni'r meini prawf canlynol i gael eu hystyried yn gymwys ar gyfer y cwrs hwn:
- wedi cofrestru gyda chorff proffesiynol perthnasol, ac:
- wedi eu cyflogi gan wasanaeth iechyd neu gymdeithasol
- 芒 chyswllt uniongyrchol 芒 phlant a phobl ifanc, a鈥檜 gofalwyr/teulu yng nghyd-destun eu lles emosiynol
- 芒 chefnogaeth mentor ymarfer sy'n glinigwr profiadol ym maes iechyd meddwl plant a phobl ifanc, a
- 芒 chymeradwyaeth ysgrifenedig gan eu rheolwr i fod yn gymwys i fod yn bresennol.
Os nad oes gennych radd israddedig, cysylltwch ag arweinydd y cwrs i drafod ymhellach os gwelwch yn dda.
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn si诺r eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau
Ar 么l creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch 'Heb raddio Israddedig'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch Modiwlau a Addysgir nad ydynt yn Graddio mewn Iechyd (NGU/HS) Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl: Gweithio gyda phlant a phobl ifanc: y cod yw GIG-3131. Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster 么l-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach).
Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word.
Os ydych yn cael eich ariannu gan AaGIC / Bwrdd Iechyd, atebwch y cwestiynau a ganlyn:
- Sut byddwch chi'n ariannu'ch astudiaethau? Noddedig
- Union enw'r awdurdod cyllido: Bwrdd Iechyd
- Gwlad: Y Deyrnas Unedig
- Rhowch fanylion swm y dyfarniad? Wedi'i ariannu'n llawn.
- Bydd y nawdd yn cynnwys: Ffioedd Dysgu
- A ydych chi wedi derbyn y cyllid hwn? Dewiswch 鈥榠e鈥 * Sylwch y bydd gofyn i chi uwchlwytho tystiolaeth o鈥檙 cyllid. Os hoffech gadarnhau 鈥榠e鈥 i鈥檙 cwestiwn hwn, ond nad oes gennych unrhyw gadarnhad ysgrifenedig i鈥檞 uwchlwytho, gallwch uwchlwytho鈥檆h ddogfen Word yma eto.
Os ydych yn hunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol