Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
This is a part-time, level 7 short course delivered online.
I bwy mae鈥檙 cwrs hwn yn addas?
Mae鈥檙 cwrs hwn yn addas i fydwragedd, neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig eraill sy鈥檔 gweithio ym maes bydwreigiaeth neu ofal mamolaeth neu fel rhan o鈥檙 t卯m amlddisgyblaethol sy鈥檔 darparu gofal i bobl, merched a theuluoedd ar draws y continwwm geni.
Pam astudio鈥檙 cwrs?
Nod y modiwl hwn yw paratoi gweithwyr iechyd mamolaeth proffesiynol i optimeiddio'r profiad o roi genedigaeth i'r merched a'r teuluoedd y maent yn gofalu amdanynt - ar draws y continwwm cyn-geni, mewnbartwm ac 么l-enedigol. Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ystyried sut y gallwn optimeiddio鈥檙 profiad o roi genedigaeth i bob merch a鈥檜 baban newydd-anedig, yn hytrach na chanolbwyntio鈥檔 llwyr ar wella gofal o fewn paramedrau culach yr agenda geni arferol. Mae鈥檙 fframwaith ar gyfer gofal o safon i鈥檙 fam a鈥檙 baban newydd-anedig (Renfrew et al, 2014) yn darparu鈥檙 athroniaeth sy鈥檔 sail i鈥檙 modiwl.
Pa mor hir mae鈥檙 cwrs yn cymryd i'w gwblhau? ?
Cynhelir y cwrs byr hwn dros gyfnod o 12 wythnos ac mae鈥檔 cynnwys 5 diwrnod o ddarlithoedd (un diwrnod yr wythnos dros 5 wythnos). Y dyddiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 24/25 yw:
- 07/10/2024
- 14/10/2024
- 28/10/2024
- 04/11/2024
- 18/11/2024
Bydd dysgwyr yn ymgymryd a 100 awr o astudio hunangyfeiriedig yn ystod y 12 wythnos, a bydd cyfle am diwtorialau wyneb yn wyneb neu ar-lein yn ystod y cwrs.
Bydd y cwrs byr hwn yn cael ei gynnal fel rheol yn ystod semester 1 o'r flwyddyn academaidd.
Asesiadau:
Mae鈥檙 asesiadau ar y cwrs byr hwn yn cynnwys:
- Cyflwyniad poster
- Aseiniad 3,000 o eiriau yn ymwneud 芒'r cyflwyniad. Bydd y dulliau asesu hyn yn galluogi'r dysgwr i ddatblygu sgiliau llafar, ysgrifenedig a chreadigol mewn amgylchedd colegol.
Tiwtor
Ruth Lovelady
Mae Ruth yn fydwraig brofiadol gyda dros 25 mlynedd o brofiad yn rhychwantu gyrfa sy鈥檔 cynnwys gweithio yn yr ysbyty a lleoliadau cymunedol, fel goruchwyliwr bydwreigiaeth, bydwraig datblygu ymarfer, aelod o gyngor nyrsio a bydwreigiaeth (panel yr NMC), a phrofiad fel tyst arbenigol.
Mae Ruth wedi bod yn gweithio ym maes addysg bydwreigiaeth ers dros 10 mlynedd ac mae bellach yn Fydwraig 芒 Phrif Gyfrifoldeb dros Addysg ym Mhrifysgol 亚洲色吧.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Mae'r modiwl hwn yn defnyddio fframwaith Lancet ar gyfer 'gofal o safon i鈥檙 fam a鈥檙 baban newydd-anedig' (Renfrew et al, 2014) i strwythuro ein hystyriaeth o'r gofal mamolaeth gorau posibl.
Beth fydd y dysgwr yn ei gael allan o鈥檙 cwrs?
Erbyn diwedd y cwrs byr hwn, bydd dysgwyr yn gallu:
- Dadansoddi a thrafod yn feirniadol ffisioleg a seicoleg y fam a/neu eu ffetws / baban newydd-anedig sy'n hwyluso'r profiad geni gorau posibl
- Gwerthuso maes ymarfer yn feirniadol mewn perthynas 芒 darparu amgylchedd gofal gorau posibl i ferched a/neu eu ffetws/babanod newydd-anedig
- Gwerthuso鈥檔 feirniadol r么l y gweithiwr iechyd proffesiynol, a r么l y t卯m proffesiynol ehangach, wrth weithio i gynnal yr amgylchedd gofal gorau posibl i ferched a/neu eu ffetws / babanod newydd-anedig. Dylai hyn gynnwys ystyriaeth o ymarfer perthnasol, rhwystrau cymdeithasol a diwylliannol a hwyluswyr.
Cost y Cwrs
- Dylid cyfeirio ymholiadau ynghylch ariannu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a bcu.nurseeducation@wales.nhs.uk.
- Mae'n bosibl y bydd cyfleoedd ariannu ar gael i rai sy'n gweithio'n lleol (h.y. yn ardaloedd gogledd Cymru a Phowys), cysylltwch 芒'r cydlynydd modiwl perthnasol am fanylion.
- Dylid cyfeirio pob ymholiad arall sy'n ymwneud 芒 cheisiadau ac ariannu at gydlynydd y modiwl.
Ewch i dudalen Ffioedd a Chyllid 脭l-raddedig er mwyn cael gwybodaeth bellach.
Gofynion Mynediad
Rhaid i ymgeiswyr fodloni'r meini prawf canlynol i gael eu hystyried yn gymwys ar gyfer y cwrs hwn:
- Bydwragedd cofrestredig, neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig eraill sy'n gweithio mewn maes gofal iechyd perthnasol.
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn si诺r eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau
Ar 么l creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch 'Heb raddio ol-raddedig'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch Modiwlau a Addysgir nad ydynt yn Graddio mewn Iechyd (NGGT/HEALTH) Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl: Genedigaeth Optimaidd y cod yw GIG-4385. Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster 么l-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach).
Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word.
Os ydych yn cael eich ariannu gan AaGIC / Bwrdd Iechyd, atebwch y cwestiynau a ganlyn:
- Sut byddwch chi'n ariannu'ch astudiaethau? Noddedig
- Union enw'r awdurdod cyllido: Bwrdd Iechyd
- Gwlad: Y Deyrnas Unedig
- Rhowch fanylion swm y dyfarniad? Wedi'i ariannu'n llawn.
- Bydd y nawdd yn cynnwys: Ffioedd Dysgu
- A ydych chi wedi derbyn y cyllid hwn? Dewiswch 鈥榠e鈥 * Sylwch y bydd gofyn i chi uwchlwytho tystiolaeth o鈥檙 cyllid. Os hoffech gadarnhau 鈥榠e鈥 i鈥檙 cwestiwn hwn, ond nad oes gennych unrhyw gadarnhad ysgrifenedig i鈥檞 uwchlwytho, gallwch uwchlwytho鈥檆h ddogfen Word yma eto.
Os ydych yn hunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol