Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Nid yw plant yn bodoli ar eu pen eu hunain, maent yn rhan o system gymdeithasol, deuluol a chyfreithiol gymhleth sy鈥檔 llywio eu profiadau bywyd. Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno theori allweddol a dadleuon am Blentyndod i helpu i ddatblygu eich ffyrdd o weithio gyda Phlant a Phobl Ifanc.
I bwy mae鈥檙 cwrs hwn yn addas?
Mae鈥檙 cwrs byr hwn ar gyfer pobl sy鈥檔 gweithio gyda phlant a phobl ifanc ac sydd eisiau cefnogi eu datblygiad, eu hiechyd meddwl a鈥檜 lles.
Pam astudio鈥檙 cwrs?
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i roi'r canlynol i chi:
- Dealltwriaeth feirniadol wybodus o safbwyntiau cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol plentyndod ac ieuenctid.
- Y gallu i ddisgrifio a gwerthuso damcaniaethau datblygiad a phontio mewn plant a phobl ifanc.
- Dealltwriaeth feirniadol o ddamcaniaethau iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc mewn cyd-destun cymhwysol.
- Y gallu i greu adnoddau cymorth iechyd meddwl sy'n seiliedig ar theori a thystiolaeth empirig.
Pa mor hir mae'n ei gymryd i gwblhau'r cwrs?
Mae鈥檙 cwrs byr hwn yn rhedeg dros 6 wythnos, fel arfer yn ystod semester gyntaf o'r flwyddyn academaidd.
Gwybodaeth am asesiadau
Bydd asesiadau ar y cwrs byr hwn yn cynnwys:
- Arholiad Llafar Gr诺p (20 munud)
- Creu Adnodd Seicoaddysgol ar gyfer plant a/neu bobl ifanc (2000 o eiriau)
Tiwtor

Dr. Nia Young yw Cyfarwyddwr Dysgu Proffesiynol ac Ymgysylltiad Cymunedol yr Ysgol Addysg, ac mae'n darlithio mewn Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid yn ogystal 芒 Chwnsela Plant a Phobl Ifanc. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar ddefnydd iaith leiafrifol a'i effaith ar hunan-barch plant. Fel eiriolwr ymroddedig dros hawliau plant, mae Dr. Young wedi hyrwyddo llais ieuenctid mewn prosesau gwneud penderfyniadau trwy ei r么l gydag Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol y Plentyn a thrwy sefydlu Uwchgynadleddau Ieuenctid 亚洲色吧. Mae鈥檙 uwchgynadleddau hyn yn casglu plant a phobl ifanc o bob rhan o Gymru i gwrdd 芒 gwleidyddion ac ymchwilwyr, gan annog trafodaethau ar y newidiadau y mae pobl ifanc am eu gweld i sicrhau eu dyfodol.
Bu Dr Young hefyd yn cydweithio 芒 Phrifysgol Wrecsam i ddarparu Prifysgol y Plant yng Ngogledd Cymru, gan ehangu mynediad plant a phobl ifanc i weithgareddau allgyrsiol i ysbrydoli mwy o gyfleoedd ac annog uchelgais. Yn gefnogwr cryf dros les a hawliau cyfranogiad plant, mae hi鈥檔 ymwneud ag archwilio sut mae canfyddiadau cymdeithasol o blentyndod yn siapio profiadau a chyfleoedd plant.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Bydd y modiwl yn eich cyflwyno i'r patrymau allweddol sydd wedi dylanwadu ar faes amlddisgyblaethol astudiaethau plentyndod ac ieuenctid, tra hefyd yn ymwneud ag Ymchwil Cenedlaethol a Rhyngwladol a pholisi sy'n ymwneud 芒 phlant a phobl ifanc yn yr 21ain ganrif. Byddwch yn cael cyfle i fyfyrio'n feirniadol ar eich ymarfer, eich credoau a'ch dealltwriaeth eich hun o statws plant a phobl ifanc mewn Cymdeithas. Byddwch yn ennill dealltwriaeth ddyfnach o ddatblygiad plant ac iechyd meddwl. Yna byddwch yn archwilio materion cyfoes allweddol sy'n effeithio ar ddatblygiad ac iechyd plant a phobl ifanc. Byddwch hefyd yn ystyried safbwyntiau cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol plentyndod ac ieuenctid, gyda chofus penodol ar y syniad o blant fel asiantau a deiliaid hawliau. Yn bwysicaf oll, byddwch yn cael eich annog i herio tybiaethau a gymerir yn ganiataol am blant a phlentyndod.
Pam astudio鈥檙 cwrs?
Rhestr o unedau
Gall y pynciau a drafodir yn y modiwl hwn gynnwys:
- Ystyron plentyndod ac ieuenctid ar draws hanes a diwylliannau
- Effaith lluniadau cymdeithasegol plentyndod ar bolisi a deddfwriaeth, gan gynnwys hawliau cyfranogiad plant mewn ymarfer
- Datblygiad plant a phontio
- Iechyd meddwl a lles mewn plant a phobl ifanc
- Seicoffarmacoleg yn ystod datblygiad ffurfiannol
- Chwarae, ymlacio, a hunangymorth trwy blentyndod ac ieuenctid
Cost y Cwrs
- Ewch i dudalen Ffioedd a Chyllid 脭l-raddedig er mwyn cael gwybodaeth bellach.
Ariannu
- Ewch i dudalen Ffioedd a Chyllid 脭l-raddedig er mwyn cael gwybodaeth bellach.
Gofynion Mynediad
Mae hwn wedi'i anelu at y rheini sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn unrhyw leoliad. Mae'n fodiwl lefel 么l-raddedig ac felly byddai disgwyl i ymgeiswyr fod wedi cwblhau gradd israddedig fel arfer. Byddwn hefyd yn ystyried ymgeiswyr sydd ag o leiaf 3 blynedd o brofiad gwaith perthnasol ac sydd 芒 thystiolaeth o astudio diweddar neu ddatblygiad proffesiynol (i ddangos gallu i astudio ar lefel 7).
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn si诺r eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau
Ar 么l creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch 'Heb raddio olraddedig'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch 鈥楴on-Graduating Taught Modules in Education (NGGT/EDU)'. Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl: Deall Plentyndod a Ieuenctid: y cod yw (PPC-4013). Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster 么l-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach).
Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word.
Os ydych yn cael eich ariannu gan AaGIC / Bwrdd Iechyd, atebwch y cwestiynau a ganlyn:
- Sut byddwch chi'n ariannu'ch astudiaethau? Noddedig
- Union enw'r awdurdod cyllido: Bwrdd Iechyd
- Gwlad: Y Deyrnas Unedig
- Rhowch fanylion swm y dyfarniad? Wedi'i ariannu'n llawn.
- Bydd y nawdd yn cynnwys: Ffioedd Dysgu
- A ydych chi wedi derbyn y cyllid hwn? Dewiswch 鈥榠e鈥 * Sylwch y bydd gofyn i chi uwchlwytho tystiolaeth o鈥檙 cyllid. Os hoffech gadarnhau 鈥榠e鈥 i鈥檙 cwestiwn hwn, ond nad oes gennych unrhyw gadarnhad ysgrifenedig i鈥檞 uwchlwytho, gallwch uwchlwytho鈥檆h ddogfen Word yma eto.
Os ydych yn hunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol