Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae hwn yn gwrs byr rhan-amser, ar lefel 7 sy'n cael ei gynnal ar ein campws ym Mangor ac a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg.Ìý
I bwy mae’r cwrs hwn yn addas?Ìý
Mae'r cwrs byr hwn yn addas ar gyfer myfyrwyr graddedig a gweithwyr sector cyhoeddus, y sector breifat a’r trydydd sector proffesiynol sy'n gyfrifol am faes polisi a chynllunio ieithyddol, gan gynnwys swyddogion iaith, datblygwyr cymunedol, swyddogion llywodraeth leol a chenedlaethol, gwneuthurwyr polisi, gweithwyr ym maes gweinyddiaeth gyhoeddus a gweithwyr annibynnol, llawrhydd sy’n ymddiddori ym maes polisi a chynllunio ieithyddol.
Pam astudio’r cwrs?Ìý
Prif nod y cwrs byr hwn yw cyflwyno prif hanfodion polisi a chynllunio ieithyddol i fynychwyr y cwrs. Bydd cyfle i ddiffinio a nodi pwrpas cynllunio ieithyddol a pholisi iaith gan dynnu ar enghreifftiau yng Nghymru a thu hwnt. Byddwn yn cynnig cyd-destun damcaniaethol i'r maes gan drafod rhai o’r brif ddulliau mae cynllunio ieithyddol yn gweithredu o fewn ein cymdeithas heddiw. Bydd y cwrs yn rhoi trosolwg bras o ddatblygiad deddfwriaethol y Gymraeg gan drafod hawliau ieithyddol ac yn pwyso a mesur pwysigrwydd sfferau defnydd iaith allweddol sef y teulu, y gymuned, addysg a’r gweithle. Bydd cyfle i ddysgu mwy am ieithoedd lleiafrifol gwahanol fel y Fasgeg, Llydaweg, Catalaneg a’r Ffriseg a nifer fwy wrth gynnig enghreifftiau o’u strategaethau cynllunio ieithyddol amrywiol.
Mae’r cwrs byr hwn yn rhan o’r rhaglen ÌýMA Polisi a Chynllunio Ieithyddol
Ìý
Pa mor hir mae'n ei gymryd i gwblhau'r cwrs?Ìý
Cynhelir y cwrs byr hwn dros 11 wythnos rhwng mis Medi a mis Rhagfyr, a hynny wyneb yn wyneb ar ein campws ym Mangor (fel arfer ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau). Bydd y cwrs yn cynnwys:
- darlithoedd a seminarau wedi’u cyflwyno mesul blociau 2 awr o addysgu bob wythnos (dros 11 wythnos). Bydd hyn yn digwydd yr un pryd pob wythnos.Ìý
- 178 awr o astudio annibynnol gan ddilyn arweiniad gan arweinydd y cwrs.Ìý
- cyflwyno aseiniad olaf y cwrs ym mis IonawrÌý
Ìý
Tiwtor
Dr Rhian Hodges
Uwchddarlithydd mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý
Mae Dr Rhian Hodges yn Uwch Ddarlithydd mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol yn Ysgol Hanes, Y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ers pymtheg mlynedd bellach. Mae’n arbenigo ym maes polisi a chynllunio ieithyddol, cymdeithaseg, polisi addysg a siaradwyr newydd y Gymraeg. Mae Rhian yn addysgu ar radd cyfrwng Cymraeg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ac yn arwain ar yr M.A Polisi a Chynllunio Ieithyddol ym Mangor. Mae Dr Hodges wedi cyhoeddi’n eang ym meysydd siaradwyr newydd, defnydd y Gymraeg o fewn y gymuned, addysg, y sector iechyd a phlatfformau digidol.Ìý
Mae hi wedi creu a chyfrannu sawl adnodd sy’n annog defnydd o’r Gymraeg mewn sawl maes pwysig megis Pecyn Cymorth Defnyddio’r Gymraeg yn y Gymuned (ar y cyd a Mentrau Iaith Cymru), Pecyn Adnoddau Aml-gyfrwng Cymdeithaseg (gyda Cynog Prys o dan nawdd y CCC) a phrosiect Deunyddiau Dysgu Digidol (Coleg Cymraeg Cenedlaethol/ HEFCW). Mae Dr Hodges wrthi’n creu twlcit a theipoleg sy’n mynd i'r afael â heriau recriwtio siaradwyr dwyieithog o fewn y gweithle (Prys, Bonner a Hodges o dan nawdd Cynllun Her, ARFOR). Mae hi wedi ei chomisiynu i wneud gwaith ymchwil i Gomisiynydd y Gymraeg, Llywodraeth Cyrmu a Chronfa Adfywio Cymunedol y Deyrnas Unedig (drwy Fenter Môn a Chyngor Sir Ynys Môn).Ìý Ìý
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Bydd y cwrs byr hwn yn gosod cynllunio ieithyddol yn ei gyd-destun rhyngwladol gan edrych ar wahanol enghreifftiau o gynllunio iaith mewn gwledydd amrywiol.Ìý
Byddwn y cwrs yn cynnwys:Ìý
- astudiaeth drylwyr o faes cynllunio ieithyddol yng Nghymru gan ganolbwyntio ar ddatblygiad cymdeithasol hanesyddol yr iaith Gymraeg, y system addysg, a datblygiad deddfwriaethol y Gymraeg, yn enwedig Deddf yr Iaith Gymraeg 1967, Deddf yr Iaith 1993 a Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
- cynlluniau iaith amrywiol, gan gynnwys Cynllun Iaith Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, yn ogystal â’r symudiad tuag at safonau’r Mesur Iaith.Ìý
- y ddadl ynglŷn â hawliau ieithyddol, yn enwedig hawliau siaradwyr ieithoedd lleiafrifol a grwpiau ieithyddol.
- astudiaeth o'r Gymraeg fel iaith i ddefnyddiwr ac yn ogystal yn ffocysu ar drafod defnydd iaith mewn sfferau trosglwyddo ieithoedd lleiafrifol sef yr aelwyd, y gymuned, y system addysg a’r gweithle.
Ìý
Rhestr o unedauÌýÌý
Mae maes llafur y cwrs byr yn cynnwys yr elfennau canlynol, ond nid yw’n gyfyngedig iddynt:
1.ÌýÌý ÌýCyflwyno Cynllunio Ieithyddol – diffinio a nodi pwrpas y maes
2.ÌýÌý ÌýDal dy dir – brwydr barhaus ieithoedd lleiafrifolÌý
3.ÌýÌý ÌýDeddfau a Defnyddwyr – cyd-destun deddfwriaethol yr Iaith Gymraeg
4.ÌýÌý ÌýOes unman yn debyg i adref? Trosglwyddo Iaith ar yr Aelwyd
5.ÌýÌý ÌýCroesffordd Cynllunio Ieithyddol: Defnydd iaith o fewn y gymuned
6.ÌýÌý ÌýY Chwyldro Tawel? Addysg fel arf trosglwyddo a defnydd iaith
7.ÌýÌý ÌýBrawd Tlawd Cynllunio Ieithyddol? Pwysigrwydd y Gweithle fel sffer trosglwyddo a defnydd iaith.
8.ÌýÌý Ìý‘Ond iaith pwy yw hi?’ Siaradwyr newydd ac ieithoedd lleiafrifol
9.ÌýÌý ÌýCymraeg yn y carchar? Trafodaeth am hawliau a phwysigrwydd cynnal gwasanaethau Cymraeg o fewn Gwasanaeth y Llysoedd yng Nghymru
10.ÌýÌý ÌýDatblygiadau Statudol y Gymraeg: Cynlluniau Iaith, Safonau Iaith a mwy: Trafodaeth ar Gynllun Iaith Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
11.ÌýÌý ÌýGweithdy Cymorth a Chefnogi
Gofynion Mynediad
Rhaid i ymgeiswyr fodloni'r meini prawf canlynol i gael eu hystyried yn gymwys ar gyfer y cwrs hwn:
- Gradd Israddedig (2:1 neu uwch)Ìý
Os nad ydych yn cyflawni'r gofynion academaidd uchod ond bod gennych brofiad gwaith perthnasol gallwn ystyried eich caisÌý
Cysylltwch ag arweinydd y cwrs i drafod ymhellach os gwelwch yn dda.Ìý
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn einÌý
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau.
Ar ôl creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
Ìý
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch 'Heb raddio Israddedig'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch Modiwlau a Addysgir nad ydynt yn Graddio mewn cymdeithaseg a pholisi cymdeithasol (NGGT/HEALTH) Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl:ÌýCynllunio IeithyddolÌýy cod ywÌýSCS4008Ìý Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster ôl-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach).
(nid oes angen darparu manylion yma) Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word.
Ìý
Os ydych ynÌýhunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan Gweithle/Cyflogwr, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol