Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae’r cwrs yn adeiladu ar y diddordeb yn nigwyddiad Hanes ‘Coleg ar y Bryn’ ÑÇÖÞÉ«°É at 140 mlwyddiant y Brifysgol, ac mae’n archwilio gwahanol agweddau ar hanes a threftadaeth gogledd Cymru. Mae ein haneswyr a’n harcheolegwyr yn arbenigwyr brwd dros eu meysydd. Cafodd y cwrs ei gynllunio i gyflwyno rhai o’r agweddau mwyaf dadleuol ar hanes lleol a chymunedol.
Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg, fodd bynnag bydd y sleidiau'n Ddwyieithog.
Ar gyfer pwy? Ìý Ìý ÌýÌýÌý
Dros bedair wythnos, bydd y cyfranogwyr yn archwilio:
- Cestyll Cymru: Ddoe a Heddiw (gyda Dr Euryn Roberts)
- Y Plastai a thirwedd Cymru (gyda Dr Lowri Ann Rees)
- Cestyll Tywod a’r Haul yn Rhyl (gyda Dr Mari Wiliam)
- Y Gorffennol, y Presennol a’r Dyfodol: Ìý Defnyddiau newidiol Chwareli Llechi Cymru (gyda Dr Leona Huey)
Deilliannau DysguÌý
- Ymwybyddiaeth o hanes a threftadaeth gogledd Cymru
- Dealltwriaeth o ffyrdd o herio hanes lleol
Manteision y cwrsÌý
- Gwybodaeth hanesyddol ehangach
- Cwrdd â phobl o'r un anian.
- Darganfod beth mae Tîm Hanes ÑÇÖÞÉ«°É yn ei gynnig
Hyd
4 wythnos, 2 awr o dosbarthiadau yr wythnos
Tiwtoriaid
Dr Marc CollinsonÌý(Convenor)
Ìý
Dr Lowri Ann Rees
Cwblhaodd Dr Rees ei BA, MA a PhD mewn Hanes ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Fel Uwch Ddarlithydd mewn Hanes Modern yn Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, mae gwaith dysgu Dr Rees yn canolbwyntio ar hanes Prydain yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cwblhaodd ei Thystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Uwch ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, ac mae’n Gymrawd HÅ·n o’r Academi Addysg Uwch. Mae ei diddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar Gymru’r ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn enwedig hanes y bonedd ac ystadau. Mae Dr Rees wedi cyhoeddi ar dadolaeth a phrotest yng nghefn gwlad Cymru, Terfysgoedd Beca, y stiward tir, cyfoeth newydd a mudoledd cymdeithasol, a Cymry yn preswylio yn India.Ìý
Ìý
Dr Mari Wiliam
Mi nes i benderfynu astudio Hanes yn y Brifysgol am y rheswm syml fy mod i'n mwynhau'r pwnc, a dwi dal yn ei fwynhau: ma' 'na wastad bethe newydd i'w dysgu, ac mae'r chwilfrydedd yma'n help i ddeall y byd heddiw. ÌýFelly, dros 20 mlynedd ers i mi ddod i Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É fel myfyriwr is-radd (wedyn MA a PhD) dwi dal yma, ac yn Ddarlithydd Hanes Modern a Hanes Cymru ers 2013. Ìý
Dwi'n edrych yn bennaf ar hanes o ddiwedd oes Victoria hyd at ddechrau'r 21ain ganrif, ac mae gen i ddau brif ddiddordeb yn fy ymchwil ac addysgu. ÌýYn gyntaf, edrych ar hunaniaethau cenedlaethol, yn benodol yng Nghymru. ÌýYn ail, archwilio hanes bywyd-bob-dydd, sy'n rhoi golwg i ni ar sut mae pobl wedi byw yn y gorffennol. ÌýGyda'i gilydd mae hyn yn golygu fod llawer o fy modiwlau i'n eclectig o ran cynnwys, ac efo trafodaethau am bynciau sy'n ymestyn o genedlaetholdeb, y frenhiniaeth, datganoli a rhywedd i feysydd fel y diwydiant niwclear, astudiaethau tirlun a hanesion bwyd, anifeiliaid a thatŵs. Ìý
Dwi ar hyn o bryd yn ysgrifennu monograff ar ogledd-ddwyrain Cymru rhwng 1950 a 1962, yn ymwneud efo projectau hanes llafar trwy Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru (ISWE) ac yn cydweithio ar ymchwil i gymunedau niwclear yng ngogledd Cymru. ÌýDwi'n mwynhau sgwrsio am fy ymchwil efo cymdeithasau hanes lleol ac ysgolion. Dwi hefyd yn cyfrannu ar y teledu a radio i drafod pynciau fel y frenhiniaeth a chenedlaetholdeb.
Ìý
Dr Euryn Roberts
Euryn Rhys Roberts yw Darlithydd mewn Hanes Canoloesol a Hanes Cymru. Astudiodd am ei ddoethuriaeth ym Mangor dan oruchwyliaeth yr Athro Huw Pryce, ar ôl ennill gradd MA (Hanes Cymru) o Fangor a gradd BA (Hanes Modern) o Brifysgol Rhydychen. Mae'n arbenigo yn hanes Cymru yn ystod yr Oesoedd Canol ac mae hefyd â diddordeb yn y ffordd y defnyddir a chyflwynir y gorffennol canoloesol yng Nghymru gyfoes. Mae'n dysgu ar wahanol agweddau ar hanes canoloesol Prydain ac Ewrop.
Dr Leona Huey
Mae maes astudio cyfredol Leona mewn archeoleg ôl-ganoloesol, gyda ffocws ar claddedigaeth, caethiwed a gwrthdaro. ÌýMae safleoedd archeolegol o dan ymchwiliad presennol yn cynnwys gwersyll Carcharorion Rhyfel Frongoch.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Sesiynau yn cael ei cynnal ar y dyddiadau yma:
- 19 Mawrth 2025:ÌýY Castellau o Gymru - Dr Euryn Roberts
- 26 Mawrth 2025:ÌýY TÅ· Gwledig Cymreig - Dr Lowri Ann Rees
- 2 Ebrill 2025:ÌýDefnyddiau newidiol Chwareli Llechi Cymru - Dr Leona Huey
- 9 Ebrill 2025:ÌýCastellau Tywod a 'Rhyl Heulog' - Dr Mari Wiliam
Ìý
Gwneud Cais
Ìý