Myfyrwyr Ysgol Esgob Morgan yn Dathlu Blwyddyn Newydd Tsieineaidd gyda Gweithdy Creadigol!
Ar 20 Ionawr 2025, nododd Ysgol Esgob Morgan y flwyddyn newydd Tsieineaidd gyda gweithdy diwylliannol ymarferol, gan gynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr ymgysylltu â chelfyddydau traddodiadol Tsieina. Trefnwyd y gweithdy gan Sefydliad Confucius Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, a chyflwyno’r myfyrwyr i'r grefft gymhleth o wneud clymau Tsieineaidd gyda chlai.
Nod y digwyddiad oedd ysbrydoli creadigrwydd a hyrwyddo dealltwriaeth o ddiwylliant Tsieina. O dan arweiniad tiwtoriaid medrus, dysgodd y myfyrwyr arwyddocâd clymau Tsieineaidd, sy'n symbol o undod, lwc a ffyniant, yn ogystal â sut i greu eu cynlluniau eu hunain gyda chlai lliwgar.
Roedd y gweithdy yn brofiad bywiog ac ymgysylltiol a feithrinodd sgiliau artistig ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol ymhlith y myfyrwyr. Amlygwyd effaith anhygoel y gweithdy trwy adborth gan athrawon:
"Yn greadigol ac yn ymgysylltiol – roedd y plant wrth eu bodd!" – LH
"Wedi'i gynllunio'n wych ar gyfer y grŵp oedran. Dysgodd y plant gymaint ac roeddent wrth eu bodd gyda'r gweithgaredd clai!" – Miss Grindal
"Anhygoel o dda! Gwybodaethus, difyr ac yn hynod o foddhaus i'r disgyblion." – Tom Schrimshaw
Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o'r cydweithio parhaus rhwng Ysgol Esgob Morgan a Sefydliad Confucius Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Fel un o ddosbarthiadau Confucius swyddogol y sefydliad, mae'r ysgol yn chwarae rhan hanfodol yn y genhadaeth i ddod â chyfoeth iaith a diwylliant Tsieina i ysgolion ar draws y rhanbarth.
Pwysleisiodd Dr Lina Davitt, Cyfarwyddwr Sefydliad Confucius Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, bwysigrwydd celf mewn addysg ddiwylliannol, gan nodi, "Mae gweithdai fel y rhain yn ffordd wych i fyfyrwyr gysylltu â diwylliant gwahanol a mynegi eu creadigrwydd. Mae'n galonogol gweld brwdfrydedd a dawn y myfyrwyr wrth greu eu clymau clai Tsieineaidd unigryw eu hunain