Enillydd Cystadleuaeth Siarad Mandarin Chinese Bridge
Rydym wrth ein bodd bod un o鈥檔 myfyrwyr, Lilly Braden, wedi ennill y wobr GYNTAF yng nghategori dechreuwyr unigol Cystadleuaeth Siarad Mandarin Chinese Bridge 2023 ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd y Deyrnas Unedig sy鈥檔 cael ei threfnu gan Centre for Language Education and Cooperation (CLEC) y Deyrnas Unedig a鈥檌 chefnogi gan y Cyngor Prydeinig.
Dywedodd Lilly Braden: 'Roeddwn wrth fy modd fy mod wedi ennill y gystadleuaeth yn y categori dechreuwyr. Hoffwn ddiolch i鈥檓 hathrawes Shan am fy helpu i gyrraedd mor bell 芒 hyn! Mae hi bob amser yn fy nghymell i symud yn fy mlaen a gwella cywirdeb fy Mandarin. Rwy鈥檔 edrych ymlaen at y cyfle i ddychwelyd i Lundain yn hwyrach yn y flwyddyn ar gyfer y seremoni wobrwyo.'
Mae Cystadleuaeth Hyfedredd mewn Tsiein毛eg Chinese Bridge yn gystadleuaeth ryngwladol ar raddfa fawr ac yn ddigwyddiad uchel ei barch ym maes cyfnewid diwylliant ac addysg yn fyd-eang. Nod y gystadleuaeth yw ysgogi diddordeb myfyrwyr ar draws y byd mewn dysgu Tsiein毛eg, ehangu eu dealltwriaeth o iaith a diwylliant Tsieina, ac adeiladu pontydd o gyfeillgarwch rhwng pobl ifanc Tsieina a gwledydd eraill.
Da iawn Lilly, a diolch yn fawr i'w hathro Shan Lu am ei hymroddiad a'i brwdfrydedd dros ddysgu Mandarin!