Cynnal Ysgol Aeaf Meddwl yn Feirniadol ar y cyd rhwng Sefydliad Confucius a Prifysgol Gwyddorau Cyfreithiol a鈥檙 Gyfraith Tsieina!
Fel parhad o鈥檙 cwrs llwyddiannus a gynhaliwyd yn ystod yr haf, ar y cyd, cynhaliodd Sefydliad Confucius Prifysgol 亚洲色吧 芒 Phrifysgol Gwyddorau Cyfreithiol a鈥檙 Gyfraith Tsieina ysgol aeaf ddifyr iawn ar-lein gyda鈥檙 bwriad o ddatblygu sgiliau meddwl yn feirniadol. Cafodd ei chynnal rhwng 22 a 31 Ionawr 2024, a鈥檌 chynllunio i feithrin gallu myfyrwyr i brosesu a dadansoddi gwybodaeth yn feirniadol, gan feithrin set o sgiliau hanfodol sy'n berthnasol i wahanol agweddau ar fywyd y tu hwnt i weithgareddau academaidd.
Cafodd y rhaglen o wyth sesiwn ei datblygu a鈥檌 chyflwyno gan Anthony Brooks er mwyn darparu llwyfan deinamig i feddylwyr beirniadol ifanc Prifysgol Gwyddorau Cyfreithiol a鈥檙 Gyfraith Tsieina ddatblygu sgiliau gwerthfawr a fydd yn hanfodol i鈥檞 bywydau bob dydd yn ogystal 芒鈥檜 hymdrechion academaidd. Wrth fwrw golwg yn 么l dros y rhaglen, dywedodd Anthony Brooks:
'Yn ogystal 芒 bod 芒 fframwaith strwythuredig, mae鈥檙 sesiynau meddwl yn feirniadol hefyd yn esblygu鈥檔 organig ac mae鈥檙 nodwedd honno yn golygu eu bod yn unigryw. Tra bo deunyddiau ar PowerPoint i鈥檞 cael fel cymhelliant, cyfranogiad llafar y myfyrwyr sy'n rhoi bywyd go iawn i'r sesiynau, ac yn eu cyfoethogi 芒 geirfa amrywiol, mewnwelediadau, a safbwyntiau unigryw. Ym mhob sesiwn gwelir cyfnewid syniadau deinamig yn digwydd, gyda rhai cysyniadau鈥檔 cael eu dyfynnu a鈥檜 hystyried, ac yn cael eu hymhelaethu arnynt gan y cyd-gyfranogwyr. Mae'r broses gydweithredol hon yn help i fagu hyder yn raddol a pharodrwydd i ymgysylltu'n fwy huawdl.
Drwy gydol y rhaglen, mae trawsnewidiad amlwg yn datblygu wrth i fyfyrwyr gofleidio bod yn agored, ymgyfarwyddo 芒 rhagfarnau, a datblygu gwytnwch yn erbyn twyll deallusol. Mae pob cyfranogwr yn llwyddo i feddwl mewn modd llawer iawn mwy trwyadl. Caiff sgiliau dadansoddol a gwerthusol eu hogi, a daw hynny i鈥檞 anterth yn ystod y sesiwn sy鈥檔 edrych ar ddefnydd cywrain ac amwys Shakespeare o iaith. Does dim curo brwdfrydedd ac ymgysylltiad myfyrwyr Prifysgol Gwyddorau Cyfreithiol a鈥檙 Gyfraith Tsieina sy鈥檔 golygu y cafwyd awyrgylch deallusol a bywiog wrth ddathlu holl feddylfryd meddwl yn feirniadol.'
Wrth fyfyrio ar ei brofiad, dywedodd un myfyriwr, 'Y rhan orau o鈥檙 Ysgol Aeaf Meddwl yn Feirniadol oedd y cyfle i gymryd rhan mewn profiadau dysgu ystyrlon y tu allan i鈥檙 flwyddyn ysgol arferol. Roedd yr Ysgol Aeaf yn gyfle i edrych ar bynciau a diddordebau newydd, cymryd dosbarthiadau dan adain athro sy鈥檔 arbenigwr yn ei faes, a dysgu mewn amgylchedd hyblyg a hwyliog.'
Mae鈥檙 farn honno yn dal hanfod ein rhaglen, ac yn dangos yr effaith drawsnewidiol a gafodd ar daith academaidd y myfyrwyr.