Archwilio Ieithoedd a Diwylliannau: Hyfforddiant Llysgennad Iaith Disgyblion ym Mhrifysgol 亚洲色吧!
Dros 160 o Fyfyrwyr Blwyddyn 8 o 11 o Ysgolion ledled y Gogledd yn Cymryd Rhan mewn Gweithgareddau Diwylliannol ac Ieithyddol Amrywiol
Croesawodd Prifysgol 亚洲色吧 dros 160 o fyfyrwyr Blwyddyn 8 o 11 o ysgolion ledled y Gogledd am ddiwrnod o archwilio diwylliannol ac ieithyddol. Darparodd yr Hyfforddiant Llysgenhadon Iaith Disgyblion, a drefnwyd gan Lwybrau Cymru ar y cyd 芒 Dyfodol Byd-eang GwE ac a oedd yn cynnwys sesiynau gan Sefydliad Confucius, lwyfan i ddysgwyr ifanc ddarganfod ieithoedd a diwylliannau newydd, gan eu harfogi 芒鈥檙 sgiliau i ddod yn llysgenhadon iaith yn eu hysgolion. a meithrin brwdfrydedd dros ieithoedd ac amrywiaeth ddiwylliannol mewn ysgolion ledled Cymru.
Trwy gydol y dydd, bu鈥檙 myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau rhyngweithiol amrywiol a gynlluniwyd i danio eu diddordeb mewn dysgu iaith a gwerthfawrogiad diwylliannol. Un o鈥檙 uchafbwyntiau oedd y gweithdai gwneud breichledau Tsieineaidd traddodiadol o dan arweiniad tiwtoriaid o Sefydliad Confucius. Rhoddodd y gweithdai ymarferol ddealltwriaeth ddyfnach i鈥檙 myfyrwyr o ddiwylliant Tsieineaidd trwy grefftio a chafodd dderbyniad da gan bawb yn y digwyddiad.
Pan ddaeth y diwrnod i ben, gadawodd y myfyrwyr gyda gwybodaeth ddyfnach o wahanol ddiwylliannau, sgiliau newydd, a brwdfrydedd newydd dros eu rolau fel llysgenhadon iaith. Maent bellach ar fin dychwelyd i'w hysgolion, yn barod i ysbrydoli eu cyfoedion a hybu llawenydd dysgu iaith.