ÑÇÖÞÉ«°É

Fy ngwlad:
Learn Chinese

Dysgu - Sefydliad Confucius

Yn yr adran yma:

Os hoffech i ni gysylltu â chi gyda gwybodaeth am ddigwyddiadau a gweithgareddau i ddod, yn cynnwys cyrsiau iaith Tsieinëeg (Mandarin), ymunwch â'n rhestr bostio i dderbyn gwybodaeth ddiweddaraf drwy e-bost.

Cyrsiau i Bawb

Rydym yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau Tsieinëeg (Mandarin) i grwpiau ac unigolion ac maent yn addas i ystod o ddiddordebau a galluoedd. Gallwn addasu cyrsiau ar gyfer eich anghenion penodol chi a hefyd eich paratoi i sefyll arholiad HSK Mandarin, sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol. Ar hyn o bryd codir tâl o £20 yr awr (gyda’r awr gyntaf am ddim) am ddosbarthiadau un-i-un gyda’n hathrawon Mandarin. Am fwy o wybodaeth, neu fanylion sut i ymgeisio, anfonwch e-bost atom yn: confuciusinstitute@bangor.ac.uk neu ffoniwch: 01248 388555.

Rydym yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau Mandarin un i un ar gyfer unigolion sydd angen mwy o hyblygrwydd wrth ddysgu. Gallwn addasu’r gwersi i weddu i’ch anghenion penodol a gallwn hefyd eich paratoi i sefyll arholiad iaith Mandarin HSK a gydnabyddir yn rhyngwladol. Gellir cyflwyno’r gwersi fel bo’n gyfleus i chi yn ein swyddfeyddÌý neu fel cwrs dysgu o bell dros Zoom..

Rydym yn cynnig gwersi iaith ar gyfer myfyrwyr/staff a’r cyhoedd sydd eisiau dysgu Mandarin fel hobi, sy’n gweithio tuag at arholiad, sydd angen yr iaith ar gyfer gwaith, neu sy’n meddwl am deithio i Tsieina. Mae eich sesiwn ymgynghori gyntaf yn rhad ac am ddim, ac ar ôl hynny mae’r Sefydliad yn codi £ 25 yr awr ar y cyhoedd, £ 20 yr awr ar gyfer staff Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É a £ 15 yr awr ar gyfer myfyrwyr Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É.

Telerau ac amodau

  • Mae Sefydliad Confucius (CI) yn codi sesiwn £ 25 yr awr ar y cyhoedd, sesiwn £ 20 yr awr i staff Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É a sesiwn £ 15 yr awr i fyfyrwyr Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É (gyda’r awr gyntaf yn rhad ac am ddim).
  • Cytunir ar dyddiadau’r gwersi rhwng yr athro/athrawes yn Sefydliad Confucius a’r cleient.
  • Darperir y deunyddiau dysgu gan Sefydliad Confucius (ac eithrio’r gwerslyfrau a argymhellir).
  • Sylwer fod angen o leiaf 24 awr o rybudd ar gyfer canslo neu ail-drefnu gwers.

Ìý

Prawf Hyfedredd Tseineaidd, HSK / HSKK / YCT

Mae'r Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn un o ganolfannau prawf cydnabyddedig yr arholiad HSK a gallwn eich helpu i astudio ar y lefel sydd fwyaf addas i chi.

Er mwyn diwallu anghenion myfyrwyr, mae Pencadlys Prawf HSK CLEC wedi penderfynu lansio'r prawf Tsieineaidd Ar-lein (Home Edition), i helpu myfyrwyr i gwblhau arholiadau HSK gartref, gyda monitro o bell o'r ganolfan brawf.

Manylion arholiad

I sefyll arholiadau HSK3-6 (Argraffiad Cartref), dylai'r rhai sy'n sefyll arholiadau sefyll HSKK (Prawf Llafar) cyfatebol ar yr un pryd. Pan fydd y rhai sy'n sefyll arholiadau yn cofrestru gyda HSK + HSKK ar yr un pryd, cedwir ffi'r arholiad ar y pris gwreiddiol, mewn geiriau eraill, nid yw ffi'r arholiad yn cynyddu 30%. Mae'r rheol hon yn berthnasol i HSK 3-6 yn unig. Mae'r pris ar gyfer HSK1-2 yn cadw'r un peth.

HSK3+HSKK Syml
HSK4+HSKK Canolradd
HSK5/6+HSKK anhawster uwch

Am fwy o wybodaeth gweler 
Ffioedd arholiadau Ar-lein (Rhifyn Cartref).

Ffi Ymgeiswyr Lefel Math Prawf

Math Prawf lifer Ymgeiswyr Ffi
HSK 1 Myfyriwr £19.50
HSK 1 Aelod o'r Cyhoedd £26.00
HSK 2 Myfyriwr £32.50
HSK 2 Aelod o'r Cyhoedd £39.00
HSK 3 Myfyriwr £45.50
HSK 3 Aelod o'r Cyhoedd £52.00
HSK 4 Myfyriwr £58.50
HSK 4 Aelod o'r Cyhoedd £65.00
HSK 5 Myfyriwr £71.50
HSK 5 Aelod o'r Cyhoedd £78.00
HSK 6 Myfyriwr £84.50
HSK 6 Aelod o'r Cyhoedd £91.00
HSKK Dechreuwr Ìý £32.50
HSKK Canolradd Ìý £45.50
HSKK Uwch Ìý £58.50

Gwybodaeth am gofrestru at yr arholiadau

. Cofiwch e-bostio copïau o'r dogfennau canlynol i’r: confucinsitute@bangor.ac.uk

1. Eich llun yn unol â gofynion llun pasbort y Deyrnas Unedig

2. Copi o'ch ID (e.e., pasbort, trwydded yrru)

3. ID Myfyriwr (os yw'n berthnasol)

Gwybodaeth am dalu

Mi gysylltwn i gadarnhau eich cofrestriad a byddwn yn rhoi cyfarwyddiadau i chi at y ganolfan brawf ddeng niwrnod cyn dyddiad yr arholiad.

Pob lwc yn yr arholiad!

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod yn rhedeg Arholiadau HSK papur eto!

Does angen prawf COVID ar Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É bellach, ond rydym yn annog pawb i gymryd hunan-brawf i sicrhau bod popeth yn ddiogel, yn enwedig os byddwch yn teimlo’n sâl ar y diwrnod.

Manylion yr arholiad

Bydd angen i chi ddod â'ch tocyn mynediad prawf HSK ac ID ffotograffig (pasbort, trwydded gyrrwr car ac yn y blaen) gyda chi pan fyddwch yn dod i sefyll y prawf HSK. Bydd angen pensiliau a rhwbiwr arnoch hefyd ar gyfer y prawf. Ni chaniateir defnyddio geiriaduron na deunyddiau ysgrifenedig eraill yn yr ystafell arholi.

Cofiwch fod y Ganolfan Brawf yn cynnal gwahanol fathau o arholiadau ar rai dyddiadau. Ar rai o ddyddiadau'r arholiadau, byddech yn gallu archebu profion ysgrifenedig a/neu lafar, ac ar ddyddiadau eraill, dim ond prawf ysgrifenedig y cewch chi ei archebu. Gweler y tabl isod am ragor o wybodaeth am y math o arholiad sydd ar gyfer pob dyddiad.

Cofiwch, i sefyll rhifyn papur o arholiadau HSK 3-6, y gall yr ymgeiswyr archebu a sefyll arholiadau HSK a HSKK ar wahân, ac nid yr un pryd fel sydd raid ar gyfer fersiwn Cartref y prawf.

Dyddiadau ac amseroedd

Dyddiadau arholiadau HSK a HSKK

Hyfedredd Tsieinëeg - Prawf Ysgrifenedig a Phrawf Llafar

Blwyddyn

Dyddiad Arholiad

Math o arholiad

Dyddiad Cau Cofrestru a Thalu

Dyddiad Canlyniad

2025

09 Mawrth (Sul)

Prawf Ysgrifenedig a Llafar

09 Chwefror

09 Ebrill

2025

12 Ebrill (Sad)

Prawf Ysgrifenedig a Llafar

15 Mawrth

19 Mai

2025

17 Mai (Sad)

Prawf Ysgrifenedig a Llafar

19 Ebrill

17 Mehefin

2025

22 Mehefin (Sul)

Prawf Ysgrifenedig a Llafar

25 Mai

22 Gorffennaf

2025

19 Gorffennaf (Sad)

Prawf Ysgrifenedig a Llafar

21 Mehefin

19 Awst

2025

17 Awst (Sad)

Prawf Ysgrifenedig a Llafar

20 Gorffennaf

17 Medi

2025

07 Medi (Sul)

Prawf Ysgrifenedig a Llafar

10 Awst

14 Hydref

2025

18 Hydref (Sad)

Prawf Ysgrifenedig a Llafar

20 Medi

18 Tachwedd

2025

15 Tachwedd (Sad)

Prawf Ysgrifenedig a Llafar

18 Hydref

15 Rhagfyr

2025

07 Rhagfyr (Sul)

Prawf Ysgrifenedig a Llafar

09 Tachwedd

07 Ionawr 2026

Ffioedd yr arholiadau papur

Y Math o BrawfÌý

LefelÌý

YmgeiswyrÌý

FfiÌý

Ìý

Ìý

ÌýÌýÌýÌý

Ìý

Ìý

Ìý

ÌýÌý HSKÌý

1Ìý

MyfyriwrÌý

£15Ìý

Aelod o'r CyhoeddÌý

£20Ìý

2Ìý

MyfyriwrÌý

£25Ìý

Aelod o'r CyhoeddÌý

£30Ìý

3Ìý

MyfyriwrÌý

£35Ìý

Aelod o'r CyhoeddÌý

£40Ìý

4Ìý

MyfyriwrÌý

£45Ìý

Aelod o'r CyhoeddÌý

£50Ìý

5Ìý

MyfyriwrÌý

£55Ìý

Aelod o'r CyhoeddÌý

£60ÌýÌý

6Ìý

MyfyriwrÌý

£65Ìý

Aelod o'r CyhoeddÌý

£70Ìý

ÌýÌýÌý

Ìý HSKKÌý

DechreuwrÌý

Ìý

£25Ìý

CanolraddÌý

Ìý

£35Ìý

UwchÌý

Ìý

£45Ìý

Gwybodaeth am gofrestru at yr arholiadau

. Cofiwch e-bostio copïau o'r dogfennau canlynol i’r: confucinsitute@bangor.ac.uk

1. Eich llun yn unol â gofynion llun pasbort y Deyrnas Unedig

2. Copi o'ch ID (e.e., pasbort, trwydded yrru)

3. ID Myfyriwr (os yw'n berthnasol)

Gwybodaeth am dalu

Mi gysylltwn i gadarnhau eich cofrestriad a byddwn yn rhoi cyfarwyddiadau i chi at y ganolfan brawf ddeng niwrnod cyn dyddiad yr arholiad.

Pob lwc yn yr arholiad!

HSK/HSKK

Mae'r arholiad HSK yn arholiad safonol rhyngwladol sy'n profi a mesur hyfedredd yn yr iaith Tsieinëeg.ÌýMae'n asesu gallu siaradwyr anfrodorol i ddefnyddio Tsieinëeg yn eu bywydau dyddiol, academaidd a phroffesiynol. Mae'r HSK yn cynnwys chwe lefel (HSK I-VI) sy'n cyfateb i lefelau'r Chinese Language Proficiency Scales for Speakers of Other Languages (CLPS) a'r Common European Framework of Reference for Languages (CEF). Mae prawf HSK yn cynnwys elfennau gwrando, darllen a/neu ysgrifennu, ac mae'n agored i siaradwyr Tsieinëeg anfrodorol o bob oed.ÌýPrawf llafar yw HSKK, ac mae'n agored i siaradwyr Tsieinëeg anfrodorol o bob oed.

YCT

Mae prawf YCT yn cynnwys elfennau gwrando, darllen a/neu ysgrifennu ac mae'n agored i bob siaradwr Tsieinëeg anfrodorol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae'r Prawf Llafar YCT yn agored i bob siaradwr Tsieinëeg anfrodorol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.

Am fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost atom yn: confuciusinstitute@bangor.ac.uk neu ffoniwch: 01248 388555.

Ìý

Addysg Bellach ac Uwch

Addysg Uwch

Ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É rydym yn gallu cynnig modiwlau dewisol mewn iaith a diwylliant Tsieineaidd (Mandarin) i fyfyrwyr yn gyfnewid am gredydau academaidd, a bwriedir i seminarau am ddiwylliant Tsieineaidd fod ar gael yn fuan yn rheolaidd.

Mae nifer o raddau ar y cyd ar gael gydag Astudiaethau Tsieineaidd. Gallwch ddysgu mwy yma.

Addysg Bellach

Rydym yn cynnig dysgu Tsieinëeg (Mandarin) mewn ysgolion a cholegau hyd at safon Lefel A, a gellir addasu cyrsiau hefyd i gyflawni gofynion Cymhwyster y Fagloriaeth Gymreig (WBQ).

Yn ogystal, gall 20 oed wneud cais am ein Hysgol Haf flynyddol, sy’n cynnwys ymweliad pythefnos â China gyda thywysydd (ceisiadau i’w cyflwyno erbyn mis Ebrill y flwyddyn y bwriadwch deithio).

Am fwy o wybodaeth anfonwch e-bost atom yn: confuciusinstitute@bangor.ac.uk neu ffoniwch: 01248 388555.

Ysgolion Cynradd ac Uwchradd

Rydym yn cynnig dysgu Tsieinëeg (Mandarin) mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Ar hyn o bryd nid ydym yn cynnal cyrsiau wedi’u hachredu, er ein bod yn gobeithio cyflwyno QCFs galwedigaethol yn 2016. Fodd bynnag, gall myfyrwyr ar ein cyrsiau i ysgolion weithio tuag at sefyll yr arholiad iaith HSK Mandarin a gydnabyddir yn rhyngwladol, ac rydym yn ganolfan brofi gydnabyddedig ar gyfer y cymhwyster hwn.

Yn ogystal gall ysgolion fanteisio ar ein Carwsél Diwylliannol Tsieineaidd, sef detholiad hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn o weithdai rhyngweithiol yn cynnwys gweithgareddau fel caligraffeg, cerddoriaeth, torri papur, gwneud barcutiaid a dawns draddodiadol i enwi ond ychydig.

Yn ogystal, gall 20 o fyfyrwyr wneud cais am ein Hysgol Haf flynyddol, sy'n cynnwys ymweliad pythefnos â China gyda thywysydd (ceisiadau i’w cyflwyno erbyn mis Ebrill y flwyddyn y bwriadwch deithio).

Ystafelloedd Dosbarth Confucius

Mae Ystafelloedd Dosbarth Confucius yn fenter gan Ìýnewydd, sefydliad elusennol anllywodraethol ydyw, sy'n cynnwys cynghrair o brifysgolion Tsieina gan gynnwys Prifysgol Beijing, Prifysgol Fudan, Prifysgol Iaith a Diwylliant Beijing, a sefydliadau a chwmnïau cymdeithasol eraill.

Mae HANBAN wedi ymrwymo i ddatblygu iaith a diwylliant Tsieineaidd ar draws y byd ac mae hefyd yn gwasanaethu fel pencadlys Sefydliadau Confucius ym mhob rhan o'r byd.

Lleolir Ystafelloedd Dosbarth Confucius mewn ysgolion a cholegau ac maent yn derbyn cyllid penodol. Eu bwriad yw gweithredu fel canolfannau lleol a all ysgogi a chefnogi addysgu a dysgu iaith a diwylliant Tsieineaidd ar draws cymunedau.Ìý

Caiff pob ystafell ddosbarth ryddid i weithredu yn ôl ei chyd-destun neilltuol gyda'r nod o hyrwyddo iaith a diwylliant Tsieineaidd i'r plant a'r bobl ifanc yn ei dalgylch.Ìý

Mae'r Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É wedi cael cyllid gan Hanban i sefydlu pum o Ystafelloedd Dosbarth Confucius yn rhanbarth Gogledd Cymru mewn partneriaeth ag ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol.

Mae'r ysgolion llwyddiannus yn cynnwys dwy ysgol uwchradd leol a thair ysgol gynradd.

Agorodd yr Ystafell Ddosbarth Confucius yn Friars yn 2017. Fodd bynnag, mae Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É wedi bod yn cynnig dosbarthiadau a gweithgareddau Mandarin yn yr ysgol ersÌý 2013. Mae'r ysgol yn gweithredu fel canolbwynt rhanbarthol i ddysgu iaith a diwylliant Tsieineaidd ac ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda'r ysgol ar ehangu nifer y gwersi Mandarin a datblygu gweithgareddau diwylliannol newydd a chyffrous i bawb.

Am fwy o wybodaeth am bob ystafell ddosbarth, ewch i wefan yr ysgol.

Ysgol Uwchradd Friars

Lôn Y Bryn, ÑÇÖÞÉ«°É LL57 2LN

E-bost :pennaeth@friars.gwynedd.sch.uk

Ffôn: 01248 364905

Cyswllt Ystafell Ddosbarth Confucius: Mr David Healey

Gwefan yr ysgol:

Agorwyd Ystafell Ddosbarth Confucius Ysgol Uwchradd Caergybi yn 2017. Fodd bynnag, mae Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É wedi bod yn cynnig dosbarthiadau a gweithgareddau Mandarin yn yr ysgol ers 2014. Yr ysgol yw canolbwynt rhanbarthol Ynys Môn ac ar hyn o bryd rydym yn darparu dau ddiwrnod o ddosbarthiadau Mandarin bob wythnos. Mae'r ysgol hefyd yn derbyn disgyblion o ysgolion cynradd lleol sy'n dod i wersi Mandarin a gweithgareddau diwylliannol yn yr ystafell ddosbarth Confucius. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar ddatblygu gweithgareddau diwylliannol ychwanegol gyda'r ysgol ac yn edrych ymlaen at weld myfyrwyr yn sefyll arholiad HSK yn y dyfodol agos.

Am fwy o wybodaeth am bob ystafell ddosbarth, ewch i wefan yr ysgol.

Ysgol Uwchradd Caergybi

Teras Alderley, Caergybi Ynys Môn, LL65 1NP

E-bost: yucoffice@ynysmon.gov.uk

Ffôn: 01407 762219

Cyswllt Ystafell Ddosbarth Confucius: Ms. Gill Mortlock

Gwefan yr ysgol:Ìý

Agorodd yr Ystafell Ddosbarth Confucius yn Ysgol Ein Harglwyddes yn 2017. Dechreuodd y Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É gynnig dosbarthiadau Mandarin a gwahanol weithgareddau fel Tai qi yn yr ysgol yn 2015.Ìý Ar hyn o bryd mae gennym ddosbarthiadau Mandarin ar ddydd Mawrth a dydd Iau yn ogystal â chlwb ar ôl ysgol a dosbarthiadau Tai qi. Mae'r ysgol yn gefnogol iawn ac yn annog y disgyblion i ddysgu bod yn Ddinasyddion Byd-eang - bod yn ymwybodol o'r byd, eu swyddogaeth ynddo a chymryd rhan mewn cymunedau ar lefel leol a byd-eang.

Am fwy o wybodaeth am bob ystafell ddosbarth, ewch i wefan yr ysgol.

Ysgol Ein Harglwyddes

Ffordd Caernarfon, ÑÇÖÞÉ«°É, LL57 2UT

E-bost: pennaeth@ourladys.gwynedd.sch.uk

Ffôn: 01248 352463

Cyswllt Ystafell Ddosbarth Confucius: Ms. Kay O'Hanlon

Gwefan yr ysgol:

Agorwyd Ystafell Ddosbarth Confucius yn Ysgol Gynradd Esgob Morgan yn 2017. Fodd bynnag, mae Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É wedi bod yn cynnig dosbarthiadau a gweithgareddau Mandarin yn yr ysgol ers 2014. Yr ysgol yw'r canolbwynt dysgu yn Sir Conwy ac mae'n darparu cyfleoedd i ysgolion eraill a'r gymuned. Ar hyn o bryd mae gan yr ysgol bedwar dosbarth Mandarin bob dydd Mawrth.

Am fwy o wybodaeth am bob ystafell ddosbarth, ewch i wefan yr ysgol.

Ysgol Gynradd Esgob MorganÌý

17 Fford Siarl, Llanelwy, LL17 0PT

E-bost: esgob.morgan@denbighshire.gov.uk

Ffôn: 01745583690

Cyswllt Ystafell Ddosbarth Confucius: Ms. Tim Redgrave

Gwefan yr ysgol: