Ysgariad digidol a rhyddhad ariannol
Lena Buffard (Myfyrwraig)
Ers cyflwyno鈥檙 broses ysgaru di-fai ym mis Medi 2021, mae cyfreithwyr wedi adrodd bod cleientiaid yn tueddu i ymdrin 芒鈥檙 achosion ysgariad eu hunain a heb gyngor. Drwy beidio 芒 chael cyngor ar y cam priodol, nid yw pobl bob amser yn sylweddoli bod angen iddynt roi trefn ar eu harian cyn gwneud cais am y gorchymyn terfynol.
wneud cais am ysgariad ar-lein
I ddechrau cais am ysgariad, mae angen i chi nawr ddefnyddio'r platfform MyHMCTS. I gychwyn y broses ysgaru, mae'n rhaid i'r deisebydd fewngofnodi i'r porth, agor cyfrif, a chwblhau'r ffurflenni ar-lein fel y'u cyflwynir. Ers y deddf ysgaru diweddar (Divorce, Dissolution and Separation Act 2022), nid oes angen i鈥檙 parti sy鈥檔 ceisio ysgariad sefydlu bai ei briod i wneud cais. Bwriad hyn oedd gwneud y cais yn llai gwrthwynebus a'r gobaith oedd y byddai hyn yn arwain at well perthynas i'r part茂on gytuno ar drefniadau plant a rhannu asedau priodasol.
Rhannu asedau priodasol
Mae'n hanfodol, fodd bynnag, bod part茂on yn cytuno i rannu'r asedau priodasol cyn gwneud cais am y gorchymyn terfynol mewn unrhyw achos ysgariad. Gall methu 芒 gwneud hyn olygu bod y part茂on ar eu colled o ran unrhyw hawl posibl. Mae hyn yn cynnwys rhannu pensiynau, eiddo, cynilion a buddsoddiadau.听
Os bydd y part茂on yn cytuno i rannu arian ac eiddo, bydd hyn yn eu hatal rhag mynd i'r llys. Bydd angen iddynt wneud cais am orchymyn cydsynio i wneud y cytundeb yn gyfreithiol-rwym. Bydd angen i鈥檙 part茂on ddrafftio a llofnodi gorchymyn cydsynio a llenwi ffurflen datganiad o wybodaeth (Ffurflen D81) a hysbysiad o gais am orchymyn ariannol (Ffurflen A).
Os na all y part茂on gytuno, gallant ofyn i'r llys wneud gorchymyn ariannol. Fel arfer, bydd yr eiddo'n cael ei rannu'n deg pan gaiff ei rannu'n gyfartal rhwng y part茂on. Bydd y llys hefyd yn ystyried: 听
- Yn gyntaf oll, lles y plant: er enghraifft, os bydd un priod yn cael ei adael gyda'r baich economaidd o ofalu am blant o dan 16 oed.
- Cyfalaf ac adnoddau sydd ar gael: bydd y llys yn edrych ar y sefyllfa incwm bresennol a鈥檜 henillion yn y dyfodol a鈥檜 hanghenion a鈥檜 rhwymedigaethau yn y dyfodol.
- Hyd y briodas: bydd ystyriaethau gwahanol yn cael eu cymryd i ystyriaeth. Ar gyfer priodasau hir, bydd y llys fel arfer yn ystyried rhaniad 50/50. Ar gyfer priodasau byrrach, mae cyfraniadau cyfalaf yn dod yn fwy perthnasol. Gellir cyhoeddi gorchymyn gwahanu clir (clean break).
- Safon byw yr oedd y part茂on wedi arfer ag ef cyn y gwahaniad.
- Unrhyw anallu corfforol neu feddyliol y part茂on.
- Cyfraniad part茂on: er enghraifft, unrhyw fantais neu anfantais a enillwyd/a ddioddefodd y priod yn ystod y briodas. Gallai hyn gynnwys y ffaith bod un parti wedi rhoi鈥檙 gorau i鈥檞 gyrfa i ofalu am y plant.
- A oes angen cymorth ariannol ychwanegol ar un priod ar 么l gwahanu.
- A fydd un priod yn dioddef colled difrifol o fudd-dal oherwydd yr ysgariad.
Yn olaf, ond mewn amgylchiadau eithriadol iawn, ymddygiad gwael: bydd y Llys ond yn ei ystyried os yw mor ddifrifol fel ei fod yn annheg ei ddiystyru.
Mae'n dal yn bosibl ceisio cyfran anghyfartal o eiddo neu asedau. Bydd y llys yn ystyried unrhyw amgylchiadau arbennig i gyfiawnhau gwyro oddi wrth raniad cyfartal. Mae hyn yn cynnwys:
- Unrhyw gytundeb rhwng y part茂on sy鈥檔 delio 芒 pherchnogaeth neu rannu asedau (e.e. Cytundeb Cyn Priodas).
- Ffynhonnell yr arian a ddefnyddiwyd i gaffael unrhyw asedau priodasol, os na ddaeth yr arian o incwm y part茂on yn ystod y briodas.
- Natur asedau priodasol, eu defnydd, a鈥檙 graddau y mae鈥檔 rhesymol disgwyl iddynt gael eu gwireddu, eu rhannu neu eu defnyddio fel sicrwydd.
Mater i鈥檙 llys o hyd yw penderfynu a yw鈥檔 rhesymol gwyro oddi wrth yr egwyddor rhaniad cyfartal.
Os oes angen cyngor arnoch ar ysgariad neu ryddhad ariannol, gallwch geisio cyngor am ddim yng Nghlinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol 亚洲色吧 (BULAC). Os hoffech drefnu apwyntiad gyda ni, ffoniwch 01248 388411, neu gallwch hefyd anfon e-bost atom yn bulac@bangor.ac.uk
听
听
听