Hawliau Mynediad neiniau a theidiau i wyrion ac wyresau
Carys Dunlop-Lloyd (Myfyriwr)
Yng Nghymru a Lloegr nid oes hawl cyfreithiol awtomatig i neiniau a theidiau gael cyswllt 芒'u hwyrion, ond mae camau y gellir eu cymryd i gefnogi nain neu daid i wneud cais am gyswllt o'r fath. Y cam cyntaf fyddai ceisio cyd-drafod gyda'r rhieni (neu bobl 芒 chyfrifoldeb rhiant os nad y rhieni) i weld a ellir dod i gytundeb. Os na fydd hyn yn gweithio, efallai y bydd angen gwneud cais i'r Llys.
Cyfarfodydd Asesu a Gwybodaeth am Gyfryngu (MIAM)
Cyn gwneud cais i鈥檙 llys, bydd angen i鈥檙 nain neu daid fynychu MIAM, a elwir hefyd yn Cyfarfodydd Asesu a Gwybodaeth am Gyfryngu (Mediation Information and Assessment Meetings). Mae MIAMs yn cynnwys defnyddio cyfryngwr teuluol annibynnol, sy鈥檔 gweithio gyda鈥檙 ddau barti ac yn eu hannog i ddod i gytundeb. Os na cheir cytundeb adeg cyfryngu, gall neiniau a theidiau wedyn wneud cais i'r llysoedd am orchymyn trefniant plentyn.
Trefniant Gorchymyn Plentyn
Yn wahanol i unigolion sydd 芒 chyfrifoldeb rhiant, ni all neiniau a theidiau wneud cais i鈥檙 llys am orchymyn trefniant plentyn, rhaid iddynt ofyn am ganiat芒d y Llys i wneud y cais. Mae hyn yn golygu llenwi ffurflen llys ychwanegol. Pan ofynnir i lys am ganiat芒d, bydd yn ystyried sawl peth megis cydnabod r么l y neiniau a theidiau ym mywyd y plentyn yn ogystal 芒 pham mae cyswllt wedi鈥檌 atal a鈥檙 effaith ar y plentyn.
Os bydd y Llys yn rhoi caniat芒d, gall y neiniau a theidiau wneud cais am orchymyn trefniant plentyn a all benderfynu gyda phwy mae'r plentyn yn dod i gysylltiad 芒 sut mae'r cyswllt yn digwydd. Mae lles y plentyn yn hollbwysig wrth wneud gorchymyn trefniant plentyn. Bydd y Llys yn ystyried y rhestr wirio lles sy鈥檔 cynnwys dymuniadau鈥檙 plentyn, os yw鈥檔 ddigon hen, yr effaith y gallai鈥檙 newid ei chael ar y plentyn yn ogystal ag anghenion emosiynol y plentyn.
听
Mae clinig gyfraith Prifysgol 亚洲色吧 yn gallu cynghori ar drefniadau gorchmynion plant. Os rydych eisiau gwneud apwyntiad i drafod hyn ymhellach, gallwch ein ffonio 01248 388 411 neu ein e-bostio bulac@bangor.ac.uk.