Effaith cam-drin ariannol ar achosion ysgariad
Elo茂se Bordet (Myfyrwraig)
Cam-drin domestig a thrais
Deddf Cam-drin Domestig 2021
听Yn 2021, darparodd llywodraeth y DU ddiffiniad o gam-drin domestig yn y Ddeddf Cam-drin Domestig.
Mae ymddygiad yn ddifr茂ol os yw'n cynnwys unrhyw un o'r canlynol:
(a) cam-drin corfforol neu rywiol;
(b) ymddygiad treisgar neu fygythiol;
(c) ymddygiad sy'n rheoli neu'n gorfodi;
(ch) cam-drin economaidd;
(d) cam-drin seicolegol, emosiynol neu gam-drin arall;
Mae'n rhaid i'r troseddwr a'r dioddefwr fod yn gysylltiedig 芒'i gilydd, a phob un yn 16 oed neu'n h欧n.听
Cyn y diffiniad hwn, roedd cam-drin ariannol yn aml yn cael ei anwybyddu er yr awgrymwyd bod un o bob chwe menyw yn y Deyrnas Unedig wedi profi cam-drin ariannol mewn perthynas gyfredol neu flaenorol.
Cam-drin ariannol a'i effeithiau
Diffinnir cam-drin economaidd fel:
鈥渦nrhyw ymddygiad sy鈥檔 cael effaith sylweddol ar allu鈥檙 partner sy鈥檔 cael ei gam-drin i gaffael, defnyddio, neu gynnal arian neu eiddo arall neu gael nwyddau neu wasanaethau.鈥 Mae'r gyfraith yn cydnabod y gallai'r cam-drin hwn olygu efallai na fydd y partner dibynnol yn gallu gadael y berthynas.
Os bydd y dioddefwr yn dod allan o'r berthynas ac yn penderfynu cychwyn achos ysgariad, efallai y bydd hefyd yn profi'r un math o ymddygiad. Gallai hyn olygu bod y sawl sy鈥檔 cyflawni鈥檙 drosedd yn cuddio rhai asedau penodol, neu鈥檔 eu tanbrisio, gan arwain at amddifadu鈥檙 partner sy鈥檔 cael ei gam-drin o rwymed茂au ariannol.听
Os yw parti wedi profi cam-drin domestig, yna efallai y bydd ganddynt hawl i gymorth cyfreithiol. Byddai cyfreithiwr yn gallu helpu鈥檙 dioddefwr i oresgyn y math hwn o gamdriniaeth a allai gynnwys gofyn i鈥檙 llys am orchmynion, megis gorchmynion rhewi i atal gwerthu cartref y teulu er enghraifft.
Nawr bod cam-drin ariannol yn cael ei gydnabod mewn diffiniad statudol, gall y dioddefwyr elwa ar fwy o amddiffyniad ac adnoddau cyn, yn ystod, ac ar 么l yr achosion ysgaru, i sicrhau nad ydynt bellach yn ddibynnol ar y partner sydd yn cam-drin.听
Mae Clinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol 亚洲色吧 yn cynnig cyngor cyfreithiol am ddim ar bob mater o ysgariad a thrais domestig. Os hoffech apwyntiad, ffoniwch 01248 388411 neu e-bostiwch Bulac@bangor.ac.uk
听
听