Cynhaliodd t卯m o Brifysgol 亚洲色吧 yr astudiaeth mewn cyfnod o bryder cynyddol bod poblogaethau ceirw yn tyfu ac yn cael effaith negyddol ar iechyd ac adfywiad coetiroedd y Deyrnas Unedig.
Fodd bynnag, yn 么l y canfyddiadau 鈥渁nnisgwyl鈥 a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn gwyddonol , gall ceirw fod yn fuddiol o dan rai amgylchiadau.
Darganfu'r ymchwilwyr fod y ceirw鈥檔 bwyta llawer iawn o fieri, a allai leihau tyfiant y planhigyn hwnnw a'i rwystro rhag trechu rhywogaethau llwyni a choed ifanc bregus.
Treuliodd yr ymchwilwyr ddwy flynedd yn astudio deiet danasod (Dama dama) yn Nyffryn Elwy yn Sir Ddinbych. Deilliodd y boblogaeth hon o yst芒d fawr pan dynnwyd ffensys y parc ceirw i lawr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Ers hynny, mae'r ceirw wedi ehangu eu cwmpas i'r cefn gwlad amgylchynol ac maent yn achosi pryderon o ran cadwraeth bioamrywiaeth, adfywio coetiroedd a chynhyrchu pren.
Mae'r t卯m ymchwil, a leolir yn y labordy Ecoleg ac Esblygiad Moleciwlaidd ym Mangor, yn defnyddio technoleg newydd - metabarcod DNA - i ddilyniannodi DNA planhigion sy鈥檔 bresennol mewn tua 350 o samplau o faw danasod Casglwyd y rhain mewn tri choetir yn ardal Dyffryn Elwy yn y gwanwyn, yr haf, yr hydref a鈥檙 gaeaf, rhwng 2019 a 2021.
Nododd y t卯m ymchwil y planhigion oedd yn bresennol yn y baw i greu proffil o'r deiet ar draws y tymhorau. Gwnaethant ddarganfod mai mieri (Rubus fruticosus ag.) oedd prif fwyd y ceirw drwy gydol y flwyddyn, ac yn cyfrif am 80% o鈥檜 deiet yn ystod misoedd y gaeaf. Llwyni a choed llydanddail oedd fwyaf amlwg yn eu deiet yn ystod y gwanwyn a'r haf, a dim ond mewn ychydig iawn o samplau oedd coed conwydd i'w gweld.
Ariannwyd yr astudiaeth hon gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, a Rhaglen Anghenion Tystiolaeth ac Ymchwil Bioamrywiaeth ac Ecosystemau听 Cymru. Casglodd ceidwaid y Sw Mynydd Cymru samplau o faw o鈥檜 gyr o ddanasod caeth, a ddefnyddiwyd i ddilysu鈥檙 canlyniadau o samplau baw ceirw gwyllt. Derbyniodd yr astudiaeth gymorth cyfrifiadura gan broject Uwchgyfrifiadura Cymru, sy鈥檔 cael ei ariannu鈥檔 rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Dr Amy Gresham, a arweiniodd yr astudiaeth yn ystod ei chyfnod fel myfyrwraig PhD yn Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Prifysgol 亚洲色吧,
鈥淩oedd canlyniadau鈥檙 astudiaeth hon yn annisgwyl. Roeddem yn disgwyl y byddai'r danasod yn pori'n bennaf ar y glaswelltiroedd toreithiog ym mhorfeydd yr ardal, gan newid eu deiet dros y gaeaf i bori ar goed gan fod llai o fwyd ar gael y tu allan i'r tymor tyfu planhigion.
鈥淢ewn gwirionedd, gwelsom fod amrywiaeth eu deiet yn culhau dros y gaeaf, a mieri oedd yr adnodd bwyd amlycaf.
鈥淕all mieri ddiogelu coed ifanc rhag ceirw trwy ddarparu rhwystr pigog, fodd bynnag gall mieri hefyd fygu llwyni a choed ifanc, a blodau coetir prin, nad ydynt yn gallu dioddef gormod o gysgod. Mewn gwirionedd, gall ceirw reoli tyfiant mieri a鈥檌 atal rhag trechu coed ifanc a phlanhigion coetir eraill.
听鈥Os gallwn ddeall mwy am yr hyn y mae ceirw yn ei fwyta, gallwn gynllunio strategaethau rheoli wedi鈥檜 targedu i ddiogelu rhywogaethau coed a llwyni sy鈥檔 agored i niwed.鈥
Dywedodd yr Athro John Healey, cyd-oruchwyliwr yr astudiaeth 鈥淢ae yna gyfuniad cymhleth o darfu ar goedwigoedd, digonedd o fieri a lefelau pori ceirw, ynghyd 芒 dylanwadu ar y potensial i adfywio coed a chadwraeth bioamrywiaeth planhigion coetir.
鈥淢补别鈥檙 effeithiau hyn yn bwysig wrth ragweld effeithiau llawn ymyriadau rheoli megis torri coed, torri mieri neu reoli poblogaethau ceirw. Wrth i ni weithio i ehangu gorchudd coed i ddal mwy o garbon a gwella gwytnwch coedwigoedd a bioamrywiaeth, mae angen inni geisio deall rhyngweithiadau poblogaethau ceirw sy鈥檔 tyfu gyda choetiroedd sy鈥檔 newid yn gyflym.鈥
Dywedodd Dr Graeme Shannon, uwch aelod y t卯m ymchwil 鈥Mae canlyniadau annisgwyl yr ymchwil hwn wedi tynnu sylw at hyblygrwydd rhyfeddol deiet danasod ac wedi dangos pwysigrwydd deall sut mae ceirw鈥檔 addasu mewn cynefinoedd sydd wedi eu trawsnewid gan bobl. Mae鈥檙 canlyniadau hefyd yn dangos bod rhaid i鈥檔 hymdrechion rheoli gael eu teilwra i ranbarthau penodol gyda鈥檜 tirwedd unigryw, a鈥檙 gwahanol rywogaethau o geirw sy鈥檔 bresennol a maint eu poblogaeth, yn hytrach na defnyddio'r un dull i bawb.鈥
Darllenwch y papur听