Wrth fesur yr ymdrech y mae鈥檔 ei gymryd i鈥檙 adar drycin hedfan mewn gwahanol amodau gwynt, darganfu Dr Stephanie Harris a鈥檌 chydweithwyr fod yr adar yn penderfynu ble i hedfan i ddod o hyd i bysgod yn seiliedig ar y gwynt, gan gydbwyso鈥檔 ofalus yr egni a geir o fwyd 芒鈥檙 egni a ddefnyddir i chwilio amdano.
Ar ddiwrnodau gwyntog, mae teithio i rai cyfeiriadau yn llawer haws nag ar ddiwrnodau eraill. Dangosodd yr ymchwil fod adar drycin yn chwilio am fwyd mewn mannau yr oedd yn haws hedfan iddynt ar ddiwrnod gwyntog. Mewn cyferbyniad, ar ddiwrnodau tawelach roedd yr adar yn ffafrio mannau y maent yn rhagweld y byddant yn dod o hyd i ddigonedd o bysgod.听
Dywedodd y prif awdur, Dr Stephanie Harris, 鈥淢ae adar m么r yn wynebu cefnfor enfawr i ddod o hyd i fwyd ynddo, ac mae gallu cynllunio ble i fynd yn bwysig鈥,听
Ychwanegodd, 鈥淕oblygiad hynny yw bod gan adar drycin gynllun ar gyfer ble maen nhw鈥檔 mynd i fwydo, a bod ganddyn nhw hefyd syniad bras o faint o egni byddant yn ei ddefnyddio i gyrraedd yno yn dibynnu ar y gwynt鈥.
Cynhaliwyd yr ymchwil mewn dwy arsyllfa adar sydd wedi eu lleoli ar ynysoedd, sef Arsyllfa Adar Enlli yng Ngogledd Cymru ac Arsyllfa Adar Copeland yng Ngogledd Iwerddon. Mae鈥檙 ynysoedd hyn yn safleoedd bridio pwysig i adar drycin Manaw, ac mae鈥檙 ymchwil hwn wedi helpu i ddatgelu r么l y gwynt wrth ddylanwadu ar ble mae adar drycin o鈥檙 gwahanol gytrefi hyn yn canolbwyntio eu hymdrechion o ran bwydo ar y m么r.
Gwnaethpwyd yr astudiaeth hon yn bosibl gan y finiaturaeth mwyaf cyfredol o dechnoleg tracio er mwyn dilyn adar m么r yn eu hamgylchedd naturiol - ymhell ar y m么r. Eglura Dr Harris 鈥淕an ddefnyddio dyfeisiau sy鈥檔 pwyso cyn lleied 芒 7g, gallwn nid yn unig ddilyn i ble mae aderyn yn mynd, ond hefyd fesur pob curiad ei adenydd wrth hedfan, gan ddefnyddio technoleg debyg i鈥檙 hyn a geir mewn ffonau clyfar鈥.
Dywedodd yr uwch awdur, Dr Line Cordes, a fu'n gweithio ym Mhrifysgol 亚洲色吧 yn flaenorol ac sydd bellach yn gweithio yn Sefydliad Ymchwil Natur Norwy (NINA), 鈥淢ae rhagamcaniadau hinsawdd yn rhagweld gostyngiadau mewn gwyntoedd haf o amgylch y Deyrnas Unedig. Bydd deall r么l gwyntoedd mewn sut mae adar m么r yn porthi yn hollbwysig er mwyn deall yr effaith y bydd hyn yn ei gael ar ein hadar m么r.鈥
Bydd yr astudiaeth hon yn cael ei chyhoeddi yn 听ac roedd yn gydweithrediad rhwng ymchwilwyr ym Mhrifysgol 亚洲色吧 a Sefydliad Ymchwil Natur Norwy (NINA), Prifysgol Heriot Watt, Prifysgol Lerpwl a Phrifysgol Rhydychen. Cefnogwyd yr ymchwil hwn gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, y Gymdeithas Ddaearyddol Genedlaethol ac Ymddiriedolaeth Leverhulme.
听