Gwyddonydd hinsawdd yn ennill gwobr fawreddog
Mae gwyddonydd hinsawdd o Brifysgol 亚洲色吧 wedi ennill gwobr fawreddog.
Mae Dr Iestyn Woolway, Cymrawd Ymchwil Annibynnol NERC yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion wedi鈥檌 anrhydeddu 芒 Gwobr Dechrau Gyrfa Yentsch-Schindler 2025 gan Y Gymdeithas Gwyddorau Llynoleg ac Eigioneg (ASLO).
Mae ASLO yn cyflwyno Gwobr Dechrau Gyrfa Yentsch-Schindler bob blwyddyn i wyddonydd ar ddechrau ei yrfa sydd wedi gwneud cyfraniadau rhagorol a chytbwys i ymchwil, addysg a chymdeithas.
Mae鈥檙 wobr am ei waith dylanwadol yn disgrifio effeithiau cynhesu鈥檙 hinsawdd ar lynnoedd ledled y byd, gan gynnwys newidiadau mewn amseru tymhorol, haenau dyfrol, gorchuddiant i芒 a thywydd poeth, yn ogystal 芒鈥檌 gyfraniadau addysgol ac allgymorth eithriadol i gymdeithas a鈥檙 gymuned wyddonol fyd-eang, gan gynnwys ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa.
Mae gwaith Dr Woolway yn pontio eigioneg (astudiaeth wyddonol o'r cefnfor) a limnoleg (astudiaeth o ecosystemau dyfrol mewndirol megis afonydd a llynnoedd), gan ddefnyddio dulliau arloesol i archwilio effeithiau newid hinsawdd ar ddyfroedd naturiol.
Cydnabyddir ei waith ymchwil yn rhyngwladol, gyda dros 112 o bapurau cyhoeddedig a 14 wedi鈥檜 dyfynnu yn adroddiad diweddaraf y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC).
Mae ei waith arloesol, yn enwedig ar donnau gwres mewn llynnoedd, dadocsigeneiddio, a chyflymder newid hinsawdd, wedi peri i wyddonwyr edrych o鈥檙 newydd ar ganlyniadau ffisegol ac ecolegol newid hinsawdd ar systemau d诺r croyw.
Y tu hwnt i ymchwil, mae Dr Woolway yn fentor ymroddedig ac yn arweinydd yn y gymuned gwyddorau dyfrol. Gwasanaethodd ar Bwyllgor Gweithredol y Gymdeithas Limnoleg Ryngwladol (SIL), gan gyd-gadeirio pwyllgor y gymdeithas honno i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, Ar hyn o bryd mae'n gyd-gadeirydd Gweithgor Addysg ac Allgymorth y Sefydliad Modelu Agored (OMF), a bu iddo ran allweddol yn datblygu offer mynediad agored megis Lake Heat Flux Analyzer, LakeMetabolizer, ac rLakeAnalyzer, sy'n cefnogi ymchwil byd-eang.
Mae hefyd wedi cyflwyno darlithoedd llawn mewn cynadleddau rhyngwladol mawr, gan gynnwys Cyfarfod Gwyddorau D诺r ASLO a鈥檙 Symposiwm ar gyfer Gwyddorau D诺r Croyw Ewropeaidd.
Mae effaith eang Dr Woolway yn ymestyn y tu hwnt i'r byd academaidd, gyda'i ymchwil yn cael sylw mewn cyfryngau sylweddol fel y New York Times, Washington Post, BBC, CBC, a National Geographic. Mae hefyd yn cyfrannu'n flynyddol i'r Adroddiad ar Gyflwr yr Hinsawdd, sef crynodeb hinsawdd awdurdodol a gyhoeddir ym Mwletin Cymdeithas Feteorolegol America.
Dywedodd Llywydd ASLO Susanne Menden-Deuer, 鈥淢ae'n anrhydedd i ASLO gydnabod cyfraniadau eithriadol Dr. Woolway i wyddor hinsawdd, ei arweinyddiaeth ym maes limnoleg, a'i ymrwymiad i fentora gwyddonwyr dyfrol ar ddechrau eu gyrfa. Mae Dr Woolway yn ysbrydoliaeth trwy ei gyfraniadau gwyddonol a'r cyhoeddusrwydd a roddir i鈥檙 rhain yn y wasg boblogaidd.鈥
Dywedodd Dr. Iestyn Woolway, 鈥Mae'n anrhydedd i mi dderbyn y gydnabyddiaeth hon gan y Gymdeithas Gwyddorau Limnoleg ac Eigioneg. Mae'n hanfodol parhau i ddatblygu dealltwriaeth wyddonol o ecosystemau d诺r croyw yn wyneb newid hinsawdd - maes ymchwil sy'n dod yn fwyfwy hanfodol ar gyfer cynaliadwyedd ein planed.
Ychwanegodd yr Athro Paul Spencer, y Dirprwy Is-ganghellor gyda chyfrifoldeb dros Ymchwil ym Mhrifysgol 亚洲色吧,
鈥淟longyfarchiadau mawr i Iestyn ar dderbyn y gydnabyddiaeth hon am ei waith rhagorol. Mae ei waith ymchwil arloesol yn dyfnhau ein dealltwriaeth o effeithiau newid hinsawdd ar ddyfroedd naturiol. Gobeithiwn y bydd llwyddiant Iestyn yn ysbrydoli鈥檙 genhedlaeth nesaf o wyddonwyr hinsawdd i gofleidio鈥檙 posibiliadau sydd ar gael iddynt yn y maes hynod bwysig hwn.鈥