Mae’r Project Wystrys Gwyllt sydd yn adfer wystrys brodorol ym Mae Conwy, wedi cipio prif wobr am eu gwaith anhygoel mewn Gwobr a ddyfarnwyd am y tro cyntaf eleni.
Prifysgol ɫ yw’r partner lleol gyda’r elusen gadwriaethol ryngwladol, ZSL (Cymdeithas Sŵolegol Llundain) sydd y tu ôl i’r Project Wystrys Gwyllt, ynghyd â’i phartneriaid Blue Marine Foundation (Blue Marine) a British Marine. Maent yn dathlu buddugoliaeth i fywyd gwyllt gan iddynt ddod i’r brig o blith 21 o brojectau sy’n gweithio gyda rhywogaethau brodorol eraill ar y rhestr fer yng Ngwobrau Cadwraeth Bywyd Gwyllt Prydain.
Trefnir y gwobrau gan BIAZA (Cymdeithas Sŵau ac Acwaria Prydain ac Iwerddon). Pleidleisiodd Aelodau Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi dros y Project Wystrys Gwyllt. Nod y cystadleuaeth yw i amlygu rôl sŵau, acwaria a darpariaethau eraill tebyg wrth warchod ac adfer bywyd gwyllt y Deyrnas Unedig trwy waith cadwraeth maes, adfer cynefinoedd ac addysg.
Cyflwynwyd y wobr i arweinwyr y Project Wystrys Gwyllt gan Lefarydd Tŷ’r Cyffredin, Syr Lindsay Hoyle AS, mewn derbyniad arbennig a gynhaliwyd yn Nhŷ’r Llefarydd.
Nod y Project Wystrys Gwyllt, a gefnogir gan y partneriaid lleol Groundwork North East and Cumbria ynghyd a Phrifysgol ɫ, yw adfer iechyd moroedd Prydain trwy adfer yr wystrys brodorol wedi i’r rhywogaeth weld dirywiad o 95% yn eu niferoedd o ganlyniad i gyfuniad o golli cynefinoedd, llygredd, afiechyd a gor-gynaeafu.
Y llynedd yn unig (2 Hydref 2023) llwyddodd cadwriaethwyr morol y project i ryddhau 10,000 o wystrys ar riff danddwr fyw sydd newydd ei chreu ac sy’n 7,500 metr sgwâr o ran maint. Roedd hynny’n garreg filltir nodedig yn y gwaith o adfer rhywogaethau brodorol ar hyd arfordir y Deyrnas Unedig. Mae cynlluniau tebyg yn yr arfaeth i greu riff i wystrys brodorol yng ngogledd Cymru yr haf hwn.
Sefydlodd y project uchelgeisiol 141 o ardaloedd magu wystrys o dan fadbontydd mewn marinas a hynny mewn tair ardal adfer - a oedd yn gweithredu fel wardiau mamolaeth i wystrys ifanc a bu 428 o wyddonwyr-ddinasyddion gwirfoddol yn parhau i fonitro wystrys aeddfed. Bu mwy na 30,535 o fyfyrwyr ac 82,127 o aelodau’r cyhoedd yn ymwneud â’r project, gan ddod i ddeall sut i ofalu am yr amgylchedd morol a rhoi’r gair ar led pa mor bwysig yw’r boblogaeth o wystrys brodorol yn y Deyrnas Unedig.
Project Wystrys Gwyllt
Gan fod y Deyrnas Unedig yn swyddogol yn un o’r gwledydd lle bu’r dirywiad gwaethaf mewn byd natur, roedd yn codi calon rhywun i gael bod yn rhan o’r dathliad i godi proffil yr ymdrechion cadwriaethol i ddiogelu ac adfer y byd naturiol sydd ar garreg ein drws. Mae’r Project Wystrys Gwyllt yn ffodus iawn o gael cefnogaeth aelodau o Dŷ’r Cyffredin ac o Dŷ’r Arglwyddi i’r gwaith o adfer wystrys brodorol ym Mae Conwy yng ngogledd Cymru ac yn Tyne and Wear yng ngogledd-ddwyrain Lloegr. Ein gobaith yw y cawn weld dyfroedd arfordirol iach, gwydn ac y byddwn yn gwneud gwahaniaeth mawr i ddyfodol bywyd gwyllt Prydain.
Diogelu wystrys brodorol rhag difodiant
Eglurodd Celine Gamble, Rheolwr Project Wystrys Gwyllt yn ZSL,
“Rydym yn benderfynol o ddiogelu wystrys brodorol rhag difodiant. Er eu bod nhw’n fach, gall wystrys gael effaith fawr ar yr amgylchedd morol ar hyd yr arfordir; maen nhw'n gallu hidlo tua 200 litr o ddŵr y dydd - cymaint â llond bath o ddŵr - gan helpu i wella ansawdd ein dŵr arfordirol a darparu cynefin hanfodol i rywogaethau morol eraill. Bydd dychweliad y wystrys brodorol yn arwain at ddyfroedd arfordirol iachach a mwy gwydn ledled y Deyrnas Unedig.”
“Mae’n anrhydedd cael ein cydnabod gan aelodau o Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi, a chael cydnabyddiaeth am y gwaith rydym yn ei wneud i warchod ac adfer ein bywyd gwyllt brodorol.”
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wild-oysters.org.wild-oysters.org.