Eglurodd Steven Gallacher, Rheolwr Gweithrediadau yn Scottish Shellfish Marketing Group, sy鈥檔 cydweithio 芒鈥檙 t卯m, 鈥淔fermio cregyn gleision yw un o鈥檙 dulliau mwyaf cynaliadwy o gynhyrchu bwyd, ond nid yw pob cregyn gleision yn bodloni鈥檙 safonau ansawdd uchel a ddisgwylir gan ddefnyddwyr. Bydd y cyfle newydd posibl hwn ar gyfer cregyn gleision sydd ddim yn cyrraedd y safonau yn helpu i wella cynaliadwyedd ein diwydiant ymhellach.鈥
Meddai Dr Noel Roberts, cyd-ddyfeisiwr Pennotec, ymchwilydd ar ddechrau ei yrfa a raddiodd ar y cwrs ION Leadership ym Mhrifysgol 亚洲色吧, 鈥Mae chwistrellau arwyneb bioladdol confensiynol sy'n atal tyfiant mwsogl a llysnafedd yn para tair blynedd ar y mwyaf. Mae hyn yn ddrud i berchnogion tai ac yn ddrwg i'r amgylchedd. Mae profion hindreulio cyflymedig ym Mhrifysgol 亚洲色吧 yn rhagweld y bydd ein cynnyrch yn atal tyfiant arwyneb am hyd at 15 mlynedd, gan arbed miloedd o bunnoedd i berchnogion tai a lleihau'r risg o ddifrod i'r to gan lanhau cyson.鈥
Gyda chymaint o gryfderau amgylcheddol cryf yn rhan o鈥檙 deunydd, roedd Noel hefyd yn awyddus i sicrhau bod ei gynnyrch yn darparu ateb gwirioneddol gylchol: 鈥淢ae fy nyfais yn disodli cemegau glanhau peryglus. Er gwaethaf hyn, roeddwn yn gwybod y gallai fy nghynnyrch fynd i safleoedd tirlenwi ar ddiwedd ei oes fuddiol, ac nid oeddwn yn hapus am hynny.鈥
Arweiniodd hyn at Noel i wneud cais am gyngor a chefnogaeth DEFRA ac Ymchwil ac Arloesi yn y Deyrnas Unedig (UKRI). Mae Canolfan Economi Gylchol Ryngddisgyblaethol UKRI ar gyfer Deunyddiau Adeiladu Seiliedig ar Fwynau (ICEC-MCM) - un o bum canolfan ymchwil gwerth 拢30 miliwn sy'n canolbwyntio ar ddatblygu Economi Gylchol y DU - bellach yn cefnogi project cydweithredol newydd i ymchwilio i ailgylchu deunydd cyfansawdd cregyn gleision sydd wedi ei ddefnyddio yn 么l i mewn i鈥檙 cynnyrch ffres.
Mae Noel, a'i d卯m yn Pennotec, yn cydweithio 芒 Dr Simon Curling, arbenigwr ar gylch bywyd a gwydnwch deunyddiau adeiladu yng Nghanolfan Biogyfansoddion Prifysgol 亚洲色吧. Dywedodd Simon, 鈥Gan ddefnyddio ein gallu i efelychu blynyddoedd o hindreulio mewn ychydig wythnosau, rydym yn helpu Noel i brofi a dilysu perfformiad a gwydnwch ei ddeunydd wedi'i ailgylchu.鈥
Mae dangos bod y math hwn o ailgylchu yn bosibl mewn diwydiant adeiladu sy'n llinol iawn yn ei ddefnydd o ddeunyddiau yn dipyn o her. Mae adeiladu yn cynhyrchu mwy nag un rhan o dair o'r holl wastraff sy'n cyrraedd safleoedd tirlenwi.
鈥淓r mwyn i鈥檙 Economi Gylchol weithio鈥檔 ymarferol, mae angen meddwl o鈥檙 newydd yngl欧n 芒 sut mae gweithgynhyrchwyr deunyddiau adeiladu yn ariannu ac yn rheoli鈥檙 gwaith o adfer ac ailbrosesu cynhyrchion.
Trwy weithio gydag arbenigwyr busnes a chyllid yr Economi Gylchol yn ICEC-MCM, rwy鈥檔 gobeithio deall sut y gall y diwydiant adeiladu, cyllidwyr, cymdeithasau tai a pherchnogion tai gael eu cymell i gefnogi ailgylchu deunyddiau adeiladu ar ddiwedd eu hoes fuddiol.鈥澛