Darganfuwyd y llong a anfonodd rybudd am y mynydd i芒 i'r RMS Titanic, cyn i'r llong honno suddo, yn gorwedd ym M么r Iwerddon.
Yn 1912 roedd y stemar fasnachol SS Mesaba yn croesi M么r Iwerydd ac anfonodd neges radio鈥檔 rhybuddio鈥檙 RMS Titanic. Derbyniwyd y neges, ond ni chyrhaeddodd honno mo鈥檙 capten. Yn ddiweddarach y noson honno, tarodd y Titanic, llong y credid na ellid mo鈥檌 suddo, y mynydd i芒 a suddo ar ei mordaith gyntaf. Bu farw 1,500 o bobl yn llongddrylliad enwocaf y byd.听
Parhaodd SS Mesaba fel llong fasnachol am y chwe blynedd nesaf cyn cael ei tharo gan dorpido a hithau mewn confoi ym 1918.
Sonar aml-belydr o鈥檙 radd flaenaf
Bu ymchwilwyr Prifysgol 亚洲色吧 yn defnyddio sonar aml-belydr o鈥檙 radd flaenaf i chwilio amdani. Ymhen hir a hwyr daethant o hyd i鈥檙 llongddrylliad a datgelu ei safle am y tro cyntaf erioed.听
I鈥檙 archeolegydd morol, gall sonar aml-belydr fod mor effeithiol ag y bu 听awyrluniau i archeoleg dirweddol. Mae sonar aml-belydr yn fodd i fapio gwely'r m么r yn fanwl iawn a datgelu manylion strwythurau yn y delweddau sonar.
Mae'r SS Mesaba yn un o 273 o longddrylliadau sy鈥檔 gorwedd mewn 7500 milltir sgw芒r o F么r Iwerddon, a gafodd eu sganio a'u croesgyfeirio yn 么l cronfa ddata Swyddfa Hydrograffig y Deyrnas Unedig o longddrylliadau a ffynonellau eraill.
听
Tybid bod 101 o longddrylliadau鈥檔 weddill heb eu hadnabod, ond yr oedd nifer y llongddrylliadau a ddarganfuwyd o鈥檙 newydd yn uwch o lawer, oherwydd y cawsai nifer, gan gynnwys SS Mesaba, eu cofnodi'n anghywir yn y gorffennol.
Cyhoeddwyd manylion yr holl longddrylliadau mewn llyfr newydd, Echoes from the Deep gan Dr Innes McCartney o Brifysgol 亚洲色吧 ac a wnaed o dan Gymrodoriaeth Leverhulme tra oedd ym Mhrifysgol Bournemouth.
Dywedodd Innes,
鈥淢ae canlyniadau'r gwaith a ddisgrifir yn y llyfr wedi dilysu'r dechneg amlddisgyblaethol a ddefnyddir ac mae'n 'newid y g锚m鈥 i archaeoleg forol.听
鈥淵n flaenorol byddem yn gallu plymio i ychydig o safleoedd y flwyddyn yn unig i adnabod llongddrylliadau鈥檔 weledol. Bu galluoedd sonar unigryw鈥檙 Tywysog Madog yn fodd inni ddatblygu dull cymharol rad o archwilio'r llongddrylliadau. Gallwn gysylltu hynny 芒鈥檙 wybodaeth hanesyddol heb orfod archwlio pob safle鈥檔 gorfforol sy鈥檔 waith costus iawn.听
Dylai fod o ddiddordeb ysol i wyddonwyr morol, asiantaethau amgylcheddol, hydrograffwyr, rheolwyr treftadaeth, archeolegwyr morol, a haneswyr.鈥澨
Eglurodd Dr Michael Roberts a arweiniodd yr arolygon sonar,
鈥淢ae arbenigedd ac adnoddau unigryw Prifysgol 亚洲色吧, megis y 鈥楾ywysog Madog鈥 yn fodd inni gyflawni ymchwil gwyddonol o safon uchel yn hynod gost-effeithiol. 听Un enghraifft yn unig o hyn yw darganfod y llongddrylliadau sy鈥檔 cael eu dogfennu yn y cyhoeddiad ar gyfer ymchwil hanesyddol ac astudiaethau effaith amgylcheddol. 听Buom hefyd yn archwilio safleoedd y llongddrylliadau i ddeall yn well sut mae gwrthrychau ar wely鈥檙 m么r yn rhyngweithio 芒 phrosesau ffisegol a biolegol. Gall hynny yn ei dro helpu gwyddonwyr gefnogi datblygiad a thwf y sector ynni morol.鈥