ÑÇÖÞÉ«°É

Fy ngwlad:
Cerddoriaeth Music 100 looping video

Cerddoriaeth 100

Yn 2021-22 cafwyd dathliad canmlwyddiant o gerddoriaeth ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É

Yn ystod 2021-22, dathlodd Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É 100 Mlynedd o Gerddoriaeth, a ddechreuodd yn ôl ym 1920 gyda phenodiad Cyfarwyddwr Cerdd gyntaf y Brifysgol, Evan Thomas Davies.

Roedd yn foment o arwyddocâd sylweddol yn hanes cerddoriaeth yng Nghymru, gan feithrin gwerthoedd sy'n parhau i fod yn allweddol i genhadaeth y Brifysgol heddiw.

Roedd dathliadau’r canmlwyddiant yn gyfle i edrych yn ôl dros ganrif o greu cerddoriaeth, gan rannu cerrig milltiroedd cerddorol - mawr a bach - ac yna ymlaen i'r 100 mlynedd nesaf, a fydd yn gweld nifer o ddatblygiadau newydd a chyffrous.

Gyda dathliad blwyddyn o hyd a llu o ddigwyddiadau arbennig, dathlodd Cerddoriaeth 100 ddyfodol cerddoriaeth, bywyd a diwylliant yng Ngogledd Cymru a thu hwnt.

Myfyriwr cerdd yn chwarae'r delyn

Y 100 MLYNEDD CYNTAF

Taith trwy 100 mlynedd o gerrig milltir cerddorol, mawr a bach, sy'n rhan o ddiwylliant a hanes cyfoethog ÑÇÖÞÉ«°É ...

Myfyrwyr yn chwarae offerynnau

Astudio Cerddoriaeth ym Mangor

Dan arweiniad cyfansoddwyr, cerddolegwyr ac ymchwilwyr byd-enwog, byddwch yn rhan o'n cymuned gerddoriaeth fywiog ym Mangor.

Rwy'n hoffi'r ffaith nad ydych chi fel cerddor yn gyfyngedig i berfformio yn unig. Rwy'n gallu teilwra fy ngradd i'r hyn rydw i eisiau ei wneud trwy'r modiwlau rydw i'n eu cymryd; felly, yn cael y cyfle i wneud y gorau o fy ngradd.  

Alys Bailey Wood, Myfyrwraig Cerdd

Cymrodyr er Anrhydedd

Cymrawd Er Anrydedd - Bryn Terfel

Canwr opera bas-bariton Syr Bryn Terfel Jones, CBE

Ganed Bryn Terfel ger Caernarfon, gogledd Cymru. Mae wedi perfformio mewn tai opera mawreddog ledled y byd, ond mae gwreiddiau ei yrfa mewn cystadlaethau yn yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol fel bachgen ysgol, cyn iddo symud ymlaen i astudio yn Ysgol Gerdd a Drama London Guildhall. Mae gyrfa Bryn Terfel wedi cyrraedd uchelfannau yn y maes, gan bortreadu cymeriadau fel Figaro a Falstaff yn ogystal â chael clod uchel am ei bortread o Wotan, gan Wagner.

Fe'i gwnaed yn Gymrawd Anrhydeddus Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ym 1994, a gwobrwywyd Doethuriaeth Anrhydeddus iddo yn 2012.

Elin Manahan Thomas - Cymrawd er Anrhydedd

Soprano a pherfformwraig baróc o Gymru Elin Manahan-Thomas

Mae Elin Manahan Thomas yn un o sopranos mwyaf eithriadol ei chenhedlaeth. Ers rhyddhau ei halbwm début ‘Eternal Light’ yn 2007, gyda Cherddorfa 'Age of Enlightenment', mae hi wedi perfformio mewn llawer o wyliau mawreddog y byd, a chyda cherddorfeydd ac arweinwyr blaenllaw. Ym mis Mai 2018 cafodd Elin yr anrhydedd i berfformio ym Mhriodas Frenhinol y Tywysog Harry a Meghan Markle.

Derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd am ei gwasanaethau i gerddoriaeth yn 2016.

Gruff Rhys - Cymrawd er Anrhydedd

Cerddor, cyfansoddwr, cynhyrchydd, gwneuthurwr ffilmiau ac awdur Gruff Rhys

Ganed Gruff Rhys yn Hwlffordd, cyn symud i Fethesda lle cafodd ei fagu, gan fynychu Ysgol Dyffryn Ogwen. Mae'n perfformio'n unigol a gyda sawl band, gan gynnwys y Super Furry Animals, wnaeth gyrraedd llwyddiant prif ffrwd yn y 1990au. Rhyddhawyd ei albwm diweddaraf, 'Seeking New Gods', yn 2021. Mae hefyd wedi dilyn nifer o ymdrechion creadigol uchelgeisiol, gan gynnwys prosiect amlgyfrwng 2014 'American Interio'r, sy'n cynnwys albwm, ffilm a llyfr.

Derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd am wasanaethau i Gerddoriaeth yn 2015.

Huw Stephens - Cymrawd er Anrhydedd

Cyflwynydd radio a theledu Huw Stephens

Mae Huw Stephens yn gyflwynydd radio o Gymru, yn darlledu ar BBC Radio Cymru a BBC Radio 6 Music. Ymunodd Huw â BBC Radio 1 yn 17, y DJ Radio 1 ieuengaf erioed. Mae ei ddiddordeb brwd am gerddoriaeth newydd wedi golygu mai ef oedd yn aml y cyntaf i hyrwyddo artistiaid newydd yn gynnar. Sefydlodd ŵyl gerddoriaeth Sŵn - gŵyl aml-leoliad yng nghanol dinas Caerdydd - gyda John Rostron, ac ef sefydlodd 'Dydd Miwsig Cymru' hefyd.

Derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd am wasanaethau i Gerddoriaeth yn 2015.

Duffy - Cymrawd er Anrhydedd

Cantores, cyfansoddwraig ac actores Aimee Duffy

Wedi'i geni a'i magu yn Nefyn yng Ngwynedd, yn 2009 enillodd Duffy Wobr Grammy am yr Albwm Lleisiol Pop gorau, a thair Gwobr Brit. Hi oedd yr artist recordio benywaidd cyntaf o Gymru i gyrraedd rhif 1 yn y DU ers dros 25 mlynedd. Aeth ei halbwm cyntaf yn 2008, Rockferry, i mewn i siart albwm y DU yn Rhif 1 ac mae wedi gwerthu dros ddwy filiwn o gopïau.

Derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd am ei gwasanaethau i Gerddoriaeth yn 2011.

Sian James - Cymrawd er Anrhydedd

Cantores, telynores a chyfansoddwraig Siân James

Mae Siân James yn gantores a thelynores gwerin draddodiadol o Gymru, sydd wedi recordio ar gyfer Sain a BBC Records yn ogystal â’i label ei hun, Bos. Mae hi wedi rhyddhau naw albwm o'i gwaith.

Yn wreiddiol o Lanerfyl ym Mhowys, cymerodd Siân James ran mewn eisteddfodau lleol o oedran ifanc, gan chwarae'r piano, y ffidil ac yn ddiweddarach y delyn. Tra’n dal yn fyfyrwraig yn Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion, dechreuodd gyfansoddi ei chaneuon ei hun a threfnu cerddoriaeth draddodiadol Cymraeg. Aeth ymlaen i ddarllen cerddoriaeth ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Mae hi hefyd yn adnabyddus am ei gwaith actio ar deledu Cymraeg.

Fe’i gwnaed yn Gymrawd Anrhydeddus Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn 2007.

Bernard Rands

Enillydd Gwobr Pulitzer Bernard Rands

Pob dymuniad da o America ...

Roedd y cyfansoddwr arobryn Gwobr Pulitzer, Bernard Rands, yn fyfyriwr ym Mangor yn y 1950au, gan ddod yn ddarlithydd yn yr Adran Gerdd yn ddiweddarach.

“Mae’n gyffrous ac yn ysbrydoledig meddwl am bopeth sydd wedi digwydd yn nhwf astudio ac ymarfer cerddoriaeth yn y brifysgol. I mi, mae'n hiraethus iawn hefyd wrth i mi gofio fy mlynyddoedd yno - yn gyntaf fel myfyriwr ac yn ddiweddarach fel aelod cyfadran. Roedd Coleg ar y Bryn yn gymuned glos yn y blynyddoedd hynny ac rwy'n trysori'r profiadau o dderbyn yr addysg orau bosibl y gallai rhywun ddymuno amdano (ac nid yn unig mewn cerddoriaeth). Cafodd yr hyn yr wyf wedi'i gyflawni yn fy mywyd fel cyfansoddwr proffesiynol ei ffurfio a'i seilio yn y blynyddoedd hynny.

“Wrth imi droi tuag at fy mlwyddyn pen-blwydd yn naw deg oed (2024) rwy’n cofio’n serchog bopeth a chwaraeodd Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn fy ieuenctid.

“Rwy’n anfon fy nymuniadau orau am Flwyddyn Canmlwyddiant llwyddiannus a gorfoleddus."