Beth wnaeth eich ysbrydoli neu eich ysgogi i ddefnyddio'r offer/adnodd hwn?
Roedd yr adnodd hwn eisoes yn fformat asesu dilys pan ymunais 芒鈥檙 modiwl, ond ar 么l ei ddefnyddio a gorfod sefydlu cylch dilynol, sylweddolais fod ffordd fwy effeithlon o鈥檌 ddefnyddio.
Wrth ymuno 芒'r modiwl, cr毛wyd nifer o fyrddau trafod o dan ffolder ar gyfer pob goruchwyliwr (hyd at 10 goruchwyliwr yn y modiwl). Yna neilltuwyd grwpiau i bob bwrdd trafod, ond fe all myfyriwr gael ei neilltuo i fwy nag 1 gr诺p a rhai myfyrwyr heb eu neilltuo i unrhyw un. Roedd hyn hefyd yn lot o waith wrth eu gosod, a phe byddai myfyriwr yn gadael neu鈥檔 symud gr诺p, byddai'r holl wybodaeth flaenorol ar y bwrdd trafod hwnnw'n cael ei cholli. Roedd y system hon hefyd yn weledol gymhleth i staff a myfyrwyr, gan fod yn rhaid iddynt chwilio am eu goruchwyliwr, agor y ffolder honno, ac yna mynd at y byrddau trafod yr oeddent eisiau teipio ynddynt.
Beth oedd eich nod wrth ddefnyddio鈥檙 offer/adnodd hwn?
Symleiddio鈥檙 broses sefydlu, ac yn dilyn m芒n addasiad yn yr asesiad, symleiddio鈥檙 byrddau trafod fel mai dim ond 1 bwrdd oedd gan fyfyrwyr i ysgrifennu arno. Byddai hyn yn eu galluogi i wneud cysylltiadau rhwng y 4 pwnc astudio (Gofal Person-Ganolog, Gweithio mewn T卯m, Cydweithio Rhyngbroffesiynol ac Atebolrwydd Proffesiynol) a hefyd, roedd myfyrwyr yn aml yn canfod y gallai adnodd gefnogi pynciau lluosog, felly byddai cyflwyno unwaith yn lleihau llwyth gwaith mewn modiwl dwys iawn.
Roeddem yn dal i fod eisiau gallu darparu canllaw i fyfyrwyr o ran cwblhau'r byrddau, yn ogystal 芒 chwestiynau cychwynnol ar gyfer pob pwnc, er mwyn eu hannog i feddwl am dystiolaeth y maent eisiau edrych arni. Mae'r opsiwn testun wrth osod bwrdd yn ein galluogi i ddarparu'r ddau, nid yn unig yn llawlyfr y modiwl, ond ar frig y byrddau lle mae myfyrwyr yn mynd yn amlach, fel bod y wybodaeth ar gael yn haws wrth wneud sylwadau ar eu byrddau.
I ba ddiben wnaethoch chi ddefnyddio'r offer/adnodd?
Defnyddir y bwrdd trafod fel llwyfan i gr诺p rhyngbroffesiynol bach (4) o fyfyrwyr rannu tystiolaeth y maent wedi鈥檌 darllen ar 4 thema allweddol mewn ymarfer gofal iechyd (Gofal Person-Ganolog, Gweithio mewn T卯m, Cydweithrediad Rhyngbroffesiynol ac Atebolrwydd Proffesiynol). C芒nt eu hannog i edrych ar dystiolaeth o'u maes eu hunain fel bod pawb yn cael golwg ehangach ar y pwnc, yn hytrach na safbwynt eu maes eu hunain yn unig. Mae hyn yn eu galluogi i gymharu a chyferbynnu'r tebygrwydd a'r gwahaniaethau o ran ethos a ffocws eu meysydd mewn perthynas 芒 darparu gofal.
Maent wedyn yn mynd ati fel gr诺p i ddefnyddio'r byrddau i gyfansoddi traethawd 500 gair ar bob pwnc, cyn cyflwyno'r traethodau hyn ar y bwrdd. Mae hyn yn galluogi pawb i weld y traethodau trwy gyfnodau drafft a'r fersiwn derfynol wedi'i chwblhau, ac yn rhoi profiad iddynt o weithio gyda phobl eraill o ddisgyblaethau amrywiol, o bosibl wedi'u lleoli mewn gwahanol ardaloedd ar draws gogledd Cymru, i gwblhau tasg gr诺p. Mae hyn yn bwysig gan fod llawer o gyrff proffesiynol bellach yn gofyn am y math hwn o asesiad fel rhan o'u disgwyliadau o ran hyfforddiant israddedig, er mwyn adlewyrchu realiti lleoliadau clinigol.
Yn dilyn trafodaeth gyda gwasanaethau digidol, darganfyddais y byddai creu grwpiau ar wah芒n ar Blackboard yn gyntaf yn caniat谩u i ddiwygio aelodau'r gr诺p heb effeithio ar gynnwys bwrdd. Mae'r broses hon hefyd yn golygu nad oes modd neilltuo myfyriwr i fwy nag 1 gr诺p, a gallwch weld yn glir ar y diwedd a oes unrhyw fyfyrwyr cofrestredig ar y modiwl nad ydynt wedi cael eu neilltuo. Yna, gellir cymhwyso'r grwpiau hyn i agweddau eraill ar Blackboard, megis y byrddau trafod, profion neu hyd yn oed adnoddau.
Yn yr un modd, symleiddiwyd y broses o osod bwrdd trafod gan y broses hon wrth i chi osod bwrdd sengl gyda'i nod agoriadol ac unrhyw gyfarwyddiadau i fyfyrwyr yr hoffech eu cynnwys cyn aseinio'r grwpiau. Ar 么l neilltuo myfyrwyr drwy glicio ar y bwrdd trafod, dim ond eu bwrdd gr诺p penodedig y bydd ganddynt fynediad ato. Yn syml, mae'n rhaid i oruchwylwyr ddewis y gr诺p y maent eisiau ei weld (rydym yn eu labelu ag enw'r goruchwyliwr a rhif y gr诺p) i newid rhwng gwahanol grwpiau. Roedd hyn yn gwneud y gwaith o osod llawer cyflymach ac yn symleiddio'r wedd i staff a myfyrwyr. Dyletswydd y goruchwylwyr yw darparu tiwtorial hanner awr bob wythnos i鈥檞 grwpiau, a hefyd adolygu bwrdd trafod y gr诺p unwaith yr wythnos i ddarparu sylwadau a chefnogaeth wrth iddynt weithio trwy eu hasesiad, gan gynnwys sylwadau ar ddrafftiau a chyfeiriadau at yr erthyglau sy鈥檔 cael eu trafod.
Sut effeithiodd yr offer/adnodd ar eich addysgu?
Mae symleiddio'r bwrdd trafod i fyfyrwyr wedi golygu y gallwn dreulio llai o amser yn dangos i fyfyrwyr sut i gael mynediad at eu byrddau, a mwy o amser yn darparu addysg a chynnwys newydd i fyfyrwyr, yn ogystal 芒 chynnig cefnogaeth ar faterion eraill.
Mae鈥檙 myfyrwyr hefyd yn gallu dechrau defnyddio鈥檙 byrddau鈥檔 gynt i ddechrau ar eu hymchwil ar gyfer yr asesiad, yn ogystal 芒 phenderfynu fel gr诺p sut y byddant yn mynd ati i goladu鈥檙 holl wybodaeth i鈥檞 chyflwyno i鈥檞 gilydd yn ystod y broses, sydd ynddo鈥檌 hun yn sgil bwysig i鈥檞 datblygu ar gyfer eu gyrfaoedd academaidd a chlinigol.
Pa mor dda y perfformiodd yr offer/adnodd: A fyddech chi'n ei argymell?
Pan gaiff ei ddefnyddio'n gywir gan gr诺p, mae hwn yn adnodd ac yn arf ardderchog i ganiat谩u rhannu gwybodaeth a syniadau, yn enwedig pan nad yw cyswllt wyneb yn wyneb yn bosibl oherwydd pellter lleoliad neu ofynion sy'n gwrthdaro, sy'n gwneud cyfarfodydd cydamserol yn anoddach i鈥檞 trefnu.
Mae鈥檔 ei gwneud yn ofynnol i鈥檙 gr诺p weithio鈥檔 unol 芒鈥檙 set o ganllawiau, a lle mae grwpiau鈥檔 methu, mae goruchwyliwr yn goruchwylio er mwyn hyrwyddo ymlyniad 芒鈥檙 defnydd a argymhellir, e.e. darparu cyfeiriadau llawn at dystiolaeth sy鈥檔 cael ei thrafod, myfyrwyr yn darparu crynodeb i鈥檙 gr诺p o鈥檙 dystiolaeth fel nad oes rhaid iddynt i gyd ddarllen pob erthygl, gan sicrhau bod y cyfathrebu ar y bwrdd yn barchus ac yn broffesiynol drwy鈥檙 amser. O ran priodoldeb cyfathrebu, caiff y byrddau eu sefydlu fel na all myfyrwyr ddileu unrhyw sylwadau a wneir, fel y gall goruchwylwyr ymchwilio i sylwadau amhriodol.
Cyfyngiad arall ar yr offeryn hwn yw ei fod ond yn caniat谩u i fyfyrwyr ryngweithio mewn modd anghydamserol ar sail testun. Nid yw ychwaith yn rhybuddio myfyrwyr yn y gr诺p pan fydd eraill wedi postio ar y bwrdd, ac felly mae'n gofyn iddynt ei wirio'n rheolaidd neu fod 芒 ffurfiau eraill o ddiweddaru ei gilydd ar y cynnydd. Yn amlwg, mae cyfyngiadau鈥檔 berthnasol i hyn, gan nad yw鈥檔 cipio sgyrsiau a ddigwyddodd oddi ar y bwrdd, naill ai ar Teams, wyneb yn wyneb neu systemau negeseuon eraill, er bod myfyrwyr hefyd yn ymwybodol, oni bai bod y rhyngweithiadau hyn yn cael eu crynhoi ar y bwrdd, na all eu goruchwyliwr gynnwys y gwaith gr诺p hwn fel rhan o鈥檙 asesiad. Mae hyn yn annog myfyrwyr i ddarparu crynodebau o gysylltiadau eraill ar eu bwrdd. Mae ein myfyrwyr yn aml yn defnyddio cyfarfodydd Teams neu gyfarfodydd wyneb yn wyneb yn dilyn darlithoedd i ryngweithio ar lafar yn gydamserol, y maent yn aml yn ei weld yn allweddol i lwyddiant yr asesiad yn gyffredinol.
Cyfyngiad arall yw, er bod y byrddau鈥檔 cynnwys opsiwn o gael eu marcio, nid yw'r system farcio hon ar hyn o bryd yn hidlo i'r llyfr graddau i'w goladu a鈥檌 drosglwyddo i鈥檙 t卯m gweinyddu myfyrwyr. Rydych naill ai angen taflen farcio ar wah芒n y byddwch yn ei llenwi o'r byrddau, a all gynyddu gwallau, neu mae'n rhaid i chi gael porth cyflwyno ar wah芒n lle mae myfyrwyr yn uwchlwytho tudalen flaen er mwyn atodi marc y bwrdd trafod iddi. Mae'r ail opsiwn hwn yn caniat谩u i fyfyrwyr rannu gwybodaeth PSLP a slipiau melyn gyda'r marciwr heb orfod hysbysu eu gr诺p, sy'n amlwg yn rhywbeth cadarnhaol. Er hynny, gall byrddau gael eu cuddio'n awtomatig o hyd i atal ychwanegiadau pellach ar y dyddiad cyflwyno, yn union fel unrhyw borth asesu.
Sut groeso gafodd yr offer /adnodd gan y myfyrwyr?
Er bod myfyrwyr yn bryderus i ddechrau ynghylch yr asesiad hwn, gan mai hwn yw eu hasesiad cyntaf ar ddechrau'r cwrs, maent yn addasu'n gyflym iddo, ac mae'r rhan fwyaf yn ei ddefnyddio'n effeithiol. Mae llawer o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i ffurfio cwlwm cryf rhyngddynt eu hunain ac aelodau eraill y gr诺p, ac yn parhau i ddysgu oddi wrth ei gilydd a chefnogi ei gilydd wrth iddynt symud ymlaen trwy eu gyrfa, hyd yn oed pan fyddant yn symud yn 么l i addysgu disgyblaeth-benodol.
Rhannwch 'Awgrym Da' i gydweithiwr sy'n newydd i'r offer/adnodd
Mae hon yn enghraifft wych o ddefnyddio adnoddau technoleg gwybodaeth/digidol i oresgyn pellter a gofynion cystadleuol i hwyluso gwaith gr诺p rhwng grwpiau myfyrwyr rhyngbroffesiynol.
Deunyddiau darllen a argymhellir:
Byrddau Trafod Blackboard:
Cyswllt am ragor o wybodaeth:
Becky Moseley: b.moseley@bangor.ac.uk
T卯m Cefnogi Dysgu ac Addysgu: helpdesk@bangor.ac.uk