亚洲色吧

Fy ngwlad:

Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol a Datblygiad Myfyrwyr: Sgiliau Cyflogadwyedd, Meddwl yn Feirniadol, ac Ymarfer Moesegol

Beth wnaeth eich ysbrydoli neu eich ysgogi i ddefnyddio'r offeryn/adnodd hwn?

Mae llawer o fyfyrwyr yn cael trafferth gyda dadansoddi beirniadol. Mae sgiliau deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol wedi'u nodi gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd fel nodwedd allweddol newydd i raddedigion. Mae myfyrwyr yn credu y bydd sgiliau deallusrwydd artiffisial yn bwysig yn eu gradd ac yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol. ChatGPT yw'r offeryn deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol mwyaf adnabyddus a phoblogaidd, gyda鈥檙 rhan fwyaf o fyfyrwyr wedi ei ddefnyddio; fodd bynnag, nid yw'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn deall polis茂au deallusrwydd artiffisial eu prifysgol ac maent yn ofni camymddwyn academaidd anfwriadol. Mae llawer o academyddion hefyd wedi cydnabod y bygythiadau a berir gan ddeallusrwydd artiffisial cynhyrchiol i uniondeb academaidd a datblygiad myfyrwyr fel ysgolheigion, cyfathrebwyr, a meddylwyr.聽
Roedd arna i eisiau defnyddio deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol yn y dosbarth, yn gyntaf i gyflawni angen gwirioneddol, sef i helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau dadansoddi beirniadol. Yn ail, roedd arna i eisiau dangos i fyfyrwyr sut i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial yn foesegol fel y gallent fod yn fwy hyderus wrth ddefnyddio'r offer hyn yn foesegol yn y dyfodol. Yn drydydd, roedd arna i eisiau cynnig cyflwyniad i sgiliau deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol er mwyn gwella cyflogadwyedd y myfyrwyr.

Beth oedd eich nod wrth ddefnyddio鈥檙 offeryn/adnodd hwn?

Roedd arna i eisiau i fyfyrwyr ymarfer dadansoddi beirniadol a gwella eu gwaith yn raddol gan ddefnyddio ChatGPT fel cynorthwyydd, gan nodi meysydd sydd angen eu datblygu yn ogystal ag elfennau sydd wedi'u cyflawni'n llwyddiannus.聽

I ba ddiben wnaethoch chi ddefnyddio'r offeryn/adnodd?

Roedd hon yn sesiwn dan arweiniad hyfforddwyr 么l-radd gyda鈥檙 bwriad o roi a) offeryn i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf seicoleg a gwyddor chwaraeon wella eu sgiliau dadansoddi beirniadol a b) rhai sgiliau ysgogi deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol. Roedd yr hyfforddwyr 么l-radd wedi cael y daflen waith ymlaen llaw a gofynnwyd iddynt arwain eu grwpiau drwyddi, gan roi ychydig o gyd-destun ar y dechrau am gyflogadwyedd a phwysigrwydd posibl bod 芒 rhai sgiliau deallusrwydd artiffisial yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol, a hefyd pam mae dadansoddi beirniadol yn bwysig ym maes gwyddoniaeth ac i'w gradd.聽

Sut effeithiodd yr offeryn/adnodd ar eich addysgu?

Dywedodd rhai myfyrwyr nad oeddent erioed wedi defnyddio ChatGPT oherwydd bod arnynt ei ofn. O ystyried y tebygolrwydd y bydd deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, mewn rhyw ffurf, yn bwysig iddynt yn y dyfodol, roedd eu hamlygu i'r posibiliadau yn ymarfer defnyddiol. Roedd hefyd yn ddefnyddiol sgwrsio 芒鈥檙 myfyrwyr am eu hymwybyddiaeth gyfredol o offer deallusrwydd artiffisial, chwalu rhai ystrydebau, a chynnig arweiniad. Er enghraifft, datgelodd un myfyriwr ei fod yn defnyddio offeryn aralleirio poblogaidd seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisial, sy'n hynod anfoesegol yn y rhan fwyaf o achosion. Roeddwn yn gallu esbonio pam ei fod yn anfoesegol ac awgrymu ffyrdd gwahanol (a moesegol) o weithio ar eu gallu i aralleirio, a fyddai'n gwneud iddynt ddysgu'r deunydd yn fwy effeithiol.

Pa mor dda oedd yr offeryn/adnodd. A fyddech chi'n ei argymell?

Problem 1: Rhoddais enghraifft o ysgogiad gyda chyfarwyddiadau clir. Fodd bynnag, NI wnaeth y rhan fwyaf o fyfyrwyr gop茂o'r ysgogiad enghreifftiol, ac yn hytrach ysgrifenasant dim ond ysgogiadau gwael nad oeddent yn cyflawni'r nodau roeddwn i'n gobeithio amdanynt. Mae hwn yn un o'r ymarferion ar y ddalen (gan ddefnyddio ysgogiad gwael ac yna un da), ond roedd llawer o fyfyrwyr yn rhoi鈥檙 gorau iddi yn y fan yna ac nid oeddent wedyn yn symud ymlaen at yr ysgogiad da. Roedd yn teimlo fel eu bod wedi bras-ddarllen y daflen.

  • Gwers 1: Efallai bod angen i'r cyfarwyddiadau fod hyd yn oed yn gliriach, efallai amlygu鈥檙 rhan sy'n gofyn iddynt gop茂o'r ysgogiad da yn ei gyfanrwydd. Efallai y gellid defnyddio pwyntiau bwled i nodi camau gweithredu mewn proses.
  • Gwers 2: Roedd yn ymarfer dysgu defnyddiol iawn i fynd o gwmpas ac eistedd gyda myfyrwyr ac edrych ar eu hysgogiadau a chael sgwrs am y gwahaniaeth rhwng y rhai da a drwg. Mae cynnwys ysgogiad da a drwg yn ymarfer defnyddiol y byddwn yn bwrw ymlaen ag ef.
  • Gwers 3: Yn y dyfodol byddwn yn rhoi cyfarwyddiadau cliriach i'm hyfforddwyr 么l-radd ynghylch sut i ryngweithio 芒'r myfyrwyr - roeddent yn cerdded o gwmpas ac yn ateb cwestiynau, ond nid oeddent yn eistedd gyda myfyrwyr ac yn gofyn y cwestiynau eu hunain.聽

Problem 2: Newidiodd rhai myfyrwyr yr ysgogiadau da a drwg ychydig, gan ddweud "gwella hyn" yn lle "gwerthusa hyn". Yna ailysgrifennodd ChatGPT y gwaith iddynt heb roi arweiniad penodol. Mae cyfyngiad ar ba mor dda y gall ChatGPT fod yn y sefyllfa hon a gallai annog camddefnydd (neu gyfreithloni camddefnydd os oedd myfyrwyr yn meddwl mai cael ChatGPT i ailysgrifennu eu gwaith oedd diben y sesiwn).

  • Gwers 4: Roedd mynd o gwmpas ac edrych ar yr awgrymiadau a'r hyn a ddeilliodd o鈥檙 ymarfer yn hollbwysig er mwyn sylwi ar y materion hyn a'u cywiro.

Pa mor dda gafodd yr offeryn/adnodd ei dderbyn gan fyfyrwyr?

Roedd gan y myfyrwyr brofiad blaenorol amrywiol. Nid oedd rhai wedi defnyddio ChatGPT, ac roedd eraill wedi. Mwynhaodd rai yr ymarfer a鈥檌 gael yn werthfawr. Ni welodd rai y diben. Roedd cyfleoedd i gael sgyrsiau am werth sgiliau deallusrwydd artiffisial, sut i鈥檞 defnyddio鈥檔 foesegol, a gwerth gwneud eich gwaith eich hun. Byddwn yn cynnal y sesiwn eto yn y dyfodol, gan ymgorffori fy ngwersi a ddysgwyd.

Rhannwch 'Awgrym Da' ar gyfer cydweithiwr sy'n newydd i'r offeryn/adnodd

Cymerodd rai myfyrwyr hanner y seminar awr o hyd i fewngofnodi oherwydd y protocolau diogelwch. Byddwn yn argymell gofyn i fyfyrwyr greu cyfrif cyn y seminar i wneud y defnydd gorau o鈥檜 hamser.
Byddwn hefyd yn argymell cael sgwrs dda 芒鈥檙 myfyrwyr i adnabod defnydd gwael a gwneud awgrymiadau, er mwyn osgoi cyfreithloni defnydd anfoesegol yn anfwriadol.

Sut byddwn chi'n crynhoi'r profiad mewn 3 gair?

Effeithlon, diddorol, addasadwy

Deunyddiau darllen a argymhellir:

Thomson, Pickard-Jones, Baines, and Otermans (yn y wasg).

Cyswllt am ragor o wybodaeth:

Beverley Pickard-Jones: b.pickard-jones@bangor.ac.uk聽