Trosolwg o'r Cynllun
Os oes gennych chi dros ddwy flynedd o brofiad addysgu ym maes Addysg Uwch, gallwch ennill Cymrodoriaeth yr AAU a chydnabyddiaeth o'ch arbenigedd addysgu o dan Gynllun Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Mae'r cynllun hwn fel arfer ar gyfer darlithwyr profiadol sy'n gallu bodloni holl feini prawf Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU. Dyma lwybr annibynnol i achrediad gyda sesiynau cymorth un-i-un wythnosol ar gael. Gellir ymgeisio yng nghanol mis Mehefin a chanol mis Rhagfyr.
Rhaid i ymgeiswyr ddangos:
- eu profiad mewn gwahanol feysydd o weithgaredd addysgu
- gwybodaeth a dealltwriaeth o addysgu a dysgu
- ymrwymiad i werthoedd proffesiynol academydd addysgu ym maes addysg uwch
Cymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch
Mae ennill Cymrodoriaeth yr AAU yn dangos eich bod yn gymwys i addysgu ym maes Addysg Uwch a'ch ymrwymiad i'ch datblygiad proffesiynol. Mae hon yn wobr addysgu hynod uchel ei pharch a gydnabyddir yn genedlaethol, ac mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É wedi'i hachredu gan Advance HE i ddyfarnu Cymrodoriaethau’r AAU i aelodau staff a myfyrwyr PHD. Mae pedwar categori o Gymrodoriaeth AAU yn dibynnu ar ba mor brofiadol ydych chi:Â
- Cymrawd Cyswllt: Yn addas ar gyfer ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa sydd â rhai cyfrifoldebau addysgu, fel myfyrwyr PhD neu ymchwilwyr ôl-ddoethurol; y rhai sy'n newydd i addysgu ym maes addysg uwch gyda phortffolio cyfyngedig; neu staff cymorth fel llyfrgellwyr neu dechnegwyr sydd â rhywfaint o gyfrifoldeb addysgu.Â
- Cymrawd: Yn addas ar gyfer academyddion ar ddechrau eu gyrfa; y rhai mewn swyddi cymorth academaidd gyda chyfrifoldebau addysgu sylweddol; academyddion profiadol sy'n newydd i addysg uwch; neu addysgwyr yn y gweithle.Â
- Uwch Gymrawd: Yn addas ar gyfer academyddion profiadol sy'n arwain ar drefnu rhaglenni dysgu; y rheini sy’n brofiadol yn mentora athrawon newydd neu faes pwnc; neu staff profiadol sydd â chyfrifoldebau addysgu.Â
- Prif Gymrawd: Yn addas ar gyfer academyddion profiadol iawn mewn swyddi arweinyddiaeth strategol; llunwyr polisi addysg; uwch staff y mae eu heffaith strategol yn ymestyn y tu hwnt i'w sefydliad eu hunain.Â
Dysgwch Fwy
Os hoffech ddysgu mwy am y Cynllun Cydnabod DPP neu os oes gennych ddiddordeb cyflwyno cais, e-bostiwch l.grange@bangor.ac.uk i fynegi diddordeb. Cewch eich ychwanegu at safle Blackboard Cymrodoriaethau'r AAU, ble gallwch weld gwybodaeth ychwanegol ynghylch gwneud cais am Gymrodoriaeth yr AAU trwy'r Cynllun Cydnabod DPP, gan gynnwys llawlyfr y Cynllun, arweiniad a ffurflenni cais. Mae'r safle’n cynnwys cyhoeddiadau am ddyddiadau cau'r ceisiadau a dyddiadau'r sesiynau cymorth un i un wythnosol yn ystod y tymor, sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd gan Dr Laura Grange. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ar ôl edrych ar safle Blackboard neu os hoffech wneud cais am Gymrodoriaeth yr AAU drwy’r Cynllun Cydnabod DPP, cysylltwch â Dr Laura Grange.
Adborth gan Gyfranogwyr
Dr James Waggitt, Ysgol Gwyddorau Eigion, Cymrawd yr Academi Addysg Uwch
Dyfarnwyd cymrodoriaeth yr AAU imi’n gynharach eleni. Ymunais â Phrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É fel swyddog ymchwil yn 2015. Symudais ymlaen at ddarlithyddiaeth am gyfnod penodol yn 2017, ac yna at ddarlithyddiaeth lawn amser yn 2019. Ers imi ddechrau dysgu, datblygais ddulliau y dylanwadodd syniadau ac arddulliau personol arnynt, yn ogystal ag adborth ac awgrymiadau ar y cyd gan gydweithwyr a chyfoedion yn y brifysgol. Dros y 6 blynedd diwethaf, bûm yn ddigon ffodus i dderbyn cyngor gan gydweithwyr mwy profiadol ac arsylwi’r cydweithwyr hynny yn y dosbarth ac yn y maes. Credaf ei bod yn hanfodol deall dulliau ac athroniaethau amrywiol.
Mae’n fodd datblygu arddull unigryw sy'n manteisio ar eich cryfderau a'ch brwdfrydedd, ond sydd hefyd yn cydnabod y datblygiadau a'r cynnydd a wnaed gan eraill. Mae fy ymchwil gwyddonol yn canolbwyntio ar waith maes, a datblygu cwestiynau a damcaniaethau’n seiliedig ar fy arsylwadau. Rwy'n cynllunio sesiwn addysgu ar sail y cysyniadau craidd hynny, gan annog myfyrwyr i wylio anifeiliaid in- situ, a meddwl ynglÅ·n ag ymateb anifeiliaid i'r amgylchedd. Rwy'n gobeithio y bydd y dulliau hynny’n fodd datblygu chwilfrydedd ac archwilio unigol. Rwyf hefyd yn gobeithio y byddaf yn dangos sut mae diwallu diddordebau unigol trwy archwilio’r arfordiroedd, canfod safleoedd astudio, casglu setiau data, ateb cwestiynau, a rhoi prawf ar ddamcaniaethau. Rwy'n gobeithio y bydd fy mrwdfrydedd yn annog myfyrwyr Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É i ddilyn gyrfaoedd sy'n rhoi mwynhad a boddhad personol iddynt.
Dr Edward Jones, Ysgol Busnes ÑÇÖÞÉ«°É, Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch
Rwyf bob amser yn chwilio am ffyrdd i ddatblygu’n broffesiynol, a bûm yn awyddus i wneud hynny’n benodol yn y byd academaidd. Bûm yn siarad â chydweithwyr amrywiol, mi wnes i fy ymchwil fy hun, a phenderfynais mai gwneud cais am Uwch Gymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch (SFHEA) oedd y cam rhesymegol nesaf imi. Byddai’n fodd imi dyfu fel gweithiwr proffesiynol, a byddai hefyd yn fy ngalluogi i feincnodi fy ymarfer yn ôl y safonau proffesiynol.
Bu proses ymgeisio SFHEA yn gyfle imi adfyfyrio ar fy addysgu a'r gwahanol rolau sydd gennyf yn yr Ysgol Busnes, ystyried yr hyn a gyflawnais a meddwl sut i fynd gam ymhellach. Roedd y broses ymgeisio’n un heriol. Fodd bynnag, trwy’r gefnogaeth a gefais gan gydweithwyr ledled y Brifysgol deallais yr hyn yr oedd ei angen a bu’n fodd imi lwyddo yn fy nghais cyntaf. fynd drwy’r broses o ysgrifennu’r cais cefais adfyfyrio ar fy nhaith broffesiynol. Bu ysgrifennu’r cais yn ddisgyblaeth imi, a gwnaeth imi sylweddoli pa mor bell a ddeuthum i ddeall addysgu a dysgu. Rhoddodd well dealltwriaeth imi hefyd o effaith fy ngwaith ar gydweithwyr a myfyrwyr.
Rhoddodd SFHEA yr hyder imi yn yr hyn y gallaf ei gyflawni a newidiodd fy agwedd hefyd at rai elfennau o'm gwaith. Rwyf bellach yn fwy ymwybodol o'r angen i adfyfyrio ac asesu'n feirniadol yr hyn rwy'n ei wneud. Bu’n gyfle da, er yn heriol, i adfyfyrio’n feirniadol a chynllunio’r camau nesaf, a byddwn yn ei gymeradwyo’n fawr i bawb yn y Brifysgol. Wrth imi ddod drwy'r broses teimlwn ei fod yn brofiad gwirioneddol gwerth chweil ac nid yn unig o ran cyrraedd y nod.
Dr Gemma Griffith, Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol, Prif Gymrawd yr Academi Addysg Uwch
“Rwyf wrth fy modd o ennill cymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch. Ar yr olwg gyntaf, mae llenwi ffurflen gais hir a dwyn ynghyd eich addysgu a'ch ymarfer proffesiynol yn dasg frawychus. Fodd bynnag, erbyn diwedd y cyfnod syndod imi oedd gweld sut y caniataodd proses ymgeisio PFHEA imi adfyfyrio am fy ngwaith mewn ffordd na wneuthum o’r blaen. Bu’n fodd imi weld faint o fy ngwaith sy'n cyd-daro â phwnc iechyd a lles. Mae bod yn Gyfarwyddwr y radd Meistr mewn Dulliau Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar yn y Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar wedi fy arwain i a’r tîm i ddatblygu addysgeg o ran y ffordd orau o hyfforddi athrawon yr ymwybyddiaeth ofalgar, gan gynnwys , offeryn ymarfer myfyriol o'r enw , a dau lyfr diweddar o'r enw ''. Roedd yn cynnwys hefyd fy rôl fel Dirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol Iechyd a Lles yn 2020-2022 – bu’r swydd honno’n fodd imi fod yn rhan o dîm iechyd a lles gwych a gweithredu mentrau i’r brifysgol gyfan megis hyrwyddwyr lles y staff.
“Astudiais Seicoleg am y tro cyntaf yn 2004 gyda'r gobaith y byddwn i ryw ddydd yn gallu sicrhau effaith gadarnhaol. Bu’r PFHEA yn fodd imi bwyso a mesur y bwriad gwreiddiol hwnnw, a bu’n help imi weld yn glir sut mae’r addysgu a’r ymchwil a wnawn yng Nghanolfan Ymchwil ac Ymarfer yr Ymwybyddiaeth Ofalgar yn ymledu ymhell y tu hwnt i Fangor.