Mae鈥檙 diwydiant twristiaeth yn gwella鈥檔 gyflym ar 么l bron i 2 flynedd o gyfnod clo oherwydd COVID-19, meddai Dr Linda Osti, sy鈥檔 arwain y cwrs rheoli twristiaeth newydd ym Mhrifysgol 亚洲色吧 ac sy鈥檔 arbenigwraig ar ymddygiad defnyddwyr mewn Twristiaeth.
鈥淢ae angen graddedigion medrus a gwybodus newydd os ydym am i dwristiaeth gynnal lles y cymunedau sy鈥檔 eu croesawu. Y Pasg yw dechrau tymor haf newydd ar gyfer cyrchfannau a rhai sy鈥檔 rhedeg busnesau twristiaeth ledled Ewrop, gyda sawl cyrchfan yn gweithredu gwahanol strategaethau i reoli llif ymwelwyr, sicrhau diogelwch, osgoi tarfu ar gymunedau, ac yn y pen draw, cynyddu boddhad ymwelwyr.鈥
鈥淓r enghraifft, mae tref Portofino yn yr Eidal ardaloedd 鈥減arth coch鈥 mewn dau fan sy鈥檔 boblogaidd iawn ar instagram, lle gallai cerddwyr gael dirwy o hyd at 鈧 275 os ydyn nhw'n stopio am gyfnod rhy hir wrth dynnu llun neu edmygu harddwch y golygfeydd.
鈥淢ae Fenis unwaith eto wedi trafod strategaeth i gyflwyno t芒l mynediad i ymwelwyr dydd yn amrywio o 鈧3 i 鈧10 yn dibynnu ar y nifer a ragwelir o gyrraedd, ac mae ymwelwyr dros nos eisoes , tra鈥檔 agosach at adref yng ngogledd Cymru, cafodd bron i 40 o gerbydau eu symud yn Llyn Ogwen a Phen y Pass ar ddechrau gwyliau鈥檙 Pasg.鈥
Dyna un o鈥檙 rhesymau pam oedd yn hanfodol i Ysgol Busnes 亚洲色吧 sicrhau y byddai ei rhaglen radd BSc newydd mewn rheoli twristiaeth yn cael ei theilwra i anghenion sector mor ddeinamig, gan helpu myfyrwyr ac eraill sy'n ymwneud 芒'r sector twristiaeth i ddeall yr angen i gydbwyso anghenion economaidd a chymdeithasol-ddiwylliannol y cymunedau croeso, wrth gynnig profiadau cofiadwy i dwristiaid.
Meddai Dr Osti, 鈥淔el prifysgol sydd wedi鈥檌 lleoli mewn ardal rhwng y mynyddoedd a鈥檙 m么r sydd mor adnabyddus fel cyrchfan i dwristiaid, a gyda thirwedd llechi Gogledd Orllewin Cymru wedi鈥檌 dynodi鈥檔 statws Treftadaeth y Byd yn ddiweddar, rydym yn gallu tynnu ar arbenigedd lleol sy鈥檔 arwain y diwydiant mewn sawl agwedd o dwristiaeth yma ar garreg ein drws, yn ogystal 芒鈥檔 cysylltiadau 芒 diwydiant ledled y DU a ledled y byd.鈥
鈥淢ae siarad 芒 busnesau sy鈥檔 lleol i ni yma fel Halen M么n, y Sw Fynydd Gymreig, a Pharc Cenedlaethol Eryri wedi ein galluogi ni i ddarganfod pa sgiliau sydd eu hangen ar fusnesau a sefydliadau twristiaeth go iawn wrth drafod swyddi ar lefel graddedigion.
鈥淒yma rai o鈥檙 cwestiynau mawr i arweinwyr twristiaeth ar hyn o bryd: sut mae defnyddio鈥檙 datblygiadau cyffrous o ran argaeledd data amser real a realiti estynedig i wneud twristiaeth yn ddoethach? Sut mae gwneud twristiaeth yn fwy gwydn, yn fwy cynaliadwy, a鈥檌 wneud i weithio'n well gyda'r gymuned ehangach? Beth yw鈥檙 tueddiadau mawr sy鈥檔 newid ymddygiad defnyddwyr o ran twristiaeth?鈥
鈥淢ae ein cwrs wedi鈥檌 gynllunio i roi鈥檙 sylfaen hollbwysig honno mewn theori i fyfyrwyr, ac yna symud ymlaen i astudiaeth fwy cymhwysol yn yr ail a鈥檙 drydedd flwyddyn, gyda theithiau maes i fusnesau twristiaeth. Mae prosiect cymhwysol gyda sefydliad twristiaeth hefyd wedi'i ymgorffori fel rhan o'r cwrs, yn ogystal ag opsiwn i ymgymryd 芒 blwyddyn leoliad ychwanegol naill ai yn y DU neu dramor.鈥
Er bod y rhaglen radd hon yn newydd, mae鈥檔 debyg bod Prifysgol 亚洲色吧 wedi chwarae rhan arwyddocaol yn natblygiad theori twristiaeth dros y blynyddoedd.
鈥淧an fydd myfyrwyr yn astudio twristiaeth, un o鈥檙 damcaniaethau cyntaf y byddan nhw鈥檔 ei astudio fydd y lluosydd twristiaeth, sy鈥檔 esbonio sawl gwaith mae鈥檙 arian sy鈥檔 cael ei wario gan dwristiaid yn cylchredeg trwy economi gwlad.
鈥淒atblygodd yr Athro Brian Archer, sy鈥檔 enw adnabyddus ym maes economeg twristiaeth, fodelau lluosydd am y tro cyntaf yn ystod ei gyfnod ym Mhrifysgol 亚洲色吧, gan edrych yn gyntaf ar sut roedd gwariant twristiaeth yn ffurfio rhan sylweddol o economi Ynys M么n a Gwynedd, cyn i鈥檞 ymchwil yma fynd a fo ar draws y byd i gynnal astudiaethau effaith twristiaeth.
鈥淒echreuodd dau economegydd o fri rhyngwladol sy'n adnabyddus am eu gwaith arloesol ym maes effaith twristiaeth, yr Athro Stephen Wanhill a'r Athro John Fletcher, eu gyrfaoedd ym Mangor hefyd dan oruchwyliaeth gychwynnol Brian Archer.
鈥淕yda鈥檙 hanes balch yma mewn cof, mae Prifysgol 亚洲色吧 yn edrych ymlaen at chwarae rhan mewn arfogi myfyrwyr 芒鈥檙 sgiliau sydd eu hangen arnynt i lunio diwydiant twristiaeth lwyddiannus a chynaliadwy.鈥
I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs, cliciwch