Cydweithio gyda Chanolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol
Mae astudio'r rhaglen BA Athroniaeth, Moeseg, a Chrefydd ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cynnig llwybr unigryw i fyfyrwyr. Wedi ei ddylunio ar y cyd gyda Chanolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru mae'r rhaglen yn cynnig nodweddion unigryw a darparu profiad ardderchog  i rheini sy'n edrych i ddatblygu fel athrawon Addysg Grefyddol.
Mae Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru wedi bodoli mewn diwyg amrywiol ers 1979, pan y’i sefydlwyd gyntaf gan Rheinallt Thomas. Gyda threigl y blynyddoedd, mae’r Ganolfan wedi esblygu wrth i gymdeithas newid a gwahanol agweddau eu hamlygu eu hunain. Bellach, mae dau ddarlithydd o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É wedi eu penodi’n gyd-gyfarwyddwyr y Ganolfan, sef Dr Joshua Andrews (darlithydd Moeseg a Chrefydd) a Dr Gareth Evans-Jones (darlithydd Athroniaeth a Chrefydd).
Meddai Dr Gareth Evans-Jones: ‘Mae’r Ganolfan wedi’i sylfaenu ar barchu’r fath amrywiaeth sy’n nodweddu ein cymdeithas. Mae newidiadau sylweddol wedi bod yn y nifer o bobl sy’n arddel gwahanol grefyddau, a gwelwyd bob math o ddatblygiadau hefyd mewn moeseg gymdeithasol, athroniaeth, a gwerthoedd. Am hynny, rydan ni’n awyddus i hyrwyddo’r fath agwedd sy’n cydnabod yr amrywiaeth helaeth yma, sy’n ei pharchu, ac sy’n annog pobl i ofalu bod gwerthfawrogiad a goddefgarwch yn nodweddu eu hymwneud ag eraill yn ein cymdeithas. Mae rhai sy’n dilyn crefydd, mae rhai sydd ddim. Mae gan rai safbwyntiau penodol, ac eraill rai gwahanol. Ond rydan ni gyd yn bobl yn byw yn yr un gymdeithas, a dyna sy’n werth ei gofio.’
Byddwn yn gweithio'n agos gyda sefydliadau â chyrff eraill, yn lleol, yn genedlaethol, a thu hwnt, gan gynnwys cymunedau ffydd a mudiadau ieuenctid, grwpiau CYSAG, ac RE Hubs UK, i wella'r ddarpariaeth a datblygu dealltwriaeth o wahanol draddodiadau crefydd, gwerthoedd, moeseg ac athroniaeth. Craidd y cwrs yw astudiaethau o chwe chrefydd ar draws y byd. Mae'r modiwlau wedi ei ddatblygu i gyd-fynd â’r cwricwlwm Addysg Grefyddol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Caiff ein myfyrwyr cyfle i edrych yn fanwl ar y grefydd yma a bydd y cwrs yn rhoi hyder iddyn nhw fynd ymlaen i allu dysgu crefydd o addysg gynradd hyd at lefel A.
Mae dewis astudio’r rhaglen BA Athroniaeth, Moeseg, a Chrefydd ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn fuddsoddiad mewn taith addysgol unigryw. Mae ein llwybr arloesol, a luniwyd gan gydweithrediad ag awdurdod blaenllaw mewn addysg grefyddol, yn gosod y llwyfan i ddarpar athrawon nid yn unig ragori yn academaidd ond hefyd ffynnu fel addysgwyr sy’n cael effaith ym mywydau eu myfyrwyr. Ymunwch â ni ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É a byddwch yn rhan o raglen sy’n mynd y tu hwnt gan eich paratoi ar gyfer gyrfa foddhaus a llwyddiannus mewn Addysg Grefyddol.