Project Colobws Coch Zanzibar gyda cefnogaeth Cronfa ÑÇÖÞÉ«°É
Ymchwil israddedig gyda Phroject Colobws Coch Zanzibar (Gorffennaf - Awst 2019)
Dr Alexander Georgiev, Darlithydd mewn Primatoleg, Ysgol Gwyddorau Naturiol
Darparodd cefnogaeth Cronfa ÑÇÖÞÉ«°É gymorth ariannol gwerthfawr i dri myfyriwr israddedig a ymunodd â Phroject Colobws Coch Zanzibar (ZRCP) yn y maes yr haf diwethaf i gasglu data ar gyfer eu hymchwil traethawd hir. Roedd y £500 a dderbyniodd pob un o'r tri myfyriwr yn gymorth iddynt dalu rhai o’r costau gwaith maes yr oedd yn rhaid iddynt eu talu o gronfeydd personol. Mae ymchwil maes yn golygu costau sylweddol (o ffioedd trwyddedau ymchwil, teithiau hedfan rhyngwladol, llety, talu cyflogau lleol i gynorthwywyr maes, ac ati) ac mae'r costau cronnus ymhell o gyrraedd y rhan fwyaf o israddedigion. Gyda chymorth Cronfa ÑÇÖÞÉ«°É, daeth y cyfle i gynnal ymchwil wreiddiol yn Zanzibar ychydig yn fwy ymarferol i'r myfyrwyr hyn.
Myfyrwyr a gafodd gymorth: Kate Hampson (BSc Swoleg), Carys L'Estrange (BSc Swoleg a Chadwraeth) a Zoe Rule (Swoleg).
Paratoi ar gyfer Zanzibar:
Rhwng Chwefror a Mai 2019, bûm yn gweithio gyda’r myfyrwyr yma ym Mangor i’w helpu i ddatblygu eu cynlluniau ymchwil traethawd hir. Nododd pob un ohonynt gwestiwn gwahanol am ecoleg ymddygiadol a chadwraeth colobws coch endemig Zanzibar a chynhyrchwyd cynllun cryf ar gyfer casglu data.
Gwaith maes yn Zanzibar:
Yn Zanzibar, treuliasant 2 fis yn gweithio yn y maes gyda mi a dau fyfyriwr ôl-radd. Fe wnaeth pob un ohonynt gyflogi cynorthwyydd maes lleol i'w helpu i ddilyn eu grwpiau astudio mwncïod a chasglu data, darparu hyfforddiant iddynt a gweithio ochr yn ochr â nhw yn y maes. Felly cawsant sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr mewn cynllunio ymchwil, rheoli projectau a goruchwylio cynorthwywyr maes ymchwil.
Yn y maes, rhoddais hyfforddiant i'r myfyrwyr mewn arsylwi ymddygiad a thechnegau samplu, eu helpu i fireinio eu protocolau casglu data a rhoi cyngor sut i fynd i'r afael â'u cwestiynau a'u dulliau esblygol. Roeddent i gyd yn dangos lefel uchel o annibyniaeth a brwdfrydedd wrth gasglu data. Maent hefyd wedi cymryd rhan mewn nifer o brojectau atodol a oedd yn rhan o agenda ymchwil ehangach y ZRCP. Cawsant hyfforddiant mewn defnyddio technoleg GPS a'i ddefnyddio eu hunain yn y maes, fel rhan o gasglu data. Cawsant hefyd eu hyfforddi mewn samplu anfewnwthiol wrin ac ysgarthion primatiaid (ar gyfer dadansoddi marcwyr ffisiolegol).
Roedd gweithio ochr yn ochr â chynorthwywyr Zanzibari yn y maes hefyd yn gyfle iddynt ehangu eu dealltwriaeth o sut mae gwyddoniaeth a chadwraeth yn y trofannau yn dibynnu ar feithrin gallu aelodau'r gymuned leol i ganiatáu ymagwedd integredig at rai o'r problemau mwyaf brys o ran diogelu bywyd gwyllt. Gan fod ein tîm ymchwil hefyd wedi cydweithio’n agos â staff o’r Parc Cenedlaethol lle’r oeddem wedi ein lleoli, dysgodd ein hisraddedigion hefyd am faterion cymhleth cydbwyso anghenion pobl a bywyd gwyllt gan y rhai sy’n delio â’r heriau hyn o ddydd i ddydd – wardeiniaid a thywyswyr y parc cenedlaethol sy'n gyfrifol am warchod Parc Cenedlaethol Jozani Chwaka-Bay.
Nôl ym Mangor:
Mae Kate, Carys a Zoe bellach yn eu blwyddyn olaf o astudiaethau ym Mangor. Dychwelasant yma gyda setiau data da a chymhleth a gynhyrchwyd ganddynt yn bersonol drwy eu gwaith ymroddedig yn Zanzibar. Yn ystod y misoedd diwethaf maent i gyd wedi bod yn trefnu ac yn dadansoddi'r data hyn. Bellach yn eu semester olaf maent yn dechrau drafftio eu traethodau hir. Mae ansawdd y data a'u dadansoddiad wedi bod yn drawiadol iawn i mi fel goruchwyliwr ac mae gen i obeithion mawr am eu traethodau hir gorffenedig yn ddiweddarach y semester hwn.
Mae'r gefnogaeth gan Gronfa ÑÇÖÞÉ«°É wedi bod yn hanfodol i wneud y cyfle i'r myfyrwyr hyn gynnal eu hymchwil annibynnol yn Zanzibar yn fwy fforddiadwy iddynt. Roedd cael tri ymchwilydd israddedig yn y maes am 2 fis hefyd wedi rhoi cyfle gwerthfawr i mi ddatblygu fy sgiliau mentora fy hun y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Roeddwn hefyd yn gallu ystyried sut y gall goruchwylio astudiaethau tymor byr lluosog gan israddedigion gyfrannu at fy rhaglen ymchwil ehangach yn Zanzibar. Profodd yn sicr, gyda myfyrwyr ymroddedig, y gall hyd yn oed cyfnod byr o waith maes esgor ar rai canfyddiadau diddorol y gellir eu cyhoeddi.
O’r sgyrsiau gyda’r myfyrwyr, credaf eu bod i gyd wedi’u hysbrydoli’n fawr gan eu hamser yn y maes ac mae’r tri bellachyn ystyried mynd ar drywydd cyfleoedd ymchwil ôl-radd i ddatblygu eu brwdfrydedd dros gadwraeth primatiaid. I mi dyma’r canlyniad mwyaf gwerthfawr, a gyflawnwyd gyda chymorth Cronfa ÑÇÖÞÉ«°É – darparu profiad byd go iawn o ymchwil a chadwraeth a gadael y myfyrwyr yn awyddus i wneud mwy a gwneud gwahaniaeth ar ôl iddynt raddio o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É.