Myfyrwyr yn cymryd rhan ym Mhrosiect Orca Gwlad yr Iâ diolch i Gronfa ÑÇÖÞÉ«°É
Adroddiad Cronfa ÑÇÖÞÉ«°É gan Victoria Pace a Lucy Herbert - Myfyrwyr israddedig yn yr Ysgol Gwyddorau Naturiol
"Ym mis Chwefror buom yn ddigon ffodus i fynd ar daith wythnos i Wlad yr Iâ i wella ein dealltwriaeth o bynciau’n gysylltiedig â’n traethodau hir. Gwnaed y cyfle hwn yn bosibl trwy grant a gynigiwyd gan Gronfa ÑÇÖÞÉ«°É. Darparwyd y wybodaeth newydd hon gan Dr Filipa Samarra o’r Marine and Freshwater Research Institute, Reykjavik, prif ymchwilydd Project Orca Gwlad yr Iâ.
Cyfrannodd yr arian a gafwyd drwy’r gronfa at brynu taith awyren ddwyffordd i’r ddwy ohonom o faes awyr Manceinion i Faes Awyr ReykjavÃk-KeflavÃk. Hefyd prynwyd dau docyn trên dwyffordd i Fanceinion ynghyd ag archebu llety.
Yn ystod ein cyfnod yn y sefydliad, rhoddodd Dr Samarra gyfarwyddyd cynhwysfawr ar ddadansoddi’r data a gasglwyd gennym ar gyfer ein cwestiynau traethawd hir cyn ein taith orca i Ogledd yr Iwerydd. Roedd hyn yn golygu defnyddio'r rhaglen 'SOCPROG' ar gyfer MATLAB, a oedd yn ein galluogi i fesur y cysylltiadau cymdeithasol rhwng unigolion yn ogystal â'u patrymau tymhorol a gofodol yn nyfroedd yr Alban. Defnyddiwyd hyn ar y cyd â rhywfaint o ddata Dr Samarra i’w cymharu ag astudiaethau tebyg mewn lleoliadau yng Ngwlad yr Iâ. Felly cyflawnwyd yr amcanion a amlinellwyd yn ein cais gwreiddiol am gyllid – y cwestiynau arfaethedig a archwiliwyd drwy ein traethodau hir – a chafwyd buddion ychwanegol drwy ddefnyddio data Dr Samarra ei hun a oedd mor garedig i’w darparu.
O'r wythnos a dreuliwyd yng Ngwlad yr Iâ, defnyddiwyd pump o'r diwrnodau hynny i ddadansoddi data yn y sefydliad. Roedd angen y cyfnod hwn i ni feistroli’r gwahanol ffyrdd o ddefnyddio SOCPROG, pan wnaethom geisio dadansoddi setiau data ymarfer a ddarparwyd gan y rhaglen cyn symud ymlaen at ein data ein hunain unwaith yr oeddem yn fwy hyderus. Un o rannau anoddaf y dasg hon oedd dysgu sut i fformatio'r data er mwyn i SOCPROG allu ei brosesu yn unol â hynny. Roedd cymorth Dr Samarra yn werthfawr iawn yn yr agwedd hon yn arbennig. Byddai wedi bod yn anodd iawn i gyfleu’r dull penodol o fireinio’r data gofynnol dros e-bost neu Skype, felly roedd ein hymweliad â Gwlad yr Iâ o gymorth mawr wrth lunio ein traethodau hir. Hefyd, roedd Dr Samarra yn gallu darparu copïau i ni o ddau gatalog ffotograffau adnabod o Wlad yr Iâ a oedd yn caniatáu i ni adnabod yr orcaod unigol nad oeddem yn gwybod yn flaenorol eu bod yn teithio i Brydain, gan roi agweddau mwy pellgyrhaeddol i'n project nag a ragwelwyd yn flaenorol.
Mae lluniau a gawsom gan dwristiaid a ffotograffwyr bywyd gwyllt yn yr Alban, ac y llwyddwyd i adnabod yr orcaod, wedi cael eu defnyddio yng Nghatalog Ffotograffau Adnabod 2019 Dr Foote o orcaod yr Alban.1. Gellir defnyddio'r canllaw hwn i adnabod orcaod yn seiliedig ar nodweddion corfforol a gall hefyd awgrymu pa unigolion eraill sy'n debygol o gael eu gweld gyda'i gilydd, gan ddefnyddio data cysylltiadau blaenorol, y mae rhywfaint ohono wedi'i ddiweddaru trwy ein projectau traethawd hir. Hefyd, crëwyd canllaw ffotograffau adnabod gwreiddiol Dr Foote yn 2009, a rhoddodd ein project yn 2019 gymhariaeth ddiddorol o’r strwythurau poblogaeth 10 mlynedd yn ddiweddarach a all helpu i gyfrannu at brojectau parhaus ac yn y dyfodol.
Cafodd y ddwy ohonom raddau A ar gyfer ein projectau traethawd hir, a oedd yn werth 30 credyd. Diolch yn bennaf i hyn, enillodd y ddwy ohonom hefyd raddau anrhydedd dosbarth cyntaf. Mae’n bosibl na fyddem wedi gallu cyflawni hyn heb gymorth Dr Samarra yn ystod ein taith i Reykjavik, ac felly rydym yn ddiolchgar iawn i Dr Samarra a Chronfa ÑÇÖÞÉ«°É am eu rhan yn sicrhau ein llwyddiant.
Diolch hefyd i Dr Andrew Foote, goruchwyliwr ein traethawd hir, gan na fyddai’r daith hon na’n traethodau hir wedi bod yn bosibl hebddo. Roedd cysylltiadau cadarn Dr Foote yn ein galluogi i gael mynediad i'r sefydliad, yn ogystal â'r cymorth hael a gynigiwyd gan Dr Samarra.
Roeddem yn cynrychioli'r brifysgol yn ystod ein hymweliad ac yn dangos ein brwdfrydedd dros ehangu ein gwybodaeth am astudiaethau maes. Wrth wneud hynny, rydym yn gobeithio ein bod wedi cyfrannu at fri rhyngwladol y brifysgol drwy ein cynrychiolaeth."