Cronfa 亚洲色吧 yn cefnogi arddagosfa ar-lein o lyfrau Arthuriadd prin
Mae Cronfa 亚洲色吧, cyfraniadau gan cyn-fyfyrwyr, a weinyddir gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr wedi galluogi myfyrwyr meistr 么l-radd a PhD astudiaethau Arthuraidd canoloesol i lansio'r arddangosfa ar-lein 'Cartref y Chwedlau'. Mae鈥檙 arddangosfa hon yn arddangos detholiad o lyfrau Arthuraidd eiconig prin o gasgliadau鈥檙 Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd.听
Mae'r arddangosfa yn rhan o broject mwy o'r un teitl, sy'n dathlu casgliadau Prifysgol 亚洲色吧 yn y flwyddyn mae鈥檙 brifysgol yn dathlu 140 o flynyddoedd ers ei sefydlu. Mae hefyd yn nodi deng mlynedd ers rhodd casgliad Arthuraidd Harries Sir y Fflint i'r brifysgol. Cynhyrchodd y myfyrwyr PhD Claire Lober ac Aude Martin, ynghyd 芒鈥檙 myfyriwr MA Joel Meredith yr arddangosfa dan arweiniad Shan Robinson, y Rheolwr Casgliadau Arbennig. Cawsant gyngor arbenigol ar y Mabinogion gan yr Athro Emeritws Sioned Davies, aelod o fwrdd allanol y ganolfan, a gweithio dan oruchwyliaeth gyffredinol yr Athro Raluca Radulescu a Dr Aled Llion Jones, cyd-gyfarwyddwyr y ganolfan.听
Meddai Raluca, 鈥淢ae鈥檙 arddangosfa hon yn gam arwyddocaol tuag at ddod 芒 chasgliadau鈥檙 ganolfan at sylw鈥檙 gymuned ryngwladol, yn enwedig gan iddi gael ei chreu ar wahoddiad ein partner rhyngwladol, Llyfrgell Rossell Hope Robbins ym Mhrifysgol Rochester, y gadwrfa fwyaf yng Ngogledd America o weithiau Arthuraidd modern.听
鈥淩ydym yn gobeithio y bydd yr arddangosfa hon, ynghyd 芒鈥檙 project ehangach sy鈥檔 cynnwys cyflwyno鈥檙 chwedlau hyn i ddosbarthiadau a gweithdai lles ar gyfer y gymuned, yn ysbrydoli ymchwil pellach a diddordeb mewn astudiaethau Arthuraidd. Mae arddangosfeydd digidol ac ar-lein yn borth delfrydol i arddangos casgliadau lleol fel ein rhai ni, ac yn chwarae rhan allweddol yn nyfodol ymchwil academaidd ac ymgysylltu 芒鈥檙 cyhoedd.鈥澛
Dywedodd Aude Martin, myfyriwr 么l-radd yn yr Ysgol Iaith, Diwylliant, a鈥檙 Celfyddydau: 鈥淩oedd cymryd rhan yn y project arddangosfa 'Cartref y Chwedlau' yn brofiad academaidd gwych mewn nifer o ffyrdd. Bu gweithio ar y project yn fodd imi feddwl am ffyrdd newydd o sicrhau bod llenyddiaeth ganoloesol ac Arthuraidd ar gael yn hwylus ac yn rhwydd i鈥檙 cyhoedd. Bu鈥檙 project cydweithredol hefyd yn gyfle gwych i gydweithio fel t卯m gyda myfyrwyr PhD eraill, ac roedd ein dulliau o ymdrin 芒鈥檙 deunydd yn ategu ei gilydd yn dda iawn.鈥
Dywedodd Persida Chung,聽Swyddog Datblygu, 鈥淩ydym yn falch iawn o helpu mentrau fel y rhain, a hoffem ddiolch i'n cyn-fyfyrwyr am eu haelioni. Diolch yn fawr! Gyda鈥檆h rhoddion chi, gall Cronfa 亚洲色吧 gefnogi ein myfyrwyr yn barhaus i wella eu profiad fel myfyrwyr.鈥
Roedd y digwyddiad lansio yn cynnwys cyflwyniadau gan fyfyrwyr MA a PhD Astudiaethau Celtaidd ac Arthuraidd, a rannodd wybodaeth o'u projectau ymchwil cyfredol, a chyfoethogi'r dathliad o'r naratifau chwedlonol hyn ymhellach. Bydd carreg filltir nesaf y project yn cael ei dathlu mewn digwyddiad gan y brifysgol yn adeilad Pontio ddydd Mercher, 23 Hydref.听